ArticlePDF Available

Rhyddfrydiaeth ac Adferiad Iaith

Authors:

Abstract

Amcan y traethawd hwn yw ystyried sut gall egwyddorion rhyddfrydol gyfrannu at oleuo ein dealltwriaeth o foesoldeb y broses o adfer ieithoedd lleiafrifol. Eir ati i ystyried y mater hwn trwy osod dau gwestiwn ymchwil penodol. Yn gyntaf, gofynnir sut dylai rhyddfrydwyr gysyniadoli statws moesol y nod cyffredinol o adfer iaith? Yn ail, ystyrir i ba raddau y mae rhai o?r camau ymarferol a gymerir wrth geisio gwireddu nod o?r fath yn arwain at dramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol. Rhennir y traethawd yn ddwy ran, ac fe drafodir y cyntaf o?r cwestiynau hyn yn ystod y rhan gyntaf, a?r ail gwestiwn yn ystod yr ail ran. Yn achos y cwestiwn cyntaf, dangosir nad oes dim byd annerbyniol, o safbwynt rhyddfrydol, yngl?n ag adferiad iaith. Ond, ar yr un pryd, gwelir na all rhyddfrydwyr gysyniadoli?r dasg fel rhywbeth sy?n hanfodol o safbwynt cyfiawnder, gan y byddai hynny?n arwain at broblemau moesol sylweddol. O ganlyniad, cesglir taw fel gweithred dderbyniol y dylid cysyniadoli adferiad iaith; un o?r amrediad eang o bethau sy?n gwbl briodol i lywodraethau rhyddfrydol-democrataidd geisio?u cyflawni pan fo hynny?n adlewyrchu casgliadau a ddaethpwyd iddynt ar sail trafodaethau democrataidd agored a theg, ond eto nid rhywbeth sy?n hanfodol o safbwynt cyfiawnder. Yn achos yr ail gwestiwn, cydnabyddir fod rhai polis?au adferol yn camu dros drothwy?r hyn a ystyrir yn dderbyniol gan ryddfrydwyr. Fodd bynnag, dadleuir mai eithriadau?n unig yw?r rhain, a bod y mwyafrif helaeth o?r polis?au a weithredwyd wrth geisio adfer sefyllfa gwahanol ieithoedd lleiafrifol yn tueddu i gydorwedd yn gwbl gyfforddus gydag egwyddorion rhyddfrydol.
Rhyddfrydiaeth ac Adferiad Iaith
Dafydd Huw Lewis
Traethawd Ymchwil PhD
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Prifysgol Aberystwyth
Ionawr 2009
ii
Datganiadau
Nid yw sylwedd y gwaith hwn wedi cael ei dderbyn yn flaenorol ar gyfer unrhyw
radd, ac nid yw‟n cael ei gyflwyno ar yr un pryd wrth ymgeisio am unrhyw radd.
Canlyniad fy ymchwiliadau i yw‟r traethawd hwn, oni nodir yn wahanol. Lle mae
gwasanaethau cywiro wedi eu defnyddio, nodir maint a natur y cywiriad yn eglur
mewn troednodyn.
Cydnabyddir ffynonellau eraill mewn troednodiadau sy‟n rhoi cyfeiriadau eglur.
Atodir llyfryddiaeth.
Yr wyf drwy hyn yn rhoi caniatâd i‟m traethawd ymchwil, os yw‟n cael ei dderbyn,
fod ar gael i‟w lungopïo ac ar gyfer benthyciadau rhwng llyfrgelloedd â‟i gilydd, ac i‟r
teitl a‟r crynodeb fod ar gael i gyrff allanol.
Arwyddwyd:
Dyddiad:
iii
Crynodeb
Amcan y traethawd hwn yw ystyried sut gall egwyddorion rhyddfrydol gyfrannu at
oleuo ein dealltwriaeth o foesoldeb y broses o adfer ieithoedd lleiafrifol. Eir ati i
ystyried y mater hwn trwy osod dau gwestiwn ymchwil penodol. Yn gyntaf, gofynnir
sut dylai rhyddfrydwyr gysyniadoli statws moesol y nod cyffredinol o adfer iaith? Yn
ail, ystyrir i ba raddau y mae rhai o‟r camau ymarferol a gymerir wrth geisio gwireddu
nod o‟r fath yn arwain at dramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol. Rhennir y traethawd
yn ddwy ran, ac fe drafodir y cyntaf o‟r cwestiynau hyn yn ystod y rhan gyntaf, a‟r ail
gwestiwn yn ystod yr ail ran.
Yn achos y cwestiwn cyntaf, dangosir nad oes dim byd annerbyniol, o
safbwynt rhyddfrydol, ynglŷn ag adferiad iaith. Ond, ar yr un pryd, gwelir na all
rhyddfrydwyr gysyniadoli‟r dasg fel rhywbeth sy‟n hanfodol o safbwynt cyfiawnder,
gan y byddai hynny‟n arwain at broblemau moesol sylweddol. O ganlyniad, cesglir
taw fel gweithred dderbyniol y dylid cysyniadoli adferiad iaith; un o‟r amrediad eang
o bethau sy‟n gwbl briodol i lywodraethau rhyddfrydol-democrataidd geisio‟u
cyflawni pan fo hynny‟n adlewyrchu casgliadau a ddaethpwyd iddynt ar sail
trafodaethau democrataidd agored a theg, ond eto nid rhywbeth sy‟n hanfodol o
safbwynt cyfiawnder.
Yn achos yr ail gwestiwn, cydnabyddir fod rhai polisïau adferol yn camu dros
drothwy‟r hyn a ystyrir yn dderbyniol gan ryddfrydwyr. Fodd bynnag, dadleuir mai
eithriadau‟n unig yw‟r rhain, a bod y mwyafrif helaeth o‟r polisïau a weithredwyd
iv
wrth geisio adfer sefyllfa gwahanol ieithoedd lleiafrifol yn tueddu i gydorwedd yn
gwbl gyfforddus gydag egwyddorion rhyddfrydol.
v
Cynnwys
Rhagair vi
1. Cyflwyniad: Rhyddfrydiaeth ac Adferiad Iaith 1
Rhan I: Statws Moesol Adferiad Iaith
2. Adferiad Iaith: Gweithred Hanfodol ym Mhob Sefyllfa? 41
3. Adferiad Iaith: Dim Mwy na Gweithred Dderbyniol? 73
Rhan II: Camau Ymarferol a Chyfyngiadau Normadol
4. Le Français, une langue pour tous le monde: Sefydlu‟r Ffrangeg 110
fel iaith gyhoeddus gyffredin Quebec
5. Iaith Pawb: Adfer y Gymraeg yng Nghymru 186
6. Casgliadau 256
Llyfryddiaeth 274
vi
Rhagair
Pe bai‟n rhaid i mi nodi pryd yn union y cychwynnodd y broses o lunio‟r traethawd
hwn, yna mae‟n bosib iawn mai cyfeirio a wnawn at un o seminarau‟r cwrs
Cenedlaetholdeb a Hunaniaeth Genedlaethol, a ddilynais yn ystod Gwanwyn 2002,
wrth astudio ar gyfer gradd meistr yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol
Aberystwyth. Pwnc y seminar arbennig honno oedd Rhyddfrydiaeth,
Amlddiwylliannedd a Chenedlaetholdeb, a‟r bwriad oedd ein cyflwyno i drafodaeth
bwysig ym maes athroniaeth wleidyddol gyfoes.
A siarad yn gyffredinol, roedd y drafodaeth honno‟n ymwneud â‟r graddau y
gallai rhyddfrydwyr ymateb mewn modd priodol a theg i alwadau gwahanol
leiafrifoedd diwylliannol am gydnabyddiaeth o‟u nodweddion unigryw. Am gyfnod
go helaeth, tybiwyd nad oedd rhyddfrydiaeth yn meddu ar yr adnoddau deallusol i
ymdrin yn foddhaol â phwnc „cymunedol‟ o‟r fath, yn sgil pwyslais traddodiadol (ac
yn nhyb rhai, amhriodol) y syniadaeth ar yr unigolyn. Fodd bynnag, fel y dysgais yn
ystod y seminar, nid pawb oedd yn rhannu‟r dybiaeth hon. Deuthum i weld fod to
newydd o athronwyr rhyddfrydol wedi codi yn ystod y 1990au, a bod y garfan hon
carfan y cyfeirir atynt weithiau fel y Rhyddfrydwyr Diwylliannol wedi mynd ati i
amddiffyn y syniadaeth. Un a chwaraeodd ran flaenllaw yn y symudiad hwn oedd yr
athronydd o Ganada, Will Kymlicka. Mewn gweithiau pwysig megis Liberalism,
Community and Culture (1989) a Multicultural Citizenship (1995) dangosodd
Kymlicka ei bod hi‟n gwbl bosib asio‟r pwyslais rhyddfrydol traddodiadol ar ryddid
unigol, gyda pharch at ymlyniadau cymunedol a diwylliannol.
vii
Creodd y syniadau newydd hyn gryn argraff arnaf. Ar y pryd, roeddwn yn
weithgar yn rhengoedd Cymdeithas yr Iaith, ac felly‟n ymddiddori gryn dipyn yn y
drafodaeth ynglŷn â dyfodol y Gymraeg. Fel y gwŷr unrhyw un sydd wedi dilyn y
drafodaeth honno dros y blynyddoedd, un o‟i nodweddion amlycaf yw‟r pwyslais a
roddir ar rôl y gymuned leol. A siarad yn gyffredinol, tybir bod sicrhau parhad i
fywyd cymunedol yn rhan hanfodol o‟r broses o sicrhau parhad i‟r iaith. Yn sicr, nid
yw‟r dadleuon hyn heb eu sail. Fodd bynnag, un o‟r pethau a‟m tarodd dros y
blynyddoedd yw‟r modd y mae‟r pwyslais hwn ar y gymuned wedi arwain rhai i
fabwysiadu safbwyntiau gwleidyddol sy‟n cynnwys amheuaeth gref o rinweddau
unigolyddiaeth, ac yn sgil hynny ryddfrydiaeth. Credir na all gwerthoedd o‟r fath fod
yn gyfrwng i ddiogelu ffenomen gymdeithasol fel iaith.
Trwy ddysgu am syniadau‟r rhyddfrydwyr diwylliannol, deuthum i weld bod
modd codi amheuon sylweddol ynglŷn â chywirdeb tybiaethau tebyg i‟r uchod. Eto i
gyd, gan nad oedd yr athronwyr hyn wedi edrych yn benodol ar y broses o adfer iaith,
ni ellid bod yn gwbl sicr. Er mwyn dod i benderfyniad terfynol roedd angen
ymchwilio ymhellach; roedd angen llunio prosiect ymchwil a fyddai‟n ymdrin yn
systematig â‟r broses o adfer iaith, a hynny o bersbectif syniadau rhyddfrydol. Ymgais
i wneud hynny yw‟r traethawd hwn, ac mae‟r casgliadau, ar y cyfan, yn cadarnhau fy
amheuon gwreiddiol. Y gwir amdani yw bod rhyddfrydiaeth yn syniadaeth sy‟n
meddu ar yr adnoddau deallusol i ddilysu sawl agwedd o‟r broses o adfer iaith. O
ganlyniad, cam gwag fyddai ymwrthod â rhyddfrydiaeth, gan guddio tu ôl i sloganau
gwag ynglŷn ag unigolyddiaeth. Yn hytrach, dylai‟r sawl sy‟n pryderu ynglŷn â
viii
dyfodol gwahanol ieithoedd lleiafrifol dreulio amser yn ystyried rhinweddau‟r
syniadaeth, gan fod ganddi‟r gallu i‟w harfogi ar gyfer dadleuon y dyfodol.
* * * * * * * * * * * * * *
Ni fyddai llunio‟r gwaith hwn wedi bod yn bosib heb gymorth nifer fawr o bobl. O
ganlyniad, hoffwn nodi fy ngwerthfawrogiad iddynt yma. Dechreuaf gyda‟r pellaf
oddi cartref. Rwyf yn ddyledus dros ben i‟r Athro Will Kymlicka o Adran Athroniaeth
Prifysgol Queens, Kingston, Ontario am ei gyngor a‟i gymorth parod. Ac yntau‟n
ysgolhaig mor flaenllaw, sylweddolaf fod y galw am ei amser yn sylweddol. Yn sgil
hynny, roeddwn yn werthfawrogol tu hwnt o‟r amser a neilltuodd i gael ei gyfweld a
hefyd i drafod gwahanol agweddau o‟r prosiect. Yn ogystal, hoffwn ddiolch i aelodau
eraill yr adran am eu croeso cynnes yn ystod fy nghyfnod yno fel ysgolhaig gwadd ym
mis Ionawr a mis Chwefror 2007.
Ar ôl gadael Kingston, treuliais gyfnod dymunol yn ninas Montreal yn casglu
gwybodaeth ynglŷn â pholisïau iaith Quebec. Hwyluswyd y broses honno‟n sylweddol
gan gymorth Claire Martin a Chantale Robinson o‟r Office Québécoise de la Langue
Français. Yn ogystal hoffwn ddiolch i‟r Athro Daniel Weinstock a‟r Athro Michel
Seymour o Adran Athroniaeth yr Université de Montréal am fod mor barod i‟m
goleuo ynglŷn â sawl agwedd o gymdeithas a gwleidyddiaeth Quebec.
Yn ôl yma yng Nghymru, bu‟r Dr Jeremy Evas, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn
ffynhonnell gyson o wybodaeth a chyngor. Ar ben hynny, bûm yn ffodus i dderbyn
ix
cyngor mewn perthynas â gwahanol agweddau o‟r gwaith gan Cynog Dafis, Steve
Eaves a Patrick Carlin. Diolch hefyd i aelodau‟r „Grŵp Trafod Ieithyddol‟ am eu
sylwadau adeiladol ar rai rhannau o‟r traethawd.
Mae‟n siŵr fod fy ngoruchwylwyr, Yr Athro Richard Wyn Jones a‟r Dr
Anwen Elias, bellach wedi hen syrffedu ar fy nghlywed yn rhygnu ‟mlaen ynglŷn â
rhyddfrydiaeth neu‟n paldaruo ynglŷn â rhyw agwedd ar bolisi iaith. Fodd bynnag, bu
eu parodrwydd cyson i wrando, darllen, pryfocio a thrafod yn gymorth amhrisiadwy
wrth i mi geisio rhoi trefn ar fy syniadau.
A minnau wedi dechrau gyda‟r pellaf oddi cartref, mae‟n briodol felly i orffen
ar y stepen ddrws: diolch i Mam a Dad am eu cefnogaeth ddi-ball; diolch i Rhys am ei
ddiffyg diddordeb; ac yn bennaf oll, diolch i Ffion am ei chariad ac am ei hamynedd!
1
1. Cyflwyniad: Rhyddfrydiaeth ac Adferiad
Iaith
1. Adferiad Iaith
Pwnc trafod y traethawd hwn yw polisi iaith, ac yn benodol, y polisïau ieithyddol
hynny sy‟n ymdrechu i adfer sefyllfa gwahanol ieithoedd lleiafrifol. Fel arfer, bydd yr
ieithoedd sy‟n sail i raglenni polisi o‟r fath yn arddangos nodweddion o‟r broses a
adnabyddir gan gymdeithasegwyr iaith fel „shifft‟ ieithyddol (Fishman 1991). A siarad
yn gyffredinol, dyma‟r broses a welir ar waith pan fo‟r prosesau cymdeithasol sy‟n
cyfrannu at gynnal unrhyw gymuned ieithyddol yn dechrau datgymalu. Yn aml, bydd
yn cychwyn wrth i un iaith gref (fel arfer iaith oruchafol y wladwriaeth) ddisodli iaith
arall wannach fel yr iaith a ddefnyddir mewn amrediad o beuoedd cymdeithasol
pwysig, megis y drefn addysg, swyddfeydd y llywodraeth a‟r economi. Bydd newid
o‟r fath yn ergyd sylweddol i ragolygon unrhyw iaith. I ddechrau, bydd yn cyfyngu‟n
sylweddol ar y cyfleoedd sydd ar gael i‟w defnyddio. Fodd bynnag, gall hefyd arwain
at danseilio‟r broses o gynhyrchu siaradwyr. Deillia hyn o‟r ffaith y bydd y dirywiad
mewn statws cyhoeddus yn effeithio ar agweddau pobl tuag at yr iaith, gan danseilio‟r
cymhelliad i‟w dysgu, ei defnyddio a hefyd i‟w throsglwyddo o un genhedlaeth i‟r
llall.
Gellir diffinio polisïau sydd â‟r nod o adfer sefyllfa gwahanol ieithoedd
lleiafrifol fel rhai sy‟n ymdrechu i wrth-droi‟r broses hon o „shifft‟ ieithyddol. Golyga
hyn fod camau pendant yn cael eu cymryd i gefnogi‟r iaith wan. Gall hyn gynnwys
cynlluniau sy‟n anelu i greu mwy o siaradwyr, er enghraifft trwy gyfrwng y drefn
addysg. Yn ogystal, gall gynnwys polisïau sy‟n estyn yr iaith i beuoedd cymdeithasol
2
newydd, gan ehangu ar y defnydd a wneir ohoni, a‟i normaleiddio fel cyfrwng
cyfathrebu byw. At ei gilydd, y gobaith yw y bydd camau o‟r fath yn arwain at atal
dirywiad yr iaith ac yn adfer ei hyfywedd. Fel y noda Christina Paulston et al,
Revitalization refers to situations where a subordinate language experiences new
energy and strength through expanded use‟ (Paulston et al 1993: 284). Ychwanegir at
hyn gan Joaquim Torres, sy‟n disgrifio adferiad iaith fel a process during which a
language gradually recovers the formal functions it [has] lost and at the same time
works its way into those social sectors within its own territory, where it was not
spoken before‟ (Torres 1984: 59 60).
Tan yn ddiweddar, ychydig iawn o sylw a roddwyd i‟r syniad yma o geisio
adfer sefyllfa ieithoedd lleiafrifol. Drwy‟r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hefyd am
ran sylweddol o‟r ugeinfed ganrif, y „synnwyr cyffredin‟ oedd bod dirywiad ieithoedd
o‟r fath yn rhywbeth y dylid ei groesawu, neu hyd yn oed ei annog. Deilliai hyn o‟r
ffaith fod ieithoedd lleiafrifol yn tueddu i gael eu dehongli fel creadigaethau cyntefig a
oedd yn gwbl anghyson â thueddiadau modernaidd neu Ddarwinaidd yr oes (G. H.
Jenkins 1999; Jenkins a Williams 2000). Datblygiad a chynnydd oedd y flaenoriaeth, a
dim ond trwy gyfrwng rhai ieithoedd mawr y gellid cyflawni hynny. O ganlyniad,
gweithred cwbl hurt ac afresymol fyddai ceisio ffrwyno a gwrthdroi dirywiad unrhyw
beth a oedd yn debygol o arafu‟r broses o gyflawni amcanion o‟r fath (Nelde et al
1996; Williams a Morris 2000).
Fodd bynnag, yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, aethpwyd ati i herio‟r
rhesymeg hon, a daeth lles gwahanol ieithoedd lleiafrifol i gael ei ystyried yn bwnc na
3
ellid ei ddiystyru. Nid oedd y newid hwn yn un a gyfyngwyd i‟r sffêr ieithyddol.
Roedd yn rhan o broses ehangach a arweiniodd at sicrhau lle mwyfwy amlwg ar yr
agenda gwleidyddol i amrediad o bynciau a oedd yn ymwneud â lles lleiafrifoedd
diwylliannol. Er enghraifft rhoddwyd sylw cynyddol i natur y gydnabyddiaeth
wleidyddol, diriogaethol a chrefyddol a estynnwyd i genhedloedd lleiafrifol neu i
grwpiau o fewnfudwyr ethnig (Kymlicka 1995b).1 Eto i gyd, yn y cyd-destun
ieithyddol, un o ganlyniadau‟r broses oedd creu hinsawdd a oedd yn llawer mwy
ffafriol i‟r syniad o geisio adfer sefyllfa gwahanol ieithoedd lleiafrifol. Yn wir, mae‟r
newid a welwyd ers tua dechrau‟r 1960au wedi bod yn syfrdanol. Erbyn heddiw, mae
ymdrechion i adfer ieithoedd lleiafrifol i‟w gweld ar waith mewn nifer helaeth o
leoliadau, ac mae‟r arferion polisi a gysylltir gydag ymdrechion o‟r fath wedi
datblygu‟n fwyfwy soffistigedig ac yn fwyfwy pellgyrhaeddol o ran eu sgôp.
Daw hyn i‟r amlwg wrth ystyried y sefyllfa mewn nifer o genhedloedd
lleiafrifol gorllewinol.2 Yng Ngwlad y Basg, er enghraifft, cychwynnodd yr ymdrech
gyfoes i adfer sefyllfa‟r Fasgeg yn dilyn marwolaeth y Cadfridog Franco a chwymp y
drefn Ffasgaidd yn ystod y 1970au. Am ddegawdau cyn hynny, roedd yr iaith a‟i
siaradwyr wedi profi cyfnod o orthrwm go eithafol. Cafodd y defnydd cyhoeddus
ohoni, boed yn llafar neu‟n ysgrifenedig, ei wahardd bron yn llwyr ac ar ben hynny,
1 Yn wir, ni ddylai‟r sylw cynyddol a roddwyd i sefyllfa grwpiau lleiafrifol gael ei ddehongli fel proses
a oedd wedi ei gyfyngu i‟r sffêr diwylliannol yn unig. Yn hytrach, gellid ei ddehongli fel rhan o
symudiad cyfoes ehangach, sydd hefyd yn cwmpasu galwadau gan nifer o grwpiau cymdeithasol eraill,
megis menywod, pobl hoyw a phobl anabl (Young 1990). Fel yn achos nifer o‟r grwpiau diwylliannol,
gwelwyd bod y grwpiau hyn hefyd wedi dechrau galw am gydnabyddiaeth o‟u hanghenion arbennig ac
ar i gymdeithas addasu ei harferion er mwyn bod yn fwy cynhwysol. At ei gilydd, mae‟r cynnydd hwn
mewn galwadau diwylliannol a chymdeithasol eu natur wedi arwain at sefydlu „cydnabyddiaeth‟ fel
ffactor mwyfwy allweddol mewn trafodaethau gwleidyddol cyfoes (Fraser 1995).
2 Wrth gwrs, nid yw adferiad iaith yn amcan polisi sydd ond yn cael ei gysylltu â chenhedloedd
lleiafrifol (Grenoble a Whaley 2006: 1). Eto i gyd, teg yw casglu ei fod yn nodwedd go amlwg o nifer
o‟r polisïau ieithyddol a fabwysiadir gan genhedloedd lleiafrifol.
4
cyfyngwyd ar y defnydd ohoni ym maes addysg a rhoddwyd terfyn ar unrhyw
gyhoeddiadau Basgeg. Fodd bynnag, datganodd Statud Ymreolaeth Gwlad y Basg, a
fabwysiadwyd ym 1979, y câi‟r Fasgeg – priod iaith y Basgiaid ei chydnabod fel
iaith swyddogol ochr yn ochr â‟r Sbaeneg. Fel y noda Nick Gardner et al (2000: 324),
y datganiad hwn oedd yn gosod sail ar gyfer yr ymdrech gyfoes i adfer a
normaleiddio‟r Fasgeg. Cafodd y broses ei gwthio ymlaen ymhellach ym 1982 yn
dilyn pasio deddf iaith gynhwysfawr „Deddf i Normaleiddio‟r Defnydd o‟r Fasgeg‟.
Fel yr awgryma‟r teitl, nid dim ond rheoleiddio‟r berthynas rhwng dwy iaith
swyddogol oedd bwriad y sawl a luniodd y ddeddf hon. Yn hytrach, yr amcan oedd
ceisio gwrth-droi‟r shifft a fu tuag at y Sbaeneg, gan adfer a normaleiddio‟r Fasgeg, a
hynny trwy gynyddu‟r nifer o siaradwyr ac ehangu ar y defnydd a wnaed o‟r iaith
(Gardner et al 2000: 324 a 326). O ganlyniad mae‟r ddeddf iaith hon yn cynnwys nifer
o gymalau sy‟n cyfeirio at yr angen i sicrhau lle i‟r Fasgeg mewn meysydd allweddol
megis byd addysg, y cyfryngau, gweinyddiaeth gyhoeddus a‟r llysoedd.
Fel yn achos y Fasgeg, dioddefodd y Gatalaneg yn sylweddol yn ystod cyfnod
Franco.3 Ond datganodd Statud Ymreolaeth Catalonia (1979) y câi‟r Gatalaneg –
priod iaith Catalonia ei chydnabod yn iaith swyddogol ochr yn ochr â‟r Sbaeneg.
Ar ben hynny, datganodd y byddai‟r Generalitat, sef y llywodraeth ranbarthol, yn
gweithio i greu amodau a fyddai‟n caniatáu i drigolion Catalonia ddysgu a defnyddio‟r
ddwy iaith. Dilynwyd hyn yn ystod y 1980au a‟r 1990au gan ddwy ddeddf iaith
3 Yn ogystal, law yn llaw â gorthrwm uniongyrchol Franco, dioddefodd rhagolygon y Gatalaneg yn sgil
rhai o newidiadau cymdeithasol y cyfnod. Yr amlycaf o‟r newidiadau hyn oedd twf economaidd a fu yn
y rhanbarth yn ystod y 1950au a‟r 1960au. Arweiniodd hyn at fudo sylweddol i Gatalonia o rannau
eraill o Sbaen. Cyfrannodd hyn at danseilio statws cymdeithasol y Gatalaneg ymhellach, gan nad oedd
y mewnfudwyr, a ymgartrefai‟n bennaf o amgylch Barcelona, yn gweld unrhyw angen i ddysgu‟r iaith.
Yn wir, yn absenoldeb unrhyw bolisïau i ddyrchafu‟r Gatalaneg, prin oedd cyswllt y mewnfudwyr â hi
beth bynnag (Gardner et al 2000: 338).
5
bwysig. Pasiwyd y cyntaf ym 1983 a‟r ail ym 1998. Unwaith eto, roedd y deddfau hyn
yn cynnwys cymalau a oedd yn ymwneud â meysydd megis gweinyddiaeth
gyhoeddus, y drefn addysg, y cyfryngau a chynnyrch diwylliannol. At ei gilydd, prif
amcan y deddfau oedd adfer sefyllfa‟r Gatalaneg, gan normaleiddio‟r defnydd ohoni
ym mhob agwedd o fywyd. Fel y noda Gardener et al, „The central policy of Catalonia
is fully to normalize the Catalan language, that is, to return to normality the use of the
language in all areas of public life‟ (Gardner et al 2000: 342).
Enghraifft Ewropeaidd arall yw‟r ymdrech i adfer sefyllfa‟r Gymraeg yng
Nghymru. Ers cyflwyno‟r Deddfau Uno ym 1536 y deddfau a arweiniodd at
ymgorffori Cymru‟n wleidyddol, yn gyfreithiol ac yn weinyddol fel rhan o
wladwriaeth Lloegr cafodd y Gymraeg, i bob pwrpas, ei chau allan o fywyd
cyhoeddus y genedl. Eto i gyd, yn ystod degawdau olaf yr ugeinfed ganrif cymerwyd
camau i ail godi statws yr iaith. Ymhlith y datblygiadau hyn roedd y penderfyniad i
sefydlu sianel deledu Gymraeg, y twf sylweddol a welwyd yn y ddarpariaeth o addysg
Gymraeg a hefyd Deddf yr Iaith Gymraeg a basiwyd ym 1993. Arweiniodd y mesurau
hyn at gynnydd yn statws cyhoeddus yr iaith a hefyd at gynnydd graddol yn y defnydd
a wnaed ohoni. Fodd bynnag, ychydig o feddwl strategol a fodolai tu ôl i‟r
ymdrechion hyn. Ar y cyfan, ymatebion cyndyn gan lywodraeth ganolog i
ymgyrchoedd penderfynol oeddent, yn hytrach na chynllunio ieithyddol cydlynol
(Phillips 2000).
Daeth cyfle i lunio polisi iaith mwy trefnus a rhagweithiol yn dilyn sefydlu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999. Wedi cyfnod o ymgynghori go sylweddol,
6
mabwysiadodd y llywodraeth newydd gynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y
Gymraeg (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2002). Amlinellwyd y cynllun hwn mewn
dogfen bolisi a oedd yn dwyn yr enw priodol Iaith Pawb, ac fel y gwelir o ddarllen
rhagair y ddogfen honno, roedd y llywodraeth yn amcanu i adfer sefyllfa‟r iaith: „Mae
Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i arwain y gwaith o gefnogi a hybu‟r
Gymraeg ... byddwn yn gwneud y cyfan sydd o fewn ein gallu i greu‟r amodau cywir
lle gall yr iaith Gymraeg dyfu a blodeuo ym mhob agwedd o fywyd Cymru‟
(Llywodraeth Cynulliad Cymru 2002: 2).
Wrth edrych tu hwnt i Ewrop, achos arall sy‟n bwysig i‟w ystyried yw
Quebec. Ar yr olwg gyntaf, gall ymddangos braidd yn od fod Quebec yn cael ei
thrafod yng nghyd-destun ymdrechion i adfer a normaleiddio ieithoedd. Yn ystod y
1960au, pan gychwynnodd yr ymdrechion i ddyrchafu‟r Ffrangeg, roedd yr iaith yn
parhau i fod yn famiaith i dros 80 y cant o‟r boblogaeth ac roedd tua thri chwarter
ohonynt yn siaradwyr uniaith (Bourhis 2001: 105). Fodd bynnag, er gwaethaf
sefydlogrwydd cymharol y Ffrangeg yn Quebec, roedd rhai o dueddiadau‟r cyfnod yn
awgrymu‟n gryf mai bregus oedd rhagolygon tymor hir yr iaith. Roedd shifft i
gyfeiriad y Saesneg yn datblygu‟n gyflym (Fishman 1991).
Ffactor a oedd yn cyfrannu at y newid hwn oedd statws goruchafol y Saesneg
o fewn economi Quebec. Er mai hi oedd iaith y lleiafrif, y Saesneg oedd iaith gwaith o
fewn yr economi, ac yn enwedig felly ar y lefelau uwch. O ganlyniad, roedd y
defnydd o Saesneg gan siaradwyr Ffrangeg yn cynyddu wrth iddynt ddringo‟n uwch o
fewn yr economi. Ymhellach, pe byddai siaradwyr Ffrangeg yn llwyddo i sicrhau
7
dyrchafiad, byddai hynny ond yn digwydd ar yr amod ei fod ef neu hi‟n gymwys i
gyflawni‟r gwaith trwy gyfrwng y Saesneg. Roedd hyn, yn ei dro, yn dylanwadu‟n
sylweddol ar dueddiadau ieithyddol y sawl a oedd yn mudo i Quebec, gan olygu fod
statws y Ffrangeg fel prif iaith y gymdeithas dan fygythiad (Bourhis 2001).
O ganlyniad i dueddiadau o‟r fath, bu galw am bolisïau cadarnhaol a fyddai‟n
adfer statws y Ffrangeg mewn perthynas â‟r Saesneg ac yn normaleiddio‟r defnydd
ohoni mewn peuoedd lle bu gynt yn absennol. Er mwyn ceisio cyflawni hyn,
cyflwynwyd cyfres o ddeddfau iaith pwysig yn ystod y 1960au a‟r 1970au. Heb
amheuaeth, y pwysicaf o‟r deddfau hyn oedd Mesur 101 (Siarter yr Iaith Ffrangeg) a
gyflwynwyd ym 1977 gan lywodraeth y Parti Québécois. Fel y noda Stephen May,
amcan y mesur hwn oedd gwrth-droi gwendid hanesyddol y Ffrangeg ochr yn ochr â‟r
Saesneg trwy ei sefydliadoli fel prif iaith yr economi, y drefn addysg a‟r byd
gwleidyddol (May 2001: 228).
Gwelir felly o‟r enghreifftiau hyn fod yr ymdrechion i adfer sefyllfa gwahanol
ieithoedd lleiafrifol wedi datblygu‟n sylweddol dros y degawdau diwethaf. Erbyn
heddiw, mae ymdrechion o‟r fath i‟w gweld ar waith mewn sawl lleoliad gwahanol.
Ar ben hynny, ac efallai‟n bwysicach, gwelir fod natur y polisïau a fabwysiedir wrth
gyrchu‟r nod o adfer iaith wedi datblygu i fod yn rhai soffistigedig a phellgyrhaeddol.
Bellach, mae‟r polisïau hyn yn debygol o effeithio‟n sylweddol ar sawl agwedd o
rediad y wladwriaeth ddemocrataidd fodern, gan gynnwys y drefn gyfiawnder, y drefn
addysg, y cyfryngau a‟r economi. O ystyried hyn, rhaid casglu fod adferiad iaith yn
8
broses sy‟n galw am sylw manwl, a hynny nid yn unig gan ysgolheigion ieithyddol,
ond hefyd gan efrydwyr gwleidyddiaeth.
2. Persbectif Normadol ar Adferiad Iaith
O ystyried pwysigrwydd gwleidyddol yr ymdrechion hyn i adfer gwahanol ieithoedd
lleiafrifol, diddorol yw nodi mai ychydig iawn sydd wedi‟i ysgrifennu ynglŷn â‟r
pwnc gan athronwyr gwleidyddol. Yn sgil hynny, prin fu‟r sylw ysgolheigaidd a
roddwyd i ddimensiwn normadol y broses o adfer iaith. Wrth sôn am y dimensiwn
normadol, cyfeirio a wneir at drafodaethau sy‟n ymdrin â‟r dadleuon moesol o blaid
neu yn erbyn polisïau o‟r fath. Sut, yn benodol, mae‟r polisïau hyn yn gorwedd ochr
yn ochr ag egwyddorion normadol pwysig, megis rhyddid, cyfiawnder, cydraddoldeb
a democratiaeth? Beth yw‟r terfynau na ddylai‟r wladwriaeth eu croesi (Kymlicka
2001)?
I raddau helaeth, ni ddylid synnu ynglŷn â‟r diffyg sylw normadol a roddwyd,
hyd yn hyn, i‟r broses o adfer iaith, gan mai ychydig iawn sydd wedi cael ei
ysgrifennu gan athronwyr gwleidyddol ynglŷn â pholisi iaith yn gyffredinol. Mae‟n
ddigon gwir fod athronwyr gwleidyddol wedi rhoi llawer iawn o sylw i alwadau
gwahanol leiafrifoedd diwylliannol dros yr ugain mlynedd diwethaf. Yn wir, mae hyn
wedi arwain at nifer o drafodaethau diddorol sydd wedi tueddu i gael eu cwmpasu gan
benawdau cyffredinol megis „amlddiwylliannedd‟, „gwleidyddiaeth hunaniaeth‟ neu
„wleidyddiaeth cydnabod‟. Fel rhan o‟r trafodaethau hyn, cyhoeddwyd amryw o
astudiaethau sy‟n cymryd golwg gyffredinol ar oblygiadau amrywiaeth diwylliannol, a
datblygwyd nifer o fframweithiau normadol cyffredinol sy‟n nodi‟n fras pa fath o
9
gamau y gall neu y dylai gwladwriaethau eu cymryd er mwyn ymateb yn deg i
alwadau gwahanol grwpiau am gydnabyddiaeth o‟u nodweddion unigryw (gweler er
enghraifft Carens 2000; Kymlicka 1995a; Parekh 2000; Taylor 1992). Yn ogystal,
cyhoeddwyd cyfres o drafodaethau manylach sy‟n canolbwyntio ar y cwestiynau sy‟n
codi mewn perthynas ag agweddau penodol o amrywiaeth diwylliannol. Er enghraifft,
cyhoeddwyd cyfrolau sy‟n rhoi sylw manwl i bynciau megis hil (Cochran 1999),
pobloedd brodorol (Ivison, Sanders a Patton 2000), mudo (Bauböck 1995; Cole 2000),
cenedlaetholdeb (Tamir 1993; Miller 1995) a chrefydd (Rosenblum 2000). Fodd
bynnag, er gwaethaf datblygiadau o‟r fath, prin iawn fu‟r sylw a roddwyd gan
athronwyr gwleidyddol i faterion sy‟n ymwneud â pholisi iaith, ac yn benodol i‟r
broses o adfer ieithoedd lleiafrifol.4
Mae‟r drafodaeth gyffredinol ynglŷn ag amlddiwylliannedd a hawliau
lleiafrifoedd yn cyffwrdd ar faterion ieithyddol o bryd i‟w gilydd. Serch hynny,
rhywbeth ysbeidiol yn unig ydyw ar y cyfan. Fel y noda Allan Patten a Will
Kymlicka:
Some of the concepts that figure prominently in these discussions are clearly
relevant to debates about language policy, and language is often referred to as
an example. But there have been relatively few attempts to apply
systematically the insights from those theories to specific controversies over
language or to formulate the theories in ways that take into account particular
facts and social theories relating to language acquisition, language use and
language shift (Patten a Kymlicka 2003: 12).
O ganlyniad, ar wahân i rai eithriadau prin, ychydig o ystyriaeth benodol a roddwyd,
hyd yn hyn, i‟r modd y mae gwahanol bolisïau iaith neu alwadau grwpiau iaith yn
4 Fel y nododd Kymlicka, „political theorists have had a lot to say about the language of politics – that
is the symbols, metaphors and rhetorical devices of political discourse but have had virtually nothing
to say about the politics of language that is, decisions about which languages to use in political, legal
and educational forums‟ (Kymlicka 1995b: 2). Seiliwyd y sylw yma ar bwynt a wnaed yn wreiddiol gan
Brian Weinstein (1983).
10
cydredeg ag egwyddorion normadol pwysig megis rhyddid, cyfiawnder, cydraddoldeb
a democratiaeth.5
Mae adferiad iaith yn bwnc sydd wedi‟i drafod yn fanwl iawn gan
ysgolheigion mewn meysydd academaidd eraill. Er enghraifft, fe‟i trafodwyd gan
nifer o gymdeithasegwyr iaith a chynllunwyr iaith (gweler er enghraifft Fishman 1991
a 2001; Grenoble a Whaley 2006; Thomas a Mathias 2000; Williams 2000). Eto i gyd,
gweithiau sy‟n canolbwyntio‟n bennaf ar ddimensiwn empeiraidd ac ymarferol y
broses yw rhain, yn hytrach na‟r dimensiwn normadol. Caiff hyn ei adlewyrchu gan
natur y cwestiynau ymchwil sy‟n tueddu i gael eu trafod: Pa ffactorau economaidd,
cymdeithasol a gwleidyddol sy‟n dylanwadu ar statws gwahanol ieithoedd? Pa fath o
bolisïau sy‟n debygol o newid y statws hwn? Sut dylid penderfynu pa bolisïau i‟w
blaenoriaethu? Mae amryw o arsylwadau normadol i‟w canfod ymhlyg yn y
drafodaeth o‟r cwestiynau hyn. Ond, fel y noda Helder De Schutter (2007: 16), nid
yw‟r pwyntiau normadol hyn yn cael eu gosod allan yn glir ac felly nid oes cyfle i
gloriannu eu goblygiadau: „traditional language policy fields do operate with many
normative ideals which, however, are often only vaguely articulated and remain
largely implicit.
Yn sicr, ni ddylid diystyru‟r cwestiynau ymarferol a drafodir gan
gymdeithasegwyr iaith ac eraill; maent yn gwestiynau pwysig sydd angen eu hystyried
yn fanwl os ydym, fel gwyddonwyr cymdeithasol, am fagu gwell dealltwriaeth o natur
y broses o adfer iaith. Ond ar yr un pryd, ni ddylid anwybyddu dimensiwn normadol y
5 Ymhlith yr eithriadau hyn ceir: Green 1987; Réaume 1991 a 2000; Patten 2001 a 2003; ac hefyd
Kymlicka a Patten 2003.
11
broses honno. Wedi‟r cyfan, ochr yn ochr â chwestiynau ymarferol, mae adferiad iaith
yn broses sy‟n codi nifer o gwestiynau normadol pwysig. Yn ogystal, wrth i
ymdrechion i adfer gwahanol ieithoedd lleiafrifol ddod yn fwyfwy cyffredin, mae‟n
bosib iawn y bydd y cwestiynau normadol hyn ond yn dod yn fwyfwy perthnasol. O
ganlyniad, mae‟n hollbwysig fod athronwyr gwleidyddol yn ceisio llenwi‟r gwagle
presennol yn y llenyddiaeth, trwy roi sylw manwl i oblygiadau‟r broses o adfer iaith.
Amcan y traethawd hwn fydd cyfrannu at y broses honno. Eir ati i wneud hynny, trwy
drafod dau o‟r prif gwestiynau normadol sy‟n codi mewn perthynas ag ymdrechion i
adfer ieithoedd lleiafrifol, a hynny o bersbectif penodol; persbectif athroniaeth
ryddfrydol gyfoes.
3. Cwestiynau Ymchwil
Y cwestiwn normadol cyntaf a drafodir yn ystod y traethawd yw: Sut dylai
rhyddfrydwyr gysyniadoli statws moesol y nod cyffredinol o adfer iaith? Yn benodol,
ystyrir a ddylent ei ddehongli fel rhywbeth sy‟n hanfodol o safbwynt cyfiawnder. Pam
mae hwn yn gwestiwn sy‟n haeddu cael ei drafod mor fanwl? Un o‟r pethau mwyaf
trawiadol ynglŷn â‟r drafodaeth wleidyddol gyffredin mewn perthynas ag adferiad
iaith yw natur foesol y drafodaeth honno. Yn bur aml, bydd lladmeryddion gwahanol
ieithoedd lleiafrifol yn tueddu i bortreadu adferiad eu hieithoedd fel rhywbeth sy‟n
arbennig o bwysig o safbwynt cyfiawnder. A siarad yn gyffredinol, cred y bobl hyn
fod eu hieithoedd wedi dirywio yn sgil cyfnod estynedig o anghyfiawnder, ac yn sgil
hynny, caiff y dasg o‟u hadfer ei gweld fel mater o gyfiawnder diamheuol. Fodd
bynnag, ychydig o ystyriaeth a roddwyd, hyd yn hyn, i oblygiadau safbwynt o‟r fath.
12
O ganlyniad, mae angen mynd ati i‟w gloriannu‟n fanwl, gan ystyried yn ofalus a
ydyw‟n safbwynt y gellir ei gymeradwyo o safbwynt rhyddfrydiaeth.
Yr ail gwestiwn a drafodir yn ystod y traethawd yw: I ba raddau mae rhai o’r
camau ymarferol a gymerir, wrth geisio gwireddu’r nod o adfer gwahanol ieithoedd
lleiafrifol, yn arwain at dramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol? Mae hwn yn
gwestiwn pwysig, oblegid, wrth reswm, ni fydd rhyddfrydwyr yn barod i gymeradwyo
pob un polisi y gellid ei gyflwyno fel rhan o ymdrech i adfer iaith leiafrifol. Er
enghraifft, mae‟n bur debyg y byddai rhyddfrydwyr yn gwrthwynebu polisïau adferol
sy‟n datgan mai dim ond yr iaith leiafrifol a ddylai gael ei defnyddio gan unigolion,
hyd yn oed mewn sgyrsiau preifat. Byddai hynny‟n mynd yn rhy bell. Ond beth am rai
o‟r polisïau adferol sydd ar waith ar hyn o bryd mewn gwladwriaethau rhyddfrydol-
democrataidd? Ydy rhain hefyd yn mynd yn rhy bell ac yn tramgwyddo egwyddorion
rhyddfrydol pwysig? Yn sicr, mewn nifer o wahanol wledydd ar draws y byd mae
gwahanol bolisïau iaith wedi bod yn sail i gryn anniddigrwydd ymhlith rhai rhannau
o‟r boblogaeth, ac yn bur aml mae gwrthwynebiadau‟r bobl hyn wedi cynnwys
ensyniadau ynglŷn â‟r modd y mae gwahanol bolisïau yn tramgwyddo egwyddorion
normadol megis rhyddid a chydraddoldeb. Ond, a oes unrhyw sail i wrthwynebiadau
o‟r fath? A yw rhai o‟r camau ymarferol a gymerir heddiw, wrth geisio gwireddu‟r
nod o adfer gwahanol ieithoedd lleiafrifol, wir yn tramgwyddo egwyddorion pwysig
ac felly‟n annerbyniol o bersbectif rhyddfrydol?
Gwelir felly beth yw‟r ddau gwestiwn ymchwil a fydd yn sail i drafodaeth y
traethawd hwn. Maes o law fe amlinellir sut y trefnwyd y gwaith er mwyn ateb y
13
cwestiynau hyn. Ond cyn gwneud hynny, rhaid egluro‟n fanwl pam y penderfynwyd
eu trafod o bersbectif rhyddfrydol.
4. Rhyddfrydiaeth
Ar un adeg, ni fyddai mynd ati i drafod pwnc megis adferiad ieithoedd lleiafrifol o
bersbectif rhyddfrydol wedi argoeli fel menter arbennig o addawol. Yn ystod cyfnod
cynnar y drafodaeth athronyddol ynglŷn â sefyllfa lleiafrifoedd diwylliannol – hynny
yw tua diwedd yr 1980au yr ymateb traddodiadol ymhlith rhyddfrydwyr oedd y
dylid gwrthwynebu pob ymdrech i estyn cydnabyddiaeth neu gefnogaeth arbennig i
grwpiau o‟r fath. Fel yr eglura Will Kymlicka, y gred gyffredinol oedd y byddai
gwneud hynny‟n gwrthdaro mewn modd cwbl sylfaenol ag egwyddorion rhyddfrydol
pwysig:
The near-universal response by liberals has been one of active hostility to
minority rights ... schemes which single out minority cultures for special
measures will appear irremediably unjust, a disguise for creating or
maintaining racial or ethnic privilege (Kymlicka 1989: 4).
Ond ar beth yn union y seiliwyd y gwrthwynebiad hwn?
I ddechrau, dadleuwyd y byddai cydnabod galwadau lleiafrifoedd diwylliannol
galwadau a oedd, o ran eu natur, yn ymddangos fel rhai torfol neu gymunedol yn
debygol o wrthdaro â‟r pwyslais rhyddfrydol ar oruchafiaeth foesol yr unigolyn. Yn ôl
yr egwyddor hon egwyddor a oedd yn ganolog i waith rhyddfrydwyr blaenllaw
megis John Rawls (1971) dylai unigolion gael eu trin fel „the ultimate units of moral
worth‟, hynny yw, as having moral standing as ends in themselves‟ (Kymlicka 1989:
140). Ymhellach, mae‟r egwyddor yn datgan fod y gwerth moesol hwn yn perthyn i
bob unigolyn yn ddiwahân, ac y dylai hynny gael ei gydnabod gan bob cymdeithas
14
wleidyddol: every individual has an equal moral status, and hence is to be treated as
an equal by the government‟ (Kymlicka 1989: 140). Ar sail y pwyslais hwn ar yr
unigolyn, a‟r gred gysylltiedig yng nghydraddoldeb sylfaenol pob unigolyn, mae
rhyddfrydwyr wedi mynnu y dylai pawb feddu ar yr un hawliau a breintiau. Dyma
sydd wedi esgor ar y pwyslais rhyddfrydol ar hawliau dinesig sylfaenol. Eto i gyd, yr
hyn sy‟n bwysig yn y cyswllt hwn, yw bod rhyddfrydwyr hefyd wedi tueddu i ddod i‟r
casgliad fod y daliadau unigolyddol hyn yn golygu bod yn rhaid gwrthwynebu pob
ymgais i estyn cydnabyddiaeth neu gefnogaeth ddiwylliannol arbennig i leiafrifoedd.
Tybiwyd y byddai gwneud hynny‟n beryglus, gan y byddai‟n golygu trin pobl fel
aelodau o grwpiau penodol, yn hytrach na fel dinasyddion unigol a chyfartal.
Canlyniad hyn fyddai gosod y grŵp ar yr un lefel foesol a‟r unigolyn ac felly
tanseilio‟r pwyslais traddodiadol ar oruchafiaeth yr unigolyn (Johnston 1989).
Yn ail, tueddai nifer o ryddfrydwyr i gredu y byddai estyn cydnabyddiaeth neu
gefnogaeth arbennig i rai lleiafrifoedd yn gwrthdaro â‟u dealltwriaeth o rôl briodol y
wladwriaeth mewn perthynas â diwylliant. Yn ôl y ddealltwriaeth hon, dylai
gweithredoedd y wladwriaeth mewn meysydd diwylliannol gael eu nodweddu gan
niwtraliaeth. Golygai hyn y dylid ymatal rhag hybu neu gydnabod unrhyw ymlyniadau
diwylliannol trwy gyfrwng polisi cyhoeddus. Yn hytrach, dylai‟r dasg yma gael ei
adael i‟r sffêr preifat. Fel yr eglura Kymlicka:
On this view, ethnic identity, like religion, is something which people should
be free to express in their private life, but which is not the concern of the state.
The state does not oppose the freedom of people to express their particular
cultural attachments, but nor does it nurture such expression - rather ... it
responds with benign neglect (Kymlicka 1995a: 3).6
6 Mae‟r ymadrodd benign neglect yn crynhoi‟n effeithiol yr egwyddor a oedd yn sail i‟r agwedd
draddodiadol ymhlith athronwyr rhyddfrydol tuag at ymlyniadau diwylliannol. Bathwyd ef gan Nathan
15
Unig rôl y wladwriaeth, felly yw sicrhau fod pawb yn meddu ar lefel sylfaenol o
hawliau dinesig. O wneud hynny, byddai pawb yn cael eu gwarchod rhag rhagfarn ac
felly‟n rhydd i ymgynnull ac i arddel eu hunaniaeth a‟u diwylliant fel y maent yn
dymuno. Credwyd y byddai cymryd camau pellach er enghraifft trwy gynnig
hawliau tiriogaethol neu ieithyddol arbennig i rai grwpiau yn gwbl amhriodol,
oblegid byddai‟n tanseilio‟r syniad o gydraddoldeb dinesig, gan ddyrchafu rhai
diwylliannau a ffyrdd o fyw ar draul eraill.
O ystyried y pwyntiau uchod, gellir casglu fod ymdriniaeth wreiddiol
rhyddfrydwyr o gwestiynau diwylliannol wedi tueddu i gael ei nodweddu gan raniad
haearnaidd rhwng dinasyddiaeth, ar y naill law, a hunaniaeth neu ethnigrwydd ar y
llaw arall (May 2001). Tybiwyd mai rôl briodol y wladwriaeth oedd canolbwyntio ar
hybu a chynnal y cyntaf, ac y dylid anwybyddu‟r ail. Eto i gyd, fel y gwelir isod, gellir
codi amheuon difrifol ynglŷn ag i ba raddau mae daliadau rhyddfrydol o‟r fath yn
cynrychioli ffordd deg o ymdrin â galwadau gwahanol leiafrifoedd diwylliannol am
gydnabyddiaeth neu gefnogaeth.
I ddechrau, fel y noda Stephen May (2001), mae‟r dyhead rhyddfrydol i‟n trin
fel dim mwy na dinasyddion unigol, gan anwybyddu nodweddion ehangach, yn
arwain at ddarlunio pawb fel bodau diwahân, as interchangeable from a moral point
of view‟ (May 2001: 103). Canlyniad hyn, yw diystyru‟r modd y mae gwahanol
ymlyniadau cymdeithasol a diwylliannol yn medru cyfrannu at gyfoethogi ein
bywydau. Eto i gyd, mae unrhyw ddehongliad o fywyd dynol sy‟n anwybyddu
Glazer. Roedd Glazer ei hun yn arddel y safbwynt hwn, fel y nododd wrth drafod amrywiaeth
diwylliannol ar draws America (Glazer 1995).
16
pwysigrwydd ymlyniadau o‟r fath yn debygol o fod yn un gwag; afreal hyd yn oed.
Dyna yn sicr oedd tybiaeth y cymunedwyr. Er enghraifft, fel y dadleuodd Michael
Sandel (1982; 1984), ni cheir y fath beth a‟r „unencumbered self‟. Yn hytrach, caiff
pawb eu „lleoli‟ a‟u „gwreiddio‟ mewn cymuned o ryw fath, ac mae‟r ymlyniadau
gwahanol sy‟n deillio o hyn yn debygol o gyfrannu, dros amser, at siapio gwerthoedd
ac amcanion unrhyw unigolyn. Yn wir, fel y noda Charles Taylor, mae‟r cyd-destun
cymdeithasol a diwylliannol hwn yn hollbwysig, oherwydd „it is the background
against which our tastes and desires and options and aspirations make sense‟ (Taylor
1992: 33 34). Felly, yn nhyb cymunedwyr megis Sandel a Taylor, mae tuedd
rhyddfrydwyr i ddyrchafu‟r unigolyn, gan anwybyddu‟r cyd-destun cymdeithasol a
diwylliannol, wedi arwain at ddehongliad llawer rhy gul o‟n anghenion.
Yn ogystal, mae‟r rhaniad rhwng dinasyddiaeth a hunaniaeth yn amlygu diffyg
dealltwriaeth sylfaenol o natur y wladwriaeth fodern. Yn ôl y dehongliad rhyddfrydol
y model benign neglect i‟r wladwriaeth ei dehongli fel creadigaeth ddiduedd
sy‟n ymatal rhag cydnabod neu ddyrchafu unrhyw ymlyniadau diwylliannol. Serch
hynny, wrth oedi i ystyried datblygiad a gweithrediad y mwyafrif o wladwriaethau
modern, buan iawn y gwelir fod hwn yn honiad cwbl afresymol. Y gwir amdani yw
nad yw‟n bosib i unrhyw wladwriaeth gyfoes fodoli fel endid diduedd, sy‟n camu‟n ôl
rhag penderfyniadau ethnig neu ddiwylliannol eu natur. Mae penderfyniadau ynglŷn â
materion amrywiol megis iaith weinyddol, ffiniau mewnol, gwyliau cyhoeddus a
symbolau‟r wladwriaeth oll yn arwain at ffafrio nodweddion un grŵp ar draul eraill.
Felly, mae‟n anochel fod y wladwriaeth, trwy gyfrwng ei amrywiol rwydweithiau a
sefydliadau, yn cydnabod ac yn dyrchafu de facto math arbennig o ddiwylliant a
17
hunaniaeth. Fel y noda Taylor (1992: 43 44), „the supposedly neutral set of
difference-blind principles of the politics of equal dignity is in fact a reflection of one
hegemonic culture ... a particularism masquerading as the universal.‟
Gwelir felly fod yna wendidau sylfaenol yn perthyn i‟r modd y tueddai
rhyddfrydwyr i ymateb i alwadau lleiafrifoedd diwylliannol. Yn wir, ar sail y
gwendidau hyn, daeth nifer o athronwyr i‟r casgliad mai ychydig iawn oedd gan
ryddfrydiaeth, yn sgil ei phwyslais ar ddinasyddiaeth unigolyddol, i‟w gynnig i
unrhyw drafodaeth ynglŷn â materion o‟r fath. Er enghraifft, nododd Vernon Van
Dyke; „the liberal emphasis on the individual precludes a proper theory of the state,
which suggests in principle that liberalism cannot be trusted to deal adequately with
the question of status and rights for ethnic communities (Van Dyke 1977: 344, gweler
hefyd Johnston 1991; McDonald 1991).7 O ganlyniad, casglwyd fod angen
mabwysiadu fframwaith foesol amgen cyn gellid ymdrin yn deg â galwadau
lleiafrifoedd diwylliannol, a thybiwyd fod seiliau‟r fframwaith honno i‟w canfod yn y
feirniadaeth gymunedol o ryddfrydiaeth.8
7 Daeth beirniadaeth o gyfeiriadau eraill hefyd o gyfeiriad pobl megis John Gray, a ystyriwyd fel
cyfaill i ryddfrydiaeth. Yn ôl Gray; „the sustaining myths of liberal modernity – myths of global
progress, of fundamental rights and of secular movement to a universal civilisation cannot be
maintained even as useful fictions in the intellectual and political context of the last decade of our
century‟ (Gray 1989, dyfynnwyd yn Kukathas 1992: 107).
8 Yn wir, yr hyn sy‟n ddiddorol yw nad dim ond mewn cylchoedd athronyddol y gwelwyd amheuaeth
o‟r pwyslais rhyddfrydol ar unigolyddiaeth yn arwain at gwestiynu gallu‟r syniadaeth i ymateb yn
ystyrlon a theg i sefyllfa gwahanol leiafrifoedd diwylliannol. Mae‟r un teimlad hefyd wedi brigo i‟r
wyneb o bryd i‟w gilydd yn nadleuon nifer o ymgyrchwyr gwleidyddol. Cymerer, er enghraifft, y
drafodaeth yma yng Nghymru ynglŷn â dyfodol y Gymraeg. Mae traddodiad hir ymhlith aelodau‟r
„mudiad iaith‟ o roi pwyslais ar bwysigrwydd y gymuned i barhad yr iaith, ac ar adegau, mae‟r
pwyslais hwn wedi arwain at ddrwgdybiaeth ddofn o rinweddau rhyddfrydiaeth, ac yn benodol, ei natur
unigolyddol.
18
Eto i gyd, er gwaethaf cefndir o‟r fath, ni fydd y traethawd hwn yn ymwrthod
â rhyddfrydiaeth, gan fabwysiadu persbectif mwy cymunedol. Pam hynny? I
ddechrau, dylid nodi‟r ffaith nad yw‟r cymunedwyr, hyd yn hyn, wedi llwyddo i
ddatblygu fframwaith cyflawn fel gwrthbwynt i ryddfrydiaeth. Do fe gyflwynwyd
nifer o feirniadaethau penodol, ac fe drafodwyd y rhain yn fanwl iawn (gweler, er
enghraifft Buchanan 1989; Gurman 1985; Walzer 1989). Ond, y tu hwnt i hynny,
ychydig iawn o waith adeiladol a wnaed. Fel yr eglura Jeff Spinner,
communitarianism is mostly a critique of liberalism‟ (Spinner 1994: 12). Fodd
bynnag, er y diffygion adeiladol yma, mae beirniadaethau cymunedwyr megis Sandel
(1982), yn cynnig awgrym bras o‟r math o drefniadau cymdeithasol y byddai
fframwaith cymunedol amgen yn medru eu cymeradwyo. O ganlyniad, onid oes yma
ddigon o sail i ddechrau meddwl am gamu tu hwnt i ryddfrydiaeth?
I‟m tyb i, nac oes. Deillia hyn o‟r ffaith fod ystyriaeth ofalus o oblygiadau rhai
o syniadau‟r cymunedwyr yn codi pryderon sylweddol. Y gwir amdani yw bod y
cymunedwyr, wrth herio rhyddfrydiaeth ar sail ei phwyslais unigolyddol, ac wrth
bledio syniadau ynglŷn â‟r lles cyffredinol a natur „leoledig‟ y bod dynol, yn agor y
drws i arferion gwleidyddol gorthrymol. Fel yr eglura Adeno Addis:
... in so far as the communitarian emphasizes the constitutive nature of these
local communities and glorifies and protects them, he is prescribing the
condition for closed, local communities. Such communities are likely to stifle
the full development of their members by putting formal and informal
restrictions upon the members, both in terms of exit and re-entry. In addition,
the institutional implication of the localist conception of community is the
emergence and proliferation of insulated and exclusionary communities (Addis
1992: 646).
Yn y pendraw, un peth yw beirniadu athronwyr rhyddfrydol, fel a wnaed uchod, am
ddefnyddio pwyslais traddodiadol y syniadaeth ar yr unigolyn fel rheswm dros
19
ddiystyru pwysigrwydd ein hymlyniadau cymdeithasol a diwylliannol. Fodd bynnag,
peth arall yn gyfan gwbl yw dadlau, fel y mae‟r cymunedwyr wedi gwneud, bod felly
angen ymwrthod â‟r holl syniad o unigolyddiaeth, ac yn sgil hynny, rhyddfrydiaeth.
Byddai cam o‟r fath yn meddu ar oblygiadau sylweddol iawn. Wedi‟r cyfan, y
pwyslais rhyddfrydol ar yr angen i drin pawb yn gyntaf fel bodau dynol unigol, sy‟n
cynnig cynsail ar gyfer rhai o‟n rhyddfreiniau gwleidyddol a dinesig mwyaf sylfaenol.
Ni ellir, mewn difrif, ymwrthod a‟r pethau hyn. 9
Fodd bynnag, mae casgliad o‟r fath yn creu ychydig o ddilema. Ar y naill law,
mynnwyd uchod bod rhyddfrydiaeth yn cynrychioli rhai gwerthoedd sydd mor bwysig
ac mor ganolog i‟n dehongliad o degwch a chyfiawnder, fel na ddylid ymwrthod â‟r
syniadaeth yn llwyr. Ond ar y llaw arall, rai paragraffau yng nghynt, dangoswyd nad
yw rhyddfrydwyr wastad wedi dehongli‟r gwerthoedd hyn mewn modd sy‟n caniatáu
iddynt ymdrin yn deg â galwadau gwahanol leiafrifoedd am gydnabyddiaeth neu
gefnogaeth arbennig. Sut felly mae goresgyn y ddilema hon?
Credaf fod yr ateb i‟w ganfod yng ngwaith carfan newydd o athronwyr
rhyddfrydol; carfan y cyfeirir atynt weithiau fel Rhyddfrydwyr Diwylliannol. Dyma
garfan o athronwyr sy‟n argyhoeddedig fod yr ymateb traddodiadol ymhlith
rhyddfrydwyr i alwadau lleiafrifoedd diwylliannol wedi bod yn gwbl annigonol. Ond,
yn arwyddocaol, nid ydynt o‟r farn fod hyn yn rheswm i ymwrthod yn llwyr â‟r
syniadaeth. Yn wahanol i gymunedwyr megis Sandel a Van Dyke, credant fod modd
goresgyn y gwendidau a oedd yn perthyn i ddadleuon traddodiadol rhyddfrydwyr, a
9 Am amlinelliad llawnach o‟r modd y gall syniadau‟r cymunedwyr agor y drws i wleidyddiaeth
orthrymol gweler Kymlicka 1989: penodau 4 a 5. Gweler hefyd Gutmann 1985.
20
hynny heb gamu tu hwnt i derfynau‟r syniadaeth. Deillia hyn o‟r gred fod
rhyddfrydiaeth, er gwaethaf popeth, yn syniadaeth sy‟n meddu ar yr adnoddau i
gydnabod pwysigrwydd ein hymlyniadau cymdeithasol a diwylliannol. Yr unig
broblem yw bod yr elfennau hyn wedi tueddu i gael eu hanwybyddu gan y mwyafrif o
ryddfrydwyr cyfoes. O ganlyniad, yn hytrach nag ymwrthod â rhyddfrydiaeth, yr hyn
sydd angen ei wneud yw ei ail ddehongli, gan gyflwyno ei hystyriaethau cymunedol a
diwylliannol mewn modd mwy trefnus a diamwys nag a wnaed yn y gorffennol. O
wneud hynny, gellir tynnu sylw rhyddfrydwyr at bwysigrwydd ein hymlyniadau
diwylliannol, a dangos nad yw estyn cydnabyddiaeth a chefnogaeth i wahanol grwpiau
ar sail yr ymlyniadau hyn yn debygol o dramgwyddo‟r pwyslais rhyddfrydol ar ryddid
unigol a chydraddoldeb.
Ers dechrau‟r 1990au, mae dadleuon amgen y garfan hon wedi arwain at greu
gwagle newydd o fewn terfynau rhyddfrydiaeth, gan ddangos bod modd i ddilynwyr y
syniadaeth ymdrin yn decach nag y tybiwyd â galwadau gwahanol leiafrifoedd
diwylliannol am gydnabyddiaeth a chefnogaeth arbennig. Mae‟r symudiad wedi bod
yn un eang, ac wedi cwmpasu nifer helaeth o awduron gwahanol. Yn eu plith gellid
rhestru pobl megis Joseph Carens (2000), David Miller (1995), Joseph Raz (1994),
Jeff Spinner (1994) a Yael Tamir (1993). Fodd bynnag, yr amlycaf a hefyd y mwyaf
toreithiog o‟r garfan newydd yma o ryddfrydwyr yw Will Kymlicka (1989; 1995a;
2001; 2007). Am hynny, ystyrir ei brif ddadleuon yn ystod y paragraffau canlynol.
Fel a welwyd uchod, un o‟r ffactorau a oedd yn sail i amheuaeth rhyddfrydwyr
o alwadau gwahanol leiafrifoedd diwylliannol, oedd y gred y byddai estyn
21
cydnabyddiaeth i bobl ar sail eu hymlyniad at grŵp neu gymuned arbennig yn
gwrthdaro â‟r pwyslais rhyddfrydol ar yr unigolyn. Credwyd mai‟r oll y dylai‟r
wladwriaeth ei wneud oedd trin pawb fel dinasyddion unigol. Cafodd y syniadau hyn
eu beirniadu gan y cymunedwyr. Ond, fel y dangosa Kymlicka, dylai rhyddfrydwyr
hefyd fod yn fwy parod i roi pwyslais ar ein hymlyniadau cymdeithasol a
diwylliannol, gan y bydd hynny‟n hybu yn hytrach na niweidio sefyllfa‟r unigolyn.
Man cychwyn ei ddadl yw ystyriaeth o‟r dehongliad rhyddfrydol o ryddid. Yn
ôl John Rawls (1971), mae hwn yn ddehongliad sy‟n seiliedig ar yr egwyddor o
ymreolaeth unigol. Golyga hyn fod person yn rhydd i lunio ei amcanion a‟i werthoedd
ac i‟w hadolygu yn ôl yr angen. Bydd hyn yn caniatáu i berson fyw'r bywyd y mae ef
neu hi‟n ei ystyried fel un da (i‟r graddau nad yw ei amcanion yn tramgwyddo ar
fywyd a rhyddid unigolion eraill). Fel y noda Kymlicka, „Rawls believes that the
freedom to form and revise our beliefs about value is a crucial precondition for
pursuing our essential interest in leading a good life‟ (Kymlicka 1989:163). Fodd
bynnag, mae gallu person i arddel ymreolaeth unigol mewn unrhyw fodd ystyrlon yn
galw am amrywiaeth digonol o opsiynau.10 Yn ôl Taylor (1985a; 1992), mae‟r
opsiynau hyn y gwahanol bethau sy‟n caniatáu i berson wneud dewis yn deillio
o‟n diwylliant. Hynny yw, ein diwylliant yw‟r cyfrwng sy‟n cyfleu ac yn amlygu y
gwahanol opsiynau sydd ar gael. Yn nhyb Kymlicka, mae‟r cysyniad hwn o opsiynau
sy‟n deillio o‟n diwylliant a‟n harferion cymdeithasol yn rhywbeth y gall
rhyddfrydwyr ei dderbyn hefyd. Wedi‟r cyfan, nid yw‟r opsiynau hyn yn medru
ymddangos o unlle. Noda: we do not explore a number of different patterns of
10 Heb opsiynau digonol, ni ellir dweud bod person yn rhydd i wneud dewis „go iawn‟. Byddai hyn yn
golygu bod y cysyniad o ymreolaeth unigol yn ddiystyr. Fel y noda Taylor, „they must be choices‟
(Taylor 1985a: 197).
22
physical movement in abstraction from any cultural structure. Rather we make these
judgements by examining the cultural structure‟ (Kymlicka 1989: 165). O ganlyniad,
dadleua y dylai rhyddfrydwyr roi ystyriaeth i les gwahanol ddiwylliannau, gan mai ein
diwylliant yw‟r cyd-destun o ddewis a ddefnyddir gennym i lunio ein gwerthoedd a‟n
hamcanion: „it‟s only through having a rich and secure cultural structure that people
can become aware, in a vivid way, of the options available to them‟ (Kymlicka 1989:
165).
Serch hynny, os yw ein hymlyniad diwylliannol mor ganolog i‟r dehongliad
rhyddfrydol o ryddid unigol, pam na dderbyniodd fwy o sylw yng ngwaith athronwyr
pwysig megis Rawls (1971) a Dworkin (1978)? Gellid dadlau, fel y gwnaeth Sandel,
fod y gwendid hwn yn deillio o‟r unigolyddiaeth sydd mor ganolog i ryddfrydiaeth,
hynny yw, bod rhyddfrydwyr yn tueddu i ystyried unigolion fel creaduriaid sy‟n
bodoli ar wahân i unrhyw gyd-destun cymdeithasol neu ddiwylliannol (Sandel 1982).
Ond, gwrthod hyn a wna Kymlicka. Dadleua nad yw methiant Rawls neu Dworkin i
roi mwy o sylw i‟n hymlyniad diwylliannol yn deillio o unrhyw wendid athronyddol
sylfaenol. Yn hytrach, mae‟r rheswm yn un llawer mwy arwynebol, sef methiant y
ddau i ddeall natur amrywiol gwladwriaethau modern:
The answer, I think, lies not in any deep, foundational flaw in liberalism, but
simply in the fact that Rawls and Dworkin, like most post-war political
theorists, work with a very simplified model of the nation state, where the
political community is co-terminous with one and only one cultural
community‟ (Kymlicka 1989: 177).
O ganlyniad, roedd Rawls a Dworkin yn cydnabod pwysigrwydd diwylliant: The
only reason that they don‟t explicitly give it status as a ground for legitimate claims is
23
that they falsely assume there is only one such cultural structure in each political
community‟ (Kymlicka 1989: 178).11
Eto i gyd, hyd yn oed os yw ein hymlyniad diwylliannol yn bwysig, pam mae
angen cydnabod a chefnogi diwylliannau penodol? Os mai‟r hyn sy‟n bwysig yw gallu
diwylliant i gynnig cyd-destun o ddewis i‟r unigolyn, onid yw‟n bosib i unrhyw
ddiwylliant lenwi‟r bwlch? Er enghraifft, os yw un diwylliant lleiafrifol yn dirywio,
oni fyddai‟n ddigon i‟r wladwriaeth gynorthwyo aelodau‟r diwylliant hwnnw i
fabwysiadu diwylliant arall, mwy sefydlog, gan ddefnyddio‟r cyd-destun o ddewis a
gynigir gan y diwylliant newydd? Mae hwn yn gwestiwn hollbwysig. Wedi‟r cyfan, os
gall unrhyw ddiwylliant wneud y tro, pa sail sydd yna dros estyn cefnogaeth arbennig
i rai grwpiau?
Mae Kymlicka‟n cynnig ateb effeithiol i‟r cwestiwn hwn, trwy gysylltu ein
hymlyniad diwylliannol â‟n hunaniaeth bersonol. Trwy wneud hynny, mae‟n
pwysleisio bod cysylltiad cryf i‟w gael rhwng person â‟i ddiwylliant ac felly fod ein
diwylliant yn rhan bwysig o‟n gwneuthuriad:
People are bound, in an important way, to their own cultural community. We
can‟t just transplant someone from one culture to another ... Someone‟s
upbringing isn‟t something that can just be erased: it is, and will remain, a
constitutive part of who that person is. Cultural identity affects our very sense
of personal identity and capacity‟ (Kymlicka 1989: 175).
11 Fel y noda Paul Kelly, un o‟r pethau mwyaf arwyddocaol ynglŷn â dehongliad Kymlicka yw‟r ffaith
ei fod yn dadlau bod yr ystyriaeth yma o bwysigrwydd diwylliant yn gwbl bosib o fewn fframwaith
rhyddfrydol. Nid yw o‟r farn fod mabwysiadu safbwynt o‟r fath y golygu ildio tir i‟r cymunedwyr:
„Kymlicka advances a version of the „social thesis‟ in his defence of the role and significance of
culture. He simply denies that this is a significant concession to communitarianism, as the „social
thesis‟ is perfectly compatible with holding liberal political values such as the primacy of autonomy‟
(Kelly 2002: 7).
24
Defnyddiwyd dadleuon tebyg gan Margalit a Raz. Yn wir, pwysleisiwyd ganddynt fod
lles diwylliant hefyd yn effeithio ar hunan barch ei aelodau:
... the prosperity of the culture is important to the well-being of its members ...
people‟s sense of their own identity is bound up with their sense of belonging
to encompassing groups and ... their self-respect is affected by the esteem in
which the groups are held (Margalit a Raz 1990: 449).
Felly, o ystyried bod yna gysylltiad cryf rhwng diwylliant person â‟i hunan barch, nid
yw‟n deg i‟r wladwriaeth ddisgwyl iddo newid ei ymlyniadau er cyfleustra
gweinyddol.
O ddilyn y dadleuon uchod, gwelir, yn groes i dybiaethau‟r cymunedwyr, bod
modd i ryddfrydwyr roi ystyriaeth fanwl i les gwahanol ddiwylliannau lleiafrifol.
Ymhellach, gwelwyd fod cam o‟r fath yn gwbl gyson â‟r pwyslais rhyddfrydol ar
ymreolaeth unigol. Ond, hyd yn oed os derbynnir dadl Kymlicka ynglŷn â
phwysigrwydd diwylliant, nid yw, ar ben ei hun, yn ddigon i gyfiawnhau estyn
cefnogaeth arbennig, er enghraifft ar ffurf polisïau iaith pwrpasol, i rai grwpiau
penodol. Ateb posib y sawl sydd dal am lynu at yr egwyddor o benign neglect yw eu
bod hwythau hefyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd ein hymlyniadau diwylliannol,
ond nad yw hynny, o anghenraid, yn golygu y dylai‟r wladwriaeth gyflwyno mesurau
arbennig i gefnogi rhai lleiafrifoedd. Oni fyddai‟n fwy teg a chydradd i gynnig lefel
sylfaenol o hawliau dinesig i bawb? Oni fyddai gwneud mwy na hynny ond yn arwain
at ddyrchafu rhai ffyrdd o fyw ar draul eraill?
Fel y gwelwyd eisoes mae‟r egwyddor o benign neglect yn seiliedig ar
gamddealltwriaeth sylfaenol o natur y wladwriaeth fodern. Mae‟r dull hwn o ymdrin
ag amrywiaeth yn seiliedig ar y gred fod y wladwriaeth yn greadigaeth ddiduedd,
25
sydd ddim yn cydnabod nac yn dyrchafu unrhyw ymlyniadau diwylliannol. Serch
hynny, wrth oedi i ystyried datblygiad a gweithrediad y mwyafrif o wladwriaethau,
buan iawn y gwelir fod hwn yn honiad cwbl anghynaliadwy. Dadleua Kymlicka fod
derbyn y pwynt yma yn gam cwbl hanfodol os yw rhyddfrydwyr o ddifri am sicrhau
tegwch i wahanol grwpiau diwylliannol lleiafrifol. Ymhellach, mynna nad yw
gwneud hynny yn debygol o sicrhau ffafriaeth annheg i rai grwpiau, gan
dramgwyddo gwerthoedd rhyddfrydol. Dangosa hyn yn glir trwy fanylu ar union
oblygiadau'r dehongliad rhyddfrydol o gydraddoldeb (Kymlicka 1989; 1995a).
Mae‟r rhaniad rhwng dewisiadau ac amgylchiadau yn ganolog i‟r dehongliad
rhyddfrydol o gydraddoldeb. Mae rhai o‟r gwahaniaethau a geir rhwng pobl yn deillio
o ddewisiadau gwahanol ac yn adlewyrchu amrywiaethau o ran gwerthoedd neu
chwaeth. Yn ôl Kymlicka, mae rhyddfrydwyr o‟r farn mai ein cyfrifoldeb personol
yw gwahaniaethau o‟r fath. Serch hynny, mae gwahaniaethau eraill yn deillio o
amgylchiadau gwahanol. Dyma ffactorau na ellir eu dewis, er enghraifft, ein hil, ein
dosbarth cymdeithasol neu‟n cefndir diwylliannol. O ganlyniad, ni ddylid ystyried y
gwahaniaethau hyn fel cyfrifoldeb personol ac fe ddylid ceisio sicrhau nad yw pobl ar
eu colled yn eu sgil.12 Dyma safbwynt a gafodd ei amddiffyn gan Rawls (1971) a
Dworkin (1978). Ar sail y dehongliad hwn o gydraddoldeb, gall rhyddfrydwyr estyn
cydnabyddiaeth arbennig i rai grwpiau diwylliannol. Nid creu annhegwch neu
gefnogi ffordd benodol o fyw yw‟r nod, ond yn hytrach unioni‟r anghyfartaledd
cymdeithasol neu economaidd sydd yn bodoli rhwng y grŵp lleiafrifol a mwyafrifol.
12 Caiff y safbwynt hwn ei gyfleu yn effeithiol gan Kymlicka trwy gyfrwng y disgrifiad canlynol:
„Someone who cultivates a taste for expensive wine has no legitimate claim for public subsidy, since
she is responsible for the costs of her choice. Someone who needs expensive medicine due to a natural
disability has a legitimate claim to special public subsidy, since she is not responsible for the costs of
her disadvantageous circumstances‟ (Kymlicka 1989:186).
26
Fel y noda Kymlicka; „some groups are unfairly disadvantaged in the cultural-market
place and political recognition and support rectify this disadvantage‟ (Kymlicka
1995a: 109).
Serch hynny, mae Kymlicka‟n pwysleisio nad yw hyn yn golygu y bydd
modd i ryddfrydwyr gymeradwyo pob mesur o gydnabyddiaeth neu gefnogaeth
ddiwylliannol. Mae‟n bosib y bydd rhai grwpiau yn galw am fesurau a fyddai‟n
arwain at gyfyngu, yn hytrach na hybu, ymreolaeth unigol. Ymhlith y math o fesurau
y cyfeirir atynt fel enghreifftiau, mae rhai a fyddai‟n cyfyngu ar ryddid crefyddol
aelodau‟r grŵp, neu rai a fyddai‟n caniatáu i grŵp barhau i arddel traddodiadau
megis priodasau gorfodol. Yn ôl Kymlicka, nid yw arferion o‟r fath yn bethau y dylai
rhyddfrydwyr eu cymeradwyo. Felly, yr her sy'n codi wrth geisio amlinellu
cyfiawnhad rhyddfrydol dros estyn hawliau arbennig i grwpiau lleiafrifol, yw sut i
wahaniaethu rhwng y galwadau „da‟ a‟r rhai „drwg‟ (Kymlicka 1995a; 2002).
Gellir gwneud hynny, yn ôl Kymlicka, trwy ystyried i ba raddau y mae‟r
galwadau a gyflwynir gan grŵp lleiafrifol yn rhai a fyddai‟n cyfyngu ar ryddid a
dewisiadau'r aelodau, neu, yn hytrach, yn arwain at unioni‟r berthynas â‟r grŵp
mwyafrifol. Cyfeiria at y math cyntaf o fesurau fel „cyfyngiadau mewnol‟ a‟r ail fel
„amddiffynfeydd allanol‟ (Kymlicka 1995a). Yn ôl Stephen May:
Internal restrictions involve intragroup relations where the ethnic or national-
minority group seeks to restrict the individual liberty of its members on the
basis of group solidarity ... In contrast, external protections relate to
intergroup relations where an ethnic or national minority group seeks to
protect its distinct identity by limiting the impact of decisions of the larger
society‟ (May 2001: 120).
27
Yn ôl y disgwyl, yn sgil ei bwyslais ar yr egwyddor o ymreolaeth unigol, nid yw
Kymlicka o‟r farn y dylid caniatáu‟r math cyntaf o fesurau. Ond, gellir cyfiawnhau‟r
amddiffynfeydd allanol, gan eu bod yn fodd o sicrhau bod aelodau‟r grŵp yn medru
cynnal eu diwylliant a‟u ffordd o fyw heb gael eu bygwth gan gymdogion mwy:
Granting special representation rights, land claims or language rights to a
minority need not, and often does not, put it in a position to dominate other
groups. On the contrary ... such rights can be seen as putting the various
groups on a more equal footing, by reducing the extent to which the smaller
group is vulnerable to the larger‟ (Kymlicka 1995a: 36 37).
Mae‟r ddadl uchod yn un bwysig ac yn gyfraniad cadarnhaol i‟r drafodaeth ynglŷn â
galwadau lleiafrifoedd diwylliannol. Am gyfnod rhy hir, cafodd ystyriaeth gytbwys o
alwadau‟r grwpiau hyn am gydnabyddiaeth ei llesteirio gan fethiant sylwebwyr i
wahaniaethu rhwng y galwadau a oedd yn ymdebygu i gyfyngiadau mewnol ac eraill
a oedd yn gyfystyr ag amddiffynfeydd allanol.13
At ei gilydd felly, mae Kymlicka wedi dangos bod rhyddfrydiaeth yn
syniadaeth sy‟n meddu ar yr adnoddau i estyn cydnabyddiaeth a chefnogaeth arbennig
i wahanol leiafrifoedd diwylliannol. O ganlyniad, gellir datgan nad yw‟r dasg o
ymdrin yn deg â galwadau o‟r fath, o anghenraid, yn galw am ymwrthod â
rhyddfrydiaeth, gan ffafrio cymunedoliaeth. I‟r gwrthwyneb, fel y gwelwyd wrth
drafod gwaith Kymlicka, mae‟n gwbl bosib goresgyn y gwendidau sylfaenol a oedd
yn tueddu i nodweddu‟r modd y byddai rhyddfrydwyr yn ymdrin â gwahanol
gwestiynau diwylliannol, a hynny o fewn terfynau rhyddfrydol. Yn wir, yr hyn sy‟n
arbennig o arwyddocaol yw bod y safbwynt hwn bellach i‟w weld yn cynrychioli
13 Un rheswm mawr dros amharodrwydd rhyddfrydwyr i gynnig hawliau arbennig i grwpiau oedd y
gred y byddai hyn yn gyfystyr â chefnogi mesurau gorthrymus. Roedd hyn yn destun pryder yn
enwedig i sylwebyddion adain chwith. Pryder mawr rhai ffeministiaid rhyddfrydol oedd y byddai
mesurau arbennig yn caniatáu i arferion patriarchaidd barhau mewn rhai cylchoedd. Felly daeth hawliau
arbennig i grwpiau i gael eu hystyried fel rhywbeth gwrth-ryddfrydol.
28
rhyw fath o gonsensws newydd ymhlith rhyddfrydwyr (Kymlicka 2001; Kymlicka a
Norman 2000). 14
Heb amheuaeth, mae hyn yn newyddion da. Fel y nodwyd eisoes, un o
broblemau sylfaenol y safbwynt cymunedol yw‟r ffaith ei fod, boed o fwriad ai peidio,
yn agor y drws i arferion gwleidyddol gorthrymol. Dyna, yn y pen draw, fyddai
canlyniad ymwrthod yn llwyr â‟r pwyslais rhyddfrydol ar ddinasyddiaeth
unigolyddol.15 Fodd bynnag, mae Kymlicka, trwy ail ddehongli rhyddfrydiaeth, a
thrwy gyflwyno ei hystyriaethau cymdeithasol a diwylliannol mewn modd mwy
trefnus a diamwys nag a wnaed cynt, yn llwyddo i oresgyn y peryg hwn. Llwyddodd i
amlinellu fframwaith sy‟n cyfuno‟r pwyslais rhyddfrydol traddodiadol ar
ddinasyddiaeth unigolyddol â dealltwriaeth o bwysigrwydd ein cefndir diwylliannol.
Fel y nododd Stephen May, he manages to uphold the importance of individual
citizenship rights while, at the same time, developing an understanding of the
importance of cultural membership to such rights‟ (May 2001: 119). O ganlyniad,
mae‟n bosib dadlau bod syniadau rhyddfrydol yn rhai cwbl briodol a theg i‟w
14 Wrth gwrs mae rhai athronwyr rhyddfrydol wedi gwrthod y datblygiad hwn, gan geisio ail bwysleisio
gwerth y safbwynt rhyddfrydol traddodiadol. Gweler er enghraifft Brian Barry 2001.
15 Mae‟n bosib na fyddai hyn yn peri pryder i rai pobl, er enghraifft aelodau o gymunedau crefyddol
caeth megis yr Amish neu rai llwythau brodorol. Eto i gyd, hyd yn oed yn achos grwpiau o‟r fath, erys
rhesymau gwleidyddol cryf dros geisio llunio galwadau sy‟n ymddangos fel eu bod yn syrthio‟n fras o
fewn terfynau rhyddfrydol. Fel y noda Kymlicka wrth drafod sefyllfa rhai o bobloedd brodorol Canada,
the various non-liberal arguments are quite controversial, legally and morally ... Opponents of
liberalism may find them convincing, but they may not be the ones who need convincing on this point.
For better or for worse, it is predominantly non-aboriginal judges and politicians who have the ultimate
power to protect and enforce aboriginal rights, and so it is important to find a justification of them that
such people can recognize and understand (Kymlicka; 1989: 153 154). O ganlyniad, anodd fyddai
datblygu corff sylweddol o gefnogaeth, ac hefyd ennill unrhyw fanteision ymarferol, trwy gyfrwng
dadleuon normadol sy‟n ymwrthod yn llwyr â rhyddfrydiaeth.
29
defnyddio fel sail i drafodaeth normadol ynglŷn â phwnc megis adferiad ieithoedd
lleiafrifol.16
5. Strwythur y Traethawd
O ystyried cymaint o waith a wnaed eisoes gan Kymlicka, gellid deall pam y byddai
rhai‟n amau‟r angen am ddarn o waith ymchwil sy‟n ymdrin yn benodol â‟r cyswllt
rhwng rhyddfrydiaeth ag adferiad iaith, gan drafod y math o gwestiynau ymchwil a
nodwyd gennyf yn gynharach (Adran 3). Onid yw‟r atebion i‟r cwestiynau hyn i‟w
canfod eisoes yn y fframwaith ryddfrydol cyffredinol a ddatblygwyd gan Kymlicka
dros y deg i bymtheg mlynedd diwethaf?
Yn sicr, mae‟r fframwaith hwn yn cynnig arweiniad pwysig mewn perthynas â
chwestiynau ymchwil penodol y traethawd hwn. Ond, o ystyried ei natur gyffredinol,
a‟r modd y mae‟n ystyried gwahanol agweddau o amrywiaeth ddiwylliannol, ni ellir
disgwyl i fframwaith Kymlicka gynnig atebion cyflawn i‟r cwestiynau hyn. Cymerer,
er enghraifft, y cwestiwn ymchwil cyntaf, sy‟n holi: Sut dylai rhyddfrydwyr
16 Dylid nodi nad dim ond dehongliadau‟r cymunedwyr a gynigiwyd fel opsiynau amgen. Trafodwyd
sefyllfa lleiafrifoedd diwylliannol hefyd gan amryw o athronwyr radical, sy‟n ysgrifennu o bersbectif
ôl-fodernaidd neu ôl-drefedigaethol (gweler, er enghraifft Connolly 1991; 1995; 1996). Ni roddir sylw
manwl i‟w dadleuon yma, gan mai‟r her gymunedol i ryddfrydiaeth sydd wedi tueddu i ddominyddu‟r
drafodaeth. Fodd bynnag, mae‟n werth nodi un pwynt pwysig ynglŷn â natur y fframweithiau amgen a
gynigiwyd gan ôl-fodernwyr neu ôl-drefedigaethwyr. Pan fo‟r athronwyr hyn yn ceisio symud y tu
hwnt i‟w beirniadaethau cyffredinol o rhyddfrydiaeth, gan adeiladu dehongliad amgen o gyfiawnder
diwylliannol, yr hyn sy‟n arwyddocaol yw fod llawer o‟r syniadau a‟r egwyddorion a wyntyllir
ganddynt yn tueddu i fod yn debyg iawn i‟r rhai a drafodir gan ryddfrydwyr diwylliannol. Er enghraifft,
nodwedd amlwg o waith yr ôl-fodernwyr hynny sydd wedi trafod amlddiwylliannedd yw‟r awydd i
osgoi trin hunaniaeth fel set o nodweddion oesol na ellir eu haddasu; hynny yw yr hyn a ddisgrifir fel
„the essentializing of identities‟ (Benhabib 2002). Fodd bynnag, onid yw hyn hefyd yn nodwedd amlwg
o waith y rhyddfrydwyr diwylliannol? Onid ydynt hwy hefyd er enghraifft trwy wrthwynebiad
Kymlicka i gyfyngiadau mewnol yn pwysleisio na ddylid atal unigolion a grwpiau rhag cwestiynu ac
addasu agweddau o‟u hamgylchiadau cymdeithasol a diwylliannol. O ganlyniad, tra bod yna
wahaniaethau amlwg o ran rhethreg rhwng gwaith y carfanau hyn, mae‟n anodd gweld sut byddai‟r
dehongliad ôl-fodernaidd yn arwain at ganlyniadau ymarferol gwahanol. Fel yr hola Kymlicka, „How
would the postmodernist concern with essentialism and ethnocentralism lead to a different theory of
language rights, say, than the liberal culturalist approach?‟ (Kymlicka 2001: 44).
30
gysyniadoli statws moesol y nod cyffredinol o adfer iaith? Mae ystyriaeth o drafodaeth
gyffredinol Kymlicka yn dangos bod dim byd annerbyniol, o bersbectif rhyddfrydol,
ynglŷn â pholisïau sy‟n estyn cefnogaeth arbennig i wahanol leiafrifoedd
diwylliannol, er enghraifft trwy hybu adferiad eu hieithoedd traddodiadol. Fodd
bynnag, nid yw gwaith cyffredinol Kymlicka‟n cynnig mwy o fanylion. Nid yw‟n
nodi beth yw hyd a lled ein hymrwymiadau moesol tuag at wahanol leiafrifoedd; pa
fath o fesurau sy‟n hanfodol o safbwynt cyfiawnder a pha rai sydd ond yn dderbyniol?
Fel yr eglura Joseph Carens, „his [h.y. Kymlicka] account provides no way to assess
the extent and the limits of our obligations‟ (Carens 2000: 61). I ganfod hynny, rhaid
trafod ymhellach, a dyna a wneir yn ystod rhan gyntaf y traethawd hwn.
Bydd y drafodaeth yn cychwyn ar y gwastad moesol uchaf posib, wrth i
Bennod 2 holi a yw adferiad yn weithred a ddylai gael ei ddehongli fel cam hanfodol
o safbwynt cyfiawnder ym mhob un sefyllfa lle bo iaith yn digwydd dirywio; hynny
yw, mai‟r unig ymateb priodol a chyfiawn i achos o ddirywiad iaith yw cymryd
camau brys i geisio atal a gwrthdroi‟r dirywiad hwnnw. Eir ati i ystyried y graddau y
gall rhyddfrydwyr gymeradwyo safbwynt absoliwt o‟r fath trwy holi, i ddechrau, a
yw dirywiad iaith yn broses sy‟n medru esgor ar ganlyniadau niweidiol. Dadleuir bod
hyn yn bosib, trwy drafod dwy ddadl bwysig sy‟n tystio i‟r hyn y gellid ei golli wrth i
iaith ddirywio y ddadl sy‟n tystio i bwysigrwydd amrywiaeth ieithyddol y byd a
hefyd y ddadl sy‟n tystio i bwysigrwydd y cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth. Fodd
bynnag, un peth yw derbyn bod gweithred neu broses yn meddu ar oblygiadau anodd
neu niweidiol, peth arall yw derbyn bod y goblygiadau hynny mor niweidiol fel y
dylid ymrwymo i atal a gwrthdroi‟r weithred neu‟r broses dan sylw ym mhob
31
sefyllfa. O ganlyniad, yn ystod rhan olaf y bennod eir ati i ystyried a yw‟r niwed sy‟n
medru deillio o ddirywiad iaith yn cyfiawnhau cymryd y cam pellach hwn. Wrth
wneud hynny, rhoddir ystyriaeth i ddau ffactor allweddol: y graddau y gellir
disgrifio‟r niwed fel un cwbl ddifrifol a dinistriol, a‟r graddau y gellir disgrifio‟r
niwed fel un hollgyffredinol o ran natur. Bydd y drafodaeth o‟r ffactorau hyn yn
dangos nad yw‟r niwed sy‟n medru deillio o ddirywiad iaith yn croesi‟r trothwy
angerheidiol. O ganlyniad, cesglir na ddylai rhyddfrydwyr drin y dasg o‟i atal a‟i
wrthdroi fel rhywbeth y dylid ei sicrhau o safbwynt cyfiawnder ym mhob sefyllfa.
Arweinia‟r casgliad hwn at gwestiwn newydd. Tra na ellir trin adferiad iaith
fel gofyniad moesol sylfaenol y dylid ei warantu ym mhob achos, a ellir dadlau ei fod
yn weithred y mae cyfiawnder yn galw arnom i‟w sicrhau mewn rhai amgylchiadau
penodol, er enghraifft yn achos cenhedloedd lleiafrifol? Dyma a drafodir ym Mhennod
3. Dechreuir trwy ystyried syniadau rhai o‟r athronwyr rhyddfrydol sydd eisoes wedi
rhoi sylw i‟r broses o adfer iaith. I ddechrau trafodir syniadau David Laitin a Rob
Reich (2003). Yna rhoddir sylw i rai o‟r sylwadau y mae Will Kymlicka (2007b) ei
hun wedi eu cynnig yn ddiweddar ynglŷn â‟r berthynas rhwng rhyddfrydiaeth ac
adferiad iaith.17 Nid yw‟r athronwyr hyn yn credu bod unrhyw beth annerbyniol, o
safbwynt rhyddfrydol, ynglŷn ag ymdrechu i adfer sefyllfa iaith benodol. Fodd
bynnag, wrth drafod eu syniadau, gwelir nad yw‟r un ohonynt yn barod i drin adferiad
17 Cynigiwyd y syniadau hyn yn ystod cyfres o gyfweliadau a gynhaliwyd gennyf tra‟n ymweld â
phrifysgol Queens, Ontario fel ysgolhaig gwadd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2007. Cânt eu
cynnwys yn y traethawd gyda chaniatâd Will Kymlicka. Wrth eu hystyried, dylai‟r darllenydd gadw
mewn cof mai sylwadau a gyflwynwyd yn fyrfyfyr mewn sefyllfa cyfweliad ydynt, ac nid rhai a
ddatblygwyd yn fanwl gyda‟r bwriad o‟u cyhoeddi. O ganlyniad, ni ddylid disgwyl i Will Kymlicka
lynu‟n gaeth atynt mewn gweithiau a gyhoeddir ganddo yn y dyfodol. Ond, er hynny, mae‟n bwysig
i‟w cynnwys a‟u cloriannu yn y traethawd hwn gan eu bod yn cynnig ffordd ddiddorol o feddwl ynglŷn
â statws moesol y nod o adfer iaith ac yn cynnig sail dda i drafodaeth Pennod 3 yn gyffredinol.
32
fel gweithred sy‟n hanfodol o safbwynt cyfiawnder, hyd yn oed pan fo‟r ddadl yn cael
ei chymhwyso i sefyllfaoedd penodol, megis cenhedloedd lleiafrifol. Deillia hyn o‟r
ffaith y byddai cymryd cam o‟r fath yn golygu trin adferiad iaith fel amcan sy‟n
medru cael ei osod uwchlaw‟r broses ddemocrataidd, a thrwy hynny, cael ei gyrchu
beth bynnag fo barn aelodau‟r genedl. Dadl Laitin a Reich a Kymlicka yw y byddai‟n
fwy priodol trin adferiad fel gweithred dderbyniol; un o‟r amrediad eang o bethau sy‟n
gwbl briodol i lywodraethau rhyddfrydol geisio‟u cyflawni, pan fo hynny‟n
adlewyrchu casgliadau y daethpwyd iddynt yn sgil trafodaethau democrataidd agored
a theg, ond eto, nid rhywbeth sy‟n allweddol o safbwynt cyfiawnder.
Ar ôl amlinellu‟r safbwynt „derbyniol a gaiff ei ffafrio gan yr athronwyr hyn,
eir ati i ystyried a oes unrhyw fodd i ryddfrydwyr fynd ymhellach, gan drin adferiad
fel mater o gyfiawnder, o leiaf mewn rhai sefyllfaoedd. Gwneir hynny trwy drafod
rhai gwendidau pwysig sy‟n perthyn i‟r safbwynt derbyniol, yn enwedig y diffyg
ystyriaeth a roddir i effeithiau anghyfiawnder hanesyddol. Fodd bynnag, er
pwysigrwydd gwendidau o‟r fath, cesglir nad ydynt yn cynnig digon o sail i
ddiystyru‟r safbwynt derbyniol, gan ddadlau fod adferiad iaith, wedi‟r cyfan, yn dasg
y dylid ei hystyried fel mater o gyfiawnder. Dangosir y bydd unrhyw ymgais i wneud
hyn yn sicr o arwain at broblemau moesol sylfaenol i ryddfrydwyr, ac felly bod yn
rhaid glynu at y safbwynt derbyniol, er gwaethaf ei wendidau.
O ganlyniad, bydd rhan gyntaf y traethawd yn dangos mai fel gweithred
dderbyniol ac nid fel rhywbeth hanfodol o safbwynt cyfiawnder y dylai rhyddfrydwyr
gysyniadoli statws moesol adferiad iaith. Fodd bynnag, ni all y drafodaeth hon gynnig
33
unrhyw atebion i‟r ail gwestiwn ymchwil a osodwyd ar gyfer y traethawd: I ba raddau
mae rhai o’r camau ymarferol a gymerir, wrth geisio gwireddu’r nod o adfer
gwahanol ieithoedd lleiafrifol, yn arwain at dramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol?
Mewn gwirionedd yr un fyddai‟r sefyllfa beth bynnag fo casgliadau‟r rhan gyntaf.
Deillia hyn o‟r ffaith fod y drafodaeth ynglŷn â dilysrwydd gwahanol gamau polisi
penodol yn ymdrin â phwnc adferiad iaith o bersbectif ychydig yn wahanol.
Boed adferiad iaith yn cael ei drin gan ryddfrydwyr fel amcan derbyniol, neu
fel rhywbeth sy‟n hanfodol o safbwynt cyfiawnder, yr hyn sy‟n sicr yw na fyddent yn
fodlon derbyn bod hynny‟n agor y drws i bob math posib o gamau polisi ymarferol.
Yn wir, dyma yw un o‟r gwersi pwysig a ddysgir wrth ystyried syniadau cyffredinol
Kymlicka. Deillia hyn o‟i raniad rhwng „amddiffynfeydd allanol‟ a „chyfyngiadau
mewnol‟; canllawiau sy‟n dangos yn fras pa fath o bolisïau y dylai rhyddfrydwyr eu
cymeradwyo a pha rai y dylent eu gwrthwynebu. Fodd bynnag ni ellir disgwyl i‟r
canllawiau cyffredinol hyn egluro‟n fanwl os yw enghreifftiau penodol o bolisïau
iaith, a weithredwyd mewn gwahanol wladwriaethau democrataidd, yn tramgwyddo
egwyddorion rhyddfrydol. I wneud hynny, ac ateb yr ail gwestiwn ymchwil, rhaid
trafod ymhellach gan edrych yn fanwl ar y polisïau eu hunain.
Eir ati i wneud hynny trwy gloriannu trawstoriad o bolisïau iaith a
fabwysiadwyd mewn dau leoliad penodol: Quebec a Chymru. Trefnwyd y drafodaeth
yn y modd hwn, yn hytrach na thrwy grynhoi nifer o fân enghreifftiau o sawl lleoliad
gwahanol, gan ei fod yn caniatáu'r amser a‟r lle i osod y gwahanol bolisïau a drafodir
yn eu cyd-destun hanesyddol cywir. Mae hyn yn hollbwysig, gan fod y cyd-destun yn
34
aml yn cyfrannu at unrhyw benderfyniad ynglŷn â dilysrwydd gwahanol
weithredoedd.
Ond, wedi penderfynu gwneud hynny, rhaid oedd dewis pa achosion penodol
i‟w trafod. Daethpwyd i‟r casgliad fod Quebec, heb amheuaeth, yn achos a oedd yn
cynnig ei hun, gan fod y polisïau a fabwysiadwyd yno ers y 1960au, er mwyn hybu
rhagolygon y Ffrangeg, wedi bod yn rhai arbennig o bellgyrhaeddol. O bosib, dyma‟r
polisïau iaith mwyaf pellgyrhaeddol a fabwysiadwyd mewn unrhyw wladwriaeth
ryddfrydol-democrataidd. O ganlyniad os yw unrhyw achos o adferiad iaith yn
debygol o godi cwestiynau diddorol ac anodd ynglŷn â therfynau‟r hyn a ystyrir yn
dderbyniol gan ryddfrydwyr, yna Quebec yw hwnnw. Ar ben hynny, mae Quebec yn
achos lle gwelwyd y gwrthwynebiadau i wahanol bolisïau iaith yn cael eu cyflwyno
mewn ieithwedd arbennig o foesol. Pan ystyrir rhai o‟r trafodaethau a gafwyd yno
dros y degawdau diwethaf, fe welir yn syth eu bod yn frith o ensyniadau ynglŷn â‟r
modd y mae rhai o bolisïau‟r dalaith wedi arwain at danseilio rhyddid mynegiant a
chydraddoldeb, neu wedi arwain at gamwahaniaethu. At ei gilydd felly, mae Quebec
yn achos sy‟n cynnig cryn dipyn o sgôp i‟r sawl sydd am fynd ati i gloriannu
dilysrwydd rhai o‟r camau ymarferol a gymerir wrth geisio adfer iaith.
O ran yr ail achos, teimlwyd fod angen dewis un a oedd yn dipyn is na Quebec
yn y „gynghrair‟ o ymdrechion adferol. Yn bennaf, teimlwyd fod angen achos lle
roedd yr iaith a gâi ei hadfer yn famiaith i leiafrif yn hytrach na mwyafrif o‟r
boblogaeth. Y dybiaeth oedd y byddai achos o‟r fath yn cydorwedd yn dda gydag
35
achos Quebec, gan y byddai sefyllfa lai datblygedig yr iaith yn golygu bod natur y
polisïau a gâi eu trafod yn debygol o fod ychydig yn wahanol.
O fod wedi gosod y maen prawf hwn, roedd modd diystyru achos Catalonia.
Ond gadawodd hyn ddwy achos amlwg: Cymru a Gwlad y Basg. Yn y pen draw,
penderfynwyd i ganolbwyntio ar y sefyllfa yng Nghymru. Seiliwyd y penderfyniad
hwn ar amryw o resymau. I ddechrau, fel y nodwyd yn y Rhagair, un o‟r prif
gymhellion dros ysgrifennu‟r traethawd hwn oedd yr awydd i ymateb i‟r modd y
tueddai rhyddfrydiaeth unigolyddol i gael ei diystyru gan rai aelodau o‟r mudiad iaith
yng Nghymru. O ganlyniad, teimlwyd ei bod yn hollbwysig fod rhan o‟r traethawd yn
rhoi sylw penodol i Gymru. Ar ben hynny, penderfynwyd fod Cymru yn achos priodol
i‟w ystyried, ochr yn ochr â Quebec, gan fod y broses o ddatblygu ac yna o weithredu
polisïau o blaid y Gymraeg hefyd wedi bod yn un drafferthus ar brydiau. Fel yn achos
Quebec, ar wahanol adegau bu polisïau neu gynlluniau iaith yn sail i gryn
anniddigrwydd ymhlith rhai rhannau o‟r boblogaeth. Ymhellach, fel yn Quebec, mae
amryw o‟r gwrthwynebiadau a fynegwyd wedi bod yn rhai sy‟n cynnwys ensyniadau
ynglŷn â natur anghyfiawn neu anfoesol gwahanol bolisïau.18
Bydd y drafodaeth o‟r ddau achos uchod yn cychwyn ym Mhennod 4, pan
geisir cloriannu dilysrwydd rhyddfrydol rhai o bolisïau iaith Quebec. Rhoddir sylw i
dri maes penodol, a ddewiswyd ar sail y ffaith eu bod yn rhai lle codir cwestiynau
normadol pwysig o safbwynt rhyddfrydiaeth. I ddechrau, trafodir yr ymdrech i
18 Pwynt arall pwysig sydd angen ei gadw mewn cof yw sgiliau ieithyddol yr ymchwilydd. Rwyf yn
medru siarad Cymraeg a Ffrangeg ac felly teimlaf bod y rhain yn achosion y gallaf eu hastudio‟n fanwl.
Wrth gwrs, nid yw‟r gallu i siarad yr iaith yn rhag-amod i astudio achosion o‟r fath. Fodd bynnag,
teimlaf fod cwestiynau yn medru codi ynglŷn a hygrededd neu ddyfnder yr ymchwil pan nad yw‟r sawl
a‟i lluniodd yn siarad yr iaith.
36
reoleiddio pa ieithoedd a gâi ymddangos ar arwyddion cyhoeddus, a‟r gwyn fod y
polisi hwn yn cyfyngu‟n ormodol ar ryddid mynegiant. Yn ail, ystyrir y
gwrthwynebiad a fu i natur polisi addysg Quebec, ac yn benodol, y gwahanol
gyfyngiadau ar argaeledd addysg Saesneg. Bydd y trydydd achos a ystyrir ychydig yn
wahanol i‟r ddau gyntaf. Yn hytrach na thrafod polisi penodol, byddaf yn ystyried y
drafodaeth gyfoes ynglŷn â dyfodol y gymuned Anglophone yn Quebec, a‟r gwyn fod
effaith gyffredinol y polisïau iaith bellach wedi arwain at danseilio cynaliadwyedd y
gymuned honno. Ym mhob un o‟r achosion hyn, byddaf yn holi i ba raddau mae‟r
gwrthwynebiadau a fynegwyd dros y blynyddoedd yn codi cwestiynau ynglŷn â
dilysrwydd gweithredoedd llywodraeth Quebec. A yw‟r polisïau iaith hynny a
fabwysiadwyd ganddi wedi tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol pwysig, ac felly‟n
haeddu cael eu dehongli fel polisïau annerbyniol o safbwynt moesol?
Bydd Pennod 5 wedyn yn mynd ymlaen i drafod y sefyllfa yng Nghymru.
Ystyrir tri maes unwaith eto, ac fel yn achos Quebec, fe‟u dewiswyd ar sail y ffaith eu
bod yn codi cwestiynau normadol pwysig o safbwynt rhyddfrydiaeth. I ddechrau,
trafodir yr arfer cynyddol o drin y Gymraeg fel sgìl hanfodol mewn perthynas â nifer
o swyddi cyhoeddus. Dyma bolisi sydd wedi ennyn gwrthwynebiad gan ei fod, yn
nhyb rhai, yn tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol megis cyfle cyfartal ar arfer o
benodi ar sail gallu a theilyngdod. Yn ail, ystyrir y camau a gymerwyd gan
awdurdodau lleol yng ngorllewin Cymru i geisio sefydlu‟r Gymraeg fel prif iaith
addysg gynradd yn yr ardaloedd hyn. Mae‟r sawl sydd wedi gwrthwynebu polisïau o‟r
fath wedi dadlau eu bod yn annerbyniol gan eu bod yn tramgwyddo hawliau sylfaenol
ym maes addysg ac yn gorfodi plant ifanc i ddysgu iaith benodol. Yn drydydd, ystyrir
37
dilysrwydd y camau diweddar a gymerwyd i geisio dylanwadu ar arferion ieithyddol y
teulu, trwy annog rhieni newydd i drosglwyddo‟r Gymraeg i‟w plant. Yn wahanol i‟r
ddau achos arall, ni fu unrhyw wrthwynebiad chwyrn i‟r polisi hwn. Fodd bynnag, fe‟i
hystyrir gan ei fod yn achos sy‟n codi nifer o gwestiynau normadol diddorol, yn
enwedig felly i ryddfrydwyr. A siarad yn gyffredinol, mae‟r cwestiynau hyn yn
ymwneud â‟r lefel o ddylanwad sy‟n briodol i unrhyw wladwriaeth geisio‟i estyn dros
arferion preifat ei dinasyddion. Unwaith eto, amcan y bennod hon fydd holi a oes
unrhyw le i amau dilysrwydd rhai o‟r camau a gymerwyd gan gynllunwyr iaith. A
yw‟r polisïau a drafodir yn tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol pwysig, ac felly‟n
haeddu cael eu dehongli fel rhai annerbyniol o safbwynt moesol?
Casglwyd y wybodaeth angenrheidiol er mwyn ymdrin yn fanwl â‟r gwahanol
enghreifftiau a drafodir yn ystod Penodau 4 a 5 trwy astudio amrediad o ffynonellau
cynradd ac eilaidd. Yn achos Quebec, gwnaed defnydd helaeth o‟r dyfarniadau niferus
a gyflwynwyd dros y blynyddoedd gan Uchel Lys Canada mewn perthynas â
gwahanol agweddau o bolisïau iaith y dalaith. Yn ogystal, edrychwyd yn fanwl ar
nifer o‟r dogfennau polisi a gyflwynwyd gan wahanol fudiadau i‟r Commission des
États généraux sur la situation et l’avenir de la langue française au Québec,
comisiwn ymchwil ar sefyllfa‟r Ffrangeg a benodwyd gan lywodraeth y dalaith yn
2001. Ar ben hynny, tynnwyd ar y casgliad sylweddol o lenyddiaeth academaidd sy‟n
trafod datblygiad polisïau iaith Quebec. Roedd y broses o gasglu gwybodaeth ar gyfer
y bennod ar Gymru ychydig yn fwy graddol, gan y bu‟n rhaid tynnu ar amrediad
ehangach o ffynonellau. Roedd y rhain yn cynnwys erthyglau papur newydd,
erthyglau o gylchgronau misol, dogfennau polisi, rhaglenni teledu a hefyd archifau
38
personol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Gwnaed defnydd hefyd o‟r llenyddiaeth
academaidd berthnasol; corff o waith sydd ddim yn agos at fod mor helaeth â‟r un a
geir mewn perthynas â Quebec, ond eto un sy‟n cynnwys sawl darn perthnasol a
defnyddiol.
A siarad yn gyffredinol, bydd y drafodaeth yn ystod Penodau 4 a 5 yn casglu
bod y mwyafrif helaeth o arferion polisi a ddatblygwyd dros y degawdau diwethaf yng
Nghymru a Quebec yn rhai cwbl ddilys. Wrth gwrs, ceir un eithriad pwysig, sef polisi
arwyddion dadleuol llywodraeth Quebec; polisi a oedd yn cyfyngu mewn modd
annerbyniol ar ryddid mynegiant. Eto i gyd, er gwaethaf achos unigol o‟r fath, pan
ystyrir y sampl o bolisïau a drafodir yn ei gyfanrwydd, fe welir fod y darlun yn un
cadarnhaol. O ganlyniad, bydd ail ran y traethawd yn dangos bod y mwyafrif helaeth o
arferion polisi adferol a welir ar waith heddiw mewn cymdeithasau rhyddfrydol-
democrataidd yn tueddu i gydorwedd yn gwbl gyfforddus gydag egwyddorion
rhyddfrydol.
Yn ystod y bennod olaf, ceir amlinelliad manwl o‟r prif gasgliadau y
daethpwyd iddynt wrth drafod y ddau gwestiwn ymchwil a osodwyd ar gyfer y
traethawd. Yna eir ymlaen i fyfyrio ychydig ynglŷn â pha wersi cyffredinol y gellir eu
crynhoi o‟r traethawd yn ei gyfanrwydd. Wrth wneud hyn, gwneir tri phwynt: yn
gyntaf, pwysigrwydd trafodaethau normadol i‟r drafodaeth academaidd gyffredinol
ynglŷn â pholisi iaith; yn ail, pwysigrwydd trafodaethau ieithyddol i‟r drafodaeth
normadol ynglŷn ag amlddiwylliannedd; ac yn drydydd, cyfeirir at y modd y mae
casgliadau‟r traethawd yn cynnig cadarnhad pellach o dybiaethau rhyddfrydwyr
39
diwylliannol megis Kymlicka, sef bod rhyddfrydiaeth yn syniadaeth sy‟n meddu ar yr
adnoddau i ymateb yn deg a chytbwys i alwadau gwahanol leiafrifoedd diwylliannol.
40
Rhan 1: Statws Moesol Adferiad Iaith
Amcan rhan gyntaf y traethawd hwn fydd ceisio cloriannu sut dylai rhyddfrydwyr
gysyniadoli statws moesol y dasg o adfer iaith. Yn benodol, ystyrir a ddylent ei
ddehongli fel tasg sy‟n hanfodol o safbwynt cyfiawnder. Fel y nodwyd yn y
Cyflwyniad, mae tuedd ymhlith lladmeryddion nifer o ieithoedd lleiafrifol i ddehongli
adferiad mewn termau moesol o‟r fath. A siarad yn gyffredinol, cred y bobl hyn fod
eu hieithoedd wedi dirywio yn sgil cyfnod estynedig o anghyfiawnder, ac yn sgil
hynny, caiff y dasg o‟u hadfer ei gweld fel mater o gyfiawnder diamheuol. Fodd
bynnag, beth yn union yw goblygiadau safbwynt o‟r fath? Ac yn bwysicach, a yw‟n
safbwynt y gall rhyddfrydwyr ei gymeradwyo? Dyma‟r cwestiynau a gaiff eu
hystyried yn ystod y ddwy bennod nesaf.
41
2. Adferiad Iaith: Gweithred Hanfodol ym
Mhob Sefyllfa?
1. Cyflwyniad
Gall yr honiad fod adfer iaith yn dasg hanfodol o safbwynt cyfiawnder gael ei
ddehongli mewn amryw o ffyrdd. Un ffordd o wneud hynny yw trwy gymryd bod
ymdrechu i hybu adferiad yn hanfodol ym mhob sefyllfa lle bo iaith yn digwydd
dirywio; hynny yw, mai‟r unig ymateb priodol a chyfiawn i achos o ddirywiad iaith
yw cymryd camau brys i geisio atal a gwrthdroi‟r dirywiad hwnnw. Fodd bynnag, a
yw safbwynt o‟r fath – safbwynt cymharol absoliwt yn gynaliadwy? A ellir, mewn
difrif, awgrymu bod dirywiad iaith yn broses mor ddifrifol ac mor niweidiol fel y
dylai rhyddfrydwyr ddadlau mai dim ond un ymateb priodol a chyfiawn a geir ym
mhob achos?
Dod i gasgliadau ynglŷn â‟r cwestiynau hyn fydd amcan y bennod hon.
Dechreuir trwy egluro pam mae dichonoldeb safbwynt moesol sy‟n meddu ar
oblygiadau mor bellgyrhaeddol yn fater sydd angen ei drafod. Ar ôl hynny, eir ati i
ystyried beth yn union yw goblygiadau gadael i iaith ddirywio. A yw proses o‟r fath
yn un sy‟n medru arwain at ganlyniadau niweidiol? Ceisir dangos ei fod, trwy drafod
dwy ddadl bwysig sy‟n tystio i‟r hyn y gellid ei golli wrth i iaith ddirywio – y ddadl
sy‟n tystio i bwysigrwydd amrywiaeth ieithyddol y byd a hefyd y ddadl sy‟n tystio i
bwysigrwydd y cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth. Fodd bynnag, un peth yw derbyn
bod gweithred neu broses yn meddu ar oblygiadau niweidiol, peth arall yw derbyn bod
y goblygiadau hynny mor niweidiol fel y dylid ymrwymo i atal a gwrthdroi‟r weithred
neu‟r broses dan sylw ym mhob sefyllfa. O ganlyniad, yn ystod rhan olaf y bennod eir
42
ati i ystyried a yw‟r niwed sy‟n medru deillio o ddirywiad iaith yn cyfiawnhau cymryd
cam o‟r fath. Wrth wneud hynny rhoddir ystyriaeth i ddau ffactor allweddol; y
graddau y gellir disgrifio‟r niwed fel un cwbl difrifol a dinistriol a‟r graddau y gellir
disgrifio‟r niwed fel un hollgyffredinol o ran natur.
2. Perthnasedd y Safbwynt Absoliwt
Teg yw holi ar ddechrau‟r bennod pam mae dichonoldeb safbwynt absoliwt tebyg i‟r
hyn a ddisgrifiwyd uchod yn fater sydd wir angen ei drafod. A yw, er enghraifft, yn
safbwynt a gaiff ei arddel gan ysgolheigion neu ymgyrchwyr ieithyddol? Yn nhyb rhai
o‟r athronwyr rhyddfrydol sydd eisoes wedi trafod polisi iaith, mae dadleuon arbennig
o bellgyrhaeddol ynglŷn â phwysigrwydd y dasg o atal a gwrthdroi dirywiad
ieithyddol yn cael eu mynegi yng ngwaith nifer helaeth o ysgolheigion. Er enghraifft,
dadleuodd Leslie Green (1987: 653) mai ymdrechu i atal dirywiad iaith yw „the
implicit value assumption of nearly every linguistic demographer and sociolinguist.
Caiff hyn ei ategu gan Alan Patten a Will Kymlicka, sy‟n awgrymu bod amryw o
ysgolheigion yn aml yn trafod pynciau megis polisi iaith a dirywiad ieithoedd
lleiafrifol mewn modd sy‟n rhagdybio mai „the maintenance or preservation of
minority languages is a fundamental requirement of a normative theory of language
policy‟ (Patten a Kymlicka 2003: 43, pwyslais wedi‟i ychwanegu). Eto i gyd, a yw
hwn yn ddehongliad teg o waith ysgolheigion megis ieithyddwyr, cymdeithasegwyr
iaith neu anthropolegwyr? A ydynt, yng ngeiriau Patten a Kymlicka, yn tueddu i
ddehongli adferiad iaith fel rhyw fath o „ofyniad sylfaenol‟ – fel yr unig ymateb
priodol a chyfiawn ym mhob achos o ddirywiad iaith?
43
Yn sicr, rhaid cydnabod sut y gallai rhywun gael argraff o‟r fath o ddarllen
gwaith rhai o‟r ysgolheigion hyn. Cymerer, er enghraifft, waith David Crystal (2000)
neu waith Daniel Nettle a Suzanne Romaine (2000). Mae‟r rhain yn astudiaethau sy‟n
pryderu‟n ddirfawr ynglŷn ag unrhyw ddirywiad yn amrywiaeth ieithyddol y byd ac
yn trin ymdrechion i atal a gwrthdroi‟r dirywiad hwnnw fel gweithgaredd hollbwysig
sy‟n meddu ar yr un arwyddocâd ag ymdrechion i atal dirywiad ein hamgylchedd
naturiol. Yn wir, caiff y pwysigrwydd hwn a briodolir i‟r dasg o atal dirywiad iaith ei
bwysleisio gan Crystal wrth iddo gloi un o benodau allweddol ei lyfr, Language
Death, trwy nodi‟r dyfyniad canlynol o eiddo Ron Crow: „To fight to preserve the
smaller cultures and languages may turn out to be the struggle to preserve the most
precious things that make us human before we end up in the land fill of history‟
(dyfynnwyd yn Crystal 2000: 67). Ymhellach, nid dim ond ysgolheigion sy‟n trafod y
dasg o atal a gwrthdroi dirywiad iaith mewn termau o‟r fath. Caiff safbwyntiau tebyg
eu harddel hefyd gan grwpiau ymgyrchu rhyngwladol, megis Terralingua. Dyma grŵp
sy‟n nodi ymhlith ei brif amcanion, „the integrated protection, maintenance and
restoration of the biocultural diversity of life the world‟s biological, cultural and
linguistic diversity through an innovative programme of research education, policy-
relevant work and on-the-ground action‟.1 Gwelir felly fod tuedd bendant ymhlith rhai
ysgolheigion ac ymgyrchwyr gwleidyddol i drin y dasg o atal a gwrthdroi dirywiad
iaith fel un sy‟n meddu ar arwyddocâd arbennig o bwysig.
Fodd bynnag, er gwaetha‟r pwysigrwydd diamheuol a briodolir i‟r dasg o atal
a gwrthdroi dirywiad iaith gan ysgolheigion megis Crystal neu Nettle a Romaine, a
1 Dyfynnwyd o wefan Terralingua, www.terralingua.org. Cyrchwyd 27.10.08.
44
hefyd gan fudiadau megis Terralingua, dylid gochel rhag datgan yn gwbl bendant eu
bod yn arddel safbwynt absoliwt tebyg i‟r un a ddisgrifiwyd ar ddechrau‟r bennod. Y
gwir amdani yw nad ydynt, er gwaethaf popeth, yn datgan yn gwbl glir eu bod yn trin
dirywiad iaith fel proses mor ddifrifol ac mor niweidiol fel mai dim ond un ymateb
priodol a chyfiawn a geir ym mhob achos. O ganlyniad, byddai‟n annheg i‟w
cyflwyno yma fel cynrychiolwyr safbwynt o‟r fath. Ond, os na ellir dweud yn sicr fod
y safbwynt yn un a gaiff ei arddel gan unrhyw garfan benodol, yna pam mae angen
treulio amser yn ystod y bennod hon yn cloriannu ei ddichonolrwydd?
I ddechrau, tra nad yw‟r ysgolheigion ac ymgyrchwyr y cyfeiriwyd atynt
uchod yn datgan yn gwbl glir eu bod yn trin y dasg o adfer ieithoedd lleiafrifol fel un
cwbl hanfodol ym mhob sefyllfa, nid ydynt chwaith yn gwneud pwynt o ddiystyru‟r
safbwynt hwnnw. Mewn gwirionedd, mae amwysedd mawr i‟w gael yng ngwaith
nifer o‟r ysgolheigion hynny sy‟n bleidiol i achos ieithoedd lleiafrifol ynglŷn â beth
yn union yw hyd a lled eu hargymhellion. Yn wir, mae hwn yn bwynt a gaiff ei
gydnabod gan Crystal (2000: 127, n1). Maent oll yn gytûn bod dirywiad gwahanol
ieithoedd yn broses y dylid gresynu yn ei gylch. Maent hefyd, ar y cyfan, yn gefnogol
iawn i ymdrechion i wrthdroi proses o‟r fath, gan drafod yn fanwl pa fath o gamau y
gellid eu cymryd i gyflawni hynny. Eto i gyd, nid ydynt wedi egluro beth yw hyd a
lled y gefnogaeth hon. A ddylai ymestyn i bob sefyllfa lle bo iaith yn digwydd
dirywio, neu a ddylai gael ei atal mewn rhai achosion penodol? Fel y noda Crystal
mae hwn yn fater sydd angen ei drafod ymhellach, ac fe ellid dehongli‟r bennod hon
pennod sy‟n ymdrechu i gloriannu cryfderau a gwendidau'r safbwynt absoliwt – fel
cyfraniad i‟r drafodaeth honno.
45
Fodd bynnag, mae rheswm da arall, cwbl annibynnol o drafodaethau
ysgolheigion a mudiadau iaith, dros geisio cloriannu dichonolrwydd y safbwynt
absoliwt yn ystod y bennod hon. Rhaid cofio nad yw‟r safbwynt yn cael ei ystyried
mewn gwagle, ond yn hytrach fel rhan o drafodaeth ehangach, a gynhelir yn ystod
rhan gyntaf y traethawd, ynglŷn â sut dylai rhyddfrydwyr ddehongli statws moesol y
dasg o adfer iaith. O ystyried hynny, mae‟n gwbl briodol dechrau trafod ar y gwastad
moesol uchaf posib. Yn gyntaf, bydd dechrau ar y brig fel hyn yn caniatáu i‟r
drafodaeth weithio i lawr yn raddol a rhesymegol maes o law. Ond ar ben hynny, ac
yn bwysicach, trwy ddechrau ar y gwastad moesol hwn, gellir sicrhau ein bod yn
mynd ati i drafod y gwahanol ddadleuon sy‟n tystio i bwysigrwydd iaith mewn modd
arbennig o feirniadol. Bydd hyn, yn ei dro, yn caniatáu i ni ddysgu llawer, nid yn unig
ynglŷn â pha fath o fuddiannau sydd yn y fantol pan fo iaith mewn peryg o ddirywio,
ond hefyd sut y mae‟r buddiannau hynny yn gorwedd mewn cymhariaeth â rhai o‟r
buddiannau eraill sy‟n allweddol i les ein bywydau. Yn wir bydd dysgu am y pethau
hyn yn gosod sylfaen dda i drafodaeth yr holl draethawd.
Gwelir felly fod cloriannu dichonolrwydd y safbwynt absoliwt yn orchwyl
cwbl briodol. O ganlyniad, dyna a wneir yn ystod y tudalennau nesaf, a hynny trwy
holi a yw dirywiad ieithyddol yn broses mor ddifrifol ac mor niweidiol fel mai‟r unig
ymateb priodol a chyfiawn ym mhob achos yw ymdrechu i‟w atal, gan geisio adfer
rhagolygon yr iaith?
46
3. Dirywiad Iaith: Ffenomenon Mwyfwy Cyffredin
Yn sicr, gellir dadlau fod dirywiad ieithyddol ar raddfa eang bellach yn fygythiad real
a difrifol. Mae nifer o sylwebwyr yn gytûn fod dirywiad gwahanol ieithoedd lleiafrifol
yn prysur ddatblygu i fod yn un o nodweddion amlycaf y byd modern. Yn ôl
amcangyfrifon, tua 6,000 o ieithoedd a siaredir bellach ar draws y byd (Krauss 1992).
Ymhlith y cyfanswm yma, ceir nifer helaeth o ieithoedd sydd ond yn cael eu
defnyddio gan lond dwrn o bobl. Mae hyn yn cynnwys tua 2,000 sy‟n cael eu siarad
gan lai na mil o bobl (Patten a Kymlicka 2003: 42). O ystyried hyn, mae Michael
Krauss (1992) wedi darogan y bydd tua 3,000 o‟r cyfanswm o 6,000 o ieithoedd a
siaredir heddiw yn diflannu erbyn diwedd yr unfed ganrif ar hugain. Yn wir, yn ei dyb
ef, dim ond tua 600 o ieithoedd y gellir eu disgrifio bellach fel rhai „diogel‟.2 Fel y
cydnabu Krauss ei hun, gellir codi cwestiynau ynglŷn ag union gywirdeb rhai o‟r
ystadegau uchod. Fodd bynnag, ychydig iawn o amheuaeth a geir ynglŷn â chyfeiriad
cyffredinol y tueddiadau ieithyddol presennol. O ganlyniad, mae Nettle a Romaine yn
go bendant wrth ddatgan, „the overwhelming majority of the world‟s languages may
be in danger of extinction‟ (Nettle a Romaine 2000: 8).
Nid yw dirywiad gwahanol ieithoedd yn ffenomen newydd. Dros gyfnod o
ganrifoedd mae nifer helaeth o ieithoedd wedi naill ai diflannu‟n llwyr, wedi dirywio
neu wedi addasu‟n sylweddol. Er enghraifft, dadleua Nettle a Romaine fod tua hanner
o ieithoedd y byd wedi diflannu yn ystod y 500 mlynedd diwethaf (2000: 2). Fodd
2 Wrth gynnig gorolwg o‟r sefyllfa mewn gwahanol rannau o‟r byd ym 1992, nododd Krauss y
canlynol: bod 80 y cant o ieithoedd yr Indiaid brodorol a siaradwyd ar draws Gogledd America bellach
ddim yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i‟r llall; bod 17 y cant o‟r ieithoedd a siaredir yng
Nghanolbarth America (50 allan o 300 iaith) a 27 y cant o‟r ieithoedd a siaredir yn Ne America (110
allan 400 iaith) yn annhebygol iawn o oroesi; a bod 90 y cant o‟r 250 o ieithoedd a siaradwyd gan yr
Aborijinis ar draws Awstralia yn agos iawn i ddiflannu.
47
bynnag, yr hyn sy‟n drawiadol ynglŷn â‟r sefyllfa bresennol yw maint y bygythiad.
Fel y noda Stephen May:
Of course, such language loss and language shift have always occurred
languages have risen and fallen, become obsolete, died, or adapted to changing
circumstances in order to survive, throughout the course of human history. But
what is qualitatively (and quantitatively) different as we enter the twenty first
century is the unprecedented scale of this process of decline and loss (May
2001: 2).
Yn wir, cymaint yw maint y dirywiad presennol nes iddo gael ei ddisgrifio gan rai
sylwebwyr fel „hil-laddiad ieithyddol‟ (Skutnabb-Kangas 2000). Gellid codi
cwestiynau digon dilys ynglŷn â phriodoldeb y defnydd o dermau megis hil-laddiad
yn y cyswllt hwn (Boran 2003; Levy 2003). Fodd bynnag, pan ystyrir yr holl
dystiolaeth empeiraidd a gyhoeddwyd gan ieithyddwyr dros y blynyddoedd diwethaf,
anodd fyddai gwadu bod rhagolygon nifer helaeth o ieithoedd bellach yn fwy bregus
nag y buont erioed.
I raddau helaeth, nid oes dim sy‟n arbennig o ddadleuol ynglŷn â nodi‟r
ffeithiau hyn. Anodd fyddai gwadu nad yw amgylchiadau cyfoes yn arwain at roi
pwysau sylweddol ar nifer helaeth o ieithoedd lleiafrifol. Serch hynny, nid yw dangos
bod nifer helaeth o ieithoedd mewn peryg o ddirywio a diflannu, ar ben ei hun, yn
egluro pam y dylid pryderu ynglŷn â thuedd o‟r fath, na chwaith pam y dylid
ymdrechu i‟w wrthdroi ym mhob sefyllfa. Yn wir, mewn rhai cylchoedd, caiff
dirywiad gwahanol ieithoedd ei ddehongli fel rhywbeth y dylid ei groesawu. Er
enghraifft, yn nhyb modernwyr megis Ernest Gellner (1983), os yw dirywiad
ieithoedd lleiafrifol yn arwain at ymlediad un iaith gyffredin ar draws cymuned
wleidyddol, yna dylid ei groesawu, gan fod llawer o enillion cymdeithasol yn medru
deillio o broses o‟r fath. O ganlyniad, cyn gellir casglu bod dirywiad iaith yn broses y
48
dylid ei atal a‟i wrthdroi fel mater o gyfiawnder, rhaid gwneud mwy i geisio sefydlu ei
fod yn broses sy‟n meddu ar oblygiadau niweidiol. A yw hyn yn bosib? Dyna a
drafodir yn yr adran nesaf.
4. Dirywiad Iaith: Proses Niweidiol?
Er mwyn penderfynu a ddylai dirywiad iaith gael ei ddehongli fel proses niweidiol,
rhaid ystyried rhai o‟r dadleuon a ddefnyddiwyd gan gymdeithasegwyr iaith ac
athronwyr gwleidyddol i dystio i bwysigrwydd iaith. Sut yn ôl y dadleuon hyn y
byddai dirywiad gwahanol ieithoedd yn effeithio ar fywyd unigolion neu grwpiau?
Beth yn union a gollir pan fo iaith yn dirywio? Beth yn union yw‟r „gost‟ (Blake
2003)? Nid oes lle yma i drafod pob un o‟r gwahanol ddadleuon a ddefnyddiwyd wrth
geisio tystio i‟r „gost‟ o golli iaith. Yn hytrach, rhoddir sylw i ddwy ddadl benodol; o
bosib y rhai mwyaf poblogaidd bellach ymhlith yr ysgolheigion hynny sydd am ennill
cefnogaeth i achos ieithoedd lleiafrifol. Y cyntaf o‟r dadleuon hyn yw honno sy‟n
pwysleisio‟r modd y gall dirywiad ieithyddol arwain at ganlyniadau niweidiol i
ddynoliaeth yn gyffredinol, trwy leihau amrywiaeth y byd. Yr ail yw honno sy‟n tystio
i‟r modd y gall dirywiad ieithyddol niweidio hunaniaeth grŵp neu unigolyn.
4.1 Gwerth Amrywiaeth Ieithyddol
Mae‟r sawl sy‟n arddel y ddadl ynglŷn â phwysigrwydd sylfaenol amrywiaeth
ieithyddol yn ceisio estyn rhai o ragdybiaethau‟r drafodaeth ynglŷn â‟r amgylchedd
naturiol ac amrywiaeth fiolegol y byd i faes iaith. Yn ôl ysgolheigion megis Crystal
(2000) neu Nettle a Romaine (2000) mae amrywiaeth ieithyddol yn adnodd
gwerthfawr dros ben, ac mae unrhyw ddirywiad yn yr amrywiaeth hwnnw yn debygol
49
o arwain at ganlyniadau niweidiol i‟r ddynoliaeth yn gyffredinol. O ganlyniad,
dadleuir yn frwd o blaid datblygu rhyw fath o „ieithyddiaeth werdd‟ (Crystal 2000).
Wrth gwrs, un rheswm dros geisio sefydlu cyswllt rhwng y dimensiwn
ieithyddol a‟r dimensiwn amgylcheddol a biolegol yw‟r gobaith y gall hynny esgor ar
enillion gwleidyddol. Erbyn hyn ceir cytundeb cyffredinol o fewn cymdeithas ynglŷn
â phwysigrwydd gweithredu i gynnal ein hamgylchedd naturiol ac i warchod
gwahanol rywogaethau biolegol. Bellach, mae‟r pwnc yn cael ei drafod yn gyson, ac
mae hyn wedi arwain at raglenni polisi pellgyrhaeddol, boed hynny ar y lefel
ddomestig neu‟r lefel ryngwladol. Fodd bynnag, nid yw‟r peryg sy‟n wynebu nifer
helaeth o ieithoedd wedi derbyn yr un math o sylw. Mae hyn yn destun
rhwystredigaeth i rai, megis Krauss (1992), sy‟n mynnu fod lefel y dinistr ieithyddol a
wynebir gymaint â hynny‟n fwy na‟r un biolegol. O ganlyniad, trwy geisio ennill lle
amlwg i faterion ieithyddol o fewn y drafodaeth gyfoes ynglŷn â‟r amgylchedd
naturiol ac amrywiaeth fiolegol, gobaith ysgolheigion megis Krauss, Crystal, neu
Nettle a Romaine, yw y gellir trosglwyddo ychydig o‟r brwdfrydedd a‟r difrifoldeb
sy‟n nodweddu‟r drafodaeth honno i‟r drafodaeth ynglŷn â dyfodol ieithoedd
lleiafrifol.
Fodd bynnag, nid mater o dactegau gwleidyddol yn unig mo‟r gymhariaeth:
mae lladmeryddion y safbwynt hefyd yn credu fod y cyswllt yn un cwbl briodol. Er
enghraifft, dadleua Nettle a Romaine (2000) y ceir cydberthynas agos rhwng
amrywiaeth fiolegol y byd a‟i amrywiaeth ieithyddol; perthynas a gaiff ei amlygu
mewn nifer o amrywiol ffyrdd. I ddechrau nodir y berthynas o ran dosbarthiad
50
daearyddol. Trwy gymharu dau fap gwahanol o‟r byd, y naill yn nodi dosbarthiad
biolegol a‟r llall yn nodi dosbarthiad ieithyddol, dangosir mai‟r ardaloedd a nodweddir
gan amrywiaeth fiolegol sylweddol yw‟r rhai lle caiff amrywiaeth eang o ieithoedd eu
siarad (Nettle a Romaine 2000: 43). Yn ogystal, dadleuir fod y berthynas rhwng y
biolegol a‟r ieithyddol yn cael ei chyfleu trwy ystyried natur y bygythiadau a wynebir.
Honnir mai'r prosesau gwleidyddol, cymdeithasol ac amgylcheddol sy‟n arwain at
danseilio rhagolygon gwahanol rywogaethau biolegol sydd hefyd yn tanseilio
hyfywedd gwahanol ieithoedd brodorol. Arweinia hyn Nettle a Romaine i ddatgan:
Overall, the commonalities between biological and linguistic diversity are
striking. The richness is concentrated in similar places, and in both cases, the
destabilizing activities of a few powerful groups have potentially catastrophic
consequences (Nettle a Romaine 2000: 48).
Eto i gyd, un peth yw dangos fod yna gyswllt posib rhwng dirywiad biolegol a
dirywiad ieithyddol. Peth arall yw dangos pam dylid poeni ynglŷn â‟r ddau yn yr un
modd. Wrth gwrs, erbyn hyn ceir llwyth o dystiolaeth sy‟n dangos yn glir sut mae
amrywiaeth biolegol y byd yn cefnogi ac yn cyfoethogi ein bywydau, ynghyd â
thystiolaeth sy‟n nodi‟r niwed sylweddol a all ddeillio o grebachiad yr amrywiaeth
hwnnw. Ond, a yw‟r sawl sy‟n arddel y ddadl ynglŷn â phwysigrwydd sylfaenol ein
hamrywiaeth ieithyddol yn llwyddo i egluro pam y dylid trin dirywiad yr amrywiaeth
hwnnw fel proses niweidiol hefyd?
Yn nhyb Idil Boran (2003), mae‟r llenyddiaeth sy‟n trafod ecoleg ieithyddol
yn cynnwys dwy brif ddadl sy‟n cefnogi‟r honiad fod dirywiad yn amrywiaeth
ieithyddol y byd yn broses niweidiol. Mae‟r dadleuon hyn yn cyffwrdd ar werth
esthetig amrywiaeth ieithyddol a hefyd ei werth gwyddonol. Mae‟r dadleuon sy‟n
pwysleisio gwerth esthetig yn nodi bod gwahanol ieithoedd yn cynnig nifer o ffyrdd
51
gwahanol i fynegi safbwynt a theimladau ac hefyd i gynhyrchu celf. Er enghraifft, fel
y noda Boran, „some forms of art are associated with particular languages‟ (Boran
2003: 195). Enghraifft o hyn, yn nhyb Boran, yw‟r Siapanaeg a‟r Haiku. Er bod hon
yn ffurf o farddoni sydd bellach yn cael ei defnyddio gan siaradwyr ieithoedd eraill, ni
fyddai hyn wedi bod yn bosib pe bai‟r Siapanaeg wedi diflannu cyn i‟r traddodiad
barddonol yma gael ei rannu ag eraill (Boran 2003: 195).
Ysgolhaig sy‟n credu‟n gryf yn y budd esthetig sy‟n deillio o gynnal
amrywiaeth ieithyddol y byd yw Crystal (2000). Yn ei dyb ef:
Humanity gains so much from each fresh expression of itself in a language ...
The best way for an educated person to feel the power of this argument ... is to
ask what would be missed if through an imaginary catastrophic language
disappearance we had never had X (where X is any well-known language).
What splendours of literature, in particular, would we have never experienced
if some event had prematurely ended the development of French, Spanish or
Russian? (Crystal 2000: 45).
Gwelir felly fod y budd esthetig sy‟n deillio o fodolaeth amrywiaeth eang o ieithoedd
yn medru cyfrannu at gyfoethogi ein bywydau. O ganlyniad, yn nhyb sylwebwyr
megis Crystal, dylai unrhyw ddirywiad yn yr amrywiaeth hwnnw gael ei ddehongli fel
proses niweidiol, gan fod rhan o gyfoeth cynhenid y byd yn cael ei golli.
Ochr yn ochr â‟r ddadl uchod ynglŷn â gwerth esthetig amrywiaeth ieithyddol,
mae lladmeryddion y persbectif ecolegol hefyd yn cynnig dadl ynglŷn â‟i werth
gwyddonol. Mae‟r sawl sy‟n tynnu sylw at yr agwedd hon yn tueddu i rannu eu
sylwadau yn ddwy ran. I ddechrau, dadleuir fod gwybodaeth ynglŷn ag amrywiol
ieithoedd yn bwysig i‟r sawl sy‟n arddel ieithyddiaeth fel gwyddor gymdeithasol.
Caiff y pwynt yma ei bwysleisio gan Nettle a Romaine:
52
Linguists need to study as many different languages as possible if they are to
perfect their theories of language structure and to train future generations of
students in linguistic analysis ... Satisfying answers to many current puzzles
about languages and their origins will not emerge until linguists have studied
many languages. To exclude exotic languages from our study is like expecting
botanists to study only florist shop roses and greenhouse tomatoes and then tell
us what the plant world is like (Nettle a Romaine 2000: 10 11).3
Fodd bynnag, dadl wyddonol dipyn pwysicach na‟r uchod yw honno sy‟n egluro sut y
gall dirywiad yn amrywiaeth ieithyddol y byd arwain at danseilio cynnydd gwyddonol
yn gyffredinol. Deillia hyn o‟r wybodaeth bwysig ynglŷn â‟r byd sydd i‟w ganfod o
fewn iaith. Fel y Noda Nettle a Romaine:
The knowledge contained in indigenous languages has much to contribute to
scientific theories through the uncovering of potentially invaluable
perspectives on a variety of problems such as land management, marine
technology, plant cultivation and animal husbandry (Nettle a Romaine 2000:
51).
O ganlyniad, trwy golli‟r gronfa bwysig o wybodaeth ynglŷn â‟r byd a‟i weithrediad
sydd i‟w ganfod mewn gwahanol ieithoedd lleiafrifol, mae‟n bosib ein bod yn colli‟r
cyfle i ganfod atebion i lawer o sialensiau cyfoes, a‟n bod felly yn peri niwed i
ragolygon y ddynoliaeth yn gyffredinol. Wrth gwrs, yr achos clasurol a ddefnyddir
gan ladmeryddion y ddadl hon wrth geisio tanlinellu ei bwysigrwydd, yw‟r un sy‟n
ymwneud â‟r posibilrwydd o ddarganfod gwellhad i glefydau cyfoes trwy astudio rhai
o ieithoedd bach y byd. Fel yr eglura Boran:
... if a plant that is not yet known to us and is already known by a culture that
has a name for the plant, then that information can be used to learn about that
particular plant, which in turn can potentially be used to cure a disease that is
not yet well understood (Boran 2003: 197).
3 Ategir hyn gan Ken Hale sy‟n nodi: It is a fact, I believe, that without linguistic diversity it will be
impossible for us to perform the central task of linguistic science ... At this point in the history of
linguistics, at least, each language offering testimony for linguistic theory brings something important,
and heretofore not known or not yet integrated into the theory. In many cases, data from a „new‟
language forces changes in the developing theory, and in some cases, linguistic diversity sets an
entirely new agenda‟ (Hale 1998: 193 194).
53
Gwelir felly fod y sawl sy‟n arddel y ddadl ynglŷn â phwysigrwydd sylfaenol
amrywiaeth ieithyddol y byd yn llwyddo i dynnu sylw at amryw o ganlyniadau
niweidiol rhai esthetig a rhai gwyddonol a all ddeillio o ddirywiad yr amrywiaeth
hwnnw. Trown yn awr i ystyried y ddadl sy‟n tystio i bwysigrwydd y cyswllt rhwng
iaith a hunaniaeth.
4.2 Pwysigrwydd Iaith i Hunaniaeth
Afraid dweud fod amryw o athronwyr gwleidyddol eisoes wedi cyfeirio at
bwysigrwydd sylfaenol hunaniaeth. Er enghraifft, nododd Charles Taylor (1992: 25)
fod pobl yn medru dioddef niwed go ddifrifol pan fo cymdeithas wedi‟i threfnu mewn
modd sy‟n arwain at fychanu neu niweidio cefndir grŵp arbennig: „a person or a
group of people can suffer real damage, real distortion, if the people or society around
them mirror back to them a confining or demeaning or contemptible picture of
themselves. O ganlyniad, os yw hunaniaeth person neu grŵp yn cael ei thanseilio neu
ei dibrisio mewn modd sylweddol, gall hynny arwain at niwed seicolegol go ddifrifol.
Fodd bynnag, nid yw‟r pwynt cyffredinol hwn ynglŷn â phwysigrwydd hunaniaeth yn
egluro pam mae sefyllfa‟r iaith yn hollbwysig. Wedi‟r cyfan, nid ymlyniad ieithyddol
yw‟r unig elfen sy‟n cyfrannu at lunio a diffinio hunaniaeth. Rhywbeth cymhleth
ydyw sy‟n cynnwys nifer o elfennau gwahanol (Edwards 1984). O ystyried hyn, a ellir
casglu y dylai dirywiad iaith gael ei drin fel proses sy‟n meddu ar oblygiadau
niweidiol o safbwynt hunaniaeth?
Yn nhyb nifer o gymdeithasegwyr iaith, mae dirywiad iaith yn broses sy‟n
medru arwain at ganlyniadau niweidiol i hunaniaeth grŵp diwylliannol. Un sy‟n
54
arddel safbwynt o‟r fath yw Joshua Fishman (1985 a 1991). Yn ei dyb ef, caiff iaith a
hunaniaeth ethno-ddiwylliannol eu cysylltu mewn tair ffordd bwysig: yn fynegol
(indexically), yn symbolaidd (symbolically) ac yn rhannol-gyflawn (part-whole link).
I ddechrau, yn achos y cyswllt mynegol, noda Fishman:
That language which has traditionally been linked with a given ethnoculture is,
at any time during which that linkage is still intact, best able to name the
artefacts and to formulate or express the interests, values and world-views of
that culture (Fishman 1991: 20).
Yn nhyb Fishman, gan fod iaith a diwylliant traddodiadol fel arfer wedi datblygu ochr
yn ochr â‟i gilydd, a hynny dros gyfnod sylweddol o amser, bydd un yn meddu ar y
gallu i gyfleu‟r llall mewn modd mwy effeithiol na ieithoedd eraill. Wrth ddadlau hyn,
nid yw Fishman yn awgrymu nad yw newid o unrhyw fath yn bosib. Mae‟n fodlon
cydnabod y gall iaith arall, dros gyfnod o amser, ddod i gynnal y cyswllt â‟r diwylliant
traddodiadol mewn modd sydd yr un mor effeithiol. Eto i gyd, mae‟n pwysleisio mai
proses hir fydd hon ac na fydd felly yn debygol o fodloni siaradwyr presennol yr iaith
sy‟n dirywio:
... no one lives in the long run; we all live in the short run, in the here and now
... in the short run (which is to say, at any particular point in time) no language
but the one that has been most historically and intimately associated with a
given culture is as well able to express the artefacts and the concerns of that
culture (Fishman 1991: 21).
Yn ail, cyfeiria Fishman at y cyswllt symbolaidd rhwng iaith, diwylliant a hunaniaeth.
Yn nhyb Fishman, yn sgil y cyswllt traddodiadol rhwng iaith a diwylliant mae‟r naill
wedi dod i gynrychioli‟r llall, nid yn unig yng ngolwg aelodau‟r grŵp ond yng ngolwg
eraill oddi allan hefyd:
This ethnoculturally symbolic role of language is not a strange phenomenon ...
almost all of the languages of the world have also come to stand for the
particular ethnic collectivises that speak them, for the ethnocultures that
traditionally utilize them and, where we are dealing with official languages of
nations or regions, for the polities that implement them (Fishman 1991: 23).
55
Yn achos rhai ieithoedd mawr ac yn enwedig yn achos y Saesneg, efallai na fydd
cryfder y cyswllt symbolaidd hwn mor amlwg.4 Serch hynny, yn ôl Fishman, deillia
hyn o natur hollbresennol ieithoedd o‟r fath; sefyllfa sy‟n golygu bod eu siaradwyr yn
tueddu i‟w cymryd yn ganiataol. Y ddadl olaf a gyflwynir gan Fishman yw‟r un sy‟n
ymwneud â‟r cyswllt rhannol-gyflawn rhwng iaith a diwylliant. Mewn perthynas â‟r
ddadl hon mae‟n nodi:
... that parts of every culture are expressed, implemented and realized via the
language with which that culture has been most immediately associated. So
much of any culture is primarily verbally constituted: its songs and its prayers,
its laws and its proverbs ... All of the foregoing are conventionally and
consensually expressed via the culture‟s traditionally associated language, to
such a degree that ... they do not have the same „flavour‟, the same „charm‟,
the same „magic‟, not to mention the same „associations and memories‟, when
translated into any other language (Fishman 1991: 24).
Gwelir felly fod dadleuon Fishman, at ei gilydd, yn pwysleisio pwysigrwydd y cyswllt
rhwng iaith draddodiadol a hunaniaeth grŵp diwylliannol. Eto i gyd, pa mor bwysig
yw‟r cyswllt hwn mewn gwirionedd?
Wrth gwrs, roedd rhai o ramantwyr Almaenaidd y ddeunawfed ganrif
meddylwyr megis Herder, Von Humboldt a Fichte yn dehongli‟r berthynas rhwng
iaith a hunaniaeth mewn modd cwbl haearnaidd. Fel yr eglura May (2003), roedd y
meddylwyr hyn yn tybio mai iaith oedd hanfod hunaniaeth ac felly y byddai dirywiad
yr iaith yn gwbl drychinebus:
... the eighteenth century German romantics, Herder, von Humboldt and
Fichte, advocated an „organic‟ or „linguistic‟ nationalism where culture, and
4 Mewn achosion o‟r fath, nid yw‟r gost o golli iaith, neu o leiaf o weld yr iaith yn dirywio, yn fater
sy‟n croesi meddyliau pobl. Cafodd y pwynt yma ei grynhoi yn effeithiol gan Ned Thomas wrth iddo
drafod perthynas y Sais â‟r Saesneg o‟i chymharu â pherthynas rhai Cymry â‟r Gymraeg: „The
Englishman is remarkably unselfconscious about his language and content to use it as a tool ... a healthy
language, like a healthy body, does not need to have its temperature taken all the time; but the Welsh-
speaker is constantly asking how the language is doing, noticing contradiction here, a small victory
there ... pledging himself to do more‟ (Thomas 1971: 31).
56
particularly language, were viewed as central to the essence or character
(Volksgeist) of the nation. In this perspective, language came to be constructed
as the most important distinguishing characteristic of nationhood indeed, its
very soul (May 2003: 140, pwyslais yn y gwreiddiol).
Rhaid pwysleisio nad yw Fishman, na chwaith y mwyafrif helaeth o gymdeithasegwyr
iaith cyfoes, yn dewis dehongli‟r berthynas rhwng iaith a hunaniaeth mewn termau
haearnaidd o‟r fath. Er enghraifft, mae Fishman yn ddigon parod i gydnabod bod
modd, dros amser, i iaith newydd lenwi‟r gwagle a gaiff ei adael gan un sy‟n dirywio;
Many ethnic identities have managed to survive wholesale language shifts in
connection with their historically associated languages‟ (Fishman 1991: 26). Eto i
gyd, os ydym yn cydnabod bod modd parhau i arddel a chynnal hunaniaeth benodol
yn absenoldeb yr iaith draddodiadol, onid yw hynny‟n tanseilio holl nerth dadl sy‟n
ceisio pwysleisio pwysigrwydd y cyswllt rhwng y ddwy elfen yma? Os oes modd i
grŵp gynnal hunaniaeth arbennig hyd yn oed wedi i‟w iaith draddodiadol ddirywio,
onid yw‟n afresymol felly i drin dirywiad yr iaith fel proses arbennig o niweidiol?
Onid oes yn rhaid cytuno â Gellner a nododd, „changing one‟s language is not the
heart-braking or soul-destroying business which it is claimed to be in romantic
nationalist literature‟ (Gellner, 1964: 165)?
Mae‟r cwestiwn olaf yma yn un a holir gan Carol Eastman (1984). Yn ei thyb
hi, nid yw‟r cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth yn un sy‟n treiddio mor ddwfn â hynny.
Rhywbeth arwynebol yn unig ydyw:
... language is an aspect of ethnic identity at the surface level ... but it is
certainly not all there is to behaving ethnically ... When we stop using the
language of our ethnic group, only the language use aspect of our ethnic
identity changes; the primordial sense of who we are and what group we think
we belong to for the remainder remains intact (Eastman 1984: 261).
57
Honna Eastman felly nad yw‟r cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth yn un arbennig o
arwyddocaol ac na fyddai dirywiad iaith benodol yn arwain at achosi unrhyw niwed
sylweddol i hunaniaeth person neu grŵp. Gan mai dim ond elfen arwynebol o‟n
hunaniaeth yw‟r iaith draddodiadol, gall ddirywio heb achosi unrhyw niwed
sylweddol i graidd yr hunaniaeth honno:
Language shift or change can only affect one aspect of our ethnic identity the
language use aspect ... The implication of this analysis of the relationship of
language and ethnic identity, and the way change in both occurs, is that there is
no need to worry about preserving ethnic identity, so long as the only change
being made is in what language we use (Eastman 1984: 275).
Yn sicr, mae‟r pwyntiau uchod o eiddo Eastman yn codi cwestiynau sylweddol ynglŷn
â hygrededd dadleuon tebyg i rai Fishman.
Yn wir, fel mae May (2001) yn barod i gydnabod, nid dadleuon di-sail mo rhai
Eastman. Daw hyn i‟r amlwg wrth ystyried tueddiadau ieithyddol nifer o grwpiau
mudol cyfoes. Wrth symud, bydd aelodau‟r grwpiau hyn yn aml yn mabwysiadu iaith
eu gwlad newydd. Fodd bynnag, fel y noda Eastman, nid yw hyn yn golygu bod holl
hunaniaeth y mudwyr yma yn sicr o newid:
For example, if a French person leaves Paris and goes to live in New York,
that person may learn to use English and stop using French ... That person
remains ethnically French until the unlikely event that all factors of that ethnic
identity change, including that person‟s perception of ancestry (Eastman 1984:
261).
Nid dim ond profiad y gellir ei briodoli i fewnfudwyr mo hwn chwaith. Mae‟r
pwyntiau a wnaed uchod hefyd yn berthnasol i rai o‟r achosion hynny lle mae iaith
cenedl leiafrifol wedi dirywio‟n sylweddol. O bosib, un o‟r achosion enwocaf yw
achos Iwerddon (May 2001). Dros y ddau gan mlynedd diwethaf, dirywio‟n
sylweddol wnaeth rhagolygon y Wyddeleg wrth iddi gael ei disodli gan y Saesneg.
58
Erbyn heddiw, ychydig iawn o ddefnydd a wneir o‟r iaith. Eto i gyd, erys ymdeimlad
cryf o hunaniaeth Wyddelig. Fel y noda John Edwards:
... it seems clear that there is, today, a strong Irish identity which does not
involve the Irish language in a communicative sense ... if we accept that (a)
there is an Irish national identity, and (b) the vast majority neither speak Irish
nor seem particularly interested in doing so, then it follows that identity does
not depend upon language alone (Edwards 1984: 289).
Felly, mae dadleuon Eastman ac Edwards yn awgrymu mai arwynebol yn unig yw‟r
cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth grŵp diwylliannol, ac na ddylai dirywiad ieithyddol
gael ei ddehongli felly fel proses arbennig o niweidiol.
Serch hynny, tra‟n derbyn na ellir disgrifio‟r cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth
fel un hanfodol, dylid gochel rhag camu ymlaen i ddadlau mai arwynebol yn unig
yw‟r cyswllt rhyngddynt, ac na all fyth fod yn fwy na hynny. Fel y dadleua May:
Language clearly does not define us, and may not be a necessary feature, or
even an important one, in the construction of our identities, whether at the
individual or the collective level. I agree broadly with this constructivist
analysis indeed, who could not? Where I beg to differ is in refusing to take
the next step that is often then taken by constructivists: that is, to assume that,
if language is merely a contingent factor of identity, it cannot therefore (ever)
be a significant or constitutive factor of identity (May 2003: 141).
Felly tra na ellir disgrifio‟r cyswllt rhwng iaith draddodiadol a hunaniaeth fel un
hanfodol, dadleua May y dylid bod yn barod i‟w ddisgrifio, mewn rhai sefyllfaoedd,
fel un pwysig dros ben. Byddai gwadu hynny yn golygu ein bod yn anwybyddu‟r
ffaith fod iaith yn chwarae rhan bwysig mewn nifer fawr o ddadleuon gwleidyddol ar
draws y byd:
This position is extremely problematic, not least because it simply does not
reflect adequately, let alone explain, the heightened saliency of language issues
in many historical and contemporary political conflicts ... particular languages
clearly are for many people an important and constitutive factor of their
individual and, at times, collective identities (May 2003: 141).
59
O ganlyniad, ni ddylid diystyru arwyddocâd y cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth yn
llwyr.
Ymhellach, gan na ddylid diystyru arwyddocâd y cyswllt hwn, ni ddylid
chwaith ddiystyru‟r niwed a all ddeillio o‟i dorri. Tra‟i bod hi‟n bosib i grŵp barhau i
arddel ymdeimlad o hunaniaeth arbennig hyd yn oed wedi i‟w iaith draddodiadol
ddirywio, ni ddylid casglu fod y broses hon yn debygol o fod yn un cwbl rwydd i‟r
aelodau. Yn wir, nid proses lyfn na hwylus mo newid diwylliannol o unrhyw fath. Yn
hytrach, mae‟n broses anodd, sy‟n medru cael effaith ddofn ar hunan barch a hyder
aelodau‟r grŵp dan sylw (Taylor 1992; Margalit a Raz 1990). Fel yr eglura Fishman:
The fact that the traditional symbolic relationship between Xish and Xishness
can ultimately be replaced by a new symbolic relationship between Yish and
Xishness merely indicates that in the fullness of time such transformations are
possible and they have, indeed occurred throughout human history. This does
not mean that such symbolic redefinitions and self-redefinitions are either
desirable or easily attained, or that Xishness is the same under both sets of
linguistic circumstances‟ (Fishman, 1991: 34).
Gwelir felly fod y ddadl ynglŷn â‟r cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth, fel y ddadl
flaenorol ynglŷn â phwysigrwydd amrywiaeth, yn dangos fod dirywiad ieithyddol yn
broses sy‟n medru arwain at ganlyniadau anodd neu niweidiol. Eto i gyd, pa mor
niweidiol yw‟r canlyniadau hyn mewn gwirionedd? A ydynt yn cynnig digon o sail i
gasglu fod dirywiad ieithyddol yn broses mor ddifrifol ac mor niweidiol fel y dylai
rhyddfrydwyr ddadlau mai‟r unig ymateb priodol a chyfiawn ym mhob achos yw
cymryd camau brys i‟w atal a‟i wrthdroi?
60
5. Adfer Iaith: Hanfodol ym Mhob Sefyllfa?
Mae‟n bwysig deall nad yw dangos fod dirywiad iaith yn broses sy‟n medru arwain at
ganlyniadau niweidiol, ar ben ei hun, yn rhoi digon o reswm i gasglu mai hybu
adferiad ddylai fod y nod ym mhob achos posib. Cyn bod modd gwneud hynny, rhaid
trafod ymhellach er mwyn dysgu mwy ynglŷn ag union natur y niwed a wynebir.
Wedi‟r cyfan, un peth yw derbyn bod gweithred neu broses arbennig yn meddu ar
oblygiadau niweidiol, peth arall yw derbyn bod y goblygiadau hynny mor niweidiol
fel y dylid ymrwymo i atal y weithred neu‟r broses dan sylw, doed a ddel, ym mhob
sefyllfa dan haul.
Yn wir ychydig iawn o weithredoedd neu brosesau y byddai rhyddfrydwyr yn
dymuno eu gosod ar wastad moesol o‟r fath. Daw hyn i‟r amlwg wrth ystyried rhai o‟r
pethau hynny na fyddai‟n llwyddo i groesi‟r trothwy. Cymerer, er enghraifft, y syniad
o gyfyngu ar ryddid mynegiant. A fyddai hwn yn gam y byddai rhyddfrydwyr am ei
atal ym mhob sefyllfa, beth bynnag fo‟r amgylchiadau? Yn sicr, mae rhyddid
mynegiant yn egwyddor bwysig sy‟n cael lle amlwg yng ngwaith nifer o ryddfrydwyr
cyfoes. Er enghraifft, caiff ei nodi gan John Rawls (1971) fel un o‟r rhyddfreiniau
hynny sy‟n syrthio o dan faner y cyntaf, a‟r pwysicaf, o‟i egwyddorion cyfiawn. Fodd
bynnag, gellir codi amheuon ynglŷn â‟r graddau y byddai rhyddfrydwyr fel Rawls yn
dymuno trin rhyddid mynegiant fel rhywbeth sydd mor bwysig fel y dylid atal pob
ymdrech bosib i gyfyngu arno. Ystyrier sefyllfa lle bo grŵp hiliol yn cyhoeddi ac yn
dosbarthu pamffledi ymfflamychol sy‟n lledaenu rhagfarn aflan yn erbyn pobl
groenddu, gan annog y defnydd o drais yn eu herbyn. A fyddai rhyddfrydwyr o ddifrif
yn dadlau na ddylid erlyn cyhoeddwyr y pamffledi hyn ac y dylid goddef eu harferion
61
yn enw rhyddid mynegiant? Yn sicr, yn sgil y pwysigrwydd a briodolir i‟r egwyddor,
byddai rhyddfrydwyr yn dadlau bod angen i‟r sawl sy‟n dymuno cyfyngu ar ryddid
mynegiant gynnig dadleuon arbennig o gryf cyn bod modd dilysu cam o‟r fath. Ond,
er hynny, nid yw‟r cam yn un y byddent am ei atal ym mhob sefyllfa, beth bynnag fo‟r
amgylchiadau. Dengys hyn felly pa mor uchel yw‟r trothwy sy‟n rhaid ei groesi cyn y
gellir datgan yn hyderus y dylid trin gweithred neu broses fel rhywbeth y dylid ei atal
a‟i wrthdroi doed a ddel.
Gweithredoedd sy‟n llwyddo i groesi‟r trothwy uchel hwn, ac felly‟n haeddu
cael eu disgrifio fel rhai y dylid ymdrechu i‟w hatal ym mhob sefyllfa, yw arteithio a
hil-laddiad. Dyma weithredoedd sydd mor ddifrifol ac mor niweidiol fel y gall
rhyddfrydwyr ddatgan mai dim ond un ymateb priodol a chyfiawn a geir. Yn wir, nid
dim ond safbwynt a gaiff ei arddel ymhlith deallusion mo hwn, ond un sy‟n prysur
ennill cefnogaeth ymhlith ymarferwyr gwleidyddol ar y llwyfan rhyngwladol
(International Commission on Intervention and State Sovereignty 2001). Ond beth yn
benodol ynglŷn â natur y niwed sy‟n deillio o‟r gweithredoedd hyn sy‟n ein galluogi i
ddatgan fod yna bwysau moesol arnom i‟w hatal ym mhob sefyllfa, beth bynnag fo‟r
amgylchiadau cefndirol? Cynigiaf isod ddwy nodwedd allweddol; natur gwbl ddifrifol
y niwed a hefyd natur hollgyffredinol y niwed.
I ddechrau, yn achos gweithredoedd megis arteithio neu hil-laddiad, gellir
datgan eu bod yn weithredoedd sy‟n arwain at niwed cwbl ddifrifol; hynny yw, y math
o niwed sy‟n gwbl ddinistriol i les ein bywydau. Wedi‟r cyfan nid yw‟n bosib i
unrhyw berson neu grŵp fyw bywyd rhydd a chyflawn tra‟n gochel rhag bygythiadau
62
o‟r fath. Yn wir, cymaint yw‟r niwed sy‟n deillio o‟r gweithredoedd hyn fel bod
pwysigrwydd y dasg o‟u hatal yn „trympio‟ pob ystyriaeth arall. Wrth drafod achosion
o arteithio neu hil-laddiad ni fyddai‟n briodol o gwbl i daflu ystyriaethau eraill i‟r pair;
ystyriaethau megis diogelwch neu undod a chydlyniad cymdeithas (International
Commission on Intervention and State Sovereignty 2001). Nid yw‟r niwed a achosir
yn un a all gael ei leddfu, ei gymedroli a‟i wneud yn fwy derbyniol trwy gyfeirio at
enillion o‟r fath. Yn ogystal, mae difrifoldeb y niwed sy‟n deillio o weithredoedd
megis arteithio neu hil-laddiad yn hollgyffredinol. Golyga hyn fod y niwed yn meddu
ar yr un arwyddocâd a pherthnasedd moesol ym mhob sefyllfa, beth bynnag fo‟r
amgylchiadau. Nid yw ein casgliadau ynglŷn â‟r ffaith fod arteithio neu hil-laddiad yn
weithredoedd sy‟n achosi niwed difrifol yn ddibynnol ar ystyried beth yw cefndir
hanesyddol, diwylliannol neu faterol y person neu‟r grŵp sy‟n dioddef. At ei gilydd
felly, mae‟r hyn sy‟n nodweddu‟r niwed a gysylltir â gweithredoedd megis arteithio a
hil-laddiad ei natur cwbl ddifrifol a‟i natur hollgyffredinol – yn caniatáu i ni ddatgan
y byddai atal gweithredoedd o‟r fath yn dasg y byddai rhyddfrydwyr am ei thrin fel un
hanfodol o safbwynt cyfiawnder ym mhob sefyllfa. Ond a ellir dadlau bod y niwed a
gysylltir gyda dirywiad gwahanol ieithoedd lleiafrifol yn arddangos y nodweddion
hyn hefyd?
5.1 Natur Gwbl Ddifrifol y Niwed
Cymerer, i ddechrau, y pwynt ynglŷn â natur gwbl ddifrifol y niwed a achosir. Tra bod
yr adran flaenorol wedi casglu bod dirywiad iaith yn broses a all arwain at
ganlyniadau niweidiol, rhaid cydnabod y gellir codi cwestiynau digon dilys ynglŷn ag
union ddifrifoldeb y canlyniadau hyn. Gwelir hyn yn sicr yn achos y ddadl sy‟n
63
pwysleisio‟r modd y gall dirywiad ieithyddol arwain at ganlyniadau niweidiol i
ddynoliaeth yn gyffredinol, trwy leihau amrywiaeth y byd. Ystyrier, er enghraifft, y
rhan o‟r ddadl sy‟n cyfeirio at effaith esthetig unrhyw ddirywiad ieithyddol. Yn sicr,
gellir derbyn nad yw dirywiad yn ein cyfoeth esthetig yn rhywbeth y dylid ei
groesawu, gan fod bodolaeth cyfoeth o‟r fath yn cyfrannu‟n helaeth at gyfoethogi ein
bywydau. Fodd bynnag, tra‟n derbyn hynny, gellir cwestiynu i ba raddau y byddai
dirywiad esthetig o‟r fath yn arwain at ganlyniadau cwbl ddifrifol i les ein bywydau.
Ar y cyfan, rhaid casglu na fyddai‟n gwneud hynny. Er enghraifft, ni fyddai‟n debygol
o effeithio ar ryddfreiniau sylfaenol unrhyw unigolyn neu grŵp ac ni fyddai‟n debygol
o amharu ar eu hanghenion materol mwyaf sylfaenol. Fel y noda Boran, „aesthetic
needs rank lower than more urgent needs, such as those of people who do not enjoy
protection of their basic liberties, or the poorest members of society, or those who
have to work under unacceptable conditions‟ (Boran 2003: 195 - 196). O ganlyniad,
pan gymherir ef â rhai o‟r anawsterau eraill y gall unigolion neu grwpiau eu profi,
mae‟n bwysig sylweddoli mai ymylol, ar y cyfan, yw‟r niwed sy‟n deillio o ddirywiad
yn ein cyfoeth esthetig.
Gellir nodi pwyntiau tebyg mewn perthynas â‟r rhan o‟r ddadl sy‟n nodi
pwysigrwydd amrywiaeth ieithyddol i ieithyddiaeth fel gwyddor gymdeithasol. Yn
sicr, mae‟r gallu i astudio amrediad eang o ieithoedd – er enghraifft eu gwyddorau a‟u
gramadeg o fudd i ieithyddiaeth fel proffesiwn. Gellid dadlau hefyd fod y
wybodaeth sy‟n deillio o astudiaethau‟r ieithyddwyr hyn, yn eu tro, yn cyfrannu at
gyfoethogi bywyd poblogaeth y byd yn gyffredinol, trwy drosglwyddo gwybodaeth
newydd ynglŷn â‟r ieithoedd a siaredir gan wahanol bobl. Fodd bynnag, unwaith eto
64
rhaid cwestiynu a fyddai dirywiad graddol yn y gallu hwn i astudio a chasglu
gwybodaeth yn arwain at ganlyniadau gwirioneddol niweidiol i les ein bywydau.
Ar y cyfan, mae‟r ddadl wyddonol arall a drafodwyd, sef honno sy‟n cyfeirio
at bwysigrwydd yr wybodaeth a gaiff ei chynnal o fewn iaith, yn dipyn cryfach. Er
enghraifft, byddai colli‟r cyfle i ddatblygu gwellhad i glefydau cyfoes yn sicr o gael
effaith niweidiol ar fywydau nifer fawr o bobl. Fodd bynnag, hyd yn oed yn achos y
ddadl hon, mae angen gochel rhag gorbwysleisio‟r niwed a all ddeillio o unrhyw
ddirywiad ieithyddol. Fel yr eglura Boran:
We need to be cautious, however, in making this claim regarding scientific
value, for it can be easily overstated. That is, it is important not to conflate (a)
a probable loss of useful scientific knowledge and (b) an actual loss of the
same order. To say that small languages of which we have little knowledge
may prove useful for scientific reasons in the long run is not tantamount to
concluding that they are actually useful or that we actually loose specific
knowledge if small languages are lost (Boran 2003: 197).
Nid oes amheuaeth fod y niwed gwyddonol a allai ddeillio o golli rhan o amrywiaeth
ieithyddol y byd yn fater arwyddocaol. Eto i gyd, fel y noda Boran, cyfeirio at
bosibilrwydd a wneir yma ac nid sicrwydd ac mae‟n bwysig ein bod yn cadw hyn
mewn cof wrth drafod rhinweddau‟r ddadl.
Rhaid pwysleisio nad yw‟r pwyntiau uchod yn awgrymu am eiliad y dylid
diystyru‟r ddadl ynglŷn â phwysigrwydd sylfaenol amrywiaeth ieithyddol y byd.
Mae‟r pwyntiau a wneir gan ladmeryddion y safbwynt ynglŷn ag effaith esthetig a
gwyddonol unrhyw ddirywiad yn yr amrywiaeth hwnnw yn rhai dilys a theg ac yn
dangos yn glir y dylai dirywiad ieithyddol gael ei ddehongli fel proses a all arwain at
ganlyniadau niweidiol. Fodd bynnag, dylid gochel rhag gorbwysleisio difrifoldeb y
65
niwed hwn. Ni ellir, mewn gwirionedd, ei ddisgrifio fel niwed cwbl ddifrifol sy‟n
debygol o fod yn gwbl ddinistriol i les ein bywydau, yn yr un modd â‟r niwed sy‟n
deillio o weithredoedd megis arteithio neu hil-laddiad. Ar y cyfan, mae‟r cyswllt a
wneir rhwng dirywiad iaith a lles ein bywyd gan ladmeryddion y safbwynt ecolegol
yn llawer rhy haniaethol i ganiatáu hynny.
Trown felly i ystyried y dadleuon sy‟n tystio i‟r niwed y gall dirywiad
ieithyddol ei achosi i hunaniaeth person neu grŵp. Yn sicr, mae rhain yn ddadleuon
sy‟n llwyddo i sefydlu cyswllt llawer mwy diriaethol ac uniongyrchol rhwng lles pobl
a dirywiad iaith. Fel y nodwyd, mae proses sy‟n arwain at danseilio hunaniaeth person
yn medru cael effaith ar hunan barch a hyder y person hwnnw; niwed sy‟n ein taro fel
un tipyn mwy imminent a dwys na‟r niwed esthetig neu‟r niwed gwyddonol a
drafodwyd uchod. Er gwaethaf hyn, gellir codi cwestiynau ynglŷn â‟r graddau y dylid
disgrifio‟r niwed a achosir yn achos hunaniaeth fel un cwbl ddifrifol a dinistriol.
Fel y gwelwyd, nid yw‟r cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth yn un cwbl
hanfodol. Ceir cryn dipyn o dystiolaeth hanesyddol sy‟n dangos fod nifer o grwpiau,
boed y rheini‟n grwpiau mudol neu‟n grwpiau cenedlaethol, wedi llwyddo i gynnal
ymdeimlad o hunaniaeth arbennig er gwaethaf dirywiad eu hieithoedd traddodiadol.
Wrth gwrs, mae rhai, megis Eastman (1984), yn dewis defnyddio hyn fel rheswm i
ddadlau mai arwynebol yn unig yw‟r cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth, ac felly nad
yw dirywiad iaith draddodiadol yn meddu ar unrhyw oblygiadau niweidiol. Cam gwag
yw hynny; er nad yw iaith yn gwbl hanfodol o safbwynt hunaniaeth, mae‟n nodwedd
ddiwylliannol sy‟n medru dal arwyddocâd pwysig mewn rhai sefyllfaoedd. Eto i gyd,
66
nid yw‟r arwyddocâd hwn, mewn difrif, yn cynnig digon o sail i ddadlau bod dirywiad
iaith yn broses sy‟n esgor ar niwed cwbl ddifrifol a dinistriol i les ein bywydau.
Fel yn achos y ddadl ecolegol, rhaid pwysleisio nad y bwriad yma yw
awgrymu y dylid diystyru‟r ddadl sy‟n tystio i‟r niwed y gall dirywiad ieithyddol ei
achosi i hunaniaeth person neu grŵp. I‟r gwrthwyneb, mae‟r pwyntiau a wneir gan
gyfranwyr megis May (2001) neu Fishman (1991) yn rhai pwysig a dilys ac yn dangos
na ddylid anwybyddu achosion o ddirywiad ieithyddol. Fodd bynnag, yr her a
osodwyd yma oedd ceisio profi bod y niwed i hunaniaeth grŵp sy‟n deillio o
ddirywiad iaith benodol mor fawr fel y gall gael ei ddisgrifio fel niwed cwbl ddifrifol
a dinistriol, yn yr un modd â‟r niwed sy‟n deillio o weithredoedd megis arteithio neu
hil-laddiad. Byddai gwneud hynny yn galw am ymestyn y ddadl braidd yn rhy bell.
Gwelir felly nad yw dirywiad iaith boed yn cael ei ystyried o bersbectif y
ddadl ynglŷn â phwysigrwydd amrywiaeth ieithyddol, neu o bersbectif y ddadl ynglŷn
â hunaniaeth yn broses sy‟n esgor ar y math o ganlyniadau niweidiol sy‟n briodol
i‟w disgrifio fel rhai cwbl ddifrifol a dinistriol. Yn sgil hynny, ac yn wahanol i‟r
niwed sy‟n deillio o weithredoedd megis arteithio neu hil-laddiad, ni ellir dadlau bod y
niwed a gysylltir â dirywiad iaith mor ddifrifol fel ei fod yn sicr o „drympio‟ pob
ystyriaeth arall ym mhob achos. Mae‟n bosib iawn na fydd hwn yn gasgliad sydd at
ddant pawb. Mae‟n bosib y bydd rhai yn teimlo bod yma ormod o lastwreiddio, ac y
dylid cynnig dehongliad llawer cryfach o‟r niwed a amlygir gan y dadleuon ynglŷn ag
amrywiaeth a hunaniaeth. Fodd bynnag, fel y gwelir isod, hyd yn oed pe bai modd
67
gwneud hyn, byddai‟n dal yn amhosib trin y dasg o atal a gwrthdroi dirywiad iaith fel
un hanfodol o safbwynt cyfiawnder ym mhob sefyllfa dan haul.
5.2 Natur Hollgyffredinol y Niwed
Hyd yn oed pe bai rhywun am anghytuno â‟r casgliadau uchod, gan ddadlau y dylid
trin dirywiad iaith fel proses a all arwain at niwed sy‟n briodol i‟w ddisgrifio fel un
cwbl ddifrifol, mae‟n amheus iawn a fyddai‟r person hwnnw hefyd yn medru hawlio
fod difrifoldeb y niwed yn hollgyffredinol; hynny yw mai‟r un yw arwyddocâd a
pherthnasedd moesol y niwed ym mhob sefyllfa, beth bynnag fo‟r amgylchiadau.
Daw hyn i‟r amlwg wrth ystyried y ffaith fod dirywiad ieithyddol yn broses
sy‟n amlygu ei hun mewn sawl cyd-destun gwahanol. Cymerer i ddechrau sefyllfa
ieithoedd gwahanol bobloedd brodorol. Mae shifft iaith neu ddirywiad yn gyflwr sy‟n
nodweddu sefyllfa ieithoedd y mwyafrif helaeth o‟r bobl hyn. Yn wir, roedd llawer o‟r
ystadegau a ddefnyddiwyd yn gynharach yn ystod y bennod hon, er mwyn cyfleu
maint y dirywiad ieithyddol sy‟n ein hwynebu heddiw, yn cyfeirio at ieithoedd nifer o
bobloedd brodorol y byd. Ochr yn ochr â ieithoedd pobloedd brodorol, mae ieithoedd
traddodiadol gwahanol genhedloedd lleiafrifol hefyd, yn bur aml, yn wynebu sefyllfa
ansicr. Yn y ddau achos yma, bydd y bygythiad i wahanol ieithoedd fel arfer yn deillio
o‟r ffaith fod eu siaradwyr wedi‟u hymgorffori o fewn gwladwriaeth fwy sy‟n meddu
ar iaith gref, a honno, dros amser, wedi ymledu, naill ai trwy anogaeth de jure neu de
facto.
68
Sefyllfa arall lle mae‟n debygol y gwelir tystiolaeth o shifft neu ddirywiad
iaith yw pan fo pobl yn mudo o‟u mamwlad, gan ymgartrefu mewn gwlad newydd.
Cyfeiriwyd eisoes at y ffaith fod y bobl hyn, wrth fudo, yn tueddu i fabwysiadu iaith
eu gwlad newydd (May 2001). Wrth wneud hynny, mae‟n ddigon posib y bydd y sawl
sy‟n mudo yn parhau i drosglwyddo eu mamiaith i‟w plant ac yn parhau i‟w
ddefnyddio fel iaith y cartref. Fodd bynnag, gan eu bod bellach yn byw mewn
cymdeithas sy‟n gweithredu trwy gyfrwng iaith arall, mae‟n debygol y bydd
disgynyddion y mudwyr gwreiddiol, dros amser, yn rhoi‟r gorau i ddefnyddio‟r iaith
draddodiadol ac yn penderfynu peidio â‟i throsglwyddo i‟w plant hwythau. Hyd yn
oed lle nad yw‟r shifft sylfaenol yma o fewn y teulu yn digwydd, mae‟r cyfleoedd
hynny sydd gan fewnfudwyr i fyw rhannau pwysig o‟u bywydau trwy gyfrwng eu
mamiaith yn diflannu. Er enghraifft, mae‟n debygol na fydd modd derbyn addysg
statudol trwy gyfrwng yr iaith ac na fydd modd ei defnyddio fel iaith gwaith.
Nawr, os yw dirywiad iaith yn broses sy‟n esgor ar niwed sydd nid yn unig yn
ddifrifol, ond hefyd yn hollgyffredinol o ran natur, yna byddai‟n rhaid casglu ei fod yn
niwed sy‟n meddu ar yr un arwyddocâd a pherthnasedd moesol ym mhob un o‟r
sefyllfaoedd a ddisgrifiwyd uchod. Ond a fyddai hyn yn briodol? Cymerer, er
enghraifft, achos y grwpiau mudol. Mae‟n bosib iawn y gallai dirywiad iaith
draddodiadol cymuned o‟r fath arwain at ganlyniadau digon anodd a niweidiol, er
enghraifft, o ran ymdeimlad y gymuned o hunaniaeth ddiwylliannol. Eto i gyd, i ba
raddau y dylid casglu fod y niwed hwn yn un sy‟n meddu ar arwyddocâd moesol?
69
Yn nhyb nifer o ryddfrydwyr, ni fyddai hynny‟n briodol. Fel y dadleuodd
Kymlicka, mae‟n amheus iawn a ellir trin dirywiad diwylliannol ymhlith grwpiau
mudol fel proses sy‟n meddu ar arwyddocâd moesol arbennig. Er bod dygymod â
dirywiad eu hiaith neu eu diwylliant traddodiadol, gan fabwysiadu set o arferion
newydd, yn debygol o fod yn broses ddigon anodd i aelodau cymuned o‟r fath, nid
yw‟r anawsterau neu‟r niwed a brofir yn un sy‟n galw arnom i gymryd camau brys i
atal unrhyw ddirywiad. Deillia hyn o‟r ffaith fod y bobl hyn, a siarad yn gyffredinol,
wedi dewis gadael eu mamwlad.5 O ganlyniad, os yw eu hiaith neu eu diwylliant
traddodiadol yn digwydd dirywio wrth iddynt ymgartrefu yn eu cartref newydd, nid
oes sail gadarn ganddynt i ddadlau bod yr anawsterau neu‟r niwed sy‟n deillio o
broses o‟r fath yn un sy‟n galw am gael ei atal a‟i wrthdroi:
The expectation of integration is not unjust ... In deciding to uproot
themselves, immigrants voluntarily relinquish some of the rights that go along
with their original membership. For example if a group of Americans decide to
emigrate to Sweden, they have no right that the Swedish government provide
them with institutions of self-government or public services in their mother
tongue (Kymlicka 1995a: 96).
Trwy ddadlau fel hyn, nid yw Kymlicka‟n awgrymu nad oes dyletswydd ar y
wladwriaeth i ysgwyddo unrhyw gyfrifoldebau tuag at les y sawl sy‟n mudo:
... if we reject the option of enabling immigrants to re-create their societal
culture, then we must address the issue of how to ensure that the mainstream
culture is hospitable to immigrants, and to the expression of their ethnic
differences. Integration is a two way process it requires the mainstream
society to adapt itself to immigrants, just as immigrants must adapt to the
mainstream (Kymlicka 1995a: 96).
5 Mae Kymlicka‟n cydnabod nad yw hyn yn wir yn achos ffoaduriaid. Yn ogystal, mae‟n cydnabod y
gellid codi cwestiynau sylweddol ynglŷn â‟r graddau y mae llawer o bobl yn dewis mudo mewn byd
sydd wedi‟i nodweddu gan anghyfartaledd sylweddol o ran cyfoeth ac adnoddau (Kymlicka 1995a: 98
100). Yn wir, mae‟r pwyntiau hyn wedi arwain rhai i gwestiynu dilysrwydd y rhaniad rhwng sefyllfa
grwpiau mudol a chenhedloedd lleiafrifol neu bobloedd brodorol (gweler er enghraifft Rubio Marin
2003 neu Pinto 2007). Fodd bynnag, mae‟n amheus iawn a fyddai‟r bobl hynny wedyn yn barod i
ddadlau fod amcan fel adfer iaith yn rhywbeth a ddylai sefyll ym mhob sefyllfa.
70
Eto i gyd, amcan y mesurau hyn, yn y pen draw, fyddai hwyluso‟r broses o
integreiddio. Byddai hyn yn cynnwys camau sy‟n sicrhau bod aelodau gwahanol
grwpiau mudol yn rhydd i fynegi eu hunaniaeth ethnig arbennig os ydynt yn dymuno,
ond ni fyddai‟n arwain at gamau sydd â‟r nod o atal a gwrthdroi unrhyw ddirywiad
ieithyddol neu ddiwylliannol. Er enghraifft, go brin y byddent yn cynnwys polisïau
pellgyrhaeddol sy‟n ceisio sicrhau ffyniant tymor hir rhai o ieithoedd y cymunedau
hyn, trwy sicrhau bod amrediad eang o gyfleoedd i‟w defnyddio a bod mwy a mwy o
bobl yn ei dysgu (gweler hefyd Kymlicka 2007c).6
Yr hyn a welir felly yw fod ystyriaethau cyd-destunol yn debygol o
ddylanwadu ar yr arwyddocâd moesol a briodolir i‟r niwed sy‟n deillio o ddirywiad
iaith. O ganlyniad mae‟n amheus iawn a ellid hawlio fod y niwed sy‟n deillio o‟r
broses yn hollgyffredinol o ran natur; hynny yw, mai‟r un yw arwyddocâd a
pherthnasedd moesol y niwed ym mhob sefyllfa, beth bynnag fo‟r amgylchiadau. Mae
hyn yn wahaniaeth pwysig rhwng dirywiad iaith a phrosesau megis arteithio neu hil-
laddiad. Fel a nodwyd yn achos y ddau olaf, does dim rhaid ystyried beth yw cefndir
person, ble mae‟n byw na chwaith faint o adnoddau sydd ganddo cyn gellir datgan eu
bod yn weithredoedd cwbl annerbyniol y dylid eu hatal. Nid yw‟r rhain yn bethau sy‟n
dylanwadu ar bwysigrwydd neu briodoldeb peidio ymddwyn tuag at eraill yn y fath
fodd. Yn hytrach, derbynnir fod y niwed a achosir yn hollgyffredinol, ac felly dylid
ymdrechu i atal arteithio neu hil-laddiad ym mhob sefyllfa. Ond, fel a welwyd, nid yw
6 Ochr yn ochr â‟r ffaith nad oes gan fewnfudwyr sail foesol gadarn i ddadlau y dylid ymdrechu i atal
eu hieithoedd rhag dirywio, rhaid cofio hefyd ei bod hi‟n bosib iawn na fydd polisi o‟r fath yn gwbl
ymarferol. Fel y noda Kymlicka, „on a practical level, most existing ethnic groups are too „dispersed,
mixed, assimilated and integrated ... They are not sufficiently compact, self-conscious and culture-
maintaining‟ (Kymlicka 1995a: 96).
71
hyn yn wir yn achos y dasg o geisio atal a gwrthdroi dirywiad iaith. Felly, dyma
reswm arall dros ddatgan nad yw‟n dasg y dylai rhyddfrydwyr ei thrin fel un hanfodol
o safbwynt cyfiawnder ym mhob sefyllfa.
6. Casgliadau
Yn ystod y bennod hon cloriannwyd i ba raddau y gall rhyddfrydwyr gymeradwyo
safbwynt sy‟n trin adferiad fel gweithred hanfodol ym mhob sefyllfa lle bo iaith yn
digwydd dirywio; hynny yw, mai‟r unig ymateb priodol a chyfiawn i achos o
ddirywiad ieithyddol yw cymryd camau brys i geisio atal a gwrthdroi‟r dirywiad
hwnnw.
Aethpwyd ati i ystyried dichonolrwydd y safbwynt hwn trwy holi, i ddechrau,
a yw dirywiad iaith yn broses sy‟n medru esgor ar ganlyniadau niweidiol. Gwelwyd
bod hyn yn bosib, trwy drafod dwy ddadl bwysig sy‟n tystio i‟r hyn y gellid ei golli
wrth i iaith ddirywio y ddadl sy‟n tystio i bwysigrwydd amrywiaeth ieithyddol y byd
ac hefyd y ddadl sy‟n tystio i bwysigrwydd y cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth. Fodd
bynnag, fel a nodwyd, un peth yw derbyn bod gweithred neu broses yn meddu ar
oblygiadau anodd neu niweidiol, peth arall yw derbyn bod y goblygiadau hynny mor
niweidiol fel y dylid ymrwymo i atal a gwrthdroi‟r weithred neu‟r broses dan sylw ym
mhob sefyllfa. Mae hyn yn golygu gosod y dasg ar wastad moesol arbennig o uchel,
ac yn ystod adran olaf y bennod gwelwyd na ellid cyfiawnhau cymryd cam o‟r fath yn
achos ymdrechion i atal a gwrthdroi dirywiad iaith. Yn bennaf, roedd hyn yn deillio
o‟r ffaith na ellid dehongli‟r niwed a gysylltir â dirywiad iaith fel un cwbl ddifrifol a
72
dinistriol ac hefyd nad yw‟r niwed yn un sy‟n hollgyffredinol o ran ei arwyddocâd
moesol.
O ganlyniad, ni ellir llunio dadl sy‟n caniatáu i ryddfrydwyr drin y dasg o
geisio atal a gwrthdroi dirywiad iaith fel rhywbeth sy‟n hanfodol o safbwynt
cyfiawnder ym mhob sefyllfa dan haul. Ond beth yw goblygiadau‟r casgliad hwn i‟r
bobl sy‟n tueddu i sefydlu cyswllt go bendant go bendant rhwng cyfiawnder a‟r angen
i adfer gwahanol ieithoedd? A yw dadl o‟r fath yn meddu ar unrhyw hygrededd? Tra
na ellir trin adferiad iaith fel tasg hanfodol o safbwynt cyfiawnder ym mhob achos, a
ellir dadlau ei fod yn weithred y mae cyfiawnder yn galw arnom i‟w sicrhau mewn
rhai amgylchiadau penodol? Dyma fydd pwnc trafod y bennod nesaf.
73
3. Adferiad Iaith: Dim Mwy na Gweithred
Dderbyniol?
1. Cyflwyniad
Yn y bennod flaenorol, gwelwyd nad oes modd i athronwyr rhyddfrydol drin adferiad
iaith fel tasg sy‟n gwbl hanfodol o safbwynt cyfiawnder ym mhob sefyllfa dan haul.
Ymhlith pethau eraill, byddai dehongli adferiad iaith mewn termau absoliwt o‟r fath
yn golygu bod yn rhaid trin galwadau pob math o grŵpiau ieithyddol yn yr un modd.
Byddai hyn yn golygu gosod galwadau adferol o du mudwyr ethnig ar yr un gwastad
moesol a galwadau cenhedloedd lleiafrifol. Dadleuwyd nad yw hyn yn gam
rhesymegol a theg ac felly dylid gochel rhag dehongli adferiad iaith fel gweithred sy‟n
gwbl hanfodol o safbwynt cyfiawnder ym mhob achos. Fodd bynnag, mae‟r casgliad
hwn yn arwain at gwestiwn newydd. Tra na ellir trin adferiad iaith fel gofyniad
moesol sylfaenol y dylid ei fynnu ym mhob achos, a ellir dadlau ei fod yn weithred y
mae cyfiawnder yn galw arnom i‟w sicrhau mewn rhai amgylchiadau penodol, er
enghraifft yn achos cenhedloedd lleiafrifol?
Hyd yn hyn, mae‟r criw bach iawn o athronwyr rhyddfrydol sydd wedi
ystyried y broses o adfer iaith wedi bod yn amharod i gymryd cam o‟r fath. Yn ogystal
â chredu fod y dehongliad absoliwt o statws moesol adferiad iaith yn ddi-sail, mae
rhyddfrydwyr megis David Laitin a Rob Reich (2003) a hefyd Will Kymlicka (2007b)
wedi dewis dadlau yn erbyn y safbwynt mwy cyfyngedig, sy‟n dehongli adferiad fel
mater o gyfiawnder mewn rhai amgylchiadau penodol. Dylid nodi nad yw‟r athronwyr
hyn yn awgrymu fod unrhyw beth sy‟n sylfaenol annerbyniol o safbwynt rhyddfrydol
ynglŷn ag ymdrech gan genedl leiafrifol i adfer sefyllfa iaith draddodiadol. Eto i gyd,
74
maent yn amharod i drin gweithred o‟r fath fel rhywbeth sy‟n angenrheidiol o
safbwynt cynnal cyfiawnder. Am amryw o resymau, credir na fyddai‟n briodol gosod
adferiad iaith ar wastad moesol o‟r fath. Yn hytrach, dadleuir y dylid ei drin fel dim
mwy na gweithred dderbyniol hynny yw, un o‟r amrediad eang o weithredoedd sy‟n
ddigon derbyniol mewn cymdeithas ryddfrydol a democrataidd, ond eto nid rhywbeth
sy‟n angenrheidiol o safbwynt cynnal cyfiawnder.
Fodd bynnag, i ba raddau mae hyn yn gasgliad teg? Ai dim ond fel gweithred
dderbyniol y dylai rhyddfrydwyr ddehongli‟r dasg o adfer iaith? Dyma‟r cwestiynau y
ceisir eu hateb yn ystod y bennod hon, ac fe wneir hynny trwy gynnig ymdriniaeth
feirniadol o ddadleuon y sawl sydd wedi argymell mabwysiadu‟r safbwynt derbyniol.
I ddechrau, ceir amlinelliad llawn o ddadleuon Laitin a Reich, ac yn dilyn hynny, ceir
amlinelliad o ddadleuon Kymlicka. Yna, eir ati i amlinellu cyfres o wendidau sy‟n
perthyn i safbwyntiau‟r athronwyr hyn, ac wrth wneud hynny, ceisir pwyso a mesur i
ba raddau y mae‟r gwendidau a nodir yn rhai sy‟n ddigon sylweddol i gyfiawnhau
camu ymlaen a cheisio fframio adferiad ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol fel mater o
gyfiawnder.
2. David Laitin a Rob Reich Y Safbwynt Rhyddfrydol-Democrataidd
Noda Laitin a Reich mai aelodau o genhedloedd lleiafrifol yw prif ladmeryddion y
gred y dylid trin adferiad ieithyddol fel mater o gyfiawnder. Yn nhyb y sawl sy‟n
arddel safbwynt o‟r fath, mae unrhyw ddirywiad ieithyddol a welwyd dros y
blynyddoedd wedi deillio o anghyfiawnder ac mewn amgylchiadau o‟r fath dylai
75
cyfiawnder ddatgan ei bod hi‟n angenrheidiol fod camau‟n cael eu cymryd i
drawsnewid y sefyllfa:
In this view, justice requires asking how historical injustices that marginalized
once-thriving language communities can be remedied, so that marginalized
languages, and the value of these languages to the identities of their speakers,
can be restored. The focus here is on revitalizing languages that have waned in
use over generations ... this view is most often promoted by representatives of
national minority groups (Laitin a Reich 2003: 81).
Yn nhyb Laitin a Reich, derbyniodd y safbwynt hwn fynegiant academaidd yng
ngwaith Stephen May (2001 a 2003). I ddechrau, mae May yn cytuno â‟r aelodau o
genhedloedd lleiafrifol sy‟n mynnu bod dirywiad eu hiaith draddodiadol wedi deillio o
anghyfiawnder. Yn ogystal, honna Laitin a Reich fod May yn dadlau fod
pwysigrwydd moesol y nod o adfer iaith yn cael ei atgyfnerthu gan y dyhead clir sy‟n
bodoli ymhlith aelodau o genhedloedd lleiafrifol i weld eu hiaith draddodiadol yn cael
ei dyrchafu unwaith eto. Disgrifia Laitin a Reich ei safbwynt fel a ganlyn: „If this is
what marginalized people want, and they have been driven to marginalization by
dominant groups, the dominant groups should facilitate ... a remedy in which the
marginalized languages are revivified‟ (Laitin a Reich 2003: 85). At ei gilydd felly,
mae May o‟r farn y dylid trin adferiad ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol fel mater o
gyfiawnder.
Mae Laitin a Reich yn barod i gytuno â rhai agweddau o safbwyntiau
sylwebwyr megis May. Er enghraifft, maent yn ddigon hapus i gydnabod bod
dirywiad ieithoedd nifer o genhedloedd lleiafrifol wedi deillio, yn rhannol o leiaf, o
anghyfiawnder hanesyddol. Yn hyn o beth, maent yn derbyn nad yw sylwadau
beirniadol rhywun megis Brian Barry (2001) ynglŷn ag ymdrechion i adfer ieithoedd
yn rhai cwbl deg. Nodweddir safbwynt Barry gan duedd gref i awgrymu mai
76
dewisiadau rhydd gan unigolion sydd yn gyfrifol am ddirywiad gwahanol ieithoedd.
Mewn cyd-destun o‟r fath mynna nad oes unrhyw sail i ymdrechion adferol: „A liberal
society cannot adopt policies designed to keep a language in existence if those who
speak it prefer to let it go‟ (Barry 2001: 65). Fodd bynnag, fel y nodir gan Laitin a
Reich, nid yw safbwynt o‟r fath yn rhoi digon o ystyriaeth i effeithiau annhegwch ac
anghyfiawnder hanesyddol: „he (Barry) rather quickly skirts around the issue of
whether historical injustices towards a group require remedy‟ (Laitin a Reich 2003:
87).
Eto i gyd, er y gwendid hwn, mynna Laitin a Reich fod Barry yn llwyddo i
dynnu sylw at un gwendid pwysig yn nadl y sawl sy‟n dewis dehongli adferiad
ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol fel mater o gyfiawnder: „Barry rightly zeroes in on
the principal flaw of the nationalist logic‟ (Laitin a Reich 2003: 87). Mae‟r gwendid
hwn yn ymwneud â‟r ail o honiadau May a drafodwyd uchod – hynny yw'r dyhead
honedig am adferiad ymhlith aelodau‟r genedl. Dadleuir fod sylwebwyr megis May yn
tueddu i orgyffredinoli‟r dyhead hwn, gan gymryd yn ganiataol fod budd pob un o
aelodau‟r genedl yn gysylltiedig â‟r ymdrech i sicrhau adferiad yr iaith: „May and
many nationalists err when they portray a marginalized cultural group as inevitably
having an abiding interest in sustaining ancestral cultural forms‟ (Laitin a Reich 2003:
87). Yn nhyb Laitin a Reich, er bod dirywiad ieithoedd nifer o genhedloedd yn aml yn
deillio o anghyfiawnder o ryw fath, dylid gochel rhag cymryd yn ganiataol y bydd
pawb felly yn dymuno gweld yr ieithoedd hyn yn cael eu hadfer: „It may be true, of
course, that most members of most national minorities do seek to retain their mother
tongue and transmit it to future generations. But the point is that we cannot assume
77
this as a matter of course‟ (Laitin a Reich 2003: 90). Trwy anwybyddu‟r pwynt
pwysig yma, awgrymir fod sylwebyddion megis May, ac hefyd aelodau amryw o
genhedloedd lleiafrifol, yn euog o anwybyddu „vital elements of empirical reality‟
(Laitin a Reich 2003: 81).
Canlyniad y gwendid hwn, yn ôl Laitin a Reich, yw codi cwestiynau ynglŷn ag
i ba raddau y mae‟n briodol i ryddfrydwyr ystyried adferiad ieithoedd cenhedloedd
lleiafrifol fel mater o gyfiawnder. Awgrymir y byddai gwneud hynny, gan greu
cysylltiad rhy gadarn rhwng cyfiawnder a‟r angen i adfer iaith, yn gam peryglus o
safbwynt rhyddfrydol. Byddai‟n golygu mai dim ond un trywydd polisi y gellid ei
ystyried fel un derbyniol, ac fe fyddai hyn yn gwrthdaro â‟r pwyslais traddodiadol
ymhlith rhyddfrydwyr ar ymreolaeth unigol. Dyma egwyddor sy‟n datgan y dylai
unigolion feddu ar y rhyddid i gloriannu, addasu, ac ar adegau, ymwrthod ag
agweddau o‟u hetifeddiaeth gymdeithasol neu ddiwylliannol os ydynt yn dymuno
gwneud hynny. Yn nhyb Laitin a Reich, os yw rhyddfrydwyr am gymryd yr egwyddor
hon o ddifrif, yna mae‟n rhaid derbyn y bydd pobl yn dod i amryw o gasgliadau
gwahanol ynglŷn â‟r dyfodol y maent yn ei ddeisyfu i iaith draddodiadol eu cenedl:
In our view, theorists should not assume that access to one‟s own societal
culture is what every individual wants. We should make no assumptions about
people‟s preferences on this matter, for if ... individual autonomy endows
people with this capacity to revise and even reject their ancestral traditions,
including their language, we can expect the preferences of individuals to vary,
even within national minorities, on the subject of language (Laitin a Reich
2003: 91).
O ystyried hyn, gellir gweld pam y byddent yn amheus o‟r duedd i ddiffinio adferiad
ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol fel mater o gyfiawnder. Yn eu tyb hwy, byddai
hynny‟n golygu clymu aelodau‟r genedl i lwybr ieithyddol penodol, ac yn y broses, yn
78
rhoi statws uchel iawn i ddyheadau rhai aelodau, tra‟n diystyru teimladau a
dyheadau‟r aelodau hynny sydd, am wahanol resymau, ddim yn dymuno gweld yr
iaith yn cael ei hadfer. Am hynny, datgenir: „In disregarding the preferences of
potential assimilators, nationalist commentators are fundamentally illiberal‟ (Laitin a
Reich 2003: 87).
Felly, mae Laitin a Reich o‟r farn na ddylai rhyddfrydwyr geisio fframio‟r
alwad i adfer ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol fel mater o gyfiawnder. Yn eu tyb hwy,
dylai‟r pwyslais rhyddfrydol ar ymreolaeth unigol olygu eu bod yn gwrthod dilyn
trywydd o‟r fath. Gan fod pobl yn debygol o ddod i gasgliadau amrywiol ynglŷn â
dyfodol iaith y genedl, dylid gochel rhag dadlau fod cyfiawnder ieithyddol yn
ddibynnol ar weithredu polisïau sy‟n arwain i gyfeiriad penodol. Yn hytrach, mynna
Laitin a Reich y dylid derbyn nad yw egwyddorion rhyddfrydol yn cynnig unrhyw
arweiniad pendant ynglŷn â natur a chyfeiriad y polisïau ieithyddol y dylid eu
mabwysiadu. O ganlyniad, dylid bod yn barod i ymddiried yng ngallu ein prosesau
democrataidd arferol i‟n harwain at ganlyniadau teg:
We wish here to defend a liberal democratic approach to linguistic justice. It
views the resolution of many questions and problems of linguistic justice as
the proper subject of the messy contestation of democratic politics rather than
as the result of clean specifications from first principles (Laitin a Reich 2003:
92).
Felly, yr hyn sy‟n hanfodol bwysig o safbwynt cyfiawnder ym maes polisi iaith yw
nid y parodrwydd i fabwysiadu cyfeiriad polisi penodol, ond yn hytrach bodolaeth y
math o amgylchiadau cefndirol sy‟n caniatáu trafodaeth ddemocrataidd agored ynglŷn
â‟r opsiynau posib.
79
O sicrhau‟r amgylchiadau democrataidd hyn, bydd pawb yn meddu ar yr un
cyfle i roi mynegiant i‟w dyheadau ieithyddol gwahanol. Wrth gwrs, bydd
penderfyniad ar gyfeiriad polisi penodol yn gorfod cael ei gymryd yn y pen draw, ond
bydd y penderfyniad hwn yn deillio o ymrafael democrataidd agored a theg rhwng
amrediad o ddyheadau cyfartal, yn hytrach na thuedd i ddyrchafu dyheadau un garfan
uwchlaw rhai pawb arall:
A liberal democratic approach views any citizen or set of citizens in a state as
possessing the right to mobilize support for a language community or language
policies that it considers a collective or public good. All citizens have an equal
right to exert electoral or interest-group pressure, to foster broader coalitions,
and to engage the broader polity in democratic deliberation in the quest to
provide this collective or public good (Laitin a Reich 2003: 93).
Felly, mae Laitin a Reich o‟r farn y dylid cyfyngu ar arwyddocâd moesol y galwadau i
adfer ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol. Yn hytrach na cheisio‟u fframio fel mater o
gyfiawnder sylfaenol, dadleuir y dylid trin y galwadau hyn fel unrhyw ddyhead neu
flaenoriaeth wleidyddol gyffredin. Golyga hyn eu bod yn perthyn i‟r dosbarth eang
hwnnw o amcanion derbyniol; rhywbeth y gall dinasyddion ei gynnig a‟i hyrwyddo
trwy gyfrwng trefniadau democrataidd, ond eto nid rhywbeth sy‟n meddu ar unrhyw
arwyddocâd o safbwynt cynnal cyfiawnder.
Ble mae hyn yn gadael y sawl sydd yn frwd o blaid y nod o adfer ieithoedd
cenhedloedd lleiafrifol? Pe bai‟r garfan yma yn llwyddo i adeiladu cefnogaeth
gyhoeddus i‟r amcan o adfer iaith benodol, yna, yn nhyb Laitin a Reich, byddai‟n
gwbl dderbyniol i lywodraeth ryddfrydol ddefnyddio adnoddau cyhoeddus i geisio
cyflawni‟r nod hwnnw. Eto i gyd, gan nad yw adferiad iaith yn haeddu cael ei
ddehongli fel mater o gyfiawnder, rhaid derbyn mai derbyniol yn unig fydd amcan o‟r
fath. Ni all feddu ar unrhyw arwyddocâd moesol pellach. Caiff y safbwynt yma ei
80
grynhoi yn effeithiol gan Patten a Kymlicka (2003), wrth iddynt drafod arwyddocâd
dadl Laitin a Reich:
Language security belongs in a class of goods the provision for which out of
general tax revenues is neither required nor prohibited by considerations of
justice. For these goods, the correct level of provision by the state is a function
of what the democratic process decides. If, after due deliberation, a majority
wish to devote public resources to protecting a particular language, then it is
reasonable and legitimate for the state to pursue such a goal. If, on the other
hand, the majority is uninterested in language preservation, then no
fundamental norm is being violated if the language subsequently dies out or is
marginalized (Patten a Kymlicka 2003: 49; pwyslais wedi‟i ychwanegu).
Yn hyn o beth, caiff galwadau i adfer iaith eu trin yn yr un modd a galwadau i
ddarparu cefnogaeth gyhoeddus i gwmnïau opera neu glybiau chwaraeon (Laitin a
Reich 2003: 95). Os oes cefnogaeth gyhoeddus i‟r syniad o ddarparu adnoddau
cyhoeddus i gefnogi a datblygu gwaith y sefydliadau hyn, yna mae‟n gwbl briodol fod
llywodraethau rhyddfrydol democrataidd yn gwneud hynny. Ond, os yw llywodraeth
yn digwydd penderfynu peidio gwneud hynny, ar sail y ffaith nad oes cefnogaeth
sylweddol i‟r syniad, nid yw hynny yn esgor ar unrhyw anghyfiawnder sylfaenol.
Wrth gwrs, gall y penderfyniad fod yn destun siom a hyd yn oed dicter i rai carfanau o
fewn cymdeithas, ond, er gwaethaf hynny, go brin y gellid dadlau ei fod yn
tramgwyddo ystyriaethau sylfaenol ynglŷn â chyfiawnder. Fel y noda Laitin a Reich,
„In the abstract, we regard the construction of a new language community or the
reconstruction of a formerly oppressed language community in a morally neutral way‟
(Laitin a Reich 2003: 94 95).
Dylid nodi fod Laitin a Reich yn gwadu eu bod yn euog o ddiystyru‟r
arwyddocâd y mae aelodau cenhedloedd lleiafrifol yn ei briodoli i‟w hieithoedd
traddodiadol. Er enghraifft, maent yn barod i gydnabod nad yw trafodaethau ynglŷn â
81
pholisi iaith yn union yr un peth a thrafodaethau ynglŷn â datblygiadau celfyddydol
neu chwaraeon: In practice, language issues are not the moral equivalent of
preferences about sports stadiums‟ (Laitin a Reich 2003: 95). Eto i gyd, nid ydynt o‟r
farn y dylid ffurfioli‟r gwahaniaeth hwn mewn dadl normadol:
We agree that language policies are not on a moral or political par with
culinary, automotive, or artistic options, yet we see no need at the level of
theory to give pre-eminence to constitutive identity markers ... we are not
diminishing its value to its speakers. We hold instead that the value of one‟s
ancestral language may be deep, but that is best revealed through cultural,
social and political action (Laitin a Reich 2003: 95).
Felly, yn nhyb Laitin a Reich, os yw‟r iaith wir yn nodwedd sy‟n meddu ar gryn
arwyddocâd i aelodau‟r genedl, bydd hynny‟n cael ei adlewyrchu mewn gweithgaredd
gwleidyddol o‟i phlaid.
Hanfod dadl Laitin a Reich felly yw‟r gred y dylai rhyddfrydwyr fod yn fwy
parod i ymddiried yng ngweithrediad ein prosesau gwleidyddol a democrataidd arferol
wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chyfeiriad polisïau iaith. Maent o‟r farn fod hyn
yn rhagori ar geisio llunio cyfarwyddiadau ar sail trafodaethau athronyddol
cyffredinol:
Our liberal democratic alternative brings politics back into liberalism. It
encourages groups to seek linguistic remedies through political agitation, legal
confrontation, and moderate levels of coercion ... Under liberal democratic
conditions, linguistic revivals will rarely succeed, as the votes for the creation
of linguistic communities are hard to harvest. But when linguistic revivals do
succeed, they will be a product of democracy properly tempered by liberal
principles (Laitin a Reich 2003: 103).
Er mwyn ategu‟r pwynt hwn, ac er mwyn dangos sut byddai eu model normadol
amgen yn gweithio‟n ymarferol, cyfeirir at y drafodaeth a gafwyd yng Nghatalonia yn
ystod y 1990au ynglŷn â chyfeiriad polisi iaith y genedl honno. Dyma drafodaeth a
arweiniodd at basio deddfwriaeth iaith newydd ym 1998. Roedd y ddeddfwriaeth hon
82
yn ymestyn ar waith y ddeddf iaith wreiddiol a basiwyd ym 1983 er mwyn ailgodi
statws y Gatalaneg yn dilyn cwymp Franco. Yn nhyb Laitin a Reich, roedd natur y
drafodaeth a gafwyd yng Nghatalonia yn dangos yn glir pam ddylai rhyddfrydwyr fod
yn fwy parod i ymddiried yn ein trefniadau democrataidd arferol wrth ddod i
benderfyniadau mewn meysydd diwylliannol megis polisi iaith:
The debates over this act, pitting those seeking individual rights for non-
Catalan speakers against those seeking remedial rights to the community for
centuries of discrimination by the Spanish state, were filled with rancour.
Partisans on both sides accused their opponents of bad faith. But, all told,
democratic procedures were followed, and both sides to the debate were
constrained by liberal principles. Eventually the CiU proposal (h.y. cynnig y
llywodraeth) was passed by an overwhelming majority, including many
legislators whose ancestry was not Catalan. Deliberation had therefore brought
something approaching a consensus. As liberal democrats we applaud this
form of politics, as it represents an appropriate political response to the fact of
pluralism (Laitin a Reich 2003: 97).
O ganlyniad trafodaeth ddemocrataidd agored tebyg i hon yw‟r dull gorau i
benderfynu ynglŷn â chyfeiriad polisi iaith. Ar adegau, gall hyn arwain at fabwysiadau
polisi adferol fel yn achos Catalonia, ond ar adegau eraill mae‟n bosib y dewisir dilyn
rhyw gyfeiriad arall. Mae hyn yn gwbl dderbyniol yn nhyb Laitin a Reich, gan mai
tegwch yr amgylchiadau cefndirol sy‟n bwysig yn y pen draw ac nid natur y polisi
iaith a gaiff ei fabwysiadu. Dyma felly sut y cred Laitin a Reich y dylai rhyddfrydwyr
gysyniadoli statws moesol galwadau i adfer ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol. Trown
yn awr i ystyried rhai o ddadleuon Will Kymlicka.
3. Will Kymlicka Cydnabod Galwadau Siaradwyr Mamiaith
Dechreua Will Kymlicka trwy gydnabod fod rhyddfrydwyr, ar y cyfan, o‟r farn ei bod
hi‟n gwbl briodol i gymdeithas wneud penderfyniadau ynglŷn â safbwyntiau a
dyheadau gwleidyddol cyffredin trwy gyfrwng ein trefniadau democrataidd arferol.
83
Golyga hyn fod barn y mwyafrif yn cael ei ffafrio pan fo‟r farn honno yn cael ei
mynegi trwy gyfrwng trafodaeth gyhoeddus rydd a theg. Fel y noda Kymlicka, The
default position is that majority decision making is legitimate and that this default
position holds so long as the issues under consideration are essentially tastes and
preferences‟ (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 3). Eto i gyd, tra‟n cydnabod fod y
trefniadau democrataidd hyn yn ddigon derbyniol wrth wneud penderfyniadau mewn
perthynas â phynciau gwleidyddol cyffredin, mae Kymlicka hefyd yn pwysleisio y
dylai rhyddfrydwyr dderbyn bod angen gwneud mwy na dim ond dibynnu ar farn y
mwyafrif pan fo‟r pwnc dan sylw yn un o arwyddocâd sylweddol. Bryd hynny, bydd
gan bobl sail i ddadlau y dylid dilyn llwybr polisi arbennig, beth bynnag fo barn y
mwyafrif, gan fod gwneud hynny‟n cael ei ystyried yn bwysig o safbwynt cyfiawnder.
Fel y gwelwyd, nid yw David Laitin a Rob Reich (2003) yn credu y dylai
rhyddfrydwyr osod y dasg o adfer iaith yn yr ail ddosbarth hwn, gan gysyniadoli
galwadau o‟r fath fel rhai pwysig o safbwynt cyfiawnder. O ganlyniad, maent hwy yn
berffaith hapus i ddadlau fod ein mecanweithiau democrataidd arferol yn cynnig dull
cwbl briodol o wneud penderfyniadau ym maes polisi iaith. Fodd bynnag, nid yw
Kymlicka‟n barod i gamu‟n syth i‟r un cyfeiriad â hwy. Yn ei dyb ef, cyn gellir
gwneud hynny mae angen meddwl mwy ynglŷn â‟r graddau y dylai gwahanol
alwadau ieithyddol gael eu trin fel rhai sy‟n gwarchod buddiannau arbennig.
Eglura mai ei fan cychwyn wrth ystyried y mater hwn yw holi a fyddai gan
aelodau o genedl leiafrifol sail i gwyno, gan ddadlau eu bod yn dioddef
anghyfiawnder, pe bai‟r prosesau democrataidd arferol yn digwydd arwain at sefyllfa
84
lle nad yw‟r iaith leiafrifol yn derbyn unrhyw gefnogaeth. Fel y noda, I always think
that a good way to think about normative issues is to ask; if a decision goes one way,
who has a legitimate reason for complaining that an injustice has been done?
(Kymlicka 2007b: Cyfweliad 3). Os yw‟r dasg o adfer iaith yn haeddu cael ei dehongli
fel mater o gyfiawnder, yna, yn ôl dadl Kymlicka, mae angen dangos sut y byddai
peidio â mabwysiadu polisi sy‟n anelu at nod o‟r fath yn gyfystyr â chynnal
anghyfiawnder.
Er mwyn meddwl ymhellach ynglŷn â hyn, mae Kymlicka‟n amlinellu
enghraifft ddychmygol. Awgrymir fod refferendwm yn cael ei gynnal mewn cenedl
leiafrifol i benderfynu a ddylid gweithredu polisi iaith sy‟n anelu i gefnogi sefyllfa‟r
iaith draddodiadol. Awgrymir hefyd fod y refferendwm hwn yn esgor ar ganlyniad
sy‟n gwrthod y syniad o ddatblygu polisi o‟r fath ac felly nad yw‟r llywodraeth yn
gwneud dim i gefnogi‟r iaith. Mewn sefyllfa o‟r fath, a fyddai rhai o aelodau‟r genedl,
yn nhyb rhyddfrydwyr, yn medru hawlio fod peidio cydnabod a chefnogi‟r iaith mewn
unrhyw fodd yn anghyfiawn? Dadleua Kymlicka y byddai gan y sawl sy‟n siarad yr
iaith fel mamiaith sail gref i ddadlau nad yw sefyllfa o‟r fath yn un teg:
... if the people who were on the losing side of the referendum those who
wanted to see an active language revival policy developed were then to go to
a court of justice of political philosophers, the mother tongue speakers could
say that while there may not be a fifty plus one majority at present in favour of
an active language revival policy, they still have a claim of justice that
maintains that certain things should be provided because they are mother
tongue speakers (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 1).
A siarad yn gyffredinol, gellir tybio y byddai hyn yn golygu sicrhau bod yr iaith yn
derbyn cydnabyddiaeth swyddogol a bod ei siaradwyr yn medru derbyn amrediad o
wasanaethau cyhoeddus allweddol yn yr iaith honno. Eto i gyd, dim ond y siaradwyr
85
mamiaith a fyddai‟n medru hawlio‟r pethau hyn fel mater o gyfiawnder. Mae
Kymlicka‟n mynegi amheuaeth ynglŷn â‟r graddau y byddai aelodau eraill o‟r genedl
pobl sydd efallai ddim yn siaradwyr mamiaith, ond sydd, er hynny, yn gefnogol
iawn i‟r iaith – yn medru dadlau eu bod hwythau hefyd yn dioddef annhegwch yn sgil
canlyniad anffafriol y refferendwm:
If the people who are not mother tongue speakers, but who have a preference
that the Welsh language be strengthened and who voted for it but lost in the
referendum went to the same court of political philosophers and said that the
referendum should be overturned because they have a claim of justice due to
the fact that they are citizens of Wales, because Welsh is the traditional
language of Wales, and that because, in some sense, Welsh is a common
inheritance of Welsh people and that therefore the matter should be taken out
of the traditional democratic decision making process because it is a right that
they have. Here my response would be „I‟m not so sure‟ (Kymlicka 2007b:
Cyfweliad 1).
Ond, ar ba sail gellir priodoli statws normadol uwch i ddadleuon y siaradwyr
mamiaith?
Awgryma Kymlicka y dylid gwahaniaethu rhwng galwadau‟r ddau grŵp
uchod gan mai dim ond un ohonynt, sef y siaradwyr mamiaith, sydd, yn ei dyb ef, yn
medru hawlio fod darparu‟r lefel sylfaenol o gydnabyddiaeth ieithyddol a
ddisgrifiwyd uchod yn debygol o warchod buddiannau pwysig. Neu, o fynegi‟r pwynt
mewn modd ychydig yn wahanol, dim ond y siaradwyr mamiaith all ddadlau y byddai
gwrthod darparu‟r pethau hyn yn esgor ar niwed difrifol. Fel y nodwyd, mae dangos
hyn yn hanfodol er mwyn sefydlu pam dylai rhyddfrydwyr wneud mwy na dim ond
dibynnu ar rediad ein trefniadau democrataidd wrth wneud penderfyniadau mewn
meysydd megis polisi iaith. Nid yw Kymlicka o‟r farn fod aelodau eraill o‟r genedl yn
medru cyflwyno dadl mor gryf ac felly ni ellir rhoi'r un statws i‟w galwadau hwy:
86
... the people that can plausibly claim that they have linguistic interests that
could trump or could set constraints on majority decision making are going to
be those who are mother tongue speakers. People may have a strong
preference to learn a language or to use it, but that‟s just a preference that we
throw into the mix of majority decision making and democracy is a fair
decision making procedure for dealing with varying preferences. But, for
mother tongue speakers it‟s more of a right, or more of a need than just a
preference (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 3).
Felly, yn nhyb Kymlicka, ceir gwahaniaeth pwysig rhwng statws galwadau‟r ddau
grŵp. Yn achos y siaradwyr mamiaith, gall elfen o gefnogaeth ieithyddol gael ei
hystyried fel angen pwysig. Ond, yn achos y sawl sydd ddim yn siaradwyr mamiaith,
ni ellir ond dehongli cefnogaeth o‟r fath fel dymuniad ac nid angen.
Ar sail ei ystyriaeth o‟r achos dychmygol uchod, daw Kymlicka i‟r casgliad
fod yna ddyletswydd arnom i sicrhau fod y sawl sy‟n siarad iaith cenedl leiafrifol fel
mamiaith yn meddu ar amrediad o gyfleoedd i ddefnyddio‟r iaith honno:
... unless certain policy steps are taken mother tongue speakers of Welsh or
Irish have a very strong basis for complaining that an injustice has been done
to them. But everyone else has to make their case, and then if the policy
happens to end up being weaker or stronger than they desire, they do not have
the same cause for complaint (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 1).
O ganlyniad, mae Kymlicka yn derbyn y gall rhai aelodau o genhedloedd lleiafrifol
hawlio rhai pethau pwysig fel mater o gyfiawnder. Mae hwn yn wahaniaeth pwysig
rhwng ei safbwynt ef ac un Laitin a Reich. Yn nhyb Kymlicka, ni ellir dibynnu‟n
llwyr ar y mecanweithiau democrataidd arferol wrth wneud penderfyniadau ym maes
polisi iaith, gan fod rhai galwadau ieithyddol galwadau‟r siaradwyr mamiaith – yn
meddu ar statws uwch na‟r cyffredin. O ganlyniad, dylid gweithredu rhai polisïau
ieithyddol beth bynnag fo barn y mwyafrif. Eto i gyd, rhaid holi beth yw
goblygiadau'r ddadl benodol hon o eiddo Kymlicka i drafodaeth y bennod hon ynglŷn
â sut dylai rhyddfrydwyr ddehongli statws moesol y nod o adfer iaith?
87
Gwelwyd fod Kymlicka‟n barod i gydnabod bod galwadau‟r sawl sy‟n siarad
iaith cenedl leiafrifol fel mamiaith yn rhai sy‟n meddu ar statws arbennig ac felly
dylai‟r dasg o gydnabod y galwadau hyn gael ei thrin fel mater o gyfiawnder. Er
hynny, mae‟n bwysig sylweddoli fod hyn yn wahanol iawn i drin yr amcan mwy
cyffredinol o adfer iaith y genedl fel galwad sy‟n meddu ar statws o‟r fath. Wrth gwrs,
dylid nodi nad yw‟r math o gefnogaeth y mae Kymlicka‟n dychmygu y dylid ei
darparu i siaradwyr mamiaith fel mater o gyfiawnder, o anghenraid, yn gyfyng ei
natur. Yn wir, fel y mae ef ei hun yn barod i gydnabod ar fwy nag un achlysur, gallai
cefnogaeth o‟r fath fod yn bellgyrhaeddol, gan alluogi‟r siaradwyr hyn i ddefnyddio‟u
hiaith mewn amrediad eang o sefyllfaoedd:
... government has a duty to respect and to enable people whose mother tongue
is a national minority language to be able, not just learn that language, but also
to use it and to create the conditions under which that will not be a
disadvantage to them and therefore to make it a language of opportunity and
prestige and so on. I think that when you are talking about people who have a
national minority language as their mother tongue, that in fact the state has a
duty to enable those people to use it (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 1).
Yna, ychydig yn hwyrach yn yr un cyfweliad, mae‟n ychwanegu, they (h.y. y
siaradwyr mamiaith) have a right to use their language and to be able to pass it on and
also that it be a language of opportunity and so on. Indeed that may require extensive
support‟ (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 1). Yn sicr, ni fydd cefnogaeth o‟r fath yn
gwneud drwg i ragolygon iaith.
Eto i gyd, mae yna wahaniaeth pwysig rhwng amcan y math yma o gefnogaeth
a‟r amcan ehangach o geisio hybu adferiad iaith. Fel y gwelwyd yn ystod y drafodaeth
ym mhennod gyntaf y traethawd hwn, mae adfer iaith yn weithred sy‟n galw am
geisio gwrthdroi unrhyw shifft ieithyddol a fu yn y gorffennol. Yn aml, bydd hyn yn
88
cynnwys ceisio creu mwy o siaradwyr ac ymdrechu i annog mwy o bobl i
ddefnyddio‟r iaith mewn gwahanol beuoedd. Yn y bôn, mae ymdrechu i adfer iaith yn
golygu ceisio creu newid yn rhai o batrymau iaith y gymdeithas. Mae hyn yn wahanol
iawn i‟r math o amcan sydd gan Kymlicka mewn golwg. Ei amcan ef yw sicrhau fod
gan siaradwyr presennol yr iaith gyfleoedd i‟w defnyddio mewn rhai peuoedd
allweddol. Dyma, yn ei dyb ef, y dylai rhyddfrydwyr ymdrechu i‟w sicrhau fel mater
o gyfiawnder. Fodd bynnag, nid yw o‟r farn fod yr ymdrech ehangach i geisio
gwrthdroi shifft y gorffennol ac adfer sefyllfa‟r iaith yn meddu ar yr un statws
normadol:
... there is a significant normative difference between the claim that mother
tongue speakers of a minority language have a right that is that there is a
right to protect and develop the conditions where mother tongue speakers can
use their language and not be penalised for it and the claim that members of
a national minority have a right to revive a language. There is a normative
difference between these two claims (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 1).
O ganlyniad, mae trin adferiad iaith fel mater o gyfiawnder yn gam y mae Kymlicka‟n
amharod i‟w gymryd. Yn ei dyb ef, dim ond y syniad mwy cyfyng o gydnabyddiaeth
ieithyddol i siaradwyr mamiaith y dylai rhyddfrydwyr ystyried yn gam pwysig o
safbwynt cyfiawnder.
Wedi dweud hynny, mae‟n bwysig nodi nad yw Kymlicka‟n awgrymu fod yr
ymdrech ehangach i ddatblygu polisi sy‟n mynd ati i geisio adfer sefyllfa iaith cenedl
leiafrifol yn weithred sydd, o ran ei hanfod, yn annerbyniol o bersbectif rhyddfrydol.
Yn ei dyb ef, mae‟n gwbl briodol i lywodraeth ymgymryd â thasg o‟r fath os oes yna
gefnogaeth ddemocrataidd i‟r syniad. Yn wir, mae‟n bosib y gallai symudiad o‟r fath
ddeillio, fel canlyniad anuniongyrchol, o‟r camau a gymerir i sicrhau cyfiawnder i‟r
siaradwyr mamiaith (h.y. bod cefnogaeth gynyddol i‟r iaith yn datblygu ar draws y
89
gymdeithas a bod llywodraeth felly yn datblygu polisïau pellach). Fodd bynnag,
mae‟n pwysleisio fod cydnabod natur dderbyniol polisïau o‟r fath yn wahanol iawn i
ddweud fod yna bwysau moesol arnom i‟w datblygu fel mater gyfiawnder:
From my point of view, in relation to the question of reviving languages, I
don‟t have any problem saying that it should be permissible. There is no
intrinsic injustice in a substate nation or even a state such as Ireland
engaging in a deliberate policy of language planning to revive a language. But,
whether they have a right to do it and that other actors have a duty of justice to
make it possible for them to engage in this kind of revivalist language planning
is a stronger claim (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 1).
Hyd yn oed pe bai polisi iaith ehangach yn cael ei fabwysiadu maes o law, nid yw
Kymlicka o‟r farn y dylai rhyddfrydwyr ddechrau ystyried yr alwad i ymgymryd â
pholisi o‟r fath fel cam pwysig o safbwynt cyfiawnder.
Yr hyn a welir felly yw bod syniadau Kymlicka ynglŷn â statws moesol y nod
o adfer iaith cenedl leiafrifol yn debyg i syniadau Laitin a Reich. Wrth gwrs, rhaid
pwysleisio fod Kymlicka, yn wahanol i‟r ddau arall, yn barod i gydnabod y gall rhai
aelodau o genhedloedd lleiafrifol hawlio rhai pethau ieithyddol fel mater o
gyfiawnder. Yn ei dyb ef, dylai‟r sawl sy‟n siarad iaith y genedl fel mamiaith fedru
hawlio lefel sylfaenol o gydnabyddiaeth i‟r iaith honno, beth bynnag fo barn y
mwyafrif. O ganlyniad, nid yw‟n credu fod polisi iaith yn faes sy‟n gwbl rydd o
ystyriaethau ynglŷn â chyfiawnder. Fodd bynnag, fel y gwelwyd uchod, mae hyn yn
wahanol i drin y nod ehangach o adfer iaith fel mater o gyfiawnder. Fel Laitin a Reich,
mae Kymlicka‟n hapus i drin adferiad fel galwad wleidyddol gyffredin – dim ond un
o‟r nifer o amcanion derbyniol y gall dinasyddion eu cynnig a‟u hyrwyddo trwy
gyfrwng sefydliadau rhyddfrydol democrataidd, ond eto i gyd nid cam sy‟n bwysig o
safbwynt cynnal cyfiawnder.
90
4. Cloriannu’r Safbwynt ‘Derbyniol’
Gwelir felly sut y cred Laitin a Reich a Kymlicka y dylai rhyddfrydwyr ymateb i‟r
galwadau i adfer ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol. Nodir fod gweithredoedd o‟r fath
yn dderbyniol mewn cymdeithasau rhyddfrydol a democrataidd, ond wedi dweud
hynny, ni ddylid eu hystyried fel gweithredoedd angenrheidiol o safbwynt cynnal
cyfiawnder. Fodd bynnag, i ba raddau mae hyn yn gasgliad teg? Ai dim ond fel
gweithred dderbyniol y dylai rhyddfrydwyr ddehongli‟r dasg o adfer iaith? Fel y
gwelir yn ystod yr adran hon, gellir codi cwestiynau digon dilys ynglŷn â‟r graddau y
mae‟r safbwyntiau derbyniol a amlinellwyd uchod yn llwyddo i sicrhau triniaeth
ieithyddol deg i aelodau cenhedloedd lleiafrifol. Eto i gyd, i ba raddau y mae
gwendidau o‟r fath yn cynnig digon o sail i fedru camu ymlaen a dadlau fod adfer
ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol, wedi‟r cyfan, yn dasg y dylid ei thrin fel mater o
gyfiawnder?
4.1 Iaith, Hunaniaeth a Niwed
Eisoes, ym Mhennod 2, rhoddwyd sylw i‟r drafodaeth ynglŷn ag arwyddocâd iaith i
hunaniaeth grŵp diwylliannol. Bryd hynny, dadleuwyd na ellir trin y cyswllt rhwng
iaith draddodiadol a hunaniaeth y grŵp fel un cwbl hanfodol. Nodwyd y ceir amryw o
enghreifftiau lle mae iaith draddodiadol wedi dirywio boed hynny yn achos grŵp o
fudwyr ethnig neu genedl leiafrifol ond bod yr ymdeimlad o hunaniaeth unigryw a
fodolai ymhlith aelodau‟r grŵp wedi goroesi. Ond, tra‟n cydnabod na ddylid trin y
cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth fel un cwbl hanfodol, pwysleisiwyd y dylid gochel
rhag camu ymlaen i ddadlau fod iaith felly yn nodwedd sydd ddim yn meddu ar
unrhyw arwyddocâd arbennig. Yn hytrach, ategwyd dadleuon pwysig Stephen May
91
(2003). Yn nhyb May, un peth yw casglu nad yw iaith benodol yn rhan hanfodol o
hunaniaeth pob grŵp diwylliannol, peth arall yw awgrymu nad yw iaith yn nodwedd
sy‟n medru meddu ar gryn arwyddocâd.
Mentraf ddadlau y ceir nifer helaeth o genhedloedd lleiafrifol lle mae‟r iaith
draddodiadol wedi ac yn parhau i feddu ar arwyddocâd o‟r fath. Nid yw hyn yn
gyfystyr â dweud mai‟r iaith yw hanfod hunaniaeth y cenhedloedd hyn, ond mae‟n
sicr yn golygu cydnabod bod yr iaith yn nodwedd sydd, dros y blynyddoedd, wedi
cyfrannu‟n sylweddol at gynnal ymdeimlad o fodolaeth ac o arwahanrwydd ymhlith
yr aelodau. Fel y gwelir o‟i drafodaethau cyffredinol o oblygiadau amlddiwylliannedd,
mae Kymlicka hefyd yn ddigon parod i gydnabod y gall iaith draddodiadol feddu ar
gryn arwyddocâd i aelodau cenedl leiafrifol (Kymlicka 1989 a 1995a). Fodd bynnag,
trwy wahaniaethu mor bendant rhwng statws moesol galwadau siaradwyr mamiaith
o‟u cymharu â galwadau pobl eraill, a yw‟n awgrymu nad yw‟r arwyddocâd hwn yn
estyn i bob un o aelodau‟r genedl?
Os ydyw, yna byddai‟n rhaid casglu fod yr awgrym yn un amhriodol. O bosib,
bydd awgrym o‟r fath yn ymddangos yn ddigon rhesymol ar yr olwg gyntaf. Fodd
bynnag, wrth feddwl yn ofalus ynglŷn â‟r berthynas rhwng aelodau cenhedloedd
lleiafrifol a‟u hieithoedd gwelir y gellir codi amheuon ynglŷn â dilysrwydd safbwynt
sy‟n mynnu bod iaith y genedl ond yn meddu ar arwyddocâd i‟r sawl sy‟n ei siarad.
Daw hyn i‟r amlwg wrth ystyried rhai o ddadleuon yr athronydd Cymreig, J. R. Jones.
92
Mewn ysgrif yn dwyn y teitl A Raid i’r Iaith Ein Gwahanu (1967),1 dadleuodd
J. R. Jones bod hunaniaeth grŵp neu genedl yn gweithredu ar ddau wastad gwahanol –
y gwastad gweithrediadol a‟r gwastad ffurfiannol. Disgrifiodd y gwahaniaeth rhwng y
gwastadau hyn fel a ganlyn:
Gwahaniaeth ydyw rhwng dau wastad yn adeiladwaith Pobl (neu genedl) nid
annhebyg i‟r gwahaniaeth a dynnir yn adeiladwaith corff rhwng ei anatomi ar
y naill wastad ac, ar y gwastad arall ei „ffisioleg‟ sef y prosesau bywiol sy‟n
mynd ymlaen o fewn i glymau ei anatomi o funud i funud. Yr oedd hi‟n anodd
i gael gair Cymraeg am yr ail wastad hwn y gwastad lle mae Pobl neu genedl
yn byw eu bywyd o ddydd i ddydd ac o brofiad i brofiad, fel y mae‟r gwaed yn
cylchredeg yn y corff neu‟r bwyd yn treulio yn y coluddion. Fe rois yr enw y
„gwastad gweithrediadol‟ (functional) ... Galwaf y llall „y gwastad ffurfiannol‟
neu „wastad ffurfiant‟. Hwn sy‟n cyfateb i anatomi‟r corff (Jones 1978: 9
10).
Yn nhyb Jones, mae arwyddocâd rhai o‟r elfennau hynny, megis iaith draddodiadol,
sy‟n cyfrannu at lunio hunaniaeth genedlaethol yn medru cael ei fynegi mewn
gwahanol ffyrdd ar y ddau wastad yma y gweithrediadol a‟r ffurfiannol. I ddechrau,
ar y gwastad gweithrediadol, sef gwastad bywyd dydd i ddydd, caiff arwyddocâd yr
iaith ei amlygu wrth iddi gael ei defnyddio fel cyfrwng byw gan rai o aelodau‟r genedl
mewn amryw beuoedd cyhoeddus a phreifat. Ond, ar ben hynny, mae Jones yn
pwysleisio bod arwyddocâd iaith draddodiadol i genedl hefyd yn medru cael ei
amlygu ar y gwastad ffurfiannol. Dyma lefel ddyfnach, lle caiff arwyddocâd yr iaith ei
gyfleu nid trwy ei amlygrwydd arwynebol ym mywyd bob dydd aelodau‟r genedl, ond
yn hytrach yn sgil ei gyfraniad hanesyddol i‟r broses o greu a chynnal ymdeimlad o
hunaniaeth genedlaethol unigryw.
Ar sail y sylweddoliad hwn fod arwyddocâd elfennau o hunaniaeth
genedlaethol yn medru cael ei fynegi ar ddau wastad gwahanol, aiff Jones yn ei flaen i
1 Dyfynnir yma o‟r ailargraffiad a gyhoeddwyd ym 1978 gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac a
argraffwyd gan y Lolfa, Talybont. Argraffwyd y gwreiddiol gan Wasg Gomer, Llandysul.
93
godi amheuon ynglŷn â‟r honiad fod arwyddocâd iaith benodol i berson yn debygol o
ddiflannu pan fo‟r person hwnnw yn colli‟r gallu i‟w siarad. Yn ei dyb ef, nid yw dadl
o‟r fath ond yn canolbwyntio ar y cyswllt gweithrediadol rhwng person a iaith ac yn
anwybyddu‟r cyswllt sy‟n medru bodoli ar y gwastad ffurfiannol:
... tŷb gyfeiliornus yw hon – tŷb fas, seiliedig ar fethu tynnu‟r gwahaniaeth
rhwng bywyd beunyddiol Pobl, ar y naill law, a‟u ffurfiant, ar y llall – rhwng y
gwastad gweithrediadol a‟r gwastad ffurfiannol. Daliaf fi nad yw cysylltiad
Pobl â‟u hiaith – na‟u rhwymedigaeth, gan hynny, iddi – yn darfod pan
beidiant hwy mwyach a‟i medru. Canys y mae eu cysylltiad ffurfiannol â hi yn
aros, ac yn weladwy yn y ffaith eu bod hwy‟n bod fel Pobl wahanol (Jones
1978: 14).
Felly, wrth gymhwyso‟r ddadl hon i sefyllfa Cymru, fel y gwna Jones yn ei ysgrif,
gellir casglu bod yr iaith Gymraeg yn nodwedd sy‟n medru meddu ar gryn
arwyddocâd i holl aelodau‟r genedl ac nid dim ond y sawl sy‟n ei siarad. Deillia hyn
o‟r ffaith fod y Gymraeg nid yn unig yn iaith a gaiff ei defnyddio gan nifer helaeth yn
eu bywydau bob dydd, ond hefyd gan ei bod, trwy ei bodolaeth, wedi cyfrannu dros y
blynyddoedd at gynnal ymdeimlad o arwahanrwydd neu o hunaniaeth unigryw
ymhlith aelodau‟r genedl, boed yr aelodau hynny yn digwydd siarad yr iaith ai peidio.2
O ganlyniad, ni fyddai‟n briodol cyfyngu unrhyw drafodaeth ynglŷn ag arwyddocâd
yr iaith i‟r sawl sy‟n digwydd ei siarad fel mamiaith. Gall iaith draddodiadol debyg i‟r
Gymraeg chwarae rhan bwysig yn nehongliad pobl o‟u hunaniaeth genedlaethol, hyd
yn oed os nad ydynt yn digwydd ei siarad.
2 Dylid pwysleisio nad yw mabwysiadu safbwynt sy‟n cyfeirio at arwyddocâd iaith cenedl leiafrifol i‟r
aelodau hynny sydd ddim yn digwydd ei siarad yn golygu bod yn rhaid dadlau fod hyn yn wir ym mhob
achos, yn ddi-ffael. Yn hytrach, yr hyn a wneir yw awgrymu bod cyswllt o‟r fath yn bosib ac am hynny
na ddylid cyfyngu unrhyw drafodaeth ynglŷn ag arwyddocâd yr iaith i‟r sawl sy‟n digwydd ei siarad fel
mamiaith.
94
Fodd bynnag, a fyddai, mewn difrif, yn deg cyhuddo Kymlicka o wadu hyn?
Pan ystyrir ei safbwynt yn ofalus, gwelir nad ei fwriad yw awgrymu na all yr iaith
draddodiadol feddu ar unrhyw arwyddocâd i‟r aelodau hynny o‟r genedl nad ydynt yn
digwydd ei siarad, pan geisia wahaniaethu rhwng y statws moesol y dylid ei briodoli i
alwadau‟r garfan honno, o‟u cymharu â galwadau‟r siaradwyr mamiaith. Mewn
gwirionedd, mae‟n ddigon parod cydnabod y gall yr iaith feddu ar arwyddocâd pwysig
i holl aelodau‟r genedl (Kymlicka 2008). Fodd bynnag, nid yw‟n teimlo bod yr
arwyddocâd hwn, ar ben ei hun, yn cynnig digon o reswm i osod galwadau‟r sawl
sydd ddim yn digwydd siarad yr iaith ar yr un gwastad moesol â rhai‟r siaradwyr
mamiaith, gan greu sefyllfa lle dylai holl aelodau‟r genedl fedru hawlio lefel sylfaenol
o gydnabyddiaeth ieithyddol fel mater o gyfiawnder. Tra bod yr iaith draddodiadol yn
nodwedd sy‟n medru meddu ar arwyddocâd pwysig i‟r aelodau hynny o‟r genedl sydd
ddim yn digwydd ei siarad, mynna Kymlicka bod natur y niwed a brofa‟r grŵp yma,
pan fo‟r broses ddemocrataidd yn arwain at sefyllfa lle nad oes unrhyw
gydnabyddiaeth neu gefnogaeth yn cael ei hestyn i‟r iaith draddodiadol, yn debygol o
fod yn wahanol iawn, o ran ei natur a‟i oblygiadau, i‟r niwed a brofa‟r siaradwyr
mamiaith (Kymlicka 2008). O ganlyniad, yn ei dyb ef, ni fyddai‟n briodol gosod
galwadau‟r ddau grŵp ar yr un gwastad moesol.
Gwelir felly mai‟r gwahaniaeth o ran y niwed a brofa‟r ddau grŵp, pan fo
cydnabyddiaeth neu gefnogaeth ieithyddol yn absennol, sy‟n arwain Kymlicka i
ddatgan mai dim ond siaradwyr mamiaith all hawlio lefel sylfaenol o gydnabyddiaeth
ieithyddol fel mater o gyfiawnder. Nid yw‟r rhaniad yn deillio o gred gyfeiliornus
ynglŷn â diffyg arwyddocâd iaith y genedl i‟r aelodau hynny nad ydynt yn digwydd ei
95
siarad. Ond a yw‟r sylweddoliad hwn yn cyfrannu at roi gwedd fwy derbyniol i‟r
rhaniad sydd mor ganolog i ddadl Kymlicka?
I raddau helaeth, er y cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth sy‟n medru bodoli yn
achos y ddau grŵp, mae‟n anodd gwrthod yr awgrym a wneir gan Kymlicka, sef bod y
niwed a achosir trwy atal cyfleoedd i ddefnyddio‟r iaith, yn debygol o fod yn wahanol
iawn o ran ei natur a‟i oblygiadau yn achos y siaradwyr mamiaith. Ystyrier sefyllfa lle
nad yw gwasanaethau iechyd pwysig er enghraifft ym maes therapi lleferydd ar
gael trwy gyfrwng yr iaith leiafrifol. Mae‟r niwed a brofa‟r sawl sy‟n siarad yr iaith fel
mamiaith yn debygol o fod yn un sylweddol. Gall olygu nad yw cyflwr y person
hwnnw yn cael ei drin mewn modd effeithiol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn wir yn
achos y sawl nad yw‟n siarad yr iaith leiafrifol, beth bynnag fo teimladau‟r person
hwnnw tuag at yr iaith dan sylw. Serch hynny, a ddylai‟r gwahaniaeth hwn o ran y
niwed a brofir gan wahanol bobl ein harwain at y casgliad nad oes unrhyw rym
moesol yn medru perthyn i alwadau‟r sawl nad ydynt yn siaradwyr mamiaith?
Ar y cyfan, mae hwn yn gam rwyf yn amharod i‟w gymryd. Un rheswm
pwysig dros yr amharodrwydd hwn yw‟r modd y byddai dyrchafu galwadau siaradwyr
mamiaith yn y fath fodd yn diystyru effeithiau anghyfiawnder hanesyddol. Pan fo iaith
cenedl leiafrifol wedi dirywio mewn amgylchiadau anghyfiawn, onid yw‟n annheg
gosod galwadau‟r sawl sy‟n parhau i siarad yr iaith heddiw uwchlaw rhai‟r bobl
hynny sydd wedi‟i cholli? Pe bai amodau‟r gorffennol wedi bod yn rhai mwy ffafriol
rhai tecach yna mae‟n ddigon posib y byddai aelodau‟r ail grŵp yn parhau i siarad
yr iaith a‟u galwadau yn meddu ar statws tipyn uwch. Fel y saif pethau, mae dadl
96
Kymlicka yn ymddangos fel pe bai‟n cosbi pobl am ddigwyddiadau a oedd y tu hwnt
i‟w rheolaeth; sefyllfa y mae rhyddfrydwyr fel arfer yn awyddus iawn i‟w osgoi.
Wrth gwrs, mae hyn yn ddibynnol ar dderbyn bod dirywiad ieithyddol ac
anghyfiawnder hanesyddol yn brosesau sy‟n aml yn rhedeg law yn llaw. Nid yw hwn
yn gasgliad y byddai pob rhyddfrydwr yn camu iddo‟n syth. Wedi‟r cyfan, mae
amryw o sylwebwyr rhyddfrydol wedi pwysleisio nad yw canlyniadau a ystyrir gan rai
pobl fel rhai anffodus, o anghenraid, yn adlewyrchu anghyfiawnder. Fel y noda Daniel
Weinstock, „not all that is to be regretted is unjust‟ (Weinstock 2003: 262). Yn ôl y
ddadl hon, dylid derbyn y canlyniadau hynny anffodus ai peidio sy‟n deillio o
benderfyniadau rhydd a wneir gan unigolion mewn amgylchiadau teg. Felly, mewn
perthynas â iaith cenedl leiafrifol, os yw‟r dirywiad a welir yn un sy‟n deillio o‟r ffaith
fod siaradwyr unigol yn penderfynu o‟u gwirfodd i newid eu harferion ieithyddol, yna
ni ddylai rhyddfrydwyr deimlo bod yma achos o anghyfiawnder sy‟n galw am unrhyw
atebion penodol. Eglura Blake:
Linguistic destruction ... does not always represent an evil with which a liberal
has reason to be concerned ... When these costs (h.y. dirywiad iaith) arise from
the free exercise of the human imagination, as each generation remakes and
rethinks the linguistic tools of its parents, then these costs represent an
inevitable corollary of the goods of free agency (Blake 2003: 218 219).
Byddai hwn efallai yn ganlyniad anffodus, ond yn nhyb rhyddfrydwyr fel Weinstock a
Blake, ni fyddai‟n anghyfiawn.
Mewn cyd-destun o‟r fath, lle mae dirywiad yr iaith wedi deillio o
ddewisiadau rhydd gan unigolion, mae‟n bosib na fyddai amharodrwydd Kymlicka i
roi pwyslais ar alwadau‟r sawl nad ydynt yn siaradwyr yr iaith yn ymddangos yn
97
arbennig o annheg. Fodd bynnag, gellir codi amheuon ynglŷn â sawl achos o
ddirywiad ieithyddol a all gael ei ddehongli mewn termau gwirfoddol o‟r fath. Mae‟n
siŵr ei bod hi‟n bosib i athronwyr ddychmygu achosion sy‟n ffitio‟r disgrifiad uchod i
berwyl dadl benodol. Ond, i ba raddau y ceir unrhyw achos „go iawn‟ o iaith yn
dirywio yn sgil penderfyniadau gwirfoddol a rhydd a wnaed gan ei siaradwyr?
Un sy‟n herio‟r defnydd o‟r disgrifiad hwn a hefyd y defnydd cysylltiedig o
dermau megis „hunanladdiad ieithyddol‟ yw May (2001). Yn ei dyb ef, ni ellir gwadu
fod y gwahanol benderfyniadau a wneir gan siaradwyr unigol yn rhan anochel o
ddirywiad unrhyw iaith. Fodd bynnag, mae hefyd yn pwysleisio bod angen gwell
ymwybyddiaeth o‟r modd y mae amgylchiadau penodol yn medru dylanwadu ar y
penderfyniadau hyn:
... it should be stressed that language shifts are not solely the result of coercion
or „language murder‟. However, neither are they solely the result of a
„voluntary‟ shift, or „language suicide‟, as critics of minority-language rights
are wont to suggest. Both internal pull and external push factors are invariably
involved although ... it is the usually the latter that direct the former (May
2001: 146).
Ychwanega mewn cyhoeddiad arall:
... one can legitimately assert that so-called „individual choice‟ is neither as
unconstrained nor as neutral as proponents of language shift suggest. Rather it
is at best a „forced choice‟, propelled by wider forces of social, political,
economic and linguistic inequality and discrimination (May 2003: 150 151).
Fel y gwelir o‟r dyfyniadau hyn, mae May yn gryf o‟r farn fod natur yr amgylchiadau
a wyneba siaradwyr nifer o ieithoedd lleiafrifol yn cyfrannu‟n sylweddol at unrhyw
ddirywiad a welir. Yn sicr, gellir tybio y byddai hyn yn wir yn achos ieithoedd nifer
helaeth o genhedloedd lleiafrifol. Wedi‟r cyfan, creithiwyd hanes y cenhedloedd hyn
gan sgil effeithiau‟r broses o adeiladu gwladwriaethau modern. Pan ystyrir dirywiad
98
ieithyddol yn y termau hyn, mae dadl Kymlicka dadl sy‟n rhoi statws uwch i
alwadau‟r sawl sy‟n parhau i siarad yr iaith na‟r rhai hynny nad ydynt, ond a fyddai
efallai yn dymuno gwneud yn ymddangos braidd yn naïf.
Gwelir felly y gellir codi cwestiynau pwysig ynglŷn â thegwch y modd y mae
Kymlicka‟n diystyru galwadau‟r sawl nad ydynt yn siaradwyr mamiaith. Fodd
bynnag, sut dylai hyn effeithio ar gasgliadau cyffredinol y bennod ynglŷn â statws
moesol y nod o adfer ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol? A yw‟r pwyntiau a wnaed
uchod ynglŷn ag anghyfiawnder hanesyddol yn cynnig sail i ddiystyru‟r safbwynt
„derbyniol‟ ac i gamu ymlaen i drin adferiad yr ieithoedd hyn fel mater o gyfiawnder?
Rhaid casglu nad ydynt yn gwneud hynny. Yn y pen draw, hyd yn oed pe bai
Kymlicka‟n unioni‟r cam a nodwyd uchod, gan dderbyn y dylid trin galwadau
gwahanol bobl mewn perthynas â‟r iaith draddodiadol yn yr un modd, ni fyddem yn
symud yn nes at safbwynt sy‟n trin adferiad iaith fel mater o gyfiawnder. Pam hynny?
Yn syml, nid yw ymgais Kymlicka i wahaniaethu rhwng statws y galwadau hynny a
gyflwynir gan siaradwyr mamiaith, o‟u cymharu â galwadau pobl eraill, mewn
gwirionedd yn codi mewn perthynas â‟r nod pellgyrhaeddol o adfer iaith.
Cofier fod dadl Kymlicka yn cychwyn gyda‟r esiampl o refferendwm
dychmygol a gâi ei chynnal mewn cenedl leiafrifol i benderfynu a ddylid mabwysiadu
polisi cyhoeddus sy‟n anelu i gefnogi neu adfer sefyllfa‟r iaith draddodiadol. Yn yr
esiampl arbennig hon, roedd y penderfyniad democrataidd yn un sy‟n gwrthwynebu‟r
syniad o fabwysiadu polisi adferol pellgyrhaeddol. O dderbyn hyn, mae Kymlicka‟n
99
mynd ymlaen i holi a fyddai unrhyw garfan, sydd efallai wedi‟i siomi gan y canlyniad,
yn dal i feddu ar sail i ddadlau y dylai‟r llywodraeth gymryd rhai camau i sicrhau
elfen o ddarpariaeth sylfaenol yn yr iaith draddodiadol, er gwaetha‟r ffaith nad yw‟r
cyhoedd yn gyffredinol yn ffafrio‟r syniad pellgyrhaeddol o adfer. Sylwer mai yma y
caiff y gwahaniaeth rhwng statws gwahanol garfanu ieithyddol ei gyflwyno. Yn nhyb
Kymlicka, hyd yn oed pan fo‟r mwyafrif yn gwrthod y syniad pellgyrhaeddol o adfer
iaith y genedl, dylai‟r sawl sy‟n parhau i siarad yr iaith honno fel mamiaith feddu ar y
gallu i hawlio bod y llywodraeth yn dal i gynnig elfen sylweddol o ddarpariaeth yn yr
iaith honno. Dylid gwneud hynny er mwyn sicrhau nad yw‟r bobl hyn yn dioddef yn
ormodol yn sgil penderfyniad y mwyafrif. Fodd bynnag, nid yw‟r sawl nad ydynt yn
siaradwyr mamiaith yn meddu ar yr y gallu i gyflwyno galwadau o‟r fath. Yn nhyb
Kymlicka, nid yw‟r niwed a ddaw i ran y bobl hyn yn sgil canlyniad y refferendwm
yn meddu ar yr un arwyddocâd moesol, ac felly ni ddylent fedru hawlio unrhyw
ddarpariaeth yn yr iaith draddodiadol fel mater o gyfiawnder.
Nawr, os oes unrhyw sail i‟r awgrym a wnaed uchod, sef bod rhaniad
Kymlicka rhwng galwadau siaradwyr mamiaith ac aelodau eraill y genedl yn un
annheg, yna mae‟n bosib y gellid llunio dadl sy‟n mynnu y dylai holl aelodau‟r genedl
feddu ar yr y gallu i hawlio bod y llywodraeth yn darparu‟r lefel sylfaenol yma o
gydnabyddiaeth ieithyddol fel mater o gyfiawnder. Mae hyn, fodd bynnag, yn
wahanol iawn i lunio dadl sy‟n mynnu y dylid trin y nod ehangach o adfer yr iaith
draddodiadol fel mater o gyfiawnder. Fel y nodwyd eisoes, mae yna wahaniaeth
pwysig rhwng y syniad yma o ddarparu cydnabyddiaeth sylfaenol i iaith mewn rhai
peuoedd cyhoeddus pwysig a‟r syniad ehangach o geisio adfer yr iaith, gan wrthdroi
100
unrhyw ddirywiad a fu dros y blynyddoedd. O ran y syniad ehangach hwn o adfer,
mae Kymlicka‟n ddigon hapus i‟w drin fel mater a gai ei adael i rediad ein
trafodaethau democrataidd cyhoeddus, ac nid yw dileu‟r rhaniad rhwng siaradwyr
mamiaith ac eraill yn newid hyn mewn unrhyw fodd.
Gwelir felly nad yw‟r feirniadaeth uchod o ddadleuon Kymlicka er mor
bwysig ydyw yn cynnig sail i ddechrau dadlau y dylid trin adferiad iaith cenedl
leiafrifol fel mater o gyfiawnder. Rhywbeth sy‟n digwydd ar ôl i‟r drafodaeth
ddemocrataidd agored wrthod mabwysiadu polisi iaith adferol yw rhaniad Kymlicka
rhwng galwadau gwahanol garfanau ieithyddol. Fel y gwelwyd, mae‟n bosib y gellid
dadlau nad yw‟r rhaniad hwn yn un cwbl deg. Ni fydd llwyddo i brofi hynny, fodd
bynnag, yn dangos pam y dylai‟r nod pellgyrhaeddol o adfer iaith gael ei drin fel
mater o gyfiawnder. Byddai mabwysiadu safbwynt o‟r fath yn golygu ein bod yn
barod i ddatgan y dylid mynd ati i adfer yr iaith, beth bynnag fo barn aelodau‟r
genedl; hynny yw, y dylai‟r mater gael ei osod uwchlaw‟r cwestiynau hynny y byddai
rhyddfrydwyr yn dewis eu cloriannu trwy gyfrwng ein trefniadau democrataidd
arferol. Nid yw‟r feirniadaeth o safbwynt Kymlicka‟n dangos i ni pam y dylid gwneud
hynny. Nid yw‟n dangos pam nad yw‟r dull democrataidd arferol hwn yn un priodol a
theg i‟w ddefnyddio wrth ddod i benderfyniadau ynglŷn â‟r nod cyffredinol o adfer
iaith. Mewn gwirionedd, dim ond trwy danseilio tegwch y dull hwnnw‟n benodol y
gellid gwneud hynny, gan gynnig sail i ddechrau trin adferiad fel mater o gyfiawnder.
O ganlyniad, yn ystod y paragraffau isod eir ati i ystyried a yw casgliad o‟r fath yn
bosib.
101
4.2 Anghyfiawnder Hanesyddol a Thrafodaethau Democrataidd Teg
Gellir codi cwestiynau digon difrifol ynglŷn â‟r ffydd y mae Laitin a Reich a
Kymlicka yn dangos yng ngallu ein trefniadau democrataidd arferol i sicrhau
trafodaethau gwirioneddol deg ynglŷn â dyfodol gwahanol ieithoedd lleiafrifol. Daw
hyn i‟r amlwg wrth ystyried beirniadaeth a gyflwynwyd gan May (2003) o waith
Laitin a Reich. Yn arwyddocaol, mae hon hefyd yn feirniadaeth sy‟n ymwneud ag
effeithiau anghyfiawnder hanesyddol. Yn nhyb May, nid yw‟r sawl sy‟n dadlau bod
ein trefniadau democrataidd arferol yn ddull cwbl briodol a digonol o ddod i
benderfyniadau ynglŷn â‟r nod o adfer iaith cenedl leiafrifol yn rhoi digon o ystyriaeth
i‟r modd y câi tegwch unrhyw drafodaethau democrataidd eu tanseilio gan hanes o
anghyfiawnder ieithyddol.
Fel y gwelwyd eisoes, gall cyfnod hir o anghyfiawnder gael dylanwad dwfn ar
arferion a hefyd ar agweddau ieithyddol gwahanol bobl. O ystyried hyn, oni ddylid
cwestiynu dilysrwydd a thegwch unrhyw drafodaeth a gynhelir heb ymdrechu i
ymdrin ag effeithiau etifeddiaeth o‟r fath? Nid yw hwn yn fater a gaiff ei ystyried gan
Laitin a Reich nid ydynt yn dweud dim ynglŷn ag effeithiau posib unrhyw
anghyfiawnder hanesyddol ar degwch y trafodaethau agored ynglŷn â pholisi iaith a
argymhellir ganddynt. Y cyfan a wneir yw tanlinellu rhinweddau‟r drafodaeth a
gafwyd yng Nghatalonia yn ystod y 1990au ynglŷn natur deddfwriaeth iaith newydd y
wlad. Yn eu tyb hwy, mae hon yn enghraifft berffaith o pam dylai rhyddfrydwyr
ymddiried mwy yn ein trefniadau democrataidd cyffredin wrth ddod i benderfyniadau
teg ym maes polisi iaith. Eto i gyd, fel y pwysleisia May, maent yn anwybyddu un
102
pwynt hollbwysig. Roedd y drafodaeth hon ym 1998 yn digwydd yn dilyn dros
ddegawd o gynllunio cydlynol o blaid y Gatalaneg:
... the eventual acceptance of the Linguistic Policy Act poses another problem
for the democratic litmus test advocated by Laitin and Reich, since the
acceptance of the Act in the face of such trenchant and powerful opposition
could have been achieved only in the light of historical circumstances that had
already significantly changed the position of the minority language (Catalan)
within the state. In other words, the more gradual but nonetheless deliberate
process of „linguistic normalization‟ pursued in Catalunya since the death of
Franco was an essential prerequisite for the subsequent acceptance of its
higher legal status and institutional reach via the Linguistic Policy Act (1998).
In short, informed debate on and acceptance of accommodative language
rights is likely to occur only in a political context already conducive to it (May
2003: 139).
Mae‟r frawddeg olaf o‟r dyfyniad uchod o eiddo May yn gwbl allweddol. Yn dilyn
marwolaeth Franco ac aileni democratiaeth yn Sbaen, cychwynnwyd ar y broses o
gynllunio i ailgodi‟r Gatalaneg. Parhaodd y cynllunio hwn trwy‟r 1980au a‟r 1990au
cynnar, gan arwain at newidiadau sylweddol yn statws yr iaith. Dim ond wedi‟r broses
allweddol hon y cafwyd y drafodaeth gyhoeddus y mae Laitin a Reich mor awyddus
i‟w chanmol. Felly, yn absenoldeb unrhyw gynllunio sylfaenol sydd â‟r nod o ailgodi
sefyllfa iaith cenedl leiafrifol, mae‟n anodd gweld sut y gall model rhyddfrydol Laitin
a Reich ddod yn agos at greu amgylchiadau sy‟n caniatáu i ni ymdrin yn deg â
sefyllfa‟r ieithoedd hyn.
Er bod y sylwadau uchod yn canolbwyntio ar waith Laitin a Reich, mae‟r
ergyd yn berthnasol yn achos Kymlicka hefyd; hynny yw, bod gwendidau pendant yn
perthyn i safbwynt sy‟n mynnu bod ein trefniadau democrataidd arferol yn ddull cwbl
briodol o ddod i benderfyniadau ynglŷn â‟r nod o adfer iaith cenedl leiafrifol. Nid
yw‟r safbwynt hwn yn rhoi digon o ystyriaeth i‟r modd y gall tegwch unrhyw
drafodaethau democrataidd gael ei danseilio gan hanes o anghyfiawnder ieithyddol.
103
Fel y gwelwyd wrth drafod dadl May (2003), ni fyddai‟r math o drafodaethau
democrataidd agored a gaiff eu dyrchafu gan Laitin a Reich (ac sydd hefyd yn rhan o
ddadl Kymlicka) byth yn medru digwydd mewn gwagle. Bydd rhyw fath o gefndir
hanesyddol wastad yn debygol o effeithio ar y safbwyntiau a gaiff eu mynegi gan y
cyfranogwyr. Ac os yw‟r cefndir hwnnw yn un o anghyfiawnder, lle cai un iaith ei
thrin yn israddol a‟i chau allan o wahanol beuoedd cymdeithasol fel sy‟n wir yn
achos ieithoedd nifer o genhedloedd lleiafrifol yna gellir codi cwestiynau difrifol
ynglŷn â‟r graddau y gall unrhyw drafodaeth gael ei disgrifio fel un sy‟n digwydd
mewn amgylchiadau gwirioneddol rydd a theg. Ymhlith pethau eraill, bydd cefndir o‟r
fath wedi cyfrannu‟n sylweddol at y ffaith nad yw nifer o aelodau‟r genedl bellach yn
medru siarad yr iaith. Ar ben hynny, ac efallai‟n bwysicach, bydd y profiad o fyw
trwy gyfnod hir lle câi‟r iaith ei thrin yn israddol wedi cyfrannu‟n uniongyrchol at
ymlediad agweddau dilornus tuag at yr iaith, nid yn unig ymhlith y sawl nad ydynt yn
ei siarad bellach, ond ymhlith nifer o siaradwyr mamiaith hefyd.
O ganlyniad, bydd cefndir hanesyddol anghyfiawn yn debygol o effeithio ar y
graddau y gellid diffinio unrhyw drafodaeth a gynhelir ynglŷn â dyfodol yr iaith fel un
rhydd a theg. Ond, sut dylai hyn ddylanwadu ar ein casgliadau ynglŷn â‟r nod o adfer
iaith cenedl leiafrifol? A ddylid trin adferiad fel mater o gyfiawnder o leiaf yn y
sefyllfaoedd hynny lle gellir dadlau bod amgylchiadau anghyfiawn wedi cyfrannu‟n
sylweddol at ddirywiad yr iaith, ac yn debygol o atal unrhyw drafodaeth ystyrlon
ynglŷn â‟i dyfodol?
104
I rai, mae‟n siŵr y byddai ymateb yn gadarnhaol i‟r cwestiwn uchod yn
ymddangos fel cam digon rhesymol. Os yw cyfnod o anghyfiawnder wedi cael effaith
ddofn ar sefyllfa iaith nid yn unig o ran nifer y siaradwyr ond hefyd o ran agweddau
pobl tuag ati oni ddylid casglu mai‟r unig lwybr teg i‟w ddilyn yw un sy‟n argymell
fod cyfiawnder yn galw am gymryd camau pendant i‟w hadfer? Yn sicr, y math yma o
resymeg sy‟n rhedeg drwy ddadleuon nifer o genedlaetholwyr, ac ar y cyfan, gellir
deall pam y byddai hwn yn ymddangos yn safbwynt priodol. Fodd bynnag, erys rhai
pwyntiau pwysig sy‟n achosi i ni oedi ac amau a ellir datgan yn gwbl ddiamwys y
dylai rhyddfrydwyr drin adferiad ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol fel mater o
gyfiawnder, hyd yn oed pan fo‟r dirywiad hwnnw wedi deillio o anghyfiawnder.
Fel y noda Laitin a Reich (2003), tra bod dirywiad ieithoedd nifer o
genhedloedd lleiafrifol wedi deillio o anghyfiawnder o ryw fath, dylid gochel rhag
cymryd yn ganiataol y bydd pawb yn dymuno gweld yr ieithoedd hyn yn cael eu
hadfer. Wrth gwrs, gellid dadlau nad yw‟r sawl sy‟n mynegi amheuon o‟r fath ond yn
amlygu effeithiau blynyddoedd o gam-gydnabyddiaeth; hynny yw bod pobl wedi‟u
cyflyru i feddwl am iaith draddodiadol y genedl mewn modd dilornus. Serch hynny,
un peth yw cydnabod y posibilrwydd real o ganfod sefyllfa o‟r fath, peth arall yw
dadlau fod hynny‟n rhoi sail i gamu ymlaen i ddadlau fod cyfiawnder felly yn galw
arnom i anwybyddu‟r amheuon hyn, gan sicrhau adferiad yr iaith doed a ddêl. Yn
nhyb ryddfrydwyr, byddai gwneud hynny yn ein harwain i dir moesol ansicr.
Yn y pen draw, wrth geisio sefydlu cyswllt pendant rhwng cyfiawnder ac
adferiad, yr hyn a wneir yw creu sefyllfa lle caiff dyletswydd sylweddol iawn ei gosod
105
ar aelodau‟r genedl; beth bynnag fo barn y bobl hyn ynglŷn â‟r iaith, mae dyletswydd
arnynt i hybu ei hadferiad, gan fod hynny‟n fater o gyfiawnder. Byddai camu i
gyfeiriad o‟r fath yn broblematig iawn o safbwynt rhyddfrydol. Deillia hyn o‟r ffaith y
byddai fframio adferiad iaith yn y fath fodd yn golygu ein bod yn trin yr iaith ei hun
fel gwrthrych sy‟n medru gosod gofynion sylweddol ar aelodau‟r genedl. O wneud
hynny, yr hyn fyddai gennym yw safbwynt sy‟n trin aelodau unigol y genedl fel dim
mwy na chyfrwng i hybu nod. Wrth gwrs, i ryddfrydwyr mae safbwyntiau moesol
sy‟n trin y berthynas rhwng bodau dynol â nodweddion diwylliannol yn y fath fodd yn
gwbl annerbyniol (Kymlicka 1995a; Weinstock 2003).
6. Casgliadau
Gwelir felly fod problemau moesol yn gysylltiedig â dadl sy‟n trin adferiad iaith fel
mater hanfodol o safbwynt cyfiawnder, hyd yn oed pan fo‟r ddadl honno yn cael ei
chymhwyso i sefyllfaoedd penodol, megis cenhedloedd lleiafrifol, fel y gwnaed yn
ystod y bennod hon. O ganlyniad, yr ateb i‟r cwestiwn sylfaenol a osodwyd ar gyfer
rhan gyntaf y traethawd hwn yw mai fel gweithred dderbyniol, ac nid un hanfodol o
safbwynt cyfiawnder, y dylai rhyddfrydwyr ddehongli adferiad ieithyddol.
Fodd bynnag, er bod hwn yn safbwynt sy‟n sicr yn fwy cyson ag egwyddorion
rhyddfrydol, nid yw, ar unrhyw gyfri, yn gwbl rydd o broblemau. Ar y naill law,
mae‟n gwbl briodol fod rhyddfrydwyr megis Laitin a Reich neu Kymlicka yn dadlau
na allant gymeradwyo ymdrech i adfer iaith leiafrifol os nad yw‟r ymdrech honno yn
adlewyrchu ewyllys democrataidd y grŵp. Ond, ar y llaw arall, nid yw dadleuon yr
athronwyr hyn yn cydnabod yr effaith ddifrifol y gall ffactorau megis cefndir
106
hanesyddol eu cael ar y posibilrwydd o gynnal trafodaethau democrataidd
gwirioneddol deg ynglŷn â dyfodol gwahanol ieithoedd. Mae hyn yn wendid
hollbwysig ac fe ddylid fod wedi gwneud llawer mwy o ymdrech i‟w gydnabod.
Serch hynny, a ellid bod wedi disgwyl iddynt wneud mwy na dim ond ei
gydnabod? I ba raddau y mae mynd ati i ymdrin yn effeithiol â phroblemau cefndirol
megis amgylchiadau hanesyddol, sydd o‟u hanfod yn mynd i amrywio o ran natur a
difrifoldeb o achos i achos, yn dasg y gellir ei chyflawni tra‟n trafod o bersbectif
egwyddorion rhyddfrydol cyffredinol? Yn sicr, gellir defnyddio‟r egwyddorion hyn i
gloriannu priodoldeb cyffredinol safbwynt sy‟n mynnu y dylai adferiad iaith gael ei
drin fel gweithred hanfodol o safbwynt cyfiawnder. Fodd bynnag, a ellir disgwyl
iddynt wneud llawer mwy na hynny? A ellir disgwyl iddynt ymateb i broblemau
cymhleth sy‟n deillio o hanes?
I raddau helaeth, mae ymdriniaeth o broblemau cefndirol o‟r fath yn mynd â ni
tu hwnt i faes defnyddioldeb yr egwyddorion hyn. I ddweud mwy, gan ymateb i‟r
math o her a godwyd ar ddiwedd y bennod hon, byddai galw am gamu o‟r tir
egwyddorol cyffredinol a haniaethol, gan ddisgyn i‟r lefel benodol a diriaethol.
Byddai angen ystyried cefndir achosion penodol, gan edrych ar natur y gorthrwm
ieithyddol a brofwyd dros y blynyddoedd a‟r modd y mae hyn wedi effeithio ar
unrhyw drafodaeth a gynhelir ynglŷn â dyfodol gwahanol ieithoedd. Wrth wneud
hynny, byddai egwyddorion rhyddfrydol yn sicr o effeithio ar ein casgliadau ynglŷn â
statws moesol adferiad iaith, ond byddai cyd-destun penodol yr achosion hefyd yn
ffactor pwysig.
107
Ni ddylai‟r cyfyngiadau hyn ar ddefnyddioldeb egwyddorion rhyddfrydol gael
eu gweld fel gwendid, ac nid ydynt yn cynnig sail i ddadlau mai dim ond mewn modd
ymylol yn unig y gall egwyddorion o‟r fath oleuo ein dealltwriaeth o foesoldeb y
broses o adfer iaith. I ddechrau, mae‟r casgliadau y daethpwyd iddynt yn ystod rhan
gyntaf y thesis, wrth ystyried a all rhyddfrydwyr drin adferiad fel gweithred hanfodol
o safbwynt cyfiawnder, yn ddiddorol, yn bwysig, ac yn herio „synnwyr cyffredin‟
llawer iawn o bobl. Ar ben hynny, ac efallai‟n bwysicach, nid dim ond mewn
perthynas â‟r cwestiwn ymchwil hwn y gellir cymhwyso egwyddorion rhyddfrydol.
Gellir eu defnyddio hefyd mewn perthynas â chwestiynau eraill; yn benodol,
cwestiynau ynglŷn â dilysrwydd rhai o‟r camau polisi ymarferol a gymerir gan
lywodraethau rhyddfrydol-ddemocrataidd wrth iddynt geisio hybu rhagolygon
gwahanol ieithoedd lleiafrifol. O ganlyniad, i‟r maes gwahanol hwn y trown ein sylw
yn ystod ail ran y traethawd.
108
Rhan 2: Camau Ymarferol a Chyfyngiadau
Normadol
Yn ystod rhan gyntaf y traethawd, gwelwyd na all rhyddfrydwyr gymeradwyo
safbwynt sy‟n trin adferiad iaith fel tasg hanfodol o safbwynt cyfiawnder, hyd y oed
pan fo‟r safbwynt hwnnw yn cael ei gyfyngu i achosion penodol, megis cenhedloedd
lleiafrifol. Yn hytrach, mae rhyddfrydwyr yn debygol o ffafrio dehongli‟r dasg o adfer
iaith fel gweithred dderbyniol; tasg sy‟n gwbl briodol i lywodraethau rhyddfrydol-
democrataidd ymgymryd ag ef pan fo hynny‟n adlewyrchu casgliadau y daethpwyd
iddynt yn sgil trafodaethau agored a theg ymhlith aelodau‟r grŵp. Gwelwyd y byddai
mabwysiadu safbwynt cryfach na hynny yn ein harwain i dir moesol ansicr.
Eto i gyd, nid yw‟r drafodaeth uchod ynglŷn â statws moesol y nod cyffredinol
o adfer iaith wedi dweud dim wrthym ynglŷn â pha fath o gamau ymarferol y cred
rhyddfrydwyr sy‟n dderbyniol i‟w cymryd wrth gyrchu nod o‟r fath. Yn wir, yr un
fyddai‟r sefyllfa beth bynnag fyddai‟r casgliadau y daethpwyd iddynt uchod. Deillia
hyn o‟r ffaith fod y drafodaeth ynglŷn â dilysrwydd gwahanol gamau polisi penodol
yn ymdrin â phwnc adferiad iaith o bersbectif ychydig yn wahanol.
Boed adferiad iaith yn cael ei drin gan ryddfrydwyr fel amcan derbyniol, neu
fel rhywbeth sy‟n hanfodol o safbwynt cyfiawnder, yr hyn sy‟n sicr yw na fyddent yn
fodlon derbyn bod hynny‟n agor y drws i bob math posib o gamau polisi ymarferol. Er
enghraifft, mae‟n sicr y byddai rhyddfrydwyr yn gwrthwynebu polisïau adferol sy‟n
datgan mai dim ond yr iaith leiafrifol a ddylai gael ei ddefnyddio gan unigolion, hyd
109
yn oed mewn sgyrsiau preifat. Byddai hynny‟n mynd yn rhy bell. Ond beth am rai o‟r
polisïau adferol sydd ar waith ar hyn o bryd mewn gwladwriaethau rhyddfrydol-
democrataidd? Ydy‟r rhain hefyd yn mynd yn rhy bell ac yn tramgwyddo ar
egwyddorion rhyddfrydol pwysig?
Heb os, mewn nifer o wahanol wledydd ar draws y byd mae gwahanol bolisïau
iaith wedi bod yn sail i gryn anniddigrwydd ymhlith rhai rhannau o‟r boblogaeth. Ar
ben hynny, yn bur aml mae gwrthwynebiadau‟r bobl hyn wedi cynnwys ensyniadau
ynglŷn â‟r modd y mae gwahanol bolisïau yn tramgwyddo egwyddorion normadol
megis rhyddid, cyfiawnder a chydraddoldeb. Ond, a oes unrhyw sail i
wrthwynebiadau o‟r fath? A yw rhai o‟r camau ymarferol a gymerir gan genhedloedd
lleiafrifol, wrth geisio gwireddu‟r nod o adfer eu hieithoedd traddodiadol, wir yn
tramgwyddo egwyddorion pwysig ac felly yn annerbyniol o bersbectif rhyddfrydol?
Dyma a drafodir yn ystod ail ran y traethawd, ac fe wneir hynny trwy gloriannu
trawstoriad o bolisïau iaith a fabwysiadwyd mewn dau achos penodol: Quebec a
Chymru.
110
4. Le Français, une langue pour tous le monde:
Sefydlu’r Ffrangeg fel iaith gyhoeddus gyffredin
Quebec
1. Cyflwyniad
Yng nghyd-destun ymdrechion cyfoes i gefnogi ieithoedd cenhedloedd di-
wladwriaeth, does dim amheuaeth nad yw Quebec yn achos pwysig. Ers y 1960au,
cymerodd llywodraeth y dalaith gyfres o gamau pellgyrhaeddol o bosib y mwyaf
pellgyrhaeddol a gymerwyd gan unrhyw lywodraeth rhyddfrydol-ddemocrataidd er
mwyn cynnal a chodi statws y Ffrangeg. Mae‟r gweithredu pellgyrhaeddol hwn wedi
cyffwrdd ar sawl maes polisi, gan gynnwys addysg, byd gwaith a mewnfudo. Yn sgil
y camau hyn, mae rhagolygon yr iaith bellach yn llawer gwell nag oeddent ddeugain
mlynedd yn ôl. O ganlyniad, gellir cytuno â Richard Bourhis, a nododd; „French
Quebec has emerged as a symbolic case ... for it shows that sustained language
planning can reverse language shift even relative to the most powerful language of
this millennium: English‟ (Bourhis 2001: 101).
Amcan y bennod hon fydd ceisio cloriannu, o bersbectif rhyddfrydol,
ddilysrwydd moesol rhai o‟r camau hynny a gymerwyd gan lywodraeth Quebec wrth
geisio trawsnewid sefyllfa‟r Ffrangeg. Bydd tri maes penodol yn cael eu hystyried. I
ddechrau, trafodir yr ymdrech i reoleiddio pa ieithoedd a gâi ymddangos ar arwyddion
cyhoeddus, a‟r gwyn fod y polisi hwn yn cyfyngu‟n ormodol ar ryddid mynegiant. Yn
ail, ystyrir y gwrthwynebiad a fu i natur polisi addysg Quebec, ac yn benodol, y
gwahanol gyfyngiadau ar argaeledd addysg Saesneg. Bydd y trydydd achos a ystyrir
ychydig yn wahanol i‟r ddau gyntaf. Yn hytrach na thrafod polisi penodol, byddaf yn
111
ystyried y drafodaeth gyfoes ynglŷn â dyfodol y gymuned Anglophone yn Quebec, a‟r
gwyn fod effaith gyffredinol y polisïau iaith bellach wedi arwain at danseilio
cynaliadwyedd y gymuned honno. Ym mhob un o‟r achosion hyn, ystyrir i ba raddau
mae‟r gwrthwynebiadau a fynegwyd dros y blynyddoedd yn codi cwestiynau dilys
ynglŷn â phriodoldeb gweithredoedd llywodraeth Quebec. A yw‟r polisïau iaith hynny
a fabwysiadwyd ganddi wedi tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol pwysig, ac
felly‟n haeddu cael eu dehongli fel polisïau annerbyniol o safbwynt moesol?
Wrth gwrs, cyn gellir mynd ati i gynnal trafodaeth normadol o‟r fath, rhaid
magu dealltwriaeth o gefndir yr achos dan sylw. O ganlyniad, dyna fydd amcan
adrannau cyntaf y bennod hon. I ddechrau ceir gorolwg bras o hanes Quebec. Yna, eir
ati i grynhoi rhai o‟r ffactorau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol sydd wedi
bygwth sefyllfa‟r Ffrangeg. Yn ogystal, amlinellir natur y polisïau iaith a
fabwysiadwyd gan wahanol lywodraethau ers y 1960au. O wneud hyn, bydd modd
camu ymlaen yn hyderus yn ystod ail hanner y bennod i drin a thrafod dilysrwydd
moesol gwahanol agweddau o bolisïau iaith Quebec.
2. Cefndir Hanesyddol
Roedd yr ail ganrif ar bymtheg a‟r ddeunawfed ganrif yn gyfnod o ryfela ac o
ymgiprys cyson rhwng lluoedd Prydain a Ffrainc, ac un o feysydd pwysicaf y cystadlu
hwn oedd tiriogaethau eang Gogledd America. Law yn llaw ag ardaloedd eraill, megis
Asia, bu‟r rhan hon o‟r byd yn ganolog i ymdrechion ymerodraethol cynnar y ddwy
wlad. Yn dilyn teithiau fforwyr megis Jaques Cartier (1534, 1535-36 a 1541-42) a
Samuel de Champlin (sylfaenydd dinas Quebec ym 1608), datblygwyd trefedigaeth La
112
Nouvelle France ar hyd glannau‟r afon St Lawrence. Yn ddiweddarach ymestynnodd
Ffrainc ei dylanwad i lawr i gyfeiriad y Llynnoedd Mawr ac ymlaen ar hyd glannau‟r
afon Mississippi. Yn y cyfamser, meddiannwyd tiroedd helaeth ar hyd arfordir Môr yr
Iwerydd (megis yr ardaloedd hynny a adnabyddir heddiw fel Efrog Newydd,
Pennsylvania, New Jersey a Delaware) gan luoedd Prydain.
Er ei llwyddiant cynnar, llacio wnaeth gafael Ffrainc ar ei thiroedd yn ystod y
ddeunawfed ganrif. Yn dilyn Rhyfel Olyniaeth Sbaen (1703 1713), meddiannwyd
ardal Acadia (a adnabyddir heddiw fel Nova Scotia, Prince Edward Island, New
Brunswick a Maine) gan luoedd Prydain. Roedd hyn yn sicr yn ergyd i obeithion
Ffrainc. Serch hynny, daeth yr ergyd fawr yn ddiweddarach yn ystod y ddeunawfed
ganrif, pan fu‟n rhaid i‟r wlad ildio gweddill ei thiroedd yng Ngogledd America yn
sgil cael ei threchu yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd (1756 1763). Un o
ddigwyddiadau allweddol y rhyfel hwn oedd buddugoliaeth y cadfridog Prydeinig
James Wolf yn ninas Quebec ym 1759. Galluogodd y fuddugoliaeth hon i luoedd
Prydain hwylio ymlaen gan feddiannu Montreal hefyd erbyn 1760.
Yn sgil buddugoliaeth Prydain ac arwyddo cytundeb Paris ym 1763, rhoddwyd
terfyn ar bresenoldeb coron Ffrainc yng Ngogledd America. O ganlyniad, gellid bod
wedi disgwyl i diriogaeth Quebec, fel y gelwid hi erbyn hynny, Seisnigo‟n raddol, yn
yr un modd ag y gwnaeth cyn drefedigaethau‟r Iseldiroedd a Sweden (Chevrier 2003:
119). Yn wir, dyna oedd bwriad gwreiddiol llywodraeth Prydain; sefydlwyd Eglwys
Lloegr fel yr eglwys swyddogol, cyflwynwyd cyfraith Lloegr a hefyd datganwyd
mai‟r Saesneg oedd yr iaith swyddogol (Keating 2001: 77). Fodd bynnag, bu‟n rhaid
113
cyfaddawdu cryn dipyn ar yr amcanion polisi hyn. I ddechrau, fel yr eglura John
Dickinson a Brian Young, roedd pen draw i‟r graddau y byddai‟n bosib i Brydain
gymell cymathiad trigolion ei threfedigaeth newydd:
Although Governor James Murray had instructions to establish English law
and the Anglican Church and to use English schools as vehicles of
assimilation, he realized that with the exception of the institution of British
criminal law such a policy was unworkable. Of the 70,000 French
Canadians, 85 percent were rural inhabitants isolated from contact with the
British and their institutions. Most of the few hundred British merchants who
had come to the colony lived in Quebec City and Montreal, and there was little
prospect of any substantial British immigration in the near future (Dickinson a
Young 2003: 53).
Ar ben hynny, dylanwadwyd ar bolisïau llywodraeth Prydain gan y bygythiad o
gyfeiriad y Gwrthryfelwyr yn America a‟r pryder y byddai polisïau cymhathu
llawdrwm yn cymell trigolion Ffrengig Quebec i gefnogi eu hymgyrch hwy. O
ganlyniad, ym 1774, cyflwynwyd Deddf Quebec. Ymhlith pethau eraill, roedd y
ddeddf hon yn gwarantu hawl Catholigion Ffrangeg eu hiaith i arddel eu crefydd a
hefyd eu hawl i ddal swyddi cyhoeddus. Arweiniodd y mesurau hyn at dawelu
pryderon y boblogaeth Ffrengig, ac yn enwedig yr elit crefyddol, gan olygu nad
estynnwyd unrhyw gefnogaeth i amcanion y Gwrthryfelwyr Americanaidd. Ar yr un
pryd, golygai‟r ddeddf fod cydnabyddiaeth yn cael ei hestyn i le‟r Ffrangeg ym
mywyd cyhoeddus Quebec (Dickinson a Young 2003).
Rhoddwyd cynnig arall ar gymathu‟r boblogaeth Ffrengig yn dilyn gwrthryfel
aflwyddiannus 1837 1838. Yn ei adroddiad dadleuol ynglŷn ag achosion yr
anghydfod hwn, nododd yr Arglwydd Durham iddo ganfod „two nations warring in
the bosom of a single state‟. Aeth ymlaen i feirniadu diwylliant a thraddodiadau‟r
boblogaeth Ffrengig: „There can hardly be conceived a nationality more destitute ...
114
than that which is exhibited by the descendents of the French in Lower Canada, owing
to their peculiar language and manners. They are a people with no history and no
literature‟ (dyfynnwyd yn Dickinson a Young, 2003: 182). Ar sail yr adroddiad hwn
penderfynodd llywodraeth Prydain gyflwyno Deddf Uno 1840. Roedd y mesur hwn
yn sefydlu cynulliad etholedig. Ond, yn arwyddocaol, fe‟i trefnwyd mewn modd a
oedd yn sicrhau bod gan y boblogaeth Seisnig, a drigai yn y gorllewin (yr ardal a
adnabyddir heddiw fel Ontario), fwyafrif parhaol dros boblogaeth Ffrengig y dwyrain
(Quebec heddiw). Eto i gyd, ni chafodd y trefniadau hyn lawer o gyfle i fagu
gwreiddiau. Ym 1867 cyflwynwyd Deddf Gogledd America (The British North
America Act), a arweiniodd at undod rhwng taleithiau Ontario, Quebec, New
Brunswick a Nova Scotia ac at sefydlu Dominiwn Canada. Dyma‟r cytundeb a
arweiniodd at sefydlu‟r hyn a adnabyddir heddiw fel Canada ffederal. Ar y pryd, dim
ond pedair talaith oedd i‟w cael (byddai eraill yn ymuno maes o law), ond roedd y
Canadiaid Ffrengig yn fwyafrif yn un o‟r taleithiau hyn. Fel y noda Michael Keating,
„Thereafter Quebec remained a distinct society within British North America and,
later, Canada‟ (Keating 2001: 77).
Yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, nodweddwyd Quebec gan
geidwadaeth ac amharodrwydd i gyfranogi yn y newidiadau cymdeithasol ac
economaidd a oedd yn dylanwadu ar natur nifer o gymdeithasau gorllewinol.
Dadleuwyd fod lles, ac yn wir, goroesiad, yr iaith a‟r diwylliant Ffrengig yn ddibynnol
ar ymwrthod â thueddiadau modern megis diwydiannu a threfoli. Sefydliad a oedd yn
flaenllaw wrth hybu a chynnal y meddylfryd hwn oedd yr Eglwys Gatholig. Ar y pryd
ymestynnai ei dylanwad i bob rhan o‟r gymdeithas. Yn wir, yr eglwys oedd yn bennaf
115
gyfrifol am weinyddu darpariaeth iechyd ac addysg y dalaith. Ochr yn ochr â‟r
eglwys, câi‟r byd-olwg ceidwadol hwn ei gynnal gan blaid yr Union Nationale a‟i
harweinydd Maurice Duplessis a fu‟n llywodraethu yn Quebec fwy neu lai yn ddi-dor
rhwng 1936 a 1959 (Keating 1998; 2001).
O ran yr ymdeimlad o hunaniaeth a fynegwyd yn ystod y cyfnod hwn, yr hyn
sy‟n ddiddorol i‟w nodi yw bod y pwyslais, ar y cyfan, yn cael ei roi ar undod y
genedl Ffrengig ar draws Canada, yn hytrach na thiriogaeth Quebec yn benodol. Fel y
noda Michael Keating, „The Canadiens were marked out from anglophone Canadians
within and outside Quebec as well as from Americans‟ (Keating 2001: 78). Fodd
bynnag, yn dilyn marwolaeth Duplessis ym 1959, ac yna buddugoliaeth Jean Lessage
a‟r Blaid Ryddfrydol yn etholiad 1960, cychwynnodd Quebec ar gyfnod o newid
mawr. Dyma gyfnod a ddisgrifir fel y Chwyldro Tawel. Cyflwynwyd cyfres o
newidiadau cymdeithasol ac economaidd pellgyrhaeddol oedd â‟r nod o ganiatáu i
Quebec ddal fyny â thaleithiau eraill Canada. Ymhlith y newidiadau mwyaf
arwyddocaol roedd y penderfyniad i sefydlu adran addysg. Arweiniodd hyn at dynnu‟r
cyfrifoldeb dros y maes hwnnw o ddwylo‟r Eglwys. Yn yr un modd ehangwyd ar y
ddarpariaeth o wasanaethau iechyd a chymdeithasol. Ar ben hynny, gwladolwyd y
cyfleustodau egni a sefydlwyd corff cenedlaethol newydd, sef Hydro Quebec, i‟w
gweinyddu.
Arweiniodd y broses yma o foderneiddio cymdeithas Quebec at addasu ac ail
ddiffinio‟r hen ymdeimlad o hunaniaeth a drafodwyd uchod. Wrth i‟r gwaith o
ddatblygu sefydliadau cenedlaethol newydd fynd rhagddo symudwyd i ffwrdd o‟r hen
116
syniad o Ganadiaid Ffrengig a rhoddwyd mwy o bwyslais ar ymdeimlad y boblogaeth
tuag at Quebec ei hun. Fel y noda Keating (2001: 85 86), „the basis of national
identity has shifted from that of French-Canadian, an ethnic designation, to
Québécois, an identity based on the territory of Quebec and its institutions.‟ Mae
Raymond Mougeon hefyd yn cynnig sylwadau ynglŷn â‟r newid arwyddocaol hwn:
During the 1960s and 1970s however, francophones in Quebec developed a
strong sense of distinctive identity. They no longer referred to themselves as
French Canadians but as Québécois. They also became less and less concerned
about the fate of Canada‟s francophone minorities and took a series of major
steps to (re)gain control of the economy of their province and to ensure the
continued survival of French in Quebec‟ (Mougeon 1998: 228).
Mewn gwirionedd, yr hyn a welwyd yn Quebec yn ystod y 1960au oedd cychwyn
proses o adeiladu cenedl fodern. Un o ganlyniadau‟r broses hon oedd llacio ar
ddylanwad yr eglwys Gatholig ac ehangu ar rôl y wladwriaeth. Fodd bynnag, drwy‟r
cyfan parhaodd y Ffrangeg i gael ei ystyried fel nodwedd genedlaethol allweddol. Yn
wir, fel y gwelir maes o law, yn ystod y 1960au a‟r 1970au datblygodd rhagolygon yr
iaith i fod yn bwnc gwleidyddol o‟r pwys mwyaf.
3. Bygythiadau i sefyllfa’r Ffrangeg yn Quebec
Roedd y 1950au a‟r 1960au cynnar yn gyfnod o newid sylfaenol yn nemograffeg
ieithyddol Canada (Laporte 1984: 55). Ers 1871, pan gyhoeddwyd cyfrifiad cyntaf y
wlad, roedd y ganran o siaradwyr Ffrangeg wedi aros yn gymharol sefydlog tua 30 y
cant. Yn wir, llwyddwyd i gynnal y sefydlogrwydd hwn er gwaetha‟r newidiadau
sylweddol a welwyd wrth i Ganada ymestyn draw i‟r gorllewin, gan ymgorffori
taleithiau a thiriogaethau newydd. Ond rhwng 1951 a 1961, tarfwyd ar y patrwm
traddodiadol hwn. Yn ôl y cyfrifiad a gyhoeddwyd ym 1961, roedd y ganran o
boblogaeth Canada a oedd yn siarad Ffrangeg bellach wedi disgyn i 28 y cant.
117
Parhaodd y dirywiad hwn drwy‟r 1960au, gan olygu bod y ganran wedi disgyn
ymhellach, i 25 y cant, erbyn 1971 (Laporte 1984: 55).
Ymhlith pethau eraill, roedd y dirywiad hwn yng nghryfder demograffig y
Ffrangeg ar draws Canada yn tanlinellu‟r ffaith fod y broses o gymathu‟r siaradwyr a
oedd yn byw tu hwnt i ffiniau Quebec yn prysur fynd yn ei flaen. Fel y noda Alison
d‟Anglejan (1984: 32), erbyn canol y 1960au câi‟r Saesneg ei mabwysiadu gan nifer
sylweddol o‟r Francophones a oedd yn trigo mewn taleithiau eraill. Er enghraifft,
erbyn diwedd y 1960au roedd tua 85 y cant o boblogaeth Francophone Newfoundland
wedi mabwysiadu‟r Saesneg, tra bod tua 65 y cant wedi gwneud hynny yn British
Columbia a tua 38 y cant yn Ontario. Yn ôl Bourhis, roedd y ffactorau a gyfrannodd at
hybu‟r cymathiad ieithyddol hwn yn niferus:
Factors such as the isolation of small Francophone communities across the
country, declining birth-rate, French-English exogamy, lack of French
language primary and secondary schooling, the legacy of anti-French laws and
the dearth of provincial and federal government services offered in French,
combined to erode the number of French mother-tongue speakers outside of
Quebec (Bourhis 2001: 103).
Heb amheuaeth, cafodd y dystiolaeth yma o ddirywiad ieithyddol effaith ddofn ar yr
ymwybyddiaeth ieithyddol yn Quebec ei hun. Roedd y dystiolaeth yn cadarnhau‟r
pryder fod seiliau tiriogaethol y Ffrangeg ar draws Canada, a Gogledd America‟n
gyffredinol, yn crebachu‟n gyflym. O ganlyniad, fel y noda Bourhis, dadleuodd nifer
cynyddol o genedlaetholwyr mai Quebec oedd „the last territorial enclave in which a
„normal‟ fully developed French society could survive within the New World‟
(Bourhis 2001: 105).
118
Ar y pryd, roedd sefyllfa‟r Ffrangeg yn Quebec ei hun yn dipyn mwy sefydlog
nag ydoedd mewn rhannau eraill o‟r wlad. Er enghraifft, roedd yr iaith yn parhau i fod
yn famiaith i dros 80 y cant o boblogaeth Quebec, ac roedd tua thri chwarter ohonynt
yn siaradwyr uniaith (Bourhis 2001: 105). Eto i gyd, er gwaethaf sefydlogrwydd
cymharol y Ffrangeg yn Quebec, gwelwyd yn ystod y 1960au fod rhai o dueddiadau
cymdeithasol y cyfnod yn meddu ar y potensial i danseilio hyfywedd tymor hir yr
iaith, hyd yn oed yn ei chadarnle.
Fel y noda Pierre Larrivée (2003: 169), un o sgil effeithiau‟r modd y
datblygodd Quebec i fod yn gymdeithas fwy trefol, modern a seciwlar yn ystod y
1950au a‟r 1960au, oedd y dirywiad sylweddol a fu yng ngraddfa genedigaethau‟r
dalaith. Rhwng 1875 a 1965, graddfa genedigaethau Quebec oedd yr uchaf ar draws
Gogledd America. Wrth gwrs, ar y pryd roedd dylanwad yr Eglwys Gatholig yn
parhau yn gryf ac roedd ei chynrychiolwyr yn annog y boblogaeth i fagu teuluoedd
mawr er lles yr iaith a‟r diwylliant Ffrengig. Eto i gyd, wrth i natur y gymdeithas
newid, syrthiodd y raddfa enedigaethau. Bu cwymp o 4.2 (h.y. 4.2 plentyn i bob teulu)
ym 1956 i 2.3 erbyn 1966 (Chevrier 2003: 127). Canlyniad y newid cymdeithasol
hwn, yn ôl Bourhis (2001: 105), oedd codi pryderon ynglŷn â gallu tymor hir y
gymuned Ffrengig yn Quebec ac yn arbennig yn ninas Montreal i gynnal ei safle
demograffig mwyafrifol.
Fodd bynnag, ni ddaw union effeithiau‟r newidiadau demograffig hyn i‟r
amlwg hyd nes eu trafodir ochr yn ochr â thueddiadau mudo‟r cyfnod, ac yn arbennig
sgil effeithiau ieithyddol y tueddiadau hynny. Wrth gwrs, ers dyddiau cynnar La
119
Nouvelle France, mae mudo wedi chwarae rhan hollbwysig yn natblygiad
cymdeithasol Quebec a Chanada‟n gyffredinol. Roedd hyn yn arbennig o wir yn ystod
yr ugeinfed ganrif. Rhwng 1901 a 1931, mudodd nifer helaeth o deuluoedd i Ganada
er mwyn dianc rhag yr argyfyngau economaidd a gwleidyddol a oedd yn tarfu ar
fywyd ar draws Ewrop. Ymhlith y don yma o fewnfudwyr, roedd nifer helaeth o
Eidalwyr ac Iddewon a ymgartrefodd ym Montreal. Yn ddiweddarach, yn dilyn yr Ail
Ryfel Byd, gwelwyd ton arall o fewnfudo a oedd yn cynnwys nifer helaeth o
Almaenwyr, Pwyliaid, Eidalwyr, Groegwyr a Phortiwgeaid. Unwaith eto,
ymgartrefodd nifer helaeth ym Montreal (Larrivée 2003: 167). Caiff effaith y cyfnod
hwn o fewnfudo ar natur poblogaeth Quebec a dinas Montreal yn benodol ei
chrynhoi gan Marc Levine:
... the population composition of Montreal changed significantly after 1900.
The non-French, non-British component of Montreal Island‟s population grew
from 16,000 in 1900 to over 500,000 in 1970 (increasing from 4.5 percent to
over 23 percent of the total). The immigrant‟s choice of whether to adopt
English or French as their language would obviously affect Montreal‟s
linguistic demography (Levine 1990: 55).
Ond beth yn union oedd effaith y cyfnod hwn o fudo ar batrymau ieithyddol Quebec?
Yr hyn oedd yn arwyddocaol o safbwynt ieithyddol ynglŷn â‟r tueddiadau
mudo hyn, oedd y ffaith bod y mwyafrif helaeth o unigolion a theuluoedd a ddaeth i
ymgartrefu yn Quebec, yn gwneud hynny gan fabwysiadu‟r Saesneg, yn hytrach na‟r
Ffrangeg, fel iaith gyhoeddus newydd. Yn wir, fel y noda Pierre Laporte (1984: 59),
erbyn 1971 dim ond tua 8.2 y cant o fewnfudwyr oedd yn mabwysiadu‟r Ffrangeg
wrth ymgartrefu yn Quebec, tra bod tua 24 y cant yn mabwysiadu‟r Saesneg. Wrth
gwrs, doedd hyn yn ei hun ddim yn newydd. Y Saesneg fu‟r iaith a fabwysiadwyd gan
y mwyafrif o fewnfudwyr ers i Brydeinwyr o wahanol gefndiroedd ddechrau mudo i
120
Quebec ar ddechrau‟r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Eto i gyd, hyd nes y 1950au a‟r
1960au, nid arweiniodd hyn at danseilio cryfder demograffig y gymuned Ffrangeg
mewn unrhyw fodd sylweddol, yn sgil graddfa enedigaethau sylweddol y gymuned
honno (Levine 1990: 62). Fodd bynnag, wrth i‟r raddfa enedigaethau syrthio‟n
sylweddol yn ystod y 1960au, daeth nifer o ladmeryddion y Ffrangeg i sylweddoli fod
tueddiadau ieithyddol mewnfudwyr yn ffactor a fyddai‟n dylanwadu‟n sylweddol ar
ragolygon tymor hir yr iaith yn Quebec (Chevrier 1997).
Cafodd tybiaethau o‟r fath eu cadarnhau gan adroddiad a gyhoeddwyd ym
1969 gan y demograffwr Jacques Henripin. Roedd yr adroddiad hwn un a
dderbyniodd gryn dipyn o sylw ar y pryd yn nodi, „If recent migration trends
continue, and if immigrants continue to opt predominantly for the English language,
the French-speaking community of Quebec is bound to see its majority seriously
reduced, particularly in Montreal‟ (dyfynnwyd yn Levine 1990: 62). Aeth Henripin
mor bell a darogan y byddai‟r Ffrangeg yn iaith leiafrifol ym Montreal erbyn diwedd
yr ugeinfed ganrif.1 O ganlyniad, gwelwyd fod sefydlogi sefyllfa‟r Ffrangeg – yn
enwedig ym Montreal yn dibynnu ar sicrhau bod mwy a mwy o fewnfudwyr yn
mabwysiadu‟r Ffrangeg wrth ymgartrefu yn Quebec. Fel y noda Bourhis:
Without a sustained Francophone birth-rate, reliance on immigration and the
integration of immigrants to the Francophone linguistic community rather than
to the Anglophone one became strategically important as a means of stemming
1 Dylid nodi fod nifer o sylwebwyr eraill wedi cwestiynu union gywirdeb rhai o honiadau Henripin
ynglŷn â pha mor gyflym y byddai‟r Ffrangeg yn colli ei statws mwyafrifol. Er enghraifft, nodwyd nad
oedd ei gasgliadau yn rhoi digon o ystyriaeth i‟r ffaith fod nifer sylweddol o siaradwyr Saesneg yn
debygol o gael eu denu i Toronto wrth i‟r ddinas honno dyfu. Ar ben hynny, awgrymwyd nad oedd ei
gasgliadau yn rhoi sylw i‟r ffaith fod nifer helaeth o siaradwyr Ffrangeg yn y broses o fudo i Montreal
ar y pryd o ardaloedd gwledig Quebec. Yn wir, maes o law byddai Henripin ei hun yn addasu rhai o‟i
gasgliadau gwreiddiol. Ond, er gwaethaf y cwestiynau penodol hyn, roedd y ddadl gyffredinol hynny
yw bod tueddiadau ieithyddol mewnfudwyr yn tanseilio seiliau demograffig y Ffrangeg yn un a gâi ei
dderbyn gan y mwyafrif o drigolion Quebec. Gweler Levine (1990).
121
the long term decline of the Francophone population in the Province (Bourhis
2001: 106).
Ymhellach, wrth i‟r sylweddoliad hwn ynglŷn â phwysigrwydd dewisiadau ieithyddol
mewnfudwyr fagu gwreiddiau, datblygodd un maes penodol yn gadfan hollbwysig.
Ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd gan rieni y rhyddid i
ddanfon eu plant naill ai i ysgolion cyhoeddus Ffrangeg eu cyfrwng, neu i rai Saesneg
eu cyfrwng. Erbyn y 1960au daeth yn fwyfwy amlwg fod y mwyafrif helaeth o
fewnfudwyr yn dewis danfon eu plant i‟r ysgolion cyfrwng Saesneg. Er enghraifft,
rhwng 1951 a 1967 syrthiodd y ganran o blant o gefndir Eidalaidd a oedd yn mynychu
ysgolion cyfrwng Ffrangeg o 49 y cant i 12 y cant (Laporte 1984: 59). Golygai
tueddiadau o‟r fath fod dewisiadau addysgiadol gwahanol fewnfudwyr yn arwain at
danseilio cryfder demograffig y Ffrangeg. Caiff y sefyllfa erbyn dechrau‟r 1970au ei
chrynhoi yn effeithiol gan Laporte:
Indeed, by the early seventies, about a quarter of the student population of
anglophone schools was made of pupils whose mother tongue was other than
English. These included a small percentage of francophone pupils and a much
greater proportion of students from language minorities. For the year 1970-71,
8.3% of the student population of Montreal English schools was of French
mother tongue while 22.5% was from various language minorities. The
comparison with French schools is revealing: in 1970-72, 1.9% of students in
these schools were English mother tongue and 0.9% came from language
minorities (Laporte 1984: 59 60).
Yn wir, mae‟r tueddiadau a nodir uchod gan Laporte yn pwysleisio cymaint oedd
cryfder y Saesneg ac yn enwedig ei hatyniad ymhlith mewnfudwyr mewn
cymhariaeth â‟r Ffrangeg.
Un ffactor a oedd yn cymell y tueddiadau hyn oedd natur grefyddol y drefn
addysg. Mae d‟Anglejan (1984:34) wedi dadlau bod hyn yn tanseilio datblygiad yr
122
ysgolion Ffrangeg. Ar y pryd, nid oedd yr ysgolion Catholig (rhai Ffrangeg a Saesneg
eu cyfrwng) yn derbyn plant nad oeddent yn dod o gefndir Catholig. Serch hynny,
roedd yr ysgolion Protestannaidd (a oedd yn bennaf yn ysgolion cyfrwng Saesneg) yn
derbyn plant o bob cefndir crefyddol. O ganlyniad, datblygodd yr ysgolion
Protestannaidd i fod yn sefydliadau a nodweddwyd gan amrywiaeth diwylliannol, lle
i plant o wahanol gefndiroedd eu haddysgu trwy gyfrwng y Saesneg.
Fodd bynnag, mae‟n siŵr mai ystyriaethau economaidd oedd yn dylanwadu‟n
bennaf ar ddewisiadau addysgiadol mewnfudwyr. Fel y noda Levine, „For most
immigrants arriving in Montreal, the frame of reference was English-speaking North
America, not necessarily French-speaking Quebec‟ (Levine 1990: 56). O ganlyniad,
yn nhyb y mwyafrif o fewnfudwyr roedd sicrhau meistrolaeth o‟r Saesneg yn hanfodol
er mwyn sicrhau cyfleoedd economaidd a dyrchafiad cymdeithasol. Serch hynny, nid
dim ond sefyllfa fwyafrifol y Saesneg ar draws Gogledd America oedd yn llywio
ystyriaethau‟r mewnfudwyr. Roedd statws cymharol y Ffrangeg a‟r Saesneg o fewn
Quebec ei hun yn ddylanwad pwysig hefyd.
Ar y pryd, er gwaetha‟r ffaith mai‟r Ffrangeg oedd iaith gyntaf y mwyafrif
helaeth o‟r boblogaeth, roedd y Saesneg iaith gyntaf y lleiafrif yn meddu ar statws
a bri dipyn uwch. Fel yr eglura Laporte, roedd perthynas y ddwy iaith o fewn yr
economi yn gwbl ganolog i ddatblygiad sefyllfa o‟r fath:
The dominance of English in Quebec was partly demographic since its status
as a majority language in Canada and North America gave the local
anglophone minority a sense of strength, which they would not have
otherwise. But, much more important, given that Quebec is 80% French is the
economic basis of language dominance. In much of Quebec history, English
has been the language of the economically powerful (Laporte 1984: 56).
123
Cafodd y ddominyddiaeth ieithyddol hon o fewn economi Quebec ei hamlinellu‟n glir
mewn adroddiadau cynhwysfawr a gyhoeddwyd yn ystod y 1960au a‟r 1970au gan y
Comisiwn Brenhinol ar Ddwyieithrwydd a Deuddiwylliannedd (Government of
Canada 1969) a Chomisiwn Gendron ar ddyfodol y Ffrangeg yn Quebec (Le
Gouvernement du Québec 1972). Ar y cyfan, y Saesneg oedd iaith gwaith o fewn
economi Quebec, ac yn enwedig felly ar lefelau uwch yr economi. Fel y noda Laporte,
„English tended to dominate as the language of economic advancement. While French
was used widely in the lower echelons of economic life, English usage dominated in
the upper strata of the corporate world‟ (Laporte 1984: 57).
Canlyniad hyn oedd creu sefyllfa lle nad oedd siaradwyr Ffrangeg yn cael eu
cynrychioli‟n ddigonol ar lefelau uchaf economi Quebec. Ymhellach, pe byddai
siaradwyr Ffrangeg yn llwyddo i sicrhau dyrchafiad, ni fyddai hynny ond yn digwydd
ar yr amod eu bod yn gymwys i gyflawni‟r gwaith trwy gyfrwng y Saesneg. O
ganlyniad roedd y pwysau i fod yn ddwyieithog yn cael ei osod, bron yn gyfan gwbl,
ar ysgwyddau siaradwyr Ffrangeg, a hynny er gwaetha‟r ffaith mai‟r Ffrangeg oedd
iaith y mwyafrif. Mae Levine wedi awgrymu fod y sefyllfa yn Quebec ar y pryd ac
yn enwedig ym Montreal yn ymdebygu i ryw fath o „raniad llafur diwylliannol‟:
„Anglophones controlled capital and occupied command positions well out of
proportion to their numbers in the Montreal population, while Francophones were
relegated to subordinate or peripheral economic activities‟ (Levine 1990: 18). Boed y
defnydd o‟r term „rhaniad llafur diwylliannol‟ yn gwbl briodol ai peidio, yr hyn sy‟n
arwyddocaol yw bod y sefyllfa wedi arwain at wahaniaethau sylweddol o ran cyflog a
oedd yn rhedeg ar hyd llinellau ieithyddol:
124
These occupational differences translated into significant wage differentials
between Francophone‟s and Anglophones. Although Francophones accounted
for 60 percent of Montreal‟s male labour force in 1964, they represented only
37 percent of the salaried personnel making more than $5,000 a year ... at the
highest salary levels, Francophone representation shrank to 17 percent. On the
other hand, although Anglophones constituted only 24 percent of Montreal‟s
labour force in 1961, they totalled 56 percent of the metropolitan area‟s “best
paid” wage earners (Levine 1990: 23).
Yn wir, fel y nododd y Comisiwn Brenhinol ar Ddwyieithrwydd a Deuddiwylliannedd
(Government of Canada 1969), roedd siaradwyr Saesneg uniaith yn tueddu i ennill
cyflog tipyn uwch na siaradwyr Ffrangeg dwyieithog.
Yn ôl y disgwyl, câi bodolaeth rhaniad ieithyddol o‟r fath o fewn yr economi
ei ystyried fel bygythiad go sylweddol i ffyniant tymor hir y Ffrangeg yn Quebec.
Roedd sefyllfa o‟r fath yn dylanwadu ymhellach ar ddewisiadau ieithyddol
mewnfudwyr. Hyd yn oed os anwybyddwyd cyd-destun cyffredinol Gogledd
America, roedd dominyddiaeth y Saesneg o fewn economi Quebec wedi bod yn
ddigon i‟w cymell i ffafrio‟r iaith honno fel cyfrwng newydd (Levine 1990: 56). Ar
ben hynny, roedd y rhaniad ieithyddol o fewn yr economi yn sail i anghyfiawnder
strwythurol a oedd yn tanseilio cyfleoedd cymdeithasol y mwyafrif Ffrangeg eu hiaith.
4. Polisïau Iaith y Llywodraeth Ffederal
Wrth i ymwybyddiaeth gynyddu ynglŷn â‟r bygythiadau gwahanol i ragolygon y
Ffrangeg, boed yn Quebec, neu mewn rhannau eraill o Ganada, gwelwyd bod angen
mynd ati i ddatblygu polisïau ieithyddol cadarnhaol. Yn yr adran nesaf, edrychir yn
fanwl ar natur y polisïau ieithyddol a ddatblygwyd gan lywodraeth Quebec. Fodd
bynnag, cyn mynd ati i wneud hynny, rhoddir gorolwg o‟r polisïau a ddatblygwyd gan
Lywodraeth Ffederal Canada.
125
Roedd Deddf Gogledd America 1867 y ddeddf Brydeinig a arweiniodd at
sefydlu Canada ffederal yn cynnwys rhai cymalau a oedd yn cyfeirio at natur
ddwyieithog y wlad. Er enghraifft, noda cymal 133 o‟r ddeddf:
Either the English or the French Language may be used by any Person in the
Debates of the Houses of the Parliament of Canada and of the Houses of the
Legislature of Quebec; and both those languages shall be used in the respective
Records and Journals of those Houses; and either of those languages may be
used by any Person or in any Pleading or process in or issuing from any Court
of Canada established under this Act, and in or from all or any of the Courts of
Quebec (dyfynnwyd yn MacMillan 2003: 89).
O ganlyniad, yn swyddogol o leiaf, rhoddwyd cydnabyddiaeth i statws cyfartal y
Saesneg a‟r Ffrangeg o fewn y llywodraeth ffederal a hefyd yn Quebec. Eto i gyd,
cyfyngedig iawn oedd effaith datganiad o‟r fath. Mewn perthynas â‟r llywodraeth
ffederal, nid arweiniodd at ddatblygu unrhyw bolisïau neu arferion dwyieithog
ystyrlon. Fel y noda Levine (1990: 91), „The face of the federal government was
resolutely English. Yn ogystal, yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif,
llywodraeth Quebec oedd yr unig lywodraeth daleithiol a oedd yn gwneud ymdrech i
gydnabod y ddwy iaith. Yn wir, roedd amryw o‟r taleithiau eraill wedi mynd ati‟n
bwrpasol i danseilio‟r Ffrangeg, gan gyflwyno mesurau a oedd yn gwahardd ei
defnydd ym maes addysg.2
Dros y blynyddoedd cymerwyd rhai camau symbolaidd gan y llywodraeth
ffederal i gydnabod y Ffrangeg. Er enghraifft, cyhoeddwyd stampiau dwyieithog yn
ystod y 1950au. Fodd bynnag, hyd y 1960au ni welwyd bod angen unrhyw ystyriaeth
fanylach o sut y dylai Canada ymateb i‟r ffaith ei bod yn wladwriaeth amlieithog. Eto
2 Ym 1890, pasiwyd mesur gan senedd Manitobia a oedd yn diddymu statws swyddogol y Ffrangeg yn
y dalaith. O ganlyniad, Saesneg oedd unig iaith y senedd, y gyfraith a‟r llysoedd. Ym 1912 cyflwynwyd
Rheol 17 gan lywodraeth Geidwadol Ontario. Arweiniodd hyn at gyfyngu‟n sylweddol ar y
ddarpariaeth o addysg Ffrangeg ar draws y dalaith.
126
i gyd, yn sgil yr ymchwydd a welwyd mewn hunaniaeth genedlaethol yn Quebec
erbyn dechrau‟r 1960au, penderfynodd y llywodraeth ffederal i ymateb. Ym 1963,
sefydlwyd y Comisiwn Brenhinol ar Ddwyieithrwydd a Deuddiwylliannedd gan
lywodraeth Ryddfrydol Lester B. Pearson. Amcan y comisiwn hwn oedd „to inquire
into and report upon the existing state of bilingualism and biculturalism in Canada and
to recommend what steps should be taken to develop the Canadian confederation as an
equal partnership between the two founding races‟ (dyfynnwyd yn Levine 1990: 91).
Roedd yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan aelodau‟r comisiwn hwn yn un o‟r
digwyddiadau pwysicaf yn hanes diweddar Canada. Cynhaliwyd nifer helaeth o
gyfarfodydd ym mhob rhan o‟r wlad a chyhoeddwyd cyfres o adroddiadau swmpus.3
Darganfyddodd y comisiynwyr gryn dipyn o anniddigrwydd ymhlith siaradwyr
Ffrangeg ynglŷn â statws yr iaith, ac hefyd ei rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Yn wir,
cymaint oedd yr anniddigrwydd nes i adroddiad cychwynnol y Comisiwn, a
gyhoeddwyd ym 1965, nodi bod Canada; „without being fully conscious of the fact, is
passing through the greatest crisis in its history‟ (dyfynnwyd yn Chevrier, 2003: 128).
Roedd y ffactorau a oedd yn sail i‟r anniddugrwydd hwn yn niferus ac yn cyfateb i
nifer o‟r pwyntiau a drafodwyd yn yr adran flaenorol. Ar ben hynny, pwysleisiodd y
Comisiwn fod methiant y llywodraeth ffederal i drin y Ffrangeg a‟r Saesneg yn
gyfartal yn broblem sylfaenol. Fel y noda Michael MacMillan:
Within federal institutions, it (h.y. y Comisiwn) found that French Canadians
were under-represented compared to their share of the national population ...
and that they were concentrated in the lower echelons of the departmental
public service, such that, the higher the position level, the smaller the
percentage of Francophones ... Beyond that, only 9 per cent of positions were
3 Am orolwg diddorol o waith y Comisiwn, ei aelodau ac hefyd natur y gwahanol gyfarfodydd a
gynhaliwyd ar draws Canada yn ystod y 1960au, gweler Fraser (2006).
127
designated bilingual, a strong indicator of the limited commitment to provide
government services in French (MacMillan 2003: 91).
O ganlyniad, dadleuwyd fod yn rhaid i‟r llywodraeth ffederal fynd ati ar fyrder i
fabwysiadu polisi iaith cynhwysfawr.
Amlinellodd y Comisiwn nifer helaeth o bolisïau y gellid eu mabwysiadu er
mwyn sicrhau mwy o gyfartaledd ar draws Canada rhwng y Ffrangeg a‟r Saesneg, ac
ymgorfforwyd llawer ohonynt yn y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol a gyflwynwyd ym
1969. Roedd y ddeddf hon yn nodi bwriad y llywodraeth ffederal i gyflwyno cyfres o
newidiadau sylfaenol i‟r modd y byddai‟n ymdrin â‟r Ffrangeg a‟r Saesneg. I
ddechrau, cafodd y ddwy iaith eu cydnabod fel ieithoedd swyddogol Canada. Yn ail,
ymrwymodd y llywodraeth i sicrhau bod Canadiaid yn medru cyfathrebu â
sefydliadau ffederal a derbyn eu gwasanaethau trwy gyfrwng y Ffrangeg neu‟r
Saesneg yn y brifddinas, a hefyd yn yr ardaloedd hynny lle ceir galw digonol am
wasanaethau dwyieithog. Yn drydydd, er mwyn cyfrannu at wireddu‟r pwynt
blaenorol, ymrwymwyd i gynyddu‟r nifer o siaradwyr Ffrangeg a oedd yn gweithio i‟r
gwasanaeth sifil ffederal ac hefyd i sicrhau bod gan y gweithwyr hyn fwy o gyfleoedd
i weithio trwy gyfrwng y Ffrangeg. Yn bedwerydd, nodwyd y bwriad i ddatblygu
cyfres o ardaloedd dwyieithog hynny yw cyfres o ardaloedd lle roedd Francophones
neu Anglophones yn cynrychioli dros ddeg y cant o‟r boblogaeth leol. Yn wreiddiol y
bwriad oedd y byddai‟r ardaloedd hyn yn rhai lle byddai pob gwasanaeth – ffederal,
taleithiol a lleol yn cael eu darparu‟n ddwyieithog.4 Yn olaf, sefydlwyd swydd
Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol. Y person yma a fyddai‟n gyfrifol am oruchwylio
4 Yn y pen draw nid oedd hi‟n bosib i weithredu‟r polisi o ddatblygu ardaloedd dwyieithog. Bu‟n rhaid
rhoi‟r gorau i‟r gwaith o ganlyniad i anghydweld cyson rhwng y llywodraeth ffederal a llywodraethau‟r
taleithiau unigol. Am drafodaeth gyflawn o‟r mater hwn gweler Bourgois (2006).
128
gweithrediad y ddeddf, gan gyhoeddi adroddiadau blynyddol. Heb os, fe arweiniodd y
Ddeddf Ieithoedd Swyddogol at newidiadau pwysig. Er enghraifft, dros y
blynyddoedd gwelwyd cynnydd sylweddol yn y defnydd o‟r Ffrangeg a wnaed gan
gyrff ffederal a hefyd yn y nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth sifil ffederal a nodwyd
fel rhai a oedd yn galw am ddwyieithrwydd.5 Yn wir, o‟r 1960au ymlaen byddai
materion ieithyddol yn hawlio lle llawer uwch ar restr flaenoriaethau‟r llywodraeth
ffederal.
Cafwyd cadarnhad pellach o‟r pwysigrwydd hyn ym 1982, yn ystod y
trafodaethau a arweiniodd at fabwysiadu cyfansoddiad newydd ar gyfer Canada. Fel
rhan o‟r broses hon, mabwysiadwyd Siarter o Hawliau a Rhyddfreiniau, ac roedd nifer
o gymalau‟r siarter newydd yn cyfeirio at faterion ieithyddol. Yn wir, arweiniodd y
siarter at gryfhau ac ymestyn rhannau o Ddeddf Iaith 1969. I ddechrau, yn ôl Kenneth
McRae, tra bod y ddeddf wreiddiol wedi gosod dyletswydd ar nifer o gyrff ffederal i
ddarparu gwasanaethau dwyieithog, nid oedd wedi arwain at sefydlu hawl i dderbyn y
gwasanaeth hwnnw trwy gyfrwng iaith arbennig (McRae 1998: 76). Fodd bynnag,
symudwyd i‟r cyfeiriad hwn ym 1982 yn sgil mabwysiadu‟r Siarter o Hawliau a
Rhyddfreiniau:
This further step would be achieved with the passage of the Canadian Charter
of Rights and Freedoms in 1982, which embedded such rights in the
constitution Section 20 (1) of the Canadian Charter of Rights and Freedoms
grants any member of the Canadian public the right to receive any available
government services from head offices of the federal government and other
offices where there is a „significant demand‟ in either English or French
(MacMillan; 2003: 97).
5 Am drafodaeth o‟r cynnydd a wnaed ac hefyd y problemau a wynebwyd mewn meysydd megis iaith
gwaith, iaith gwasanaethau a iaith addysg, gweler MacMillan 2003: 92 103; McRae 1998: 65 75.
129
Roedd cam o‟r fath yn cryfhau‟n sylweddol y pwysau a roddwyd ar gyrff ffederal i
drin y Ffrangeg a‟r Saesneg yn gyfartal.
Cafwyd datblygiad pwysig arall yn sgil y cymalau hynny o‟r Siarter a oedd yn
ymwneud ag addysg. Roedd Cymal 23 yn cydnabod bod gan leiafrifoedd Ffrangeg a
Saesneg eu hiaith yr hawl i dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith honno, ar yr
amod bod galw digonol yn yr ardal dan sylw. Roedd hwn yn gam arwyddocaol, a
oedd unwaith eto yn ymestyn ar ddarpariaeth Deddf 1969. Golygai fod dyletswydd
cyfansoddiadol mewn perthynas â iaith yn cael ei osod ar y llywodraethau taleithiol
hefyd, gan fod addysg yn faes a oedd yn perthyn i‟w cylch gorchwyl hwy. Fel y
gwelir maes o law, byddai‟r gofynion hyn ym maes addysg yn un o‟r ffactorau a
fyddai‟n cyfrannu at y gwrthdaro mewn perthynas â pholisïau iaith penodol
llywodraeth Quebec.
O ran y dadleuon a ddefnyddiwyd gan y llywodraeth ffederal er mwyn
cyfiawnhau‟r broses o ddatblygu‟r polisïau iaith a ddisgrifiwyd uchod, teg yw dweud
mai‟r amcan o hybu undod ar draws Canada oedd bwysicaf (MacMillan 2003: 93).
Roedd hyn yn ffactor a nodwyd eisoes yn adroddiad cychwynnol y Comisiwn
Brenhinol ar Ddwyieithrwydd a Deuddiwylliannedd ym 1965. Ond dros y
blynyddoedd, gwelwyd ei fod yn ddadl a ddefnyddiwyd yn gyson gan y llywodraeth
ffederal ei hun. Er enghraifft, yn ystod y 1970au, yn wyneb gwrthwynebiad cynyddol
o gyfeiriad Canadiaid uniaith Saesneg, nododd y llywodraeth, „Canada cannot
continue to exist as a single country unless the English an French languages are
accepted and recognised as official languages of the country‟ (dyfynnwyd yn
130
MacMillan 2003: 93). Fodd bynnag, mae‟n bosib mai‟r cyn Brif Weinidog Pierre
Elliot Trudeau a fynegodd deimladau‟r llywodraeth orau yn ystod trafodaeth yn y
Senedd ym 1973:
We are dealing with straightforward political and social realities ... If only
because of sheer force of numbers, either group has the power to destroy the
unity of this country. Those are the facts ... These facts leave Canada with only
one choice, only one realistic policy: to guarantee the language rights of both
linguistic communities (dyfynnwyd yn MacMillan 2003: 112).
Felly yn nhyb y llywodraeth ffederal roedd y broses o ddatblygu polisi dwyieithog ac
o gynnig hawliau iaith yn hanfodol er mwyn cynnal undod cenedlaethol Canada.
Eto i gyd, os mai sicrhau undod cenedlaethol oedd un o‟r prif amcanion, yna
rhaid nodi mai cymharol gyfyng fu‟r llwyddiant. Wedi‟r cyfan yn ystod y deng
mlynedd ar hugain diwethaf cynhaliwyd dau refferendwm ar annibyniaeth yn Quebec
un ym 1980 a‟r llall ym 1995 – gyda‟r ail yn dod o fewn trwch blewyn i ennill.
Serch hynny, i ba raddau y dylid bod wedi disgwyl i‟r polisïau ieithyddol a
fabwysiadwyd gan y llywodraeth ffederal hybu undod? Wedi‟r cyfan nid oedd
gobeithion André Laurendeau, cyd-gadeirydd y Comisiwn Brendinol ar
Ddwyieithrwydd a Deuddiwylliannedd, yn uchel iawn. Ar adeg cyflwyno‟r gyfrol
gyntaf o adroddiad y comisiwn nododd yn ei ddyddiadur; „it does nothing for Quebec‟
(dyfynnwyd yn MacMillan, 2003: 104). Fel yr eglura MacMillan nid oedd cynigion
gwreiddiol y comisiwn, na chwaith y polisïau ffederal a ddatblygwyd dros y
blynyddoedd, yn mynd i‟r afael â‟r problemau ieithyddol penodol a wynebwyd gan
Quebec:
The proposals didn‟t engage the social and economic grievances of
Francophones within Quebec‟s private sector. Neither did they address
questions of immigration and linguistic assimilation within Quebec. As
controversial and significant as its innovations would be for Francophones in
131
the rest of Canada, they would have an insignificant impact within Quebec,
where federal institutions were already achieving these language policy goals
(MacMillan 2003: 104).
O ystyried hyn, nid yw‟n syndod mewn gwirionedd i Lywodraeth Quebec fynd ati yn
ystod y 1970au i ddatblygu ei model ei hun o bolisi iaith; polisi a oedd yn wahanol i‟r
model ffederal o ran sgôp, ac amcanion sylfaenol.
5. Datblygiad Polisi Iaith Quebec
Un o‟r camau cyntaf a gymerwyd gan Lywodraeth Quebec ym maes polisi iaith oedd
sefydlu‟r Office de la Langue Française ym 1961. Eto i gyd, cam digon cyfyng oedd
hwn mewn gwirionedd. Prif gyfrifoldeb y corff newydd oedd ceisio codi safon y
Ffrangeg a siaradwyd gan drigolion Quebec; hynny yw, y math o waith a adnabyddir
gan gynllunwyr iaith fel cynllunio corpws. Tra bod y gwaith hwn yn ymateb i
bryderon y bobl hynny a oedd, erbyn y 1960au, yn gynyddol anhapus ynglŷn â‟r
dirywiad a fu yn safon y Ffrangeg a siaradwyd yn Quebec, o‟i chymharu â‟r norm
Ewropeaidd, nid oedd yn mynd i‟r afael â rhai o‟r ffactorau dyfnach a oedd yn bygwth
seiliau demograffig yr iaith. O ganlyniad, nid yw‟n syndod bod y mwyafrif o‟r camau
diweddarach a gymerwyd gan lywodraeth Quebec wedi canolbwyntio‟n bennaf ar yr
agwedd honno o gynllunio iaith a adnabyddir fel cynllunio statws.
Fodd bynnag, rhaid oedd aros tan 1969 cyn i‟r llywodraeth gymryd unrhyw
gamau pellach. Ers y penderfyniad dadleuol nôl ym 1967 i gyfyngu ar y ddarpariaeth
o addysg Saesneg yn nalgylch Saint-Léonard ym Montreal, roedd cyfrwng dysgu
ysgolion Quebec wedi datblygu i fod yn bwnc dadleuol dros ben.6 O ganlyniad, roedd
6 Am drafodaeth fanwl o „achos Saint-Léonard‟, gweler Levine 1990.
132
pwysau ar y llywodraeth i ymateb er mwyn tawelu‟r sefyllfa. Fel y noda Levine wrth
gyfeirio at y sefyllfa ym Montreal erbyn diwedd y 1960au, „anxieties were rising in
both Montreal‟s linguistic communities, and the provincial government could no
longer avoid the need to articulate a clear, comprehensive policy on the language of
education in Montreal‟ (Levine 1990: 73). O ganlyniad, cyflwynwyd Mesur 63 Une
Loi pour promouvoir la langue française au Québec gan lywodraeth yr Union
Nationale dan arweiniad Jean-Jaques Bertrand.
Roedd y mesur hwn yn cynnwys amryw o gymalau oedd â‟r nod o geisio hybu
statws y Ffrangeg yn Quebec. Er enghraifft, nodwyd y dylid ceisio sicrhau fod pob
plentyn a oedd yn graddio o drefn addysg Quebec yn gwneud hynny gyda
dealltwriaeth sylfaenol o‟r Ffrangeg. Ar ben hynny, nodwyd y byddai‟r llywodraeth
yn ymestyn ar y ddarpariaeth o raglenni a oedd yn annog mewnfudwyr i ddysgu
Ffrangeg. Serch hynny, prif gymal Mesur 63 oedd yr un yn ymwneud â‟r ddarpariaeth
o addysg cyfrwng Ffrangeg a chyfrwng Saesneg. Yn achos y pwnc hynod ddadleuol
hwn, nododd y mesur y dylai fod gan rieni y rhyddid i ddewis pa fath o addysg y
byddai eu plant yn ei dderbyn. Felly, fel yr eglura Levine, „Immigrants would not be
compelled to attend French-language schools; moreover, freedom of choice would
exist for anyone, Francophones included, to send their children to English-language
schools‟ (Levine 1990: 79 80). Roedd hwn yn benderfyniad a gymeradwywyd gan y
gymuned Anglophone. Serch hynny, cafodd ei feirniadu‟n hallt gan nifer helaeth o
aelodau‟r mwyafrif Francophone, ac ar sail hynny, cafwyd protestio ffyrnig. Yn wir,
roedd ymdriniaeth Bertrand a‟r Union Nationale o‟r mater hwn yn rhannol gyfrifol am
y ffaith iddynt golli‟r etholiad cyffredinol ym 1970.
133
Roedd hi‟n anochel y byddai‟n rhaid i‟r llywodraeth newydd gyflwyno
newidiadau i Fesur 63, gymaint oedd yr ansicrwydd. Eto i gyd, nid oedd Robert
Bourassa a‟i lywodraeth Ryddfrydol am wneud dim byd ar frys. O ganlyniad,
datganwyd y byddent yn aros i weld beth fyddai casgliadau Comisiwn Gendron
comisiwn a apwyntiwyd i ymchwilio i gyflwr y Ffrangeg yn Quebec cyn cymryd
unrhyw gamau pellach. Cyhoeddwyd casgliadau‟r comisiwn ym mis Rhagfyr 1972.
Yna, yn ystod 1974 cyflwynodd Bourassa Fesur 22 La loi sur la langue officielle.
Roedd hwn yn fesur tipyn mwy cynhwysfawr na Mesur 63 yr Union Nationale. Mewn
gwirionedd, hwn oedd yr ymgais difrifol cyntaf gan lywodraeth Quebec i ddyrchafu
statws y Ffrangeg (Chevrier 2003: 131).
Caiff yr awydd hwn i weithredu o blaid y Ffrangeg ei danlinellu yn ieithwedd
rhagarweiniad y mesur:
The French language is a national heritage which the body politic is in duty
bound to preserve, and it is incumbent upon the government of the province of
Quebec to employ every means in its power to ensure the pre-eminence and to
promote its vigour and quality (Le Gouvernement du Québec, 1974;
dyfynnwyd yn Chevrier, 2003: 131).
Yn wir, roedd cyflwyno Mesur 22 yn nodi diwedd ar y cyfnod o gydraddoldeb
swyddogol o ran statws rhwng y Ffrangeg a‟r Saesneg (Levine 1990: 99). Am y tro
cyntaf, datganwyd mai‟r Ffrangeg oedd unig iaith swyddogol y dalaith. Yn sgil hynny,
y Ffrangeg fyddai bellach yn cael ei defnyddio fel iaith weithredol gan adrannau‟r
llywodraeth a‟r sector gyhoeddus yn gyffredinol. Datganwyd hefyd fod gwybodaeth
o‟r Ffrangeg bellach yn hanfodol er mwyn cyflawni amrediad o swyddi proffesiynol
megis doctoriaid, cyfreithwyr, nyrsys a gweithwyr cymdeithasol. Ar ben hynny,
nodwyd bod disgwyl i‟r Ffrangeg gael ei defnyddio ar amrediad o arwyddion megis
134
enwau cwmnïau, labeli cynnyrch a hysbysebion. Serch hynny, tra bod Mesur 22 yn
mynd dipyn pellach na Mesur 63, nid mesur a oedd yn anelu at sefydlu unieithrwydd
ydoedd:
... Bill 22 was emphatically not a French unilingualist policy: although it
mandated a form of French priority in most areas, English-language rights
were explicitly written into the bill ... For example, local governments and
school boards in areas that were at least 10 percent English-speaking were
required to draw up official documents in English. Moreover, both French and
English were permitted as the languages of internal communication for public
institutions in these communities. Finally, while billboards and other public
signs were now required to be in French a stipulation meant to meet
nationalist concerns over the insufficiently French face of Montreal English
was not proscribed. In short, despite the bald rhetoric of French promotion in
the preamble of Bill 22, there was still a healthy dose of bilingualism
throughout the bill itself (Levine 1990: 99 100).
O ganlyniad, tra bod camau sylweddol wedi eu cymryd i ddyrchafu‟r Ffrangeg, nid
oedd y Saesneg wedi cael ei gwahardd mewn unrhyw fodd.
Eto i gyd, tra bod y camau a nodwyd uchod yn rhai pwysig, roedd dau faes
penodol yn ganolog i amcanion Mesur 22: y defnydd o‟r Ffrangeg o fewn yr economi
a hefyd ym maes addysg. Roedd y camau a gymerwyd yn y meysydd hyn yn nodi
ymdrech i ymdrin â dau o‟r ffactorau a oedd yn ganolog i anniddigrwydd ieithyddol y
1960au. O ran yr economi, datganwyd y byddai camau yn cael eu cymryd i hybu‟r
defnydd o‟r Ffrangeg fel iaith y gweithle. Er mwyn hybu symudiad o‟r fath,
datganwyd mai dim ond y cwmnïau hynny a oedd yn gwneud defnydd helaeth o‟r
Ffrangeg yn y gweithle a fyddai‟n gymwys i dderbyn cytundebau neu
gymorthdaliadau gan lywodraeth Quebec:
In order to be eligible to receive contracts, subsidies, concessions or benefits
from the public administration, the law required that business firms apply for
“francization certificates”. These certificates were to be issued on the basis of
several criteria related to the language of work. Among these were the required
135
knowledge and use of French by management personnel, as well as the
presence of francophones in management (d‟Angelejan 1984: 39).
Er bod hwn, heb amheuaeth, yn gam arwyddocaol, roedd ei effeithiau‟n gymharol
gyfyng. Wedi‟r cyfan, ni roddwyd unrhyw orfodaeth ar gwmnïau i fabwysiadu‟r
Ffrangeg fel iaith weithredol.
Heb os, argymhellion Mesur 22 ym maes addysg oedd y rhai mwyaf
arwyddocaol a dadleuol. Am y tro cyntaf, cymerwyd camau i gyfyngu ar y
ddarpariaeth o addysg Saesneg. Yn ôl y mesur, ni fyddai‟r ddarpariaeth hon ond ar
gael ar gyfer y sawl a oedd eisoes yn meddu ar „a sufficient knowledge of the
language of instruction to receive their instruction in that language‟ (Cymal 41;
dyfynnwyd yn d‟Angelejan 1984: 39). Roedd disgwyl i bawb arall, beth bynnag fo‟u
mamiaith, fynychu‟r ysgolion Ffrangeg. Sefydlwyd profion ieithyddol swyddogol er
mwyn penderfynu pa blant oedd yn meddu ar ddigon o Saesneg i gael derbyn eu
haddysg trwy gyfrwng yr iaith honno.
Gobaith Bourassa a‟i lywodraeth oedd y byddai‟r polisi addysg hwn yn plesio
pawb, gan gynnig rhyw fath o ddatrysiad i‟r ddadl ieithyddol ym maes addysg. Y
bwriad oedd y byddai‟r mwyafrif o blant mewnfudwyr yn cael eu cyfeirio i‟r ffrwd
addysg Ffrangeg, tra bod y plant hynny a oedd eisoes yn siarad Saesneg yn dal i fedru
derbyn eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith honno. Serch hynny, yn y pen draw nid oedd
y polisi‟n plesio neb. Ar y naill law, roedd lladmeryddion y Ffrangeg yn galw am
bolisi tynnach a fyddai‟n cyfeirio hyd yn oed mwy o fewnfudwyr tuag at y ffrwd
addysg Ffrangeg. Ar y llaw arall, roedd nifer o fewnfudwyr, a hefyd aelodau o‟r
gymuned Saesnig, yn gweld y polisi fel ymosodiad ar eu „rhyddid‟ hwy i ddewis pa
136
fath o addysg y dylai eu plant dderbyn. Ar ben hynny, roedd y syniad o seilio‟r holl
drefn ar brofion ieithyddol yn hynod o amhoblogaidd, fel yr eglura Pierre Larrivée:
The idea of having young children put through language tests, the prospect of
having a family‟s children placed in different schools, the vagueness of the
notion of adequate knowledge which was liable to discretionary interpretations
and actions made the application of an already much questioned principle
completely unacceptable to English speaking Quebecers (Larrivée, 2003: 171
172).7
Yn wir, fel yn achos Mesur 63 rai blynyddoedd yng nghynt, roedd amhoblogrwydd
Mesur 22 yn un o‟r prif ffactorau a gyfrannodd at gwymp y llywodraeth Ryddfrydol
ym 1976 (Levine 1990: 108 109).
Caiff etholiad cyffredinol 1976 ei gydnabod fel un o‟r pwysicaf yn hanes
diweddar Quebec. Am y tro cyntaf, etholwyd llywodraeth dan arweiniad y Parti
Québécois (PQ). Ymhlith pethau eraill dwysaodd y canlyniad hwn y drafodaeth
ynglŷn â dyfodol cyfansoddiadol Quebec, gan arwain at y refferendwm cyntaf ar
annibyniaeth, a gynhaliwyd ym 1980. Ond ar ben hynny, esgorodd y canlyniad ar
gyfnod pellach o weithgarwch ym maes polisi iaith. Eisoes, roedd y PQ wedi
ymrwymo‟i hun i ddiwygio Mesur 22 y Rhyddfrydwyr a chyflwyno polisi iaith
cryfach. Nodwyd mai dyma fyddai un o flaenoriaethau‟r blaid pe bai‟n digwydd
ffurfio llywodraeth. O ganlyniad, ychydig fisoedd wedi‟r etholiad cyhoeddodd y
Gweinidog Diwylliant, Camille Laurin, Bapur Gwyn (Le Gouvernement du Québec
1977a, 1977b) a oedd yn amlinellu prif syniadau‟r llywodraeth ym maes polisi iaith.
Arweiniodd hwn, yn ei dro, at ddeddfwriaeth ieithyddol newydd, neu‟r Charte de la
langue française (Mesur 101) fel y galwyd ef, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol
7 Mae awduron yn amrywio o ran eu sillafiad o‟r term Quebecers. Fel a welir maes o law, mae rhai yn
ffafrio Quebeckers. Hyd y gwelaf, mae‟r ddau sillafiad yn cael eu derbyn. Y ffurfiau a nodir yn
nyfyniadau‟r bennod hon yw‟r rhai a ymddangosodd yn y gweithiau gwreiddiol.
137
Quebec ym mis Awst 1977. Roedd hwn yn fesur a oedd yn amcanu at ddyrchafu‟r
Ffrangeg ym mhob agwedd o fywyd Quebec, ac i‟r perwyl hynny, cyflwynwyd
mesurau pellgyrhaeddol mewn nifer o feysydd gwahanol. Fel yn achos Mesur 22,
dechreuodd trwy ddatgan mai‟r Ffrangeg oedd iaith swyddogol Quebec. Yna aeth
ymlaen i sefydlu cyfres o hawliau ieithyddol sylfaenol. Roedd yr hawliau hyn yn
cynnwys: yr hawl i gyfathrebu â chyrff cyhoeddus, cyrff lled-gyhoeddus a chwmnïau
preifat trwy gyfrwng y Ffrangeg; hawl gweithwyr i gyflawni eu dyletswyddau trwy
gyfrwng y Ffrangeg a hawl pawb i dderbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Ffrangeg.
Datganwyd hefyd mai‟r Ffrangeg fyddai iaith y ddeddfwrfa a‟r llysoedd, ac mai dim
ond y fersiwn Ffrangeg o ddeddfau a phenderfyniadau a fyddai‟n meddu ar statws
swyddogol. Ymhellach, datganwyd mai‟r Ffrangeg oedd iaith weithredol adrannau‟r
llywodraeth a‟r sector gyhoeddus yn gyffredinol.
Rhoddodd y ddeddf newydd gryn dipyn o sylw i statws cyhoeddus y Ffrangeg
yn Quebec. Tra bod Mesur 22 eisoes wedi datgan y dylai‟r Ffrangeg gael ei chynnwys
ar bob math o arwyddion cyhoeddus, aeth Siarter 1977 gam ymhellach. Datganwyd
mai dim ond y Ffrangeg y dylid ei defnyddio bellach ar arwyddion a phosteri
cyhoeddus. Dylid nodi, fel yr eglura Marc Chevrier, y gwnaed amryw o eithriadau i‟r
rheol hwn:
... the 1977 law authorises firms employing not more than four people to
display signs and posters in both French and another language ... The same
kind of exception applies to the cultural activities of ethnic groups and
advertising non-profit organisations (Chevrier 2003: 134).
Eto i gyd, ystyriwyd fod yr ymgais yma i sefydlu unieithrwydd cyffredinol mewn
perthynas â‟r mwyafrif o arwyddion cyhoeddus yn gam pwysig a fyddai‟n siapio‟r
tirlun ieithyddol ar draws Quebec. Yn ogystal, cymerwyd camau pwysig i sefydlu‟r
138
Ffrangeg fel iaith y gweithle. Fel yr eglura d‟Anelejan, yn hytrach na dibynnu ar
anogaeth, fel y gwnaed yn achos Mesur 22, gwnaeth Mesur 101 hi‟n orfodol i
ddefnyddio‟r Ffrangeg yn y gweithle:
Bill 101 is more explicit and more rigorous in imposing the use of French at all
levels. Whereas Bill 22 relied mainly on good will and incentives to motivate
Quebec industry to increase the use of French, Bill 101 spells out specific
deadlines and sanctions‟ (d‟Anelejan 1984: 41).
Yn wir, erbyn 1983 roedd disgwyl i bob corff a chwmni a oedd yn gweithredu yn
Quebec, ac a oedd yn cyflogi mwy na 50 o bobl, i fod wedi gweithredu cynllun
„Ffrangegeiddio‟ cynhwysfawr. Byddai‟r Office de la langue française wedyn yn
dyfarnu tystysgrifau iddynt pe bai‟r cynlluniau hyn yn cael eu gweithredu‟n
llwyddiannus.8
Wrth reswm, pan gyhoeddwyd cynlluniau‟r PQ, un o‟r prif gwestiynau oedd
sut y byddent yn mynd ati i reoleiddio‟r drefn addysg. Wedi‟r cyfan, y ddadl ynglŷn â
chyfrwng dysgu ysgolion Quebec oedd y pwnc a oedd wedi esgor ar y dadleuon
mwyaf chwyrn dros y deg i bymtheg mlynedd diwethaf. Roedd y Papur Gwyn eisoes
wedi gwneud yn glir nad oedd bwriad gan y llywodraeth i ddiddymu‟r drefn addysg
Saesneg. Fodd bynnag, pwysleisiwyd fod angen ffrwyno‟r modd yr oedd y drefn
honno yn tanseilio statws y Ffrangeg. Felly, yn nhyb y PQ, dylid sicrhau bod addysg
Saesneg ar gael i‟r lleiafrif hanesyddol Saesneg ei hiaith, ond tu hwnt i hynny „it is
legitimate to make sure that persons who settle in Quebec in the future send their
children to French schools‟ (Le Gouvernement du Québec 1977a: 71).
8 Am amlineliad manwl o natur y broses yma o „Ffrangegeiddio‟ gweler Bouchard 2002.
139
Eto i gyd, sut gâi hyn ei weinyddu? Roedd Mesur 22 eisoes wedi ceisio symud
i‟r cyfeiriad hwn, ond roedd y canllawiau a oedd yn nodi pwy gâi fynychu‟r ysgolion
Saesneg wedi bod yn fethiant llwyr. Am hynny, rhoddwyd terfyn ar y profion
ieithyddol amhoblogaidd. Yn eu lle ceisiodd y PQ amlinellu cyfres o ganllawiau clir a
oedd yn nodi mai dim ond y canlynol a gai fynychu ysgolion cyfrwng Saesneg:
Y plant a oedd ag o leiaf un rhiant a oedd wedi derbyn addysg cyfrwng
Saesneg yn Quebec;
Y plant a oedd eisoes yn mynychu‟r ysgolion Saesneg yn ogystal â‟u brodyr
a‟u chwiorydd;
Y plant a oedd yn meddu ar o leiaf un rhiant a oedd wedi derbyn addysg
Saesneg tu allan i Quebec, ond a oedd yn byw yn Quebec ar yr adeg y cafodd y
Siarter ei fabwysiadu.
Wrth gwrs, fel y gwelir maes o law, y canllawiau hyn oedd un o elfennau mwyaf
dadleuol y Siarter, ac o ganlyniad, bu‟n rhaid addasu tipyn ar y drefn dros y
blynyddoedd.
Gwelir felly fod polisi iaith Quebec, erbyn diwedd y 1970au, wedi esblygu
mewn modd gwahanol iawn i bolisi‟r Llywodraeth Ffederal. Yn hytrach na sefydlu
dwyieithrwydd swyddogol a fyddai‟n gwarantu hawl unigolion i ymwneud â rhai o
adrannau‟r llywodraeth trwy gyfrwng y Ffrangeg neu‟r Saesneg, roedd Quebec wedi
symud yn raddol tuag at y nod ehangach o adfer y Ffrangeg fel iaith gyffredin y
gymdeithas. Yn sicr, dyna oedd yr amcan erbyn 1977 pan gyflwynwyd y Charte de la
langue française, fel y gwelir o ddarllen rhagair y mesur:
... the Assemblé National du Québec recognizes that Quebecers wish to see the
quality and influence of the French language assured and is resolved therefore
140
to make of French the language of Government and the Law, as well as the
normal and everyday language of work, instruction, communication,
commerce and business (Le Gouvernement du Québec, 1977a).
I raddau helaeth, roedd mabwysiadu‟r amcan hwn yn benllanw ar ddeg i bymtheg
mlynedd o drafod democrataidd ynglŷn â dyfodol y Ffrangeg yn Quebec. Yn wir, ers
ei fabwysiadu mae‟r Charte de la langue française wedi mwynhau cefnogaeth
gyhoeddus gref ar draws Quebec.
Fodd bynnag, nid yw polisïau iaith pellgyrhaeddol Quebec wedi bodloni pawb.
Ers ei fabwysiadu, cafodd y Charte ei beirniadu‟n hallt o rai cyfeiriadau, a‟i chyhuddo
o fod yn ddeddf wrth-ryddfrydol a oedd yn tanseilio hawliau sylfaenol. Er enghraifft,
noda Chevrier:
In the media throughout English Canada and among Anglophone interest
groups in Quebec, it is often depicted as an unnecessary, illiberal and
capricious law that promotes, at the expense of interests viewed as
fundamental rights, the rebel language of a minority refusing to jump into the
Anglo-American continental mainstream (Chevrier 2003: 118).
Arweiniodd y beirniadu hwn at gyfres o heriadau cyfreithiol gerbron Uchel Lys
Canada. O ganlyniad, dros y blynyddoedd, bu‟n rhaid i lywodraeth Quebec boed
honno‟n llywodraeth ryddfrydol neu genedlaetholgar – gyflwyno cyfres o newidiadau
i‟r polisïau iaith.
Fodd bynnag, i ba raddau yr oedd sail i‟r holl feirniadu a fu? I ba raddau y mae
llywodraeth Quebec wedi bod yn euog o fynd yn rhy bell ym maes polisi iaith? Mae‟n
bwysig ein bod yn ystyried y cwestiynau hyn, oblegid mae terfynau pendant i‟r camau
hynny y byddai rhyddfrydwyr yn fodlon eu caniatáu yn enw adferiad iaith. Saif hynny
beth bynnag fo maint y gefnogaeth gyhoeddus i‟r polisi dan sylw. O ganlyniad, bydd
141
gweddill y bennod yn ystyried i ba raddau y mae rhai o bolisïau iaith Quebec wedi
tramgwyddo terfynau rhyddfrydol. Gwneir hynny trwy gloriannu rhai o‟r prif
ddadleuon a fynegwyd dros y blynyddoedd mewn gwrthwynebiad iddynt. Fel y
nodwyd yng nghyflwyniad y bennod, caiff tri maes penodol eu hystyried. I ddechrau,
byddaf yn trafod yr ymdrech i reoleiddio pa ieithoedd a gâi ymddangos ar arwyddion
cyhoeddus, a‟r gwyn fod y polisi hwn yn cyfyngu‟n ormodol ar ryddid mynegiant. Yn
ail, byddaf yn ystyried y gwrthwynebiad a fu i‟r polisi addysg, ac yn benodol, y
gwahanol gyfyngiadau ar argaeledd addysg Saesneg. Bydd y trydydd achos a ystyrir
ychydig yn wahanol i‟r ddau gyntaf. Yn hytrach na thrafod polisi penodol, byddaf yn
ystyried y drafodaeth gyfoes ynglŷn â dyfodol y gymuned Anglophone yn Quebec, a‟r
gwyn fod effaith gyffredinol y polisïau iaith bellach wedi arwain at danseilio
cynaliadwyedd y gymuned honno. Ym mhob un o‟r achosion hyn, byddaf yn holi i ba
raddau mae‟r gwrthwynebiadau a fynegwyd dros y blynyddoedd yn codi cwestiynau
ynglŷn â dilysrwydd gweithredoedd llywodraeth Quebec. A yw‟r polisïau iaith a
fabwysiadwyd ganddi wedi tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol pwysig, ac felly‟n
haeddu cael eu dehongli fel polisïau annerbyniol o safbwynt moesol?
Cyn mynd ati i ystyried y materion hyn, dylid nodi un pwynt pwysig. Nid
bwriad y drafodaeth fydd ceisio dod i gasgliadau ynglŷn â chryfderau a gwendidau'r
model o bolisi iaith a fabwysiadwyd gan Quebec o‟i gymharu â‟r model ffederal. Yn
hytrach, fy unig fwriad fydd ystyried i ba raddau y gall y camau a gymerwyd yn
Quebec gael eu hystyried fel rhai derbyniol, sydd ddim yn tramgwyddo unrhyw
egwyddorion rhyddfrydol. Dyma drafodaeth ychydig yn wahanol, ac mae‟n bwysig
fod y darllenydd yn deall hynny wrth symud ymlaen i‟r adrannau nesaf.
142
6. Arwyddion Cyhoeddus Uniaith Ffrangeg
Dichon mai‟r agwedd enwocaf o‟r polisïau iaith a ddatblygwyd gan lywodraeth
Quebec ers y 1970au, oedd yr un a geisiai reoleiddio pa ieithoedd a gâi ymddangos ar
arwyddion cyhoeddus ar draws y dalaith. Dyma bolisi dadleuol a esgorodd ar gryn
dipyn o wrthwynebiad. Yn ôl Bourhis a Landry (2002), hyd at y 1970au cynnar roedd
y Saesneg yn hollbresennol ar yr arwyddion a‟r hysbysebion a gâi eu harddangos gan
y siopau a‟r busnesau hynny a oedd yn masnachu yng nghanol dinas Montreal. Yn
wir, fel yr eglurodd Roland Lorrain nol ar ddiwedd y 1960au:
Regardez au centre de la ville, dans le quartier Sainte-Catherine-Peel par
exemple: presque toutes les grandes enseignes sont uniquement en anglais, et
cela malgré la fameuse Révolution tranquille (oh, ce tranquille!) et la majorité
française qui fait vivre même le centre de la ville. Il y a bien peu de français
sur les petites pancartes des vitrines et sur les menus, pour la vente! (Lorrain,
1966: 80, dyfynnwyd yn Bourhis a Landry, 2002: 108).9
Cymerodd Deddf 22, a gyflwynwyd gan lywodraeth Ryddfrydol Robert Bourassa ym
1974, gamau pendant i ddyrchafu statws y Ffrangeg yn y maes hwn. Ymhlith pethau
eraill, gwnaeth y ddeddf hi‟n orfodol i fasnachwyr gynnwys yr iaith ar bob arwydd
cyhoeddus. Roedd hwn yn ddatblygiad pwysig, ond nid oedd yn ddigon i blesio nifer
o‟r ymgyrchwyr iaith. Yn eu tyb hwy, roedd y gydnabyddiaeth yma o ddwyieithrwydd
yn gadarnhad pellach o ddominyddiaeth a phwysigrwydd y Saesneg (Bourhis a
Landry 2002: 108). Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y Charte de la langue française
ym 1977, cymerwyd camau pellgyrhaeddol er mwyn ceisio sicrhau fod tirwedd
ieithyddol Quebec a Montreal yn enwedig yn adlewyrchu‟r ffaith mai‟r Ffrangeg
9 Edrychwch yng nghanol y dref, yn ardal Sainte-Catherine-Peel er enghraifft: mae bron pob un o
arwyddion y siopau yn uniaith Saesneg, a hynny er gwaethaf y Chwyldro Tawel enwog (o mor dawel!)
a‟r mwyafrif Ffrangeg eu hiaith sy‟n trigo yn yr un ardal. Ychydig iawn iawn o Ffrangeg a geir ar y
cardiau bach sy‟n hysbysebu pethau yn ffenestri‟r siopau ac ar fwydlenni, er mwyn gwerthu! (Lorrain
1966: 80; dyfynnwyd yn Bourhis a Landry 2002: 108, cyfieithiad personol).
143
oedd prif iaith y dalaith. Felly, ar wahân i rai eithriadau, datganwyd y dylai arwyddion
cyhoeddus gael eu harddangos mewn Ffrangeg yn unig.
Cymerwyd cam o‟r fath am amryw o resymau. Yn eu plith, roedd y dyhead i
ddangos yn glir i drigolion Quebec, ac yn enwedig i‟r sawl a fyddai‟n mudo i‟r
dalaith, mai‟r Ffrangeg oedd y brif iaith gyhoeddus. Byddai sicrhau tirwedd ieithyddol
uniaith Ffrangeg yn fodd o danlinellu neges o‟r fath. Ar ben hynny, trwy sefydlu
unieithrwydd Ffrangeg, gellid sicrhau y byddai‟r mesur iaith newydd yn cael
dylanwad sydyn ar y sefyllfa ieithyddol ar draws Quebec. Fel yr eglura Bourhis a
Landry (2002), er pwysigrwydd rhai o gymalau eraill y ddeddf, er enghraifft y bwriad
i Ffrangegeiddio byd gwaith a‟r bwriad i ddatrys yr argyfwng ym maes addysg, ni
fyddent yn esgor ar ganlyniadau sydyn a gweladwy. Roedd hyn yn flaenllaw ym
meddwl Camille Laurin, y gweinidog diwylliant:
Le „père‟ de la loi 101, le docteur Camille Laurin, s‟était donné pour mission à
la fois de rassurer les francophones sur le statut et la pérennité du fait français
au Québec, et de signifier clairement aux anglophones et allophones que le
statut du français par rapport à celui de l‟anglais était en train de changer dans
la province. Grâce à sa grande visibilité et à son impact immédiat, la
francisation du paysage linguistique symbolisa de façon tangible les nouveaux
rapports de force entre le français et l‟anglais au Québec (Bourhis a Landry
2002: 107).10
O ganlyniad, penderfynwyd i sefydlu unieithrwydd ieithyddol.
Esgorodd y polisi hwn ar wrthwynebiad chwyrn o gyfeiriad y gymuned
Anglophone. Fodd bynnag, ar un wedd, nid oedd yn bolisi a fyddai‟n effeithio‟n
10 Gosododd tad deddf 101, y doctor Camille Laurin, y nod iddo‟i hun o geisio rhoi sicrwydd ar un
pryd i‟r boblogaeth „Ffrancophone‟ ynglŷn â statws a pharhad y ffaith Ffrangeg yn Quebec, a hefyd i
ddangos yn glir i‟r boblogaeth Anglophone ac Allophone fod statws y Ffrangeg, mewn perthynas ag un
y Saesneg, yn y broses o newid yn y dalaith. Yn sgil ei natur hynod weledol, a‟i heffaith ddi-oed, fe
wnaeth „Ffrangegeiddio‟r‟ tirlun ieithyddol symboleiddio, mewn modd diriaethol, y berthynas grym
newydd rhwng y Ffrangeg a‟r Saesneg yn Quebec (Bourhis a Landry 2002: 107, cyfieithiad personol).
144
uniongyrchol ar gymaint â hynny o bobl, o‟i gymharu, dyweder, â rhai o gymalau
eraill y ddeddf iaith newydd. Fel yr awgryma Stevenson:
In one sense the issue had little practical importance. Even if displaying
commercial signs in English is a „right‟, it is one of which relatively few
people wish to take advantage. It directly concerns only those engaged in
certain kinds of business, particularly retail trade. Those who read signs are
obviously much more numerous than those who display them, but most
English-speaking Quebeckers by 1977 had the minimal degree of bilingualism
necessary to recognize the few words most likely to appear on commercial
signs (Stevenson, 1999: 186).
Eto i gyd, ar y lefel symbolaidd, câi polisi a oedd yn datgan mai dim ond arwyddion
cyhoeddus uniaith Ffrangeg y gellid eu harddangos ei ystyried fel cam hynod o
arwyddocaol gan aelodau‟r gymuned Anglophone. Aeth rhai mor bell â honni fod yr
ymdrech yma i wahardd y defnydd o‟r Saesneg yn rhan o ymdrech i wadu bodolaeth y
gymuned honno a ddefnyddiau‟r iaith (Stevenson 1999: 187). Caiff y teimladau hyn
eu cyfleu gan y dyfyniad canlynol a ddaw o ddogfen a gyhoeddwyd gan y grŵp
pwyso Saesnig, Alliance Quebec, ar ddechrau‟r 1980au:
With respect to the language of signs, the visible presence of the English-
speaking community is vital to its acceptance as a full participant in the
cultural life of Quebec. Government must not discourage or prevent evidence
of the English-speaking presence from manifesting itself, even in a legitimate
attempt to promote the French language (Alliance Quebec 1982: 57).
Felly, o ystyried y teimladau hyn, nid yw‟n syndod i‟r polisi o geisio rheoleiddio iaith
arwyddion cyhoeddus esgor ar gymaint o wrthwynebiad.
Yn ganolog i‟r gwrthwynebiad hwn, roedd yr honiad fod y polisi‟n cyfyngu ar
ryddid mynegiant trigolion Quebec. Nid honiad cwbl ddi-sail oedd hwn chwaith. Ym
mis Tachwedd 1983, wrth ymddangos gerbron pwyllgor seneddol a oedd, ar y pryd,
yn ystyried newidiadau posib i ddeddf iaith 1977, eglurodd Francine Fournier,
llywydd Comisiwn Hawliau Dynol Quebec, ei bod o‟r farn fod y cymalau o‟r ddeddf a
145
oedd yn rheoleiddio iaith arwyddion cyhoeddus yn tramgwyddo‟r hawl i ryddid
mynegiant. Dyma ryddid sylfaenol a gâi ei warantu gan Siarter Hawliau a
Rhyddfreiniau Canada a Siarter Hawliau Dynol Quebec (Stevenson 1999: 187). Tri
mis yn ddiweddarach, lansiwyd her gyfreithiol yn erbyn y polisi arwyddion. Dygwyd
yr achos hwn gan Valerie Ford, perchennog siop wlân o Pointe-Claire, ynghyd â
phump o fasnachwyr eraill o ardal Montreal. Roedd pob un o‟r masnachwyr hyn
wedi‟u cyhuddo o arddangos arwyddion dwyieithog yn groes i ofynion y ddeddf.
Fodd bynnag, yn hytrach na derbyn y cyhuddiadau, aethant ati i herio‟r polisi, gan alw
ar y llysoedd i ddatgan ei fod yn tramgwyddo rhyddid mynegiant (Stevenson 1999:
187).
Cafodd y ddadl hon ei derbyn gan Uchel Lys Quebec ym 1984, gan Lys Apêl
Quebec ym 1986 ac yna gan Uchel Lys Canada ym 1988. Ar bob achlysur, dyfarnwyd
fod y cymalau hynny o‟r Charte de la langue française a oedd yn sicrhau
unieithrwydd Ffrangeg ar arwyddion cyhoeddus yn tramgwyddo rhyddid mynegiant
trigolion Quebec. Nodwyd na fyddai dim o‟i le ar bolisi a oedd yn datgan y dylai
masnachwyr gynnwys y Ffrangeg ar unrhyw arwydd, neu hyd yn oed ddatgan y
dylai‟r Ffrangeg gael blaenoriaeth. Fodd bynnag, roedd gwahardd y Saesneg, neu yn
wir unrhyw iaith arall, yn mynd yn rhy bell. O ganlyniad datganwyd y dylai‟r polisi
gael ei addasu (Stevenson 1999: 186 190).
Serch hynny, nid ymateb trwy gyfaddawdu‟n llwyr wnaeth Llywodraeth
Quebec yn dilyn cyhoeddi dyfarniad terfynol Uchel Lys Canada ym 1988. Yn hytrach,
penderfynwyd y dylai‟r Charte de la langue française gael ei heithrio o gylch
146
gorchwyl yr Uchel Lys. Gwnaed hynny trwy ddefnyddio‟r notwithstanding clause;
cymal yng nghyfansoddiad Canada a oedd yn caniatáu i daleithiau eithrio deddfau
penodol am gyfnod o bum mlynedd (Larrivée 2003: 175). Yna, cyn diwedd 1988,
cyflwynwyd mesur newydd Mesur 178 a oedd yn diwygio ychydig ar gynnwys y
Siarter. Rhaid oedd i‟r arwyddion a‟r hysbysebion a gâi eu harddangos tu allan i
siopau a busnesau barhau i fod mewn Ffrangeg yn unig. Fodd bynnag, rhoddwyd
caniatâd i fasnachwyr ddefnyddio Saesneg, neu unrhyw iaith arall, ar yr arwyddion a
gâi eu harddangos dan do, ar yr amod bod y Ffrangeg yn parhau i gael goruchafiaeth.
Fel y noda Larrivée, „Some English could be used on signs, without questioning the
pre-eminence of French or the French outlook of Quebec cities. Thus, the government
believed that it had devised an honourable compromise‟ (Larrivée 2003: 175). Eto i
gyd, nid dyma oedd diwedd y dadlau. I ddechrau, roedd y trefniant newydd hwn yn
parhau i fod yn un a oedd yn tramgwyddo rhyddid mynegiant, yn ôl y modd y
diffiniwyd ef gan yr Uchel Lys. Ar ben hynny, dim ond trefniant dros dro ydoedd, gan
fod defnydd Llywodraeth Quebec o‟r notwithstanding clause yn golygu y byddai‟n
rhaid edrych eto ar y mater ymhen pum mlynedd.
Yn y cyfamser, rhoddwyd pwysau pellach ar y Llywodraeth pan ofynnwyd i
Bwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig drafod y polisi arwyddion yn dilyn
cais gan dri o ddynion busnes o Quebec. Cyhoeddwyd dyfarniad y pwyllgor hwn ym
mis Mawrth 1993, dim ond ychydig fisoedd cyn y byddai‟n rhaid i Lywodraeth
Quebec gyflwyno unrhyw newidiadau. Nododd y pwyllgor fod dewis un neu fwy o
ieithoedd fel rhai swyddogol, yn enwedig er mwyn sefydlogi ieithoedd sydd mewn
sefyllfaoedd bregus, yn weithred ddilys. Fodd bynnag, fel yn achos Uchel Lys
147
Canada, datganwyd fod rheoliadau Siarter Ffrangeg Quebec hyd yn oed ar ôl
cyflwyno diwygiadau Mesur 178 yn mynd yn rhy bell ac felly‟n tramgwyddo‟r
egwyddor o ryddid mynegiant. Dyma ryddid sylfaenol a gâi ei ymgorffori yn y
Datganiad Byd-eang o Hawliau Dynol (Chevrier 2005: 138; Woehrling 2005: 60
64).
Felly, erbyn dechrau‟r 1990au roedd polisi arwyddion Quebec wedi ennill
statws drwg-enwog, nid yn unig ar draws Canada, ond hefyd ar y llwyfan
rhyngwladol. O ganlyniad, nid oedd yn syndod i‟r llywodraeth gyflwyno diwygiadau
pellach i‟r polisi arwyddion ym Mehefin 1993. Arweiniodd hyn at lacio cryn dipyn ar
y rheoliadau ym maes arwyddion cyhoeddus. Bellach, byddai gan fasnachwyr yr hawl
i arddangos arwyddion dwyieithog, ar yr amod bod y Ffrangeg yn parhau i gael
goruchafiaeth. Fel yr eglura Larrivée:
Bill 86 allowed bilingual signage in as much as French remained markedly
predominant. French was judged to be predominant on a given sign if the
space given to the French text was twice as large as the space given to another
language, if the French lettering was twice as big as the lettering in another
language, to the exclusion of any characteristic, like colours, that reduced its
visual impact (Larrivée 2003: 175).
Trwy gyflwyno‟r newidiadau hyn, roedd Llywodraeth Quebec yn cydymffurfio, i
raddau helaeth, gyda chasgliadau Uchel Lys Canada yn ei ddyfarniad nol ym 1988.
Gan mai amcan y bennod hon yw cloriannu dilysrwydd rhyddfrydol gwahanol
bolisïau iaith, mae‟r achos uchod yn un arbennig o berthnasol. Heb os, mae rhyddid
mynegiant yn egwyddor bwysig i ryddfrydwyr (Rawls 1971; Kymlicka 2002).
Tueddant i‟w ystyried fel un o‟r rhyddfreiniau dinesig a gwleidyddol y dylai unrhyw
gymdeithas ryddfrydol-ddemocrataidd ei gwarantu. Yn hynny o beth, gosodir hi ochr
148
yn ochr â rhyddfreiniau sylfaenol eraill, megis rhyddid cydwybod, rhyddid barn, y
rhyddid i ymgynnull yn heddychlon a‟r rhyddid i ymwneud ag eraill. Yn wir, caiff
pwysigrwydd yr egwyddorion hyn i ryddfrydwyr ei danlinellu gan y statws a briodolir
iddynt yn yr amryfal gyfansoddiadau a siarterau hawliau a fabwysiedir gan
lywodraethau rhyddfrydol-ddemocrataidd.
Felly, o ystyried y pwysigrwydd a briodolir i‟r egwyddor o ryddid mynegiant,
nid yw‟n syndod fod polisi arwyddion gwreiddiol Quebec – polisi a gyhuddwyd o
geisio cyfyngu ar y rhyddid hwnnw wedi profi‟n bur ddadleuol. Yn wir, os oedd
unrhyw sail i‟r cyhuddiadau hyn, yna mae‟n bosib iawn y byddai rhyddfrydwyr yn
gorfod casglu fod polisi o‟r fath yn ymddangos fel un annerbyniol. Wedi‟r cyfan, un o
themâu pwysig y llenyddiaeth gyfoes ar ryddfrydiaeth ddiwylliannol, yw na ddylai
unrhyw bolisi sydd â‟r nod o gefnogi rhagolygon diwylliant lleiafrifol dramgwyddo
rhyddfreiniau pwysig o‟r fath (Kymlicka 1995a). O ganlyniad, yn ystod y paragraffau
isod ceisiaf gloriannu‟r polisi arwyddion, gan ystyried a oedd, mewn gwirionedd, yn
bolisi y dylai rhyddfrydwyr ei ddehongli fel un annerbyniol. Byddaf yn gwneud hynny
trwy holi dau gwestiwn pwysig: i ba raddau roedd y polisi wir yn cyfyngu ar ryddid
mynegiant dinasyddion Quebec; ac os oedd, i ba raddau roedd y cyfyngu hwn yn
ormodol ac yn amhriodol o dan yr amgylchiadau?
Yn naturiol, y cam cyntaf wrth gloriannu‟r polisi arwyddion yw ystyried i ba
raddau roedd y polisi wir yn cyfyngu ar ryddid mynegiant. Mae angen ystyried hyn yn
ofalus, oblegid amcan amryw o‟r dadleuon amddiffynnol a ddefnyddiwyd gan
lywodraeth Quebec oedd ceisio gwadu fod y polisi‟n effeithio mewn unrhyw fodd ar y
149
rhyddid hwnnw. Hawliwyd, yn hytrach, mai beirniaid y polisi oedd yn euog o
gamddeall ystyr a goblygiadau‟r rhyddid. Gwelwyd hyn, er enghraifft, wrth i‟r
llywodraeth ddadlau gerbron y llysoedd nad oedd rhyddid mynegiant yn rhyddid a
oedd yn gwarantu gallu person i fynegi ei hun ym mha bynnag iaith mae ef neu hi‟n
dewis. Mynnwyd nad oedd hi‟n briodol na chwaith yn ymarferol i ddehongli‟r rhyddid
mewn termau o‟r fath.
I ddechrau, yn nhyb y llywodraeth, wrth drafod rhyddid mynegiant roedd hi‟n
bwysig a hefyd yn gwbl briodol i wahaniaethu rhwng y cynnwys a‟r cyfrwng; hynny
yw, rhwng y syniadau a‟r teimladau a fynegir gan berson, a‟r iaith a ddefnyddir gan y
person hwnnw i‟w cyfleu. Credai‟r llywodraeth fod hwn yn wahaniaeth pwysig, ac
mai‟r elfen gyntaf, sef y cynnwys, oedd yn allweddol wrth drin a thrafod rhyddid
mynegiant. Gwarchod gallu pobl i fynegi syniadau a theimladau yn ôl eu dymuniad
oedd yn bwysig, ac nid yr iaith a ddefnyddiwyd ganddynt. Am hynny, tybiwyd nad
oedd rheoliadau a oedd yn ymwneud â‟r defnydd preifat o iaith ar arwyddion
cyhoeddus yn tramgwyddo rhyddid mynegiant. Yn y pen draw, dim ond cyfrwng oedd
yr iaith; dull o gyfleu cynnwys yr hyn a gâi ei fynegi (Supreme Court of Canada
1988a).
Ochr yn ochr â‟r gwahaniaethu uchod rhwng y cynnwys a‟r cyfrwng,
dadleuwyd y byddai dehongli rhyddid mynegiant fel rhyddid a oedd yn meddu ar
ddimensiwn ieithyddol yn gwbl anymarferol. Seiliwyd yr honiad hwn ar y gred y
byddai dehongli rhyddid mynegiant mewn termau eang o‟r fath yn arwain at osod
dyletswyddau ieithyddol sylweddol ar ysgwyddau‟r wladwriaeth. Byddai‟n arwain at
150
sefyllfa lle byddai disgwyl i‟r wladwriaeth estyn hawliau ieithyddol penodol mewn
meysydd megis addysg a gweinyddiaeth gyhoeddus i bob grŵp ieithyddol a drigai o
fewn ei ffiniau. Yn achos Canada, byddai hyn yn tanseilio‟r trefniant cyfansoddiadol
lle câi statws swyddogol o‟r fath ei estyn i‟r Saesneg a‟r Ffrangeg yn unig (Supreme
Court of Canada 1988a).
Gwelir felly fod un rhan o amddiffyniad Llywodraeth Quebec o‟i pholisi
arwyddion wedi seilio ar geisio profi nad oedd rhyddid mynegiant, mewn gwirionedd,
yn cynnwys hawl person i fynegi ei hun ym mha iaith bynnag mae ef neu hi‟n dewis.
Fodd bynnag, nid wyf o‟r farn fod modd cynnal safbwynt o‟r fath. Fel y gwelir wrth
ystyried dyfarniad yr Uchel Lys, mae‟r dadleuon a ddefnyddiwyd yn rhai sy‟n sefyll
ar dir go simsan. Er enghraifft, mae‟n anodd gweld sut gellir gwahaniaethu mor glir
rhwng y cynnwys a‟r cyfrwng wrth drafod rhyddid mynegiant. Fel y nododd yr Uchel
Lys yn ei ddyfarniad:
Language is so intimately related to the form and content of expression that
there cannot be true freedom of expression by means of language if one is
prohibited from using the language of one‟s choice. Language is not merely a
means or medium of expression; it colours the content and meaning of
expression (Supreme Court of Canada 1988a: Pwynt 40).
Ar ben hynny, mae‟r honiad y byddai‟n gwbl anymarferol i ddehongli rhyddid
mynegiant fel rhyddid a oedd yn meddu ar ddimensiwn ieithyddol yn seiliedig ar
gamddealltwriaeth. Yn y pen draw, fel y noda‟r llys, mae gwahaniaeth sylfaenol i‟w
gael rhwng y rhyddid i fynegi ein hunain yn yr iaith o‟n dewis, a‟r hawl i dderbyn
gwasanaethau gan lywodraeth yn yr iaith o‟n dewis. Ni ellir dadlau fod un yn sicr o
arwain at y llall.
151
I ddechrau, maent yn alwadau ieithyddol sy‟n tueddu i gael eu cyfiawnhau
mewn ffyrdd gwahanol. Ar y cyfan, mae rhyddid mynegiant, fel rhyddfreiniau
sylfaenol eraill, yn tueddu i gael ei ystyried fel egwyddor gyffredinol; rhywbeth sy‟n
meddu ar yr un arwyddocâd ym mhob sefyllfa, beth bynnag fo‟r cefndir hanesyddol a
gwleidyddol. Mewn cyferbyniad, derbynnir y dylai ffactorau hanesyddol a
gwleidyddol penodol ddylanwadu ar ein casgliadau ynglŷn â pha ieithoedd sy‟n
derbyn cydnabyddiaeth gyhoeddus, hynny yw bod gan yr hawliau sy‟n deillio o
gydnabyddiaeth o‟r fath „their own special historical, political and constitutional
basis‟ (Supreme Court of Canada 1988a: Pwynt 43).
Yn ail, mae goblygiadau‟r galwadau hyn yn wahanol iawn i‟w gilydd. Fel yn
achos rhyddfreiniau sylfaenol eraill, megis rhyddid cydwybod neu‟r rhyddid i
ymgynnull, gosod dyletswyddau negyddol ar y wladwriaeth a wna rhyddid mynegiant.
Mewn termau ieithyddol, golyga bod y wladwriaeth yn camu nôl ac yn ymrwymo i
beidio amharu ar allu unigolion a grwpiau i arddel pa iaith bynnag a ddymunant yn eu
bywydau preifat. Gallai hyn gynnwys y rhyddid i sefydlu cymdeithasau diwylliannol
arbennig, y rhyddid i sefydlu cylchgronau mewn iaith benodol, neu ddim ond y
rhyddid syml i ddefnyddio‟r iaith wrth sgwrsio â chyfeillion. Fodd bynnag, mae‟r
hawl i dderbyn gwasanaethau cyhoeddus mewn iaith arbennig yn wahanol, gan ei bod
yn sefydlu dyletswyddau cadarnhaol. Yn hytrach na chamu nôl, mae‟r wladwriaeth
nawr yn ymrwymo i gymryd camau pellgyrhaeddol er mwyn sicrhau fod ei amryfal
sefydliadau yn gymwys i weithredu mewn nifer cyfyngedig o ieithoedd. Wrth gwrs,
byddai‟n gwbl anymarferol i unrhyw wladwriaeth sicrhau darpariaeth o‟r fath i bob un
grŵp ieithyddol sy‟n trigo o fewn ei ffiniau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rheswm
152
dros beidio dehongli rhyddid mynegiant fel rhyddid sy‟n meddu ar ddimensiwn
ieithyddol. Fel y nododd y Llys mewn perthynas â‟r drefn ieithyddol a fodolai yng
Nghanada:
The central unifying feature of all the language rights given explicit
recognition in the Constitution of Canada is that they pertain to governmental
institutions and for the most part they oblige the government to provide for, or
at least tolerate, the use of both official languages ...They grant entitlement to a
specific benefit from the government or in relation to one‟s dealing with the
government ... They do not ensure, as does a guaranteed freedom, that within a
given broad range of private conduct, an individual will be free to choose his
other own course of activity ... The legal structure, function and obligations of
government institutions with respect to the English and French languages are
in no way affected by the recognition that freedom of expression includes the
freedom to express oneself in the language of one‟s choice in areas outside of
those for which the special guarantees of language have been provided
(Supreme Court of Canada 1988a: Pwynt 43).
At ei gilydd felly, gwelir nad yw derbyn bod rhyddid mynegiant yn meddu ar
ddimensiwn ieithyddol yn agor y drws i alwadau ieithyddol pellgyrhaeddol gan bob
math o grwpiau ieithyddol, gan fod seiliau a hefyd oblygiadau‟r galwadau hyn yn
wahanol iawn i‟w gilydd.
Fodd bynnag, hyd yn oed os oedd ryddid mynegiant yn cynnwys hawl person i
fynegi ei hun ym mha iaith bynnag mae ef neu hi‟n dewis, ceisiodd llywodraeth
Quebec ddadlau nad oedd hyn yn profi fod y polisi arwyddion, o anghenraid, yn
cyfyngu ar ryddid hwnnw, gan nad yw‟n rhyddid sy‟n ymestyn i faes cyfathrebu
masnachol. Dyma felly ymgais arall i wadu fod y polisi arwyddion mewn gwirionedd
yn tramgwyddo‟r egwyddor o ryddid mynegiant. Yn nhyb llywodraeth Quebec nid
oedd rhyddid mynegiant ond yn ymwneud â meysydd pwysig megis gwleidyddiaeth
a‟r celfyddydau. Nid oedd y llywodraeth o‟r farn y dylai‟r dehongliad o ystyr y
rhyddid hwnnw ymestyn y tu hwnt i feysydd o‟r fath. Ni fyddai hyn ond yn arwain at
153
lastwreiddio‟i werth. Fel y nodwyd yn ystod yr achos gerbron yr Uchel Lys ym 1988,
caiff rhyddid mynegiant ei ystyried fel rhyddid sy‟n gwarchod buddiannau sylfaenol,
ond nid oes dim byd sylfaenol yn perthyn i gyfathrebu masnachol (Supreme Court of
Canada 1988a: Pwynt 53).
Yn sicr, meysydd megis gwleidyddiaeth a‟r celfyddydau a ystyrir fel arfer wrth
drafod rhyddid mynegiant; er enghraifft rhyddid person i arddel a mynegi gwahanol
safbwyntiau gwleidyddol, neu ei ryddid i greu a chyhoeddi gwahanol weithiau
llenyddol neu gelfyddydol. Nid oedd y polisi arwyddion yn cyfyngu mewn unrhyw
fodd ar ryddid dinasyddion Quebec yn y meysydd allweddol hyn. Roedd rhai o
gymalau‟r ddeddf iaith yn nodi‟n glir nad oedd yr angen am unieithrwydd Ffrangeg yn
ymestyn i unrhyw arwydd neu gyhoeddiad gwleidyddol, crefyddol neu ddiwylliannol.
O ganlyniad, yn nhyb y llywodraeth, roedd eithriadau o‟r fath yn brawf o‟u
hymrwymiad i gynnal rhyddid mynegiant. Nid oeddent o‟r farn fod yr ymdrech i
reoleiddio cyfathrebu masnachol yn tanseilio‟r ymrwymiad hwnnw mewn unrhyw
fodd.
Eto i gyd, i ba raddau y mae dadl o‟r fath yn dal dŵr? Ar y cyfan, credaf fod y
llywodraeth yn euog o geisio gorbwysleisio‟r gwahaniaeth rhwng mynegiant
masnachol a mynegiant gwleidyddol neu gelfyddydol. Daw hyn i‟r amlwg wrth graffu
eto ar rai o wrthddadleuon yr Uchel Lys. Roedd y llys yn cydnabod mai‟r mynegiant o
syniadau gwleidyddol a ystyrir fel arfer wrth drafod pwysigrwydd rhyddid mynegiant.
Awgrymwyd fod hyn yn deillio o‟r ffaith mai yn y maes hwn y gwelwyd y
bygythiadau mwyaf mynych dros y blynyddoedd i ryddid o‟r fath. Fodd bynnag, nid
154
oedd y llys yn teimlo fod hyn yn rheswm dros ddiystyru pwysigrwydd rhyddid
mynegiant mewn meysydd eraill, megis y byd masnachol. Yn y pen draw, dim ond un
ffurf ar fynegiant ymhlith nifer yw mynegiant gwleidyddol, ac fel y noda‟r llys, mae
pob un o‟r ffurfiau hyn yn meddu ar werth pwysig mewn cymdeithas rydd a
democrataidd:
It is apparent to this Court that the guarantee of freedom of expression ...
cannot be confined to political expression, important as that form of expression
is in a free and democratic society ... political expression is only one form of
the great range of expression that is deserving of constitutional protection
because it serves individual and societal values in a free and democratic
society (Supreme Court of Canada 1988a: Pwynt 60).
Yn y pen draw, er mai rheoleiddio gweithgareddau masnachol oedd amcan
Llywodraeth Quebec, ni ddylid anwybyddu‟r ffaith mai canlyniad y polisi oedd atal
unigolion rhag defnyddio iaith benodol: „Although the expression in this case has a
commercial element, it should be noted that the focus here is on choice of language
and on a law which prohibits the use of a language‟ (Supreme Court of Canada 1988a:
Pwynt 60).
At ei gilydd felly, gwelir fod rhyddid mynegiant yn rhyddid sy‟n cwmpasu
gallu person i fynegi ei hun ym mha iaith bynnag mae ef neu hi‟n dewis. Ar ben
hynny, gwelwyd fod y rhyddid yn un a ddylai gwmpasu mynegiant masnachol yn
ogystal â mynegiant gwleidyddol neu gelfyddydol. Dyma ddwy amod bwysig a gâi eu
tramgwyddo gan bolisi arwyddion Llywodraeth Quebec. O ganlyniad, ni ellir derbyn
yr awgrym nad oedd y polisi hwn yn cyfyngu ar ryddid mynegiant. Fodd bynnag, nid
yw‟r ffaith fod y polisi arwyddion yn euog o gyfyngu ar ryddid mynegiant yn golygu
bod y polisi hwnnw, o anghenraid, yn gwbl annerbyniol. Ydy, mae rhyddid mynegiant
yn tueddu i gael ei ystyried gan ryddfrydwyr fel un o‟r rhyddfreiniau dinesig a
155
gwleidyddol sylfaenol y dylai unrhyw gymdeithas ryddfrydol a democrataidd ei
gwarantu. Eto i gyd, nid yw rhyddid o‟r fath yn gwbl absoliwt. Er y pwysigrwydd a
briodoli‟r iddo, mae‟n siŵr y byddai llawer o ryddfrydwyr yn derbyn ei bod yn gwbl
briodol i gyfyngu ar rhyddid mynegiant mewn rhai amgylchiadau arbennig.
Serch hynny, tra‟n derbyn bod modd cyfiawnhau cyfyngu ar egwyddorion
sylfaenol megis rhyddid mynegiant mewn rhai amgylchiadau, mae‟n sicr y byddai
rhyddfrydwyr hefyd am bwysleisio na ellir mynd ati i wneud hynny ar hap. Gan fod
egwyddor o‟r fath yn tueddu i gael ei osod ar wastad normadol mor uchel, mae‟n
naturiol bod disgwyl i‟r sawl sy‟n dymuno cyfyngu arno gwrdd ag amodau go
arbennig. Ond pa fath o amodau fyddai‟r rhain? Caiff dwy amod bosib eu hamlinellu
yn Siarter Hawliau Canada. Ar y cyfan, credaf y byddai rhain yn amodau a fyddai‟n
ddigon derbyniol i‟r mwyafrif o ryddfrydwyr:
Two requirements must be satisfied to establish that a limit is reasonable and
demonstrably justified in a free and democratic society. First, the legislative
objective which the limitation is designed to promote must be of sufficient
importance to warrant overriding a constitutional right. It must bear on a
„pressing and substantial concern‟. Second, the means chosen to attain those
objectives must be proportional or appropriate to the ends (Supreme Court of
Canada 1988a: Pwynt 66).
Felly, rhaid i‟r amcan a geisir wrth gyfyngu ar unrhyw ryddid sylfaenol fod yn
arbennig o bwysig. Ar ben hynny, rhaid i‟r cyfyngiadau a gyflwynir fod yn rhai
rhesymol a phriodol o dan yr amgylchiadau; hynny yw, bod yna gysylltiad rhesymol
rhwng y cyfyngiadau a‟r amcan dan sylw.
Ond i ba raddau roedd y dadleuon a gyflwynwyd i amddiffyn polisi arwyddion
Quebec yn bodloni amodau o‟r fath? Wrth amddiffyn y polisi yn ystod yr achosion
156
llys, cyflwynodd y llywodraeth dystiolaeth a oedd yn tystio i safle bregus y Ffrangeg
yn Quebec ac ar draws Canada. Ar ben hynny, cyflwynwyd astudiaethau o feysydd
cymdeithaseg iaith a chynllunio ieithyddol er mwyn cadarnhau bod statws cyhoeddus
iaith yn cyfrannu‟n sylweddol at ei llewyrch. Ar sail y deunydd hwn, dadleuwyd fod
polisi pellgyrhaeddol a oedd yn gosod cyfyngiadau ar y defnydd o‟r Saesneg ar
arwyddion cyhoeddus yn gwbl briodol a rhesymol hyd yn oed os oedd hynny‟n
golygu cyfyngu ar ryddid mynegiant gan fod hynny‟n rhan allweddol o‟r ymdrech i
ddiogelu dyfodol diwylliant Ffrengig Quebec. Ond a oedd sail i honiad o‟r fath?
Ar y cyfan, roedd y deunydd a gyflwynwyd yn dangos bod amcan y
llywodraeth wrth fabwysiadu ei pholisïau iaith yn un pwysig a theilwng: gwarchod
rhagolygon y Ffrangeg yn Quebec yn wyneb grym aruthrol y Saesneg. Ar ben hynny,
roedd y deunydd yn dangos fod polisïau a oedd yn sicrhau presenoldeb amlwg i‟r
Ffrangeg ar arwyddion cyhoeddus yn rhan hollbwysig o‟r broses honno. Er hynny, nid
oedd y deunydd, mewn gwirionedd, yn dangos pam fod y dyrchafiad cyhoeddus hwn,
o anghenraid, yn galw am sefydlu unieithrwydd Ffrangeg. Fel y nododd yr Uchel Lys
yn ei ddyfarniad:
The materials establish that the aim of the language policy ... was a serious and
legitimate one. They indicate the concern about the survival of the French
language and the perceived need for an adequate legislative response to the
problem. Moreover, they indicate a rationale connection between protecting
the French language and assuring that the reality of Quebec society is
communicated through the ‘visage linguistque’. The materials do not,
however, demonstrate that the requirement of the use of French only is either
necessary for the achievement of the legislative objective or proportionate to it
... The issue is whether any such prohibition is justified. In the opinion of this
Court it has not been demonstrated that the prohibition of the use of any
language other than French ... is necessary to the defence and enhancement of
the status of the French language in Quebec or that it is proportionate to that
legislative purpose (Supreme Court of Canada 1988a: Pwynt 73).
157
Doedd neb gan gynnwys gwrthwynebwyr mwyaf chwyrn y polisi arwyddion yn
gwadu fod y Ffrangeg dan bwysau a bod hybu ei statws cyhoeddus yn hanfodol er
mwyn gwella‟i rhagolygon. Fodd bynnag, roedd cryn amheuaeth ynglŷn â
phriodoldeb a rhesymoldeb polisi a oedd yn gwahardd pob iaith heblaw‟r Ffrangeg, a
thrwy hynny, yn cyfyngu‟n rhannol ar ryddid mynegiant y boblogaeth. Dyma
amheuaeth na chafodd ei hateb gan ddadleuon llywodraeth Quebec.
Fel y dadleuodd yr Uchel Lys, yn hytrach na cheisio sefydlu unieithrwydd
Ffrangeg, gallai Llywodraeth Quebec fod wedi anelu at sicrhau fod y Ffrangeg yn
derbyn goruchafiaeth amlwg ar bob arwydd cyhoeddus. Byddai hyn wedi bod yn
gyfyngiad mwy cymedrol ac felly yn fwy derbyniol: „requiring the predominant
display of the French language, even its marked predominance, would be proportional
to the goal of promoting and maintaining a French „visage linguistique‟ in Quebec‟
(Uchel Lys Canada, 1988a: Pwynt 78). At ei gilydd felly, nid oedd polisi gwreiddiol
Quebec o sicrhau unieithrwydd Ffrangeg ar arwyddion cyhoeddus yn cwrdd â‟r
amodau pwysig a nodwyd uchod. O ganlyniad, rhaid casglu fod gweithredu polisi o‟r
fath wedi arwain at ymgais amhriodol i gyfyngu ar ryddid mynegiant. Golyga hyn ei
fod yn bolisi a oedd yn tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol pwysig ac felly dylid ei
ddehongli fel cam annerbyniol o safbwynt moesol (gweler hefyd Carens 2000; Tully
1995).
7. Addysg Saesneg
Ochr yn ochr â‟r polisi arwyddion a drafodwyd uchod, mae‟n siŵr mai polisi
llywodraeth Quebec ym maes addysg sydd wedi esgor ar y dadlau mwyaf chwyrn dros
158
y deugain mlynedd diwethaf. Fel y gwelwyd eisoes, roedd maes addysg yn gwbl
ganolog i‟r drafodaeth ynglŷn â dyfodol y Ffrangeg yn Quebec. Erbyn diwedd y
1960au daeth yn fwyfwy amlwg fod y mwyafrif helaeth o‟r unigolion a‟r teuluoedd a
fudai i Quebec yn gwneud hynny gan fabwysiadu‟r Saesneg yn hytrach na‟r Ffrangeg
fel iaith gyhoeddus newydd. Câi‟r arfer hwn ei danlinellu gan y ffaith fod
mewnfudwyr yn tueddu i ddewis danfon eu plant i ysgolion Saesneg. Golygai hyn fod
y dasg o gymathu‟r newydd-ddyfodiaid i‟r gymuned Francophone fwy neu lai‟n
amhosib. O ganlyniad, datblygodd maes addysg yn gadfan hollbwysig i‟r sawl a oedd
yn pryderu ynglŷn â dyfodol y Ffrangeg yn Quebec. Tybiwyd fod ffrwyno datblygiad
yr ysgolion Saesneg, gan reoleiddio pwy gâi eu mynychu yn gwbl hanfodol os am atal
dirywiad pellach yn seiliau demograffig yr iaith.
Ceisiodd llunwyr deddf iaith 1974 fynd i‟r afael â‟r mater hwn, ond heb
lwyddiant. Cafwyd datrysiad mwy pendant ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn
dilyn pasio deddf iaith y PQ ym 1977. Fel y nodwyd uchod, rhoddodd y ddeddf hon
derfyn ar y profion ieithyddol amhoblogaidd ac yn hytrach amlinellwyd cyfres o
ganllawiau clir. I bob pwrpas, cafodd yr hawl i fynychu‟r ysgolion Saesneg ei
chyfyngu i‟r sawl a oedd â brawd, chwaer neu riant a oedd eisoes wedi derbyn addysg
cyfrwng Saesneg rhywle yn Quebec. Fel yn achos agweddau eraill o‟r Charte de la
langue française roedd yr ymateb i‟r polisi hwn yn gymysg. Ar y naill law,
derbyniodd gefnogaeth frwd gan drwch y boblogaeth Francophone. Ond, ar y llaw
arall, cafodd ei feirniadu‟n hallt o gyfeiriadau eraill - gan aelodau o gymuned
Anglophone Quebec, gan Ganadiaid o daleithiau eraill a hefyd gan y sawl a fudai i
Quebec o rannau eraill o‟r byd (Levine 1990). A siarad yn gyffredinol, honnwyd fod y
159
polisi yn un a oedd yn sathru ar „hawliau sylfaenol‟ ym maes addysg – ymhlith pethau
eraill, roedd yn gwarantu triniaeth anghyfartal gan y gyfraith a hefyd yn tanseilio
symudoledd cymdeithasol. Mae‟r rhain oll yn wrthwynebiadau difrifol. O ystyried
hyn, mae‟n bwysig fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i oblygiadau normadol polisi
llywodraeth Quebec ym maes addysg. Yn wir, mae hyn yn arbennig o berthnasol
erbyn heddiw, gan fod arwyddion o anniddigrwydd bellach i‟w gweld yn datblygu
ymhlith rhai aelodau o‟r gymuned Francophone hefyd (Woehrling 2005).
O ganlyniad, bydd trafodaeth yr adran hon yn asesu i ba raddau y gall y camau
a gymerwyd gan lywodraeth Quebec ym maes addysg gael eu hystyried gan
ryddfrydwyr fel rhai derbyniol o safbwynt moesol. Yn benodol, byddaf yn holi a all
polisi addysg sy‟n cyfyngu‟r hawl i fynychu ysgolion Saesneg i rai carfanau penodol
gael ei gyfri fel un teg? Bydd ateb y cwestiwn hwn yn galw am ystyried y
gwrthwynebiadau moesol a gyflwynwyd gan wahanol garfanau megis Canadiaid o
daleithiau eraill, mewnfudwyr rhyngwladol a hefyd Francophones. Ond, i ddechrau,
fel rhagarweiniad i‟r drafodaeth bwysig hon, rhoddir sylw i gwestiwn normadol arall,
mwy sylfaenol: a oes unrhyw reidrwydd moesol ar lywodraeth Quebec i sicrhau
darpariaeth o addysg cyfrwng Saesneg?
Fel y noda Joseph Carens (1995), mae llywodraeth Quebec, ar hyn o bryd, yn
darparu amrediad eang o wasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Saesneg. Mae hyn
yn cynnwys darpariaeth addysg sy‟n estyn o‟r blynyddoedd cynnar i addysg brifysgol.
Wrth gwrs, fel y trafodir nes ymlaen, mae maint a dylanwad y sefydliadau hyn wedi
edwino‟n sylweddol dros y blynyddoedd, yn sgil gweithredu polisïau cryf o blaid y
160
Ffrangeg. Fodd bynnag, ni fu unrhyw ymdrech ddifrifol i geisio dileu‟r ddarpariaeth
gyhoeddus o addysg cyfrwng Saesneg. Yn sicr, byddai polisi o‟r fath wedi bod yn un
dadleuol dros ben, gan esgor ar wrthwynebiad chwyrn o sawl cyfeiriad. O ystyried
hyn, nid yw‟n syndod nad yw llywodraeth Quebec wedi cymryd cam o‟r fath. Eto i
gyd, fel y noda Carens, nid yw‟r ffaith fod rhywbeth yn digwydd bod yn ddadleuol o
safbwynt gwleidyddol yn golygu ei fod hefyd yn rhwym o fod yn gwbl annerbyniol o
safbwynt moesol. O ganlyniad, mae‟n werth holi a oes unrhyw reidrwydd moesol ar
lywodraeth Quebec i gynnal darpariaeth o addysg cyfrwng Saesneg?
Yn nhyb Carens ei hun, ni ddylai dyfodol trefn addysg Saesneg Quebec gael ei
ddehongli fel pwnc sy‟n meddu ar unrhyw arwyddocâd moesol:
... Quebec provides extensive public services to its anglophone minority. With
respect to public schooling, this situation largely reflects the requirements of
the Canadian constitution, but in other ways the services go well beyond what
is required by federal law. Is Quebec morally obliged to continue this level of
support for anglophones? I do not see why. It may be prudent policy to do so
in the current political context, but that is another matter (Carens 1995: 60).
Felly, yn nhyb Carens, pwysau gwleidyddol a chyfansoddiadol sy‟n deillio o
ymlyniad Quebec wrth wladwriaeth Canada, ac nid unrhyw bwysau moesol, sy‟n
gyfrifol am y ffaith fod disgwyl i‟r llywodraeth gynnal darpariaeth gyhoeddus o
addysg Saesneg, yn ogystal ag amrediad o wasanaethau cyhoeddus eraill. Pe bai
Quebec yn digwydd dod yn wladwriaeth annibynnol ryw dro yn y dyfodol, byddai‟r
cyfrifoldebau cyfansoddiadol hyn yn diflannu ac, yn nhyb Carens, fe fyddai‟n gwbl
dderbyniol, o safbwynt moesol, i Quebec ddatblygu trefn addysg a fyddai ond yn
gweithredu trwy gyfrwng y Ffrangeg:
If Quebec were independent would it be obliged to continue any of the
services, including the system of public education? In terms of the standard of
moral permissibility, I do not see why continuation of such support would be
161
mandatory ... it might be wise or prudent to continue the support for English in
Quebec, and the Parti Québécois has announced its intention to do so, but
wisdom and prudence are different moral virtues from justice (Carens 1995:
60).
Ond, i ba raddau y mae‟r safbwynt hwn o eiddo Carens yn un teg?
Ar y cyfan, credaf nad yw Carens yn rhoi digon o ystyriaeth i statws arbennig
y gymuned Anglophone yn Quebec, ynghyd â‟r cyfrifoldebau pwysig sy‟n cael eu
gosod ar y llywodraeth yn sgil y statws hwn. Yn hyn o beth, rwyf yn cytuno â
sylwadau‟r athronydd o Quebec, Michel Seymour (2000). Dadleua Seymour y dylai‟r
gymuned Anglophone sy‟n trigo yn Quebec gael ei dehongli fel lleiafrif cenedlaethol
hynny yw estyniad ar y genedl Ganadaidd-Saesneg ei hiaith sy‟n fwyafrif yng
ngweddill tiriogaeth Canada:
... the inclusion of Anglo-Quebeckers within the Quebec socio-political nation
is compatible with having the status of a national minority within the Quebec
nation. As a minority extension on the territory of Quebec of a national
majority of English Canadians, English Quebeckers form a national minority
(Seymour 2000: 241).
Caiff y dehongliad hwn o statws y gymuned Anglophone ei rannu gan Bourhis (2008),
ieithydd cymdeithasol o Quebec, sy‟n cyfeirio at y gymuned fel „this historic national
minority in Quebec‟. Nid yw Joseph Thériault (2007: 259), fodd bynnag, mor
awyddus i gyfeirio at y gymuned Anglophone fel lleiafrif cenedlaethol. Er hynny,
mae‟n ddigon parod i gydnabod fod y gymuned hon yn meddu ar gyswllt hanesyddol
arbennig â Quebec: „they are not national minorities as such, although their historic
dynamics is hard to understand without referring to their place in the Canadian
plurinational dynamics‟. O ganlyniad, boed y gymuned Anglophone yn cael ei diffinio
fel lleiafrif cenedlaethol, neu yn wir fel rhywbeth ychydig yn wahanol yn ôl dymuniad
Thériault, ni ellir gwadu bod y gymuned yn un sy‟n meddu ar statws arbennig, yn sgil
162
ei chyswllt hanesyddol â thiriogaeth Quebec.11 Yn sicr, ni ellir, ac ni ddylid
portreadu‟r gymuned fel dim mwy nag un ymhlith nifer o leiafrifoedd ethnig
gwahanol.
Yn sgil y statws arbennig hwn, gellir dadlau bod rheidrwydd moesol ar
lywodraeth Quebec i barchu anghenion ieithyddol a diwylliannol sylfaenol y gymuned
Anglophone, er enghraifft trwy sicrhau darpariaeth o addysg cyfrwng Saesneg i‟w
haelodau. Mae Seymour yn sicr yn credu hyn wrth iddo nodi „Quebeckers as a whole
should respect these special ties that Anglo-Quebeckers entertain towards the
language and culture of English Canada (Seymour 2000: 241; gweler hefyd Seymour
2005). Mae‟n siŵr y byddai amryw o ryddfrydwyr diwylliannol eraill yn cytuno
hefyd. Er enghraifft, yn ystod ei drafodaethau cyffredinol o faterion megis
amlddiwylliannedd, mae Will Kymlicka wedi pwysleisio droeon bod dyletswydd
foesol ar y cenhedloedd lleiafrifol sy‟n ymgymryd â phroses o godi cenedl i gydnabod
anghenion unrhyw leiafrifoedd cenedlaethol eraill sy‟n digwydd trigo o fewn eu
ffiniau (gweler yn enwedig Kymlicka 2001b).12
Gwelir felly, yn groes i dybiaeth Carens, y dylai llywodraeth Quebec drin y
dasg o gynnal trefn addysg Saesneg fel ymrwymiad moesol; gweithred sy‟n
11 Caiff y cyswllt hanesyddol hwn ei bwysleisio gan gynrychiolwyr y gymuned Anglophone. Er
enghraifft, wrth gymryd rhan mewn arolwg o bolisi iaith Quebec yn 2001, nododd Alliance Quebec,
„Depuis plus de deux siècles, la communauté d‟expression anglaise du Québec fait partie intégrante de
l‟histoire et du développement social, politique, culturel et économique de la province. Quoique notre
communauté soit minoritaire, elle est plus que simplement importante ; elle fait partie de l‟identité, du
tissu et du caractère du Québec‟ (Ers dwy ganrif a mwy, mae cymuned Saesneg Quebec wedi chwarae
rhan ganolog yn hanes a datblygiad cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd y dalaith.
Er bod ein cymuned yn un lleiafrifol, mae hi‟n sylfaenol bwysig; mae‟n rhan o hunaniaeth, o wead ac o
gymeriad Quebec) (Alliance Quebec 2001: 6, cyfieithiad personol).
12 Yn wir, yr hyn sy‟n ddiddorol yw fod Carens ei hun, mewn gwaith diweddarach, hefyd yn cydnabod
bod gan „long settled linguistic minorities‟ sail gref i ddadlau y dylid darparu gwasanaethau pwysig
megis addysg yn eu hiaith (Carens 2000).
163
angenrheidiol o safbwynt cyfiawnder. Ar y cyfan, gellid dadlau fod hwn yn gasgliad y
byddai‟r llywodraeth ei hun yn ei dderbyn. Wedi‟r cyfan, roedd y Papur Gwyn ar
bolisi iaith a gyhoeddwyd ym 1977 fel rhagarweiniad i‟r Charte de la langue
française yn nodi, „There can be no question of abolishing English education nor of
rejecting the cultural tradition which has inspired it until this day‟ (Le Gouvernement
du Québec 1977a: 71). Eto i gyd, tra‟n cydnabod na ellir diddymu‟r drefn addysg
Saesneg, roedd Papur Gwyn llywodraeth Quebec hefyd yn mynnu ei bod yn gwbl
dderbyniol o safbwynt moesol i ffrwyno datblygiad yr ysgolion hyn, gan reoleiddio
pwy sy‟n cael eu mynychu: „the English school, which forms a special system granted
to the present minority in Quebec, must cease being an assimilating force and must
then be reserved to those for whom it was created‟(Le Gouvernement du Québec
1977a: 71). Mae hyn felly yn ein harwain at gwestiwn pwysig arall: i ba raddau y gall
polisi sy‟n cyfyngu‟r hawl i fynychu ysgolion Saesneg i rai carfanau penodol gael ei
gyfri‟n dderbyniol o safbwynt moesol?
Rhaid dechrau trwy holi pwy, dros y blynyddoedd, sydd wedi‟u hatal rhag
mynychu‟r ysgolion Saesneg? A siarad yn gyffredinol, gellir rhannu‟r bobl hyn yn
dair prif carfan: i ddechrau, ceir y Canadiaid hynny sy‟n symud i Quebec o daleithiau
eraill; yn ail, ceir y sawl sy‟n mudo i Quebec o weddill y byd; yn drydydd, ceir
aelodau o fwyafrif Francophone Quebec. Fel y nodwyd ar ddechrau‟r adran hon, mae
aelodau o bob un o‟r carfanau hyn, ar wahanol adegau, wedi mynegi gwrthwynebiad
cryf i‟r cyfyngiadau a osodir ar argaeledd addysg Saesneg gan bolisïau addysg
llywodraeth Quebec. Fodd bynnag, i ba raddau y mae‟r cyfyngiadau hyn yn rhai
annerbyniol o safbwynt moesol? Yn ystod y paragraffau isod, ystyrir y cwestiwn hwn
164
mewn perthynas â sefyllfa‟r tri grŵp a nodwyd. I ddechrau, rhoddir sylw i achos y
Canadiaid hynny sy‟n symud i Quebec o daleithiau eraill. Yna, eir ymlaen i ystyried
dadleuon y mewnfudwyr a‟r Francophones. Caiff y ddau grŵp yma eu trafod gyda‟i
gilydd, gan fod eu dadleuon mewn perthynas â‟r polisi addysg yn aml yn
gorgyffwrdd.
Gan fod y polisi addysg gwreiddiol, fel y pasiwyd ef ym 1977, yn cyfyngu‟r
hawl i fynychu ysgolion Saesneg i‟r sawl a oedd â brawd, chwaer neu riant a oedd
eisoes wedi derbyn addysg cyfrwng Saesneg rywle yn Quebec, roedd disgwyl i‟r
mwyafrif helaeth o Ganadiaid a fyddai‟n symud yno o daleithiau eraill fynychu‟r
ysgolion Ffrangeg. Roedd hyn yn sicr yn gam dadleuol. Y teimlad ymhlith nifer o
bobl oedd bod y cyfyngiadau hyn ar argaeledd addysg Saesneg mewn un rhan o‟r
wlad yn cyfyngu ar eu hawliau sylfaenol fel dinasyddion Canadaidd.
O ganlyniad, nid yw‟n syndod i gamau gael eu cymryd er mwyn herio‟r cymal
yma o‟r Charte de la langue française. Roedd Siarter Hawliau a Rhyddfreiniau, a
fabwysiadwyd ym 1982, yn cynnwys cymal a oedd yn nodi y dylai fod gan bob un o
drigolion Quebec, neu‟r sawl a fyddai‟n symud i‟r dalaith, yr hawl i dderbyn addysg
Saesneg os oedd rhieni‟r person eisoes wedi derbyn addysg Saesneg mewn unrhyw
ran o Ganada. Arweiniodd hyn at wrthdaro uniongyrchol â pholisi Quebec a oedd yn
cyfyngu‟r hawl yma i‟r sawl a oedd â rhieni a addysgwyd yn Saesneg yn Quebec yn
unig. Cyfeiriwyd at y tensiwn yma fel y gwrthdaro rhwng y „Canada clause‟ a‟r
„Quebec clause‟.
165
Ar sail yr hawliau newydd a grëwyd gan Siarter Hawliau Canada, lansiwyd her
gyfreithiol yn erbyn y polisi addysg gan y Quebec Protestant School Boards.
Cyrhaeddodd yr achos yr Uchel Lys, ac ym 1984 cyflwynodd y llys ei ddyfarniad. Yn
ôl y disgwyl, roedd y dyfarniad hwn yn cefnogi‟r her gyfreithiol ac yn datgan y dylai
Llywodraeth Quebec gyfnewid y „Quebec Clause‟ am y „Canada clause‟. Nododd y
llys yn ei ddyfarniad, „The provisions of s. 73 of Bill 101 collide directly with those of
s. 23 of the Charter, and are not limits which can be legitimized‟ (Supreme Court of
Canada 1984: Pwynt 59). O ganlyniad, bu‟n rhaid i lywodraeth Quebec ddiwygio ei
bolisi addysg, gan lacio ar ychydig ar y cyfyngiadau, er mwyn caniatáu i Ganadiaid o
daleithiau eraill fynychu‟r ysgolion Saesneg hefyd. Fodd bynnag, i ba raddau dylid
dehongli‟r newidiadau hyn fel rhai angenrheidiol o safbwynt moesol? Tra bod y
cyfyngiadau gwreiddiol yn ddadleuol o safbwynt gwleidyddol, ac yn sicr yn groes i
ganllawiau cyfansoddiad Canada, a oeddent hefyd yn mynd y tu hwnt i‟r hyn sy‟n
dderbyniol i lywodraeth ryddfrydol-democrataidd? Pe bai Quebec yn digwydd dod yn
wladwriaeth annibynnol, a fyddai‟n dderbyniol iddi droi nôl i‟r polisi gwreiddiol o
gyfyngu addysg Saesneg i‟r sawl oedd â chyswllt â‟r dalaith?
I ateb y cwestiynau normadol hyn, rhaid cyfeirio nôl at y drafodaeth uchod
ynglŷn â sut dylid dehongli statws cymuned Anglophone Quebec. Bryd hynny, fe
gytunwyd â dadl Seymour (2000), sef y dylai‟r gymuned Anglophone sy‟n trigo yn
Quebec gael ei dehongli fel lleiafrif cenedlaethol hynny yw estyniad ar y genedl
Ganadaidd-Saesneg ei hiaith sy‟n fwyafrif yng ngweddill tiriogaeth Canada. Credaf
fod dehongli statws cymuned Anglophone Quebec mewn termau o‟r fath yn meddu ar
oblygiadau i‟r modd y dehonglir gwrthwynebiadau Canadiaid o daleithiau eraill i‟r
166
polisi addysg gwreiddiol a basiwyd ym 1977. Os ydym yn derbyn bod y lleiafrif
Anglophone sy‟n trigo yn Quebec yn estyniad ar y genedl Ganadaidd-Saesnig, yna
rhaid derbyn bod y sawl sy‟n mudo i Quebec o daleithiau megis Alberta neu British
Columbia yn dod yn rhan o‟r un grŵp. Yn sgil hynny, onid yw‟r bobl hyn yn haeddu
meddu ar yr un statws a‟r aelodau hynny sydd wedi trigo yn Quebec ers cenedlaethau?
Credaf fod yn rhaid derbyn eu bod. O ganlyniad, rhaid casglu y byddai‟n annerbyniol,
o safbwynt moesol, i lywodraeth Quebec eu hatal rhag mynychu ysgolion Saesneg y
dalaith.
Gwelir felly y dylai polisi addysg sy‟n atal Canadiaid o daleithiau eraill rhag
mynychu ysgolion Saesneg yn Quebec gael ei ystyried fel polisi annerbyniol. Fodd
bynnag, a ddylid dod i‟r un casgliad mewn perthynas â‟r sawl sy‟n mudo i Quebec o
weddill y byd, neu mewn perthynas ag aelodau o gymuned Francophone Quebec? A
yw atal aelodau o‟r carfanau hyn rhag mynychu‟r ysgolion Saesneg hefyd yn
annerbyniol o safbwynt moesol? Ystyrir hyn isod, gan gloriannu‟n feirniadol amryw
o‟r dadleuon a ddefnyddiwyd i wrthwynebu‟r polisi addysg: yr honiad fod y
cyfyngiadau ar argaeledd addysg Saesneg yn tanseilio hawliau mewnfudwyr a
Francophones; yr honiad fod y cyfyngiadau yn camwahaniaethu yn erbyn aelodau‟r
grwpiau hyn; a hefyd yr honiad eu bod yn tanseilio symudoledd cymdeithasol.
Thema gyson yn y beirniadu a fu ar bolisi addysg llywodraeth Quebec yw‟r
ffaith fod y polisi hwnnw wedi arwain at ddileu hawliau a fu cynt ym meddiant
mewnfudwyr ac aelodau o‟r gymuned Francophone. Fel y gwelwyd yn ystod adrannau
cyntaf y bennod hon, cyn pasio deddfau iaith 1974 a 1977 roedd gan aelodau o‟r
167
grwpiau hyn yr hawl gyfreithiol i fynychu ysgolion Ffrangeg neu Saesneg. Yn wir, y
ffaith fod cymaint o fewnfudwyr (a hefyd canran nid ansylweddol o aelodau‟r
gymuned Francophone) yn dewis mynychu‟r ysgolion Saesneg a sicrhaodd fod addysg
yn bwnc mor allweddol i ddyfodol y Ffrangeg yn Quebec. Wrth gwrs, ni ellir gwadu
fod y polisi newydd a fabwysiadwyd ym maes addysg erbyn diwedd y 1970au wedi
arwain at ddileu'r hawl hon i ddewis rhwng dwy drefn addysg, a thrwy hynny,
cyfyngu ar opsiynau‟r mewnfudwr a‟r Francophone. Ymhellach, ni ellir gwadu fod
hwn wedi bod yn benderfyniad dadleuol, yn bennaf ymhlith mewnfudwyr. Eto i gyd, i
ba raddau y dylai‟r ymdrech hon i ddileu hawliau a fu cynt yn nwylo grŵp gael ei
ystyried fel cam annerbyniol o safbwynt moesol?
Ar y pwynt yma, rwyf yn gytûn â Joseph Carens (2000). Fel yr eglura Carens,
tra bod llywodraeth Quebec wedi dileu hawl a fu gynt ym meddiant mewnfudwyr ac
aelodau o‟r gymuned Francophone, roedd hwn yn gam cwbl dderbyniol. Deillia hyn
o‟r ffaith nad oedd yr hawl i ddewis rhwng addysg Saesneg ac addysg Ffrangeg yn
hawl foesol sylfaenol:
Quebec has indeed deprived recent immigrants of a legal right that previous
immigrants had enjoyed. Nevertheless, I think that Quebec‟s policy is entirely
justifiable. The previous legal right was never a fundamental moral entitlement
... no one is entitled to an education at public expense in the language of his or
her choice ... The change reduced the options for immigrants, but did not
deprive them of anything to which they had a fundamental right (Carens 2000:
129).
Er bod y sylwadau uchod o eiddo Carens yn canolbwyntio ar sefyllfa mewnfudwyr,
credaf eu bod hefyd yn berthnasol i aelodau cymuned Francophone Quebec. Byrdwn
neges Carens yw na all rhywun hawlio bod dyletswydd ar lywodraeth i sicrhau eu bod
yn medru derbyn eu haddysg ym mha iaith bynnag a ddymunant. Yn hytrach, mae‟n
168
gwbl dderbyniol i lywodraeth ryddfrydol-democrataidd fynnu bod mewnfudwyr yn
mynychu ysgolion sy‟n dysgu trwy gyfrwng iaith swyddogol y diriogaeth honno. Yn
yr un modd, mae‟n amheus iawn a all aelodau o genedl benodol hawlio, fel mater o
gyfiawnder, y dylent fedru derbyn addysg gyhoeddus mewn iaith sy‟n wahanol i iaith
swyddogol eu cenedl. Er enghraifft, er y byddai amryw o ddinasyddion Sweden o
bosib yn dymuno derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Saesneg, nid wyf o‟r farn y
gellid hawlio hyn fel mater o gyfiawnder.13 O ganlyniad, trwy atal mewnfudwyr ac
aelodau o‟r gymuned Francophone rhag mynychu ysgolion Saesneg, nid oedd
llywodraeth Quebec yn tramgwyddo unrhyw egwyddorion sylfaenol. Dyma‟r casgliad
sy‟n arwain Vicki Spencer i ddatgan:
While the children of francophone and immigrant parents in Quebec are
legally compelled to attend francophone public schools, their individual rights
are no more violated by Bill 101 than children of most parents in Australia
where English is the primary language of the education system (Spencer 2008:
247).
Yn y pen draw felly, gellid dadlau fod llywodraeth Quebec yn gweithredu mewn
modd sy‟n gyson ag egwyddorion rhyddfrydol-democrataidd.
Dadl y gellid ei thaflu‟n ôl yn erbyn y casgliad uchod yw honno sy‟n
cyhuddo‟r polisi addysg o warantu triniaeth gyfreithiol anghyfartal, gan
gamwahaniaethu yn erbyn mewnfudwyr ac aelodau o‟r gymuned Francophone. Yn ôl
y ddadl hon, hyd yn oed os nad oes dyletswydd ar lywodraeth Quebec i sicrhau bod
modd i aelodau‟r grwpiau hyn dderbyn addysg Saesneg, os yw‟r dewis hwnnw eisoes
yn cael ei gynnig i rai dinasyddion, yna mae‟n annerbyniol, o safbwynt moesol i atal
13 Gosodaf ystyriaethau ynglŷn â symudoledd cymdeithasol o‟r neilltu am nawr. Caiff y mater yma eu
drafod maes o law.
169
eraill rhag gwneud yr un peth. Os yw‟r gwasanaeth yn cael ei ddarparu, yna dylai fod
yn agored i bawb. Fel y noda Carens:
One argument against Quebec‟s policy focuses on the principle of equal
treatment ... if it does provide such a system (h.y. addysg Saesneg) it must
provide it as an option to all, not just to some. The suggestion is that restricting
the English language system to the children of people educated in English in
Canada, Quebec is discriminating against the children of immigrants (Carens
2000: 130).
Y ddadl hon oedd yn sail i achos Gosselin yn 2005, pan ddygwyd achos gerbron
Uchel Lys Canada gan griw o deuluoedd Francophone a oedd yn anhapus nad oeddent
ym medru dewis fel y mynnont rhwng y gwahanol fathau o ysgolion sydd ar gael yn
Quebec (Supreme Court of Canada 2005). Yn ogystal, câi dadl o‟r fath ei mynegi‟n
gyson gan gynrychiolwyr o‟r Equality Party, plaid a sefydlwyd i ymladd dros hawliau
siaradwyr Saesneg yn ystod y 1990au.14 Er enghraifft, nododd yr Equality Party wrth
gyflwyno tystiolaeth i‟r arolwg o bolisi iaith a gynhaliwyd yn Quebec yn 2001:
At present the right to instruction in English depends upon one‟s parentage and
language. For the government to accord accessibility to English language
instruction to some and deny it to others on such a basis constitutes a severe
and unacceptable form of discrimination. The Equality Party believes in equal
access to all educational facilities, independent of language of instruction,
one‟s parentage, one‟s mother tongue, or one‟s culture. Just as English-
speaking residents at least those who have eligibility certificates have the
right, the freedom to choose the language of instruction for their sons and
daughters, so should French-speaking and new Canadians have that right. They
should have equality before the law (The Equality Party, 2001: 19).
14 Ffurfiwyd yr Equality Party ar ddiwedd yr 1980au mewn ymateb i amharodrwydd gwreiddiol
llywodraeth Quebec i addasu ei bolisi ar arwyddion cyhioeddus. Aeth y blaid ati i wrthwynebu sawl
agwedd arall o‟r polisiau iaith, gan fabwysiadu ieithwedd llawer mwy ymosodol na grwpiau eraill
megis Alliance Quebec. Fel yr awgryma‟i enw, galwai‟r Equality Party am gydraddoldeb llawn rhwng
y Ffrangeg a‟r Saesneg. Daeth llwyddiant i ran y blaid yn ystod etholiadau taleithiol 1989, pan
etholwyd pedwar o aleodau i Gynulliad Cenedlaethol Quebec. Fodd bynnag, collwyd pob un o‟r seddi
hyn yn ystod yr etholiad canlynol ym 1994, a wedi hynny, edwinodd proffil y blaid yn sylweddol.
Erbyn heddiw mae wedi peidio â bod i bob pwrpas; ni chynigiwyd unrhyw ymgeisyddion yn ystod
etholiadau taleithiol 2007 na 2008. Am fanylion pellach ynglŷn â gweithgarwch yr Equality Party yn
ystod y 1990au, gweler Stevenson 1999.
170
Eto i gyd, i ba raddau y mae sail i‟r honiadau hyn? A yw‟r polisi addysg wir yn euog o
gamwahaniaethu mewn modd annerbyniol yn erbyn mewnfudwyr ac aelodau o‟r
gymuned Francophone?
Nid wyf o‟r farn ei fod. Credaf fod polisi addysg llywodraeth Quebec yn trin â
mewnfudwyr a hefyd aelodau o‟r gymuned Francophone mewn modd teg. Fel y
dadleua Carens (2000), mae‟r gwrthwynebiad uchod o eiddo‟r Equality Party ac eraill
yn seiliedig ar yr honiad fod aelodau o leiafrif Anglophone Quebec yn meddu ar
fantais annheg, ac felly bod eraill yn dioddef gan nad ydynt yn meddu ar yr un
cyfleoedd i fynychu ysgolion Saesneg. Fodd bynnag, pan ystyrir yr amgylchiadau
ieithyddol sy‟n bodoli yn Quebec erbyn heddiw, lle mae‟r Ffrangeg yn famiaith i tua
80 y cant o‟r boblogaeth a hefyd yn brif iaith llywodraeth a‟r byd gwaith, mae honiad
o‟r fath yn ymddangos yn ddi-sail. Ni fyddai derbyn addysg trwy gyfrwng y Saesneg
o anghenraid o fantais:
If the option of attending English language public schools were open to the
children of francophone Québécois, but not to the children of immigrants, this
argument would be more persuasive. Then one could claim that immigrants
were selected for disadvantageous treatment, that the government was not
being evenhanded. As it is, the argument depends on the claim that the
children of anglophone Canadians are unduly privileged in Quebec in relation
to everyone else. It is a claim that seems implausible on its face (Carens 2000:
130).
Fel y noda Carens, nid yw trin pawb yn deg hefyd yn golygu bod yn rhaid trin pawb
yn yr un modd.15 O ganlyniad, gellir casglu nad yw polisi addysg Quebec yn euog o
gamwahaniaethu‟n annheg yn erbyn mewnfudwyr ac aelodau Francophone.
15 Yn wir, ymddengys fel pe bai‟r Equality Party yn dymuno ei chael hi bob ffordd. Weithiau, maent yn
dadlau bod agweddau o bolisïau iaith Quebec er enghraifft y polisïau cyflogaeth pellgyrhaeddol yn
camwahaniaethu yn erbyn aelodau o‟r lleiafrif Anglophone. Yna ar adegau eraill, maent yn dadlau bod
rhai o‟r polisïau yn camwahaniaethu yn erbyn mewnfudwyr ac aelodau o‟r mwyafrif Francophone.
171
Mae Carens hefyd yn gwneud pwynt arall sy‟n arbennig o berthnasol yn y cyd-
destun hwn; pwynt a gaiff ei anghofio‟n aml gan y sawl sy‟n feirniadol o bolisi
addysg Quebec. Y gwir amdani yw bod darpariaeth taleithiau eraill Canada o addysg
Saesneg neu Ffrangeg yn gweithredu yn ôl canllawiau digon tebyg i rai Quebec:
The critics of Quebec‟s policy rarely mention that the other provinces of
Canada are under no obligation to offer French language education to their
inhabitants (whether recent immigrants or citizens of long descent) unless the
children have a parent who received a French language public education in
Canada. Even when there is a system of French language public education
established, anglophone parents can be and often are denied the right to send
their children to these schools. Thus the question becomes whether the
Canadian Constitution is morally justified in providing special guarantees
regarding education in the language of one‟s parents to the to major language
groups in Canada. (Carens 2000: 131).
O ganlyniad, os am ddadlau fod polisi addysg Quebec hynny yw yn eu ffurf
bresennol yn annerbyniol, gan eu bod yn camwahaniaethu yn erbyn rhai grwpiau,
rhaid derbyn bod polisïau addysg taleithiau eraill Canada, a‟r cyfansoddiad sy‟n sail
iddynt, yn euog o‟r un cyhuddiad hefyd.
Dadl arall y gellid ei defnyddio gan fewnfudwyr ac aelodau o‟r gymuned
Francophone wrth wrthwynebu‟r cyfyngiadau ar argaeledd addysg Saesneg, yw honno
sy‟n mynnu bod y cyfyngiadau hyn yn cyfrannu at ffrwyno symudoledd cymdeithasol.
Wedi‟r cyfan, er bod statws y Ffrangeg wedi codi‟n aruthrol ers y 1970au, mae
gwybodaeth o‟r Saesneg yn parhau‟n bwysig yng nghyd-destun Gogledd America. Yn
wir, cafodd hyn ei atgyfnerthu yn sgil aelodaeth Canada o NAFTA. Fel y noda
Michael Keating:
In the continental market, the language of commerce will be English and,
unless the Québécois have fluency in English, then the commercial relations of
the province with the rest of North America will be dominated by the
Anglophone middle class, most of whose children in contrast to their parents
172
have learnt French thanks to provincial language policies (Keating, 1998:
477).
O ganlyniad, tra nad yw gwybodaeth o‟r Saesneg yn hanfodol bellach ar gyfer byw a
gweithio yn Quebec, ni ellir gwadu fod y gallu i siarad yr iaith yn arbennig o
ddefnyddiol o safbwynt symudoledd cymdeithasol ar draws Gogledd America.
Yn sicr, bu ymwybyddiaeth o hyn yn ganolog i‟r gwrthwynebiad i bolisi
addysg Quebec a ddaeth o du mewnfudwyr. Caiff teimladau‟r bobl hyn eu crynhoi‟n
effeithiol yn y dyfyniad isod o waith William Coleman:
The following statement by a citizen whose mother tongue was Italian
illustrates well this opposition: „We have left our friends and family and our
country behind. We have come all the way to Canada in order to better
ourselves and provide for the future of our children. It just simply wouldn‟t
make sense for us to limit the range of jobs open to our children by educating
them in French, for French is only spoken in the province of Quebec. English
is the language of North America‟ ... The matter was strictly a bread and butter
one for the immigrants. Social mobility in North America, including Quebec,
was impossible without knowledge of English (Coleman 1984: 202).
Ar y cyfan, wrth fudo i Quebec, nid oedd yn bobl hyn yn ystyried eu bod yn symud i
diriogaeth lle roedd y Ffrangeg yn iaith fwyafrifol. Yn hytrach, câi Quebec ei gweld
fel un rhan o diriogaeth eang Gogledd America, lle roedd y Saesneg yn ben. O
ganlyniad, roedd polisi a oedd yn ymyrryd â gallu pobl i ddysgu‟r iaith honno yn cael
ei weld fel rhwystr annheg ar lwybr dyrchafiad cymdeithasol. Yn wir, nid dim ond
ymhlith mewnfudwyr y cafodd teimladau o‟r fath eu mynegi. Mae‟n siŵr fod
ystyriaethau megis symudoledd cymdeithasol hefyd wedi cyfrannu at benderfyniad y
rhieni Francophone hynny a aeth ati i herio‟r polisi addysg fel rhan o achos Gosselin
yn 2005 (Supreme Court of Canada 2005).
173
Eto i gyd, i ba raddau y dylid dehongli‟r cyfyngiadau presennol ar argaeledd
addysg Saesneg fel rhwystr annheg sy‟n tanseilio symudoledd cymdeithasol
mewnfudwyr ac aelodau o‟r gymuned Francophone? Does dim amheuaeth fod hybu
symudoledd cymdeithasol yn egwyddor bwysig i ryddfrydwyr. Ar ben hynny, gan fod
Saesneg yn parhau‟n adnodd economaidd allweddol yn sgil safle Quebec yng
Ngogledd America, raid cydnabod fod y sawl sy‟n dymuno dysgu‟r iaith yn meddu ar
yr hyn y cyfeiria Carens ato fel „a legitimate interest‟ (Carens 2000). Fodd bynnag, nid
yw cydnabod hyn yn golygu bod yn rhaid casglu fod y polisi addysg presennol yn
annerbyniol. Nid yw gweithredu polisi addysg sy‟n datgan y dylai‟r mewnfudwyr ac
aelodau o‟r gymuned Francophone fynychu ysgolion Ffrangeg yn tanseilio eu
cyfleoedd ar gyfer dyrchafu‟n gymdeithasol. Wedi‟r cyfan, yn achos iaith
hollbresennol fel y Saesneg nid yw‟n angenrheidiol fod plentyn yn derbyn ei holl
addysg mewn iaith benodol er mwyn dysgu i ddefnyddio‟r iaith honno. Yn wir, yn
achos plant y sawl sy‟n mudo i Quebec, gellid dadlau fod y polisi addysg wedi bod yn
un arbennig o llesol o safbwynt symudoledd cymdeithasol, gan eu bod wedi arwain at
sefyllfa lle mae‟n arferol bellach i‟r bobl hyn fod yn dairieithog (Bourhis 2001).
Pe bai llywodraeth Quebec yn mynd ati‟n bwrpasol i geisio atal aelodau‟r
grwpiau hyn rhag dysgu Saesneg, yna mae‟n bosib iawn y byddai‟n rhaid casglu fod
hynny‟n annerbyniol. Mae‟n siŵr y byddai gweithredu polisi o‟r fath yn gwneud y
dasg o ddiogelu sefyllfa‟r Ffrangeg gymaint yn haws, ond ar yr un pryd, byddai‟n
cyfyngu‟n ormodol ar symudoledd cymdeithasol. Eto i gyd, nid yw hyn yn digwydd ar
hyn o bryd. Ydy, mae‟r llywodraeth wedi gosod canllawiau sy‟n nodi faint o Saesneg
y dylid ei ddysgu yn yr ysgolion Ffrangeg (Lamarre 2007 a 2008). Fodd bynnag, nid
174
yw hyn yn gyfystyr ag atal pobl rhag dysgu‟r iaith. Yn hytrach, mae‟n rhan naturiol
o‟r broses o lunio cwricwlwm addysg sy‟n sicrhau bod ysgolion cyhoeddus yn
meithrin amrediad o sgiliau allweddol; gweithred gwbl dderbyniol mewn
gwladwriaeth ryddfrydol-democrataidd.16
I grynhoi felly, yn ystod yr adran hon dadleuwyd fod y cyfyngiadau a osodwyd
gan lywodraeth Quebec ar argaeledd addysg Saesneg, ar y cyfan, yn rhai teg. Un
eithriad oedd i‟r casgliad hwn, sef achos y Canadiaid hynny sy‟n mudo i Quebec o
daleithiau eraill. Eto i gyd, fel y nodwyd, nid yw‟r polisi addysg bellach yn effeithio ar
aelodau‟r garfan yma. Dim ond mewnfudwyr ac aelodau o‟r gymuned Francophone
sydd bellach yn cael eu hatal rhag mynychu‟r ysgolion Saesneg, ac mewn perthynas
â‟r achosion hyn, gwelwyd bod y cyfyngiadau sydd mewn grym yn rhai cwbl
dderbyniol sydd ddim yn tramgwyddo unrhyw egwyddorion rhyddfrydol sylfaenol.
8. Dyfodol y Gymuned Anglophone
At ei gilydd, mae‟r gwahanol bolisïau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Quebec wedi
arwain at drawsnewid sefyllfa‟r Ffrangeg, gan olygu bod rhagolygon yr iaith bellach
yn llawer gwell nag oeddent ddeugain mlynedd yn ôl. Ond, yn nhyb cynrychiolwyr y
gymuned Anglophone, ni ddigwyddodd hyn heb sgil effeithiau. Erbyn hyn, mae nifer
o‟r farn fod llwyddiant cyffredinol polisïau iaith Quebec wedi arwain at roi pwysau ar
gynaliadwyedd y gymuned Anglophone. Wrth gwrs, nid yw‟r sawl sy‟n arddel y
safbwynt hwn yn awgrymu am eiliad fod y Saesneg ei hun o dan bwysau yn Quebec.
16 Dros y blynyddoedd diwethaf codwyd rhai cwestiynau ynglŷn ag effeithiolrwydd y drefn o ddysgu
Saesneg yn ysgolion Ffrangeg Quebec (Lamarre 2007 a 2008). Yn wir, mae‟n bosib iawn fod lle i
wella. Fodd bynnag, cwestiwn empeiraidd yw hwn yn y pen draw. Nid yw‟n gwestiwn sy‟n herio
dilysrwydd moesol polisi sy‟n disgwyl i fewnfudwyr ac aelodau o‟r gymuned Francophone fynychu
ysgolion sy‟n dysgu trwy gyfrwng y Ffrangeg.
175
Fodd bynnag, credir fod blynyddoedd o gynllunio o blaid y Ffrangeg wedi cyfrannu at
roi pwysau sylweddol ar seiliau sefydliadol a demograffig y lleiafrif Anglophone sydd
wedi bodoli yn Quebec ers bron iawn ei chychwyn.17
Mae amryw o sylwebwyr bellach wedi cyfeirio at y dirywiad a fu yn llewyrch
nifer o sefydliadau allweddol y gymuned Anglophone (Caldwell 1994, 1998; Lamarre
2007, 2008; Bourhis 2008). Ymhlith y sefydliadau hyn ceir ysbytai, llyfrgelloedd,
capeli, prifysgolion ac wrth gwrs yr ysgolion. Dyma sefydliadau sydd, yn
draddodiadol, wedi darparu ar gyfer y gymuned Anglophone ac wedi cyfrannu at
gynnal rhwydweithiau cymunedol pwysig (Alliance Quebec 2001: 5). Fel yr eglura
Gary Caldwell (1994, 1998), o safbwynt parhad y gymuned Anglophone, y pwysicaf
o‟r sefydliadau hyn yw‟r ysgolion cynradd ac uwchradd. Eto i gyd, ers y 1970au
mae‟r ysgolion hyn wedi dirywio‟n arw. Ymhellach, ni ellir gwadu fod y dirywiad
hwn wedi deillio, i raddau helaeth, o ganlyniad i gymalau addysg y Charte de la
langue française. Fel y noda Patricia Lamarre:
There is no denying the fact that Quebec‟s Charter has had a very important
impact on the English language school system. Since the adoption of this
legislation, student enrolment in English schools has declined rapidly from
over 200,000 to roughly 100,000 today (Lamarre 2007 : 116).
Nid yw‟r ysgolion Saesneg yn medru dibynnu bellach ar lif cyson o fewnfudwyr er
mwyn cynnal eu niferoedd. Yn hytrach, mae‟r symudiad tuag at addysg Ffrangeg wedi
arwain at gwymp sylweddol. O ganlyniad, fel y gwelir o‟r dyfyniad uchod, ac fel y
17 Enghraifft glir o‟r safbwynt hwn yw cyflwyniad Alliance Quebec i‟r arolwg o bolisïau iaith Quebec a
gynhaliwyd yn 2001 (Alliance Quebec 2001). Dylid nodi yma nad yw Alliance Quebec yn bodoli
mwyach. Daeth gweithgarwch y mudiad i ben yn 2005 yn dilyn problemau ariannol.
176
pwysleisia Caldwell (1998: 283) hefyd, mae‟r niferoedd sy‟n mynychu‟r ysgolion
Saesneg wedi‟u haneru ers y 1970au.18
Caiff y gwendid sefydliadol hwn ei ddwysáu gan y tueddiadau demograffig a
welwyd ers y 1970au. I ddechrau, bu dirywiad yng ngraddfa genedigaethau‟r
gymuned Anglophone (Caldwell 1994: 160). Roedd hyn yn rhan o ddirywiad
cyffredinol ar draws Quebec. Ond, ar ben hynny, mudodd nifer helaeth o aelodau‟r
gymuned Anglophone o Quebec. Caiff maint yr allfudo hwn ei grynhoi isod gan
Caldwell:
In the twenty-year period 1966 to 1986, 520,000 English mother-tongue
Quebecers left Quebec, which if one adds the 53,000 that left between 1986
and 1991 for other provinces, and an as yet unestimated international
emigration in the same period all adds up to a total of 600,000 in twenty-five
years (less than a generation) or the equivalent in numbers of the entire
English mother-tongue population presently in Quebec‟ (Caldwell 1998: 280
281).
Yn ogystal, mae‟n werth nodi‟r dyfyniad canlynol o eiddo Villancourt: „one can
calculate that although Anglophones represented 11.8 percent of the Quebec-born
population in 1986, they accounted for 60.3 percent of the Quebec-born individuals
residing elsewhere in Canada‟ (Villancourt 1992: 67). Golyga‟r tueddiadau
demograffig hyn fod y dasg o gynnal sefydliadau cymunedol pwysig yn arbennig o
anodd, yn enwedig gan fod y mwyafrif o‟r sawl sy‟n mudo yn aelodau addysgedig o‟r
dosbarth canol; yr union bobl sydd, fel arfer, yn cyflawni rôl sifig o‟r fath (Caldwell
1998: 282).
18 Dylid nodi, fel y gwna Lamarre (2007) fod y dirywiad hwn wedi arafu‟n sylweddol dros y
blynyddoedd diwethaf, a bod y ganran o blant Quebec sy‟n mynychu ysgolion Saesneg wedi codi o 9.6
y cant ym 1992 i 11.2 y cant erbyn 2004. Yn ôl Lamarre, deillia‟r cynnydd hwn o‟r ffaith bod mwy o
blant o gefndir Francophone nawr yn medru mynychu‟r ysgolion Saesneg yn sgil y cynnydd a fu mewn
priodasau cymysg. Fodd bynnag, nid yw‟r cynnydd graddol a welwyd dros y degawd diwethaf wedi
newid y ffaith fod yr ysgolion Saesneg nawr yn gweithredu mewn amgylchiadau tipyn yn llai ffafriol
na‟r rhai a wynebwyd cyn y 1970au.
177
Dros y blynyddoedd, mynnodd Alliance Quebec fod y dirywiad demograffig
hwn, fel y dirywiad sefydliadol, yn cael ei yrru, yn rhannol o leiaf, gan natur rhai o
bolisïau iaith Quebec. Un agwedd yn arbennig o‟r polisïau iaith y cyfeiriwyd ati yn y
cyswllt hwn yw‟r polisïau cyflogaeth (Alliance Quebec 2001: 24). Fel y gwelwyd
eisoes, cymerwyd cyfres o gamau er mwyn sefydlu‟r Ffrangeg fel iaith y gweithle yn
Quebec. Fodd bynnag, dadleuodd Alliance Quebec nad yw‟r polisïau hyn yn rhai sydd
wedi cael eu cyflwyno a‟u gweithredu mewn modd sy‟n deg i aelodau‟r gymuned
Anglophone. Ym 1996 dim ond 0.76 y cant o weithlu gwasanaeth sifil Quebec oedd
yn aelodau o‟r gymuned Anglophone. Ar yr un pryd, roedd y gymuned honno yn
cwmpasu hyd at 14 y cant o boblogaeth y dalaith (Alliance Quebec 2001: 27; gweler
hefyd Bourhis 2008). Honnodd Alliance Quebec fod y tangynrychioli hwn yn deillio o
ragfarnu de facto o fewn y farchnad lafur yn erbyn aelodau‟r gymuned Anglophone.
Mynnwyd mai myth yw‟r awgrym nad oes digon o aelodau‟r gymuned yn ceisio am
swyddi cyhoeddus. Yn hytrach dadleuwyd fod digon yn gwneud ceisiadau, ond nad
ydynt yn cael eu cyflogi.19 Yn wir, aeth Alliance Quebec mor bell ag awgrymu bod
ymgeisydd dan anfantais wrth chwilio am swydd os yw ef neu hi‟n meddu ar enw
Seisnig (Alliance Quebec 2001: 25).
Gwelir felly fod aelodau o gymuned Anglophone Quebec bellach yn teimlo
fod y polisïau a fabwysiadwyd o blaid y Ffrangeg wedi arwain, mewn gwahanol
ffyrdd, at roi cryn bwysau ar seiliau sefydliadol a demograffig eu cymuned hwy. O
19 Yn y papur a gyflwynwyd gan Alliance Quebec i arolwg iaith 2001, caiff yr honiad hwn ei gefnogi
gan gyfeiriad at adroddiad gan La Commission des droits de la personne et de la jeunesse du Québéc a
oedd yn nodi mai dim ond tua 5 o bob 100 cais sy‟n llwyddiannus: „en dépit du mythe voulant qu‟ils ne
posent pas leur candidature, le rapport indique clairement que moins de cinq Québécois d‟expression
anglaise sont embauchés sur chaque centaine de candidats‟ (er gwaetha‟r myth nad ydynt yn cynnig eu
hunain fel ymgeiswyr, mae‟r adroddiad yn dangos yn glir mai llai na phump Québécois o gefndir
Saesneg o bob cant a gaiff eu penodi) (Alliance Quebec 2001: 8, cyfieithiad personol).
178
wynebu amgylchiadau o‟r fath, mae nifer wedi dadlau bod dyletswydd ar lywodraeth
Quebec i ymateb i unrhyw ddirywiad, gan weithredu er mwyn sicrhau dyfodol i‟r
gymuned Anglophone. Er enghraifft, nododd y Conseil Catholique d’Expression
Anglaise yn ystod yr arolwg o bolisïau iaith Quebec a gynhaliwyd yn 2001:
Un Québec qui se fixe lui-même l‟objectif de respecter ses minorités devrait
reconnaître la présence historique, dans toute la province, d‟une communauté
de langue anglaise multidimensionnelle; il devrait se préoccuper de son déclin
continu et adopter des mesures pour favoriser son renouveau (Conseil
Catholique d‟Expression Anglaise 2001: 12).20
Ymhellach, tueddir i ddadlau y dylai unrhyw gymorth a estynnir i‟r gymuned
Anglophone gynnwys addasu ar agweddau o bolisïau iaith Quebec. Ond sut dylai
rhyddfrydwyr ymateb i ddadleuon o‟r fath? A oes dyletswydd foesol ar lywodraeth
Quebec i sicrhau dyfodol i‟r gymuned Anglophone? Ac a oes dyletswydd arni i
addasu agweddau o‟r polisïau iaith presennol er mwyn hybu amcan o‟r fath? Caiff y
cwestiynau pwysig hyn eu trafod yn ystod y paragraffau isod.
Fel y gwelwyd yn yr adran gynt wrth drafod y polisi addysg, gall cymuned
Anglophone hanesyddol Quebec gael ei dehongli fel lleiafrif cenedlaethol - hynny yw
estyniad ar y genedl Ganadaidd-Saesneg ei hiaith sy‟n fwyafrif yng ngweddill
tiriogaeth Canada (Seymour 2000). O ganlyniad i‟r statws arbennig hwn, dylai
llywodraeth Quebec boeni ynglŷn â dyfodol y gymuned Anglophone. Yn sicr,
byddai‟n annerbyniol i‟r llywodraeth wadu pob cyfrifoldeb drosti, gan fynnu bod
galwadau diwylliannol ei haelodau yn meddu ar ddim mwy o bwysigrwydd na
galwadau aelodau o wahanol leiafrifoedd ethnig. Eto i gyd, a derbyn bod cymuned
20 Dylai Quebec sy‟n gosod i‟w hun y nod o barchu ei lleiafrifoedd, gydnabod, ar draws y dalaith,
bresenoldeb hanesyddol cymuned Saesneg amlweddog; dylid ymboeni ynglŷn â‟i dirywiad parhaus a
mabwysiadu mesurau sydd â‟r nod o hybu ei hadferiad (Conseil Catholique d‟Expression Anglaise
2001: 12, cyfieithiad personol).
179
Anglophone Quebec yn meddu ar statws arbennig, a ddylid casglu bod yna
ddyletswydd ar y llywodraeth i sicrhau ei pharhad?
Ar y cyfan, credaf fod y syniad o sicrhau goroesiad neu barhad unrhyw leiafrif
diwylliannol yn broblematig, a hynny am resymau ymarferol a moesol. I ddechrau, ar
y lefel ymarferol, rhaid cofio fod y dasg o geisio creu dyfodol i leiafrif o‟r fath yn un
anodd dros ben. Yn wir, ni fyddwn byth yn medru gwybod i sicrwydd a yw‟r camau a
gymerir gennym i hybu nod o‟r fath yn llwyddo i warantu goroesiad grŵp am
genedlaethau i ddod. O ganlyniad, teg yw holi a ydyw, mewn gwirionedd, yn
ymarferol bosib i sôn am sicrhau goroesiad cymuned ddiwylliannol benodol? Mae‟n
siŵr y byddai goroesiad grŵp o‟r fath yn go debygol pe bai mesurau‟n cael eu pasio
sydd, er enghraifft, yn ymrwymo pob aelod i aros o fewn tiriogaeth arbennig, neu‟n
ymrwymo pob aelod i fagu nifer penodol o blant. Fodd bynnag, byddai hyn wedyn yn
ein harwain i dir moesol ansicr. At ei gilydd felly, gwelir fod trin a thrafod goroesiad
unrhyw gymuned ddiwylliannol fel rhywbeth y gellir ac y dylid ei sicrhau yn arbennig
o broblematig.21 O ganlyniad, ni ddylai goroesiad y gymuned Anglophone gael ei weld
fel dyletswydd sy‟n rhaid i lywodraeth Quebec ei sicrhau.
Fodd bynnag, tra bod sôn am sicrhau goroesiad lleiafrif diwylliannol yn
broblematig, nid oes dim o‟i le ar geisio hybu nod o‟r fath, trwy gymryd camau sy‟n
anelu at greu amodau cefndirol mwy ffafriol. O ganlyniad, rhaid holi i ba raddau y
mae llywodraeth Quebec yn gwneud hyn mewn perthynas â‟r gymuned Anglophone?
Y peth cyntaf i‟w nodi yn y cyswllt hwn yw nad yw‟r llywodraeth wedi mynd ati‟n
21 Caiff dadleuon tebyg eu mynegi gan Réaume 1991.
180
fwriadol i erlyn y gymuned Anglophone. Nid yw wedi cyflwyno mesurau creulon
sydd a‟r nod o atal aelodau unigol rhag ymwneud â‟i gilydd fel cymuned. Er
enghraifft, nid yw wedi gwahardd unigolion rhag siarad Saesneg ac nid yw wedi
gwahardd pobl rhag cyhoeddi cylchgronau Saesneg neu fynychu capeli neu
gymdeithasau Saesneg. Yn hyn o beth, mae llywodraeth Quebec yn cydnabod hawl y
gymuned Anglophone i fodoli.22
Eto i gyd, fel a nodwyd droeon yn ystod y traethawd hwn, mae gallu cymuned
ddiwylliannol i gynnal ei hun, fel arfer, yn galw am weithredu ychydig yn fwy
cadarnhaol gan lywodraeth. Mewn termau ieithyddol, bydd angen gwneud mwy na
dim ond caniatáu i aelodau cymuned arddel eu hiaith gydag eraill. Yn ogystal, bydd
galw am elfen o gefnogaeth sefydliadol, er enghraifft darpariaeth o addysg gyhoeddus
yn iaith y gymuned ac hefyd amrediad o wasanaethau cyhoeddus pwysig er enghraifft
gwasanaethau iechyd. I raddau helaeth, mae llywodraeth Quebec yn cynnig
cefnogaeth gadarnhaol o‟r fath i aelodau‟r gymuned Anglophone. Fel y noda Joseph
Carens (1995), mae‟r llywodraeth bellach yn darparu amrediad o wasanaethau
cyhoeddus trwy gyfrwng y Saesneg. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth addysg sy‟n
estyn o‟r blynyddoedd cynnar i addysg prifysgol, amrediad o wasnaethau iechyd a
chymdeithasol pwysig ac hefyd cefnogaeth arinnol i theatrau, cwmniau ffilm a
llyfrgelloedd. Yn ogystal, ceir rhwydwaith eang o gyfyngau Saesneg yn Quebec
(Dumas 2007; Stevenson 1999). Yn wir, mae llywodraeth Quebec yn aml yn nodi fod
22 Mae‟n bosib y byddai rhai‟n dewis dehongli‟r cyfyngiadau a osodwyd ar iaith arwyddion cyhoeddus
fel enghraifft o lywodraeth Quebec yn mynd ati‟n fwriadol i erlyn y gymuned Anglophone. Fodd
bynnag, byddai hyn yn annheg. Tra bod y polisi hwn yn un annerbyniol a oedd yn tramgwyddo
egwyddorion rhyddfrydol, ni chafodd ei lunio gyda‟r nod penodol o erlyn aelodau‟r gymuned
Anglophone. Yn hytrach, hybu rhagolygon y Ffrangeg oedd amcan y sawl a luniodd y polisi a sgil
effaith i hynny oedd unrhyw niwed a achoswyd.
181
amgylchiadau‟r gymuned Anglophone yn fwy ffafriol o lawer na rhai‟r cymunedau
Francophone hynny sy‟n trigo mewn taleithiau eraill. Eto i gyd, dros y blynyddoedd
diwethaf mae rhai o gynrychiolwyr y gymuned Anglophone wedi dadlau y dylai
llywodraeth Quebec wneud mwy na dim ond darparu cyfleoedd i dderbyn gwahanol
wasanaethau sylfaenol trwy gyfrwng y Saesneg. Ar ben hynny, mynnwyd y dylai‟r
llywodraeth ymateb yn gadarnhaol i‟r dirywiad sefydliadol a demograffig sydd wedi
tanseilio rhagolygon y gymuned Anglophone. Ymhellach, dadleuwyd y dylid gwneud
hynny trwy addasu‟r polisïau iaith presennol (Alliance Quebec 2001). Arweinia hyn
felly at yr ail gwestiwn a nodwyd uchod; a oes dyletswydd ar y llywodraeth i addasu
agweddau o‟i bolisïau iaith yn wyneb gwendid y gymuned Anglophone?
Yma mae pethau‟n dechrau mynd yn anodd. Nid yw‟n glir pa newidiadau
sylfaenol y gallai‟r llywodraeth eu cyflwyno er mwyn ymateb i‟r problemau
sefydliadol a demograffig sy‟n wynebu‟r gymuned Anglophone, heb greu sefyllfa lle
caiff pwysau ei roi ar y Ffrangeg unwaith eto. Fe welir hyn isod wrth ystyried dau o‟r
meysydd hynny lle bu galw am newid. Ym maes addysg, mae‟n bosib iawn y byddai
llacio ar reolau mynediad yr ysgolion Saesneg yn arwain at chwyddo niferoedd yr
ysgolion hyn ac felly yn atal y dirywiad presennol. Ond, ar yr un pryd, byddai cam o‟r
fath yn codi‟r peryg o ddychwelyd at sefyllfa lle câi‟r Ffrangeg ei rhoi dan bwysau,
gan fod mewnfudwyr yn mynychu ysgolion Saesneg ac yn mabwysiadu‟r iaith
honno‟n unig wrth ymgartrefu yn Quebec. Ym maes cyflogaeth, mae‟n bosib y byddai
addasu ychydig ar y polisi presennol o ddatgan mai‟r Ffrangeg yw iaith y gweithle,
gan sicrhau mwy o gyfle i weithio‟n Saesneg, yn annog mwy o aelodau ifanc y
gymuned Anglophone i aros yn Quebec yn hytrach na mudo i daleithiau eraill i
182
chwilio am waith. Ond, byddai gwneud hynny‟n camu nôl at sefyllfa lle roedd baich
dwyieithrwydd yn tueddu i gael ei osod yn llwyr ar ysgwyddau‟r mwyafrif
Francophone. Wrth gwrs, dylai‟r llywodraeth sicrhau fod polisi cyflogaeth o‟r fath yn
cael ei weithredu mewn modd sy‟n rhoi cyfle teg i‟r sawl sydd ddim yn siarad
Ffrangeg fel mamiaith, er enghraifft trwy ddarparu digon o gyfle i ddysgu‟r iaith ac
hefyd trwy ddileu unrhyw ragfarnu ymhlith cyflogwyr. Eto i gyd, dim ond diwygio‟r
modd y mae‟r polisi presennol yn cael ei weithredu fyddai cam o‟r fath, ac nid ei
addasu mewn unrhyw fodd sylfaenol.
Yn y pen draw, tra bod dyletswydd ar lywodraeth Quebec i roi ystyriaeth i
sefyllfa‟r lleiafrif Anglophone hanesyddol, rhaid cofio ei bod hefyd yn gwbl
dderbyniol i‟r llywodraeth gymryd camau i hybu rhagolygon yr iaith a‟r diwylliant
Ffrangeg. O ganlyniad, ni ellir casglu fod y llywodraeth yn gweithredu mewn modd
annerbyniol mewn perthynas â‟r gymuned Anglophone, trwy ymatal rhag addasu ei
pholisïau iaith presennol. Wedi‟r cyfan, nid yw‟r polisïau hyn wedi arwain at erlyn
aelodau‟r gymuned honno na thramgwyddo rhyddfreiniau sylfaenol (ar wahân i
eithriad y polisi arwyddion). Ar yr un pryd, ni ddylid diystyru dadleuon yr aelodau
hynny o‟r gymuned Anglophone sy‟n poeni, er enghraifft, ynglŷn â dyfodol eu
hysgolion. Y gwir amdani yn yr achos hwn, yw fod y ddwy ochr yn meddu ar
fuddiannau pwysig. Eto i gyd, byddai mynd ati i geisio bodloni un ochr yn llwyr yn
debygol o fod yn niweidiol iawn i‟r ochr arall. Fel a welwyd uchod, ac fel mae amryw
o sylwebwyr wedi nodi, byddai addasu‟n sylweddol ar y polisïau iaith presennol, gan
symud i sefyllfa lle mae‟r Saesneg a‟r Ffrangeg yn cael eu trin fwy neu lai‟n gydradd,
183
yn debygol o arwain at sefyllfa lle câi‟r Ffrangeg ei rhoi dan bwysau unwaith eto
(Larrivée 2003).
O ganlyniad, rhaid ceisio canfod ffordd deg o gyfaddawdu rhwng gwahanol
fuddiannau. A siarad yn gyffredinol, golyga hyn fod llywodraeth Quebec, ar y naill
llaw, yn derbyn bod y gymuned Anglophone yn meddu ar statws arbennig ac felly bod
dyletswydd arni i roi ystyriaeth i‟w sefyllfa, wrth ddatblygu polisïau. Ar y llaw arall,
golyga fod aelodau‟r gymuned Anglophone yn derbyn eu bod yn aelodau o gymuned
leiafrifol sy‟n meddu ar nodweddion diwylliannol arbennig o ddylanwadol, a‟i bod,
felly, yn gwbl briodol i lywodraeth Quebec gloriannu rhai o‟u galwadau ieithyddol
ochr yn ochr â‟r nod ehangach o geisio creu dyfodol i‟r iaith a‟r diwylliant Ffrangeg.
Sylweddolaf nad yw‟r casgliad hwn yn un cwbl bendant. Fodd bynnag, credaf fod hyn
yn adlewyrchu‟r ffaith fod terfyn i‟r hyn y gellir disgwyl ei gyflawni trwy gyfrwng
trafodaeth normadol gyffredinol. Yn y pen draw, rhaid i faterion anodd fel hyn gael eu
datrys trwy gyfrwng trafodaeth wleidyddol agored sy‟n cael ei chynnal ar sail
dealltwriaeth o bwysigrwydd buddiannau‟r gwahanol gyfranogwyr.
9. Casgliadau
Yn ystod y bennod hon, cloriannwyd gwahanol agweddau o‟r polisïau a
fabwysiadwyd gan lywodraeth Quebec fel rhan o‟i hymdrech i geisio codi statws y
Ffrangeg. Yn benodol, holwyd a yw rhai o‟r polisïau hyn wedi tramgwyddo
egwyddorion rhyddfrydol pwysig, ac felly‟n haeddu cael eu dehongli fel polisïau
annerbyniol o safbwynt moesol.
184
Mewn perthynas â‟r achos cyntaf, sef y polisi arwyddion dadleuol a oedd yn
datgan mai dim ond Ffrangeg gâi ymddangos ar arwyddion cyhoeddus, daethpwyd i‟r
casgliad ei fod yn annerbyniol. Gwelwyd fod polisi o‟r fath yn cyfyngu‟n ormodol ar
ryddid mynegiant. Er ei fod wedi‟i fabwysiadu fel rhan o ymdrech ddilys i hybu
rhagolygon y Ffrangeg, roedd yn bolisi a oedd yn amharu‟n ormodol ar allu aelodau
unigol o gymdeithas Quebec i ddefnyddio ieithoedd eraill. O ganlyniad, roedd Uchel
Lys Canada yn gywir wrth ddatgan fod polisi o‟r fath yn annerbyniol. Ar ben hynny,
roedd hi‟n gwbl gywir fod llywodraeth Quebec, yn y pen draw, wedi gorfod addasu‟r
polisi, gan fabwysiadu canllawiau mwy rhesymol a oedd yn datgan y dylai‟r Ffrangeg
dderbyn goruchafiaeth ar unrhyw arwydd cyhoeddus.
Yr ail achos a ystyriwyd oedd polisi addysg llywodraeth Quebec, ac yn
benodol, y cyfyngiadau hynny a osodwyd ar argaeledd addysg Saesneg. Dadleuwyd
fod y cyfyngiadau hyn, ar y cyfan, yn rhai teg. Un eithriad oedd i‟r casgliad hwn, sef
achos y Canadiaid hynny sy‟n mudo i Quebec o daleithiau eraill. Eto i gyd, fel y
nodwyd, nid yw‟r polisi addysg bellach yn effeithio ar aelodau‟r garfan yma. Dim ond
mewnfudwyr ac aelodau o‟r gymuned Francophone sydd bellach yn cael eu hatal rhag
mynychu‟r ysgolion Saesneg, ac mewn perthynas â‟r achosion hyn, gwelwyd bod y
cyfyngiadau sydd mewn grym yn rhai derbyniol sydd ddim yn tramgwyddo unrhyw
egwyddorion rhyddfrydol sylfaenol.
Roedd y trydydd achos a drafodwyd ychydig yn wahanol i‟r ddau gyntaf. Yn
hytrach na thrafod polisi penodol, ystyriwyd y drafodaeth gyfoes ynglŷn â dyfodol y
gymuned Anglophone yn Quebec, a‟r gwyn fod effaith gyffredinol y polisïau iaith a
185
weithredwyd dros y blynyddoedd bellach wedi arwain at danseilio cynaliadwyedd y
gymuned honno. Yn yr achos hwn, nid oedd hi‟n bosib dod i gasgliad cwbl bendant,
fel y gwnaed mewn perthynas â‟r ddau achos arall. Ar y naill law, dadleuwyd ei bod
yn dderbyniol i lywodraeth Quebec geisio dyrchafu rhagolygon y Ffrangeg, ac felly
nid yw‟n gweithredu mewn modd annerbyniol mewn perthynas â‟r gymuned
Anglophone, trwy ymatal rhag addasu ei pholisïau iaith presennol. Wedi‟r cyfan, nid
yw‟r polisïau hyn wedi arwain at erlyn aelodau‟r gymuned honno, na thramgwyddo
rhyddfreiniau sylfaenol (ar wahân i eithriad posib y polisi arwyddion). Ar ben hynny,
rhaid cofio y byddai unrhyw addasu sylweddol yn codi‟r peryg o greu sefyllfa lle câi‟r
Ffrangeg ei rhoi dan bwysau unwaith eto. Ond, ar y llaw arall, nodwyd na ddylid
diystyru pryderon y gymuned Anglophone. Dyma gymuned hanesyddol sydd wedi
bodoli yn Quebec ers bron iawn ei chychwyn ac felly mae galwadau ei haelodau yn
meddu ar statws arbennig. Mewn gwirionedd, mae hwn yn achos anodd, lle mae
gwahanol fuddiannau dilys yn gwrthdaro. O ganlyniad, rwyf yn amheus ynglŷn ag i
ba raddau y gall trafodaeth normadol gyffredinol, tebyg i‟r un a gafwyd yma, ddod i
gasgliadau pendant mewn perthynas ag achos o‟r fath. Yn y pen draw, bydd datrysiad
llawn i unrhyw wrthdaro ond yn deillio o drafodaeth ddemocrataidd agored sy‟n
canfod ffordd deg o gydbwyso gwahanol fuddiannau.
186
5. Iaith Pawb: Adfer y Gymraeg yng Nghymru
1. Cyflwyniad
O‟i chymharu â‟r Ffrangeg yn Quebec, nid yw sefyllfa‟r Gymraeg yn ymddangos yn
arbennig o addawol. Yn ôl canlyniadau‟r cyfrifiad diwethaf, a gynhaliwyd yn 2001,
dim ond tua 20 y cant o‟r boblogaeth sy‟n medru siarad yr iaith (Bwrdd yr Iaith
Gymraeg 2003a). Fodd bynnag, dros y degawdau diwethaf, cymerwyd nifer o gamau
pwysig i ddechrau gan y llywodraeth Brydeinig ganolog ac yna‟n ddiweddarach gan
lywodraeth ddatganoledig Cymru er mwyn ceisio adfer ei rhagolygon. Mae‟r camau
hyn wedi cyffwrdd ar amrediad eang o feysydd, gan gynnwys statws cyhoeddus y
Gymraeg, y cyfryngau, byd addysg a hefyd cynllunio a datblygu economaidd. Nid
ydynt wedi arwain at sicrhau cydraddoldeb llawn i‟r iaith ochr yn ochr â‟r Saesneg, ac
ni ellir dweud chwaith bod ei dyfodol yn gwbl sicr erbyn heddiw (Jenkins a Williams
2000). Fodd bynnag, nid oes modd gwadu bod sefyllfa‟r Gymraeg bellach yn wahanol
iawn i‟r hyn ydoedd ychydig dros ddeugain mlynedd yn ôl.
Fel yn achos y bennod flaenorol, amcan y bennod hon fydd ceisio cloriannu, o
bersbectif rhyddfrydol, ddilysrwydd moesol rhai o‟r camau hynny a gymerwyd wrth
geisio cynnal ac adfer sefyllfa‟r Gymraeg yng Nghymru. Ystyrir tri achos yn benodol.
I ddechrau, trafodir yr arfer cynyddol o drin y Gymraeg fel sgil hanfodol mewn
perthynas â nifer o swyddi cyhoeddus. Dyma bolisi sydd wedi ennyn gwrthwynebiad
gan ei fod, yn nhyb rhai, yn tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol megis cyfle
cyfartal ar arfer o benodi ar sail gallu a theilyngdod. Yn ail, ystyrir y camau a
gymerwyd gan awdurdodau lleol yng ngorllewin Cymru i geisio sefydlu‟r Gymraeg
187
fel prif iaith addysg gynradd yn yr ardaloedd hyn. Mae‟r sawl sydd wedi
gwrthwynebu polisïau o‟r fath wedi dadlau eu bod yn annerbyniol gan eu bod yn
tramgwyddo hawliau sylfaenol ym maes addysg ac yn gorfodi plant ifanc i ddysgu
iaith benodol. Yn drydydd, ystyrir dilysrwydd y camau diweddar a gymerwyd i geisio
dylanwadu ar arferion ieithyddol y teulu trwy annog rhieni newydd i drosglwyddo‟r
Gymraeg i‟w plant. Yn wahanol i‟r ddau achos arall, ni fu unrhyw wrthwynebiad
chwyrn i‟r polisi hwn. Fodd bynnag, fe‟i hystyrir yma gan ei fod yn achos sy‟n codi
nifer o gwestiynau normadol diddorol, yn enwedig felly i ryddfrydwyr. A siarad yn
gyffredinol, mae‟r cwestiynau hyn yn ymwneud â‟r lefel o ddylanwad sy‟n briodol i
unrhyw wladwriaeth geisio‟i estyn dros arferion preifat ei dinasyddion. Ym mhob un
o‟r achosion hyn byddaf yn holi a oes unrhyw le i amau dilysrwydd y camau a
gymerwyd gan gynllunwyr iaith yng Nghymru. A yw‟r polisïau iaith hynny a
fabwysiadwyd ganddynt wedi tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol pwysig, ac
felly‟n haeddu cael eu dehongli fel rhai annerbyniol o safbwynt moesol?
Fodd bynnag, cyn gellir mynd ati i gynnal trafodaeth normadol o‟r fath, rhaid
magu dealltwriaeth o gefndir yr achos dan sylw. O ganlyniad, dyna fydd amcan
adrannau cyntaf y bennod hon. I ddechrau, ceisir egluro natur y berthynas wleidyddol,
gyfreithiol a sefydliadol sydd wedi nodweddu perthynas Cymru a gwladwriaeth
Prydain. Yna, eir ati i drafod natur y ffactorau hynny sydd wedi cyfrannu at ddirywiad
sylweddol yr iaith Gymraeg dros y canrifoedd. Yn olaf, amlinellir rhai o‟r prif gamau
a gymerwyd ers y 1960au er mwyn ceisio gwrthdroi‟r dirywiad hwn ac adfer
rhagolygon y Gymraeg. O wneud hyn, bydd modd camu ymlaen yn hyderus yn ystod
188
ail hanner y bennod i drin a thrafod dilysrwydd moesol gwahanol agweddau o bolisïau
iaith Cymru.
2. Cymru o Fewn Prydain
I raddau helaeth, caiff hanes y Gymru fodern ei nodweddu gan ei hymgorfforiad
pellgyrhaeddol o fewn fframwaith gwleidyddol, cyfreithiol a sefydliadol gwladwriaeth
Prydain. Yn wir, caiff natur yr ymgorfforiad hwn ei chyfleu‟n effeithiol gan yr
ymadrodd gweinyddol cyfarwydd, England and Wales, a ddefnyddir wrth gyfeirio at
amrediad eang o sefydliadau a rhaglenni (May 2001). Fe‟i hamlygir hefyd gan y ffaith
na châi Cymru ei chydnabod fel un o „genhedloedd Prydain‟ hyd nes degawdau olaf y
bedwaredd ganrif ar bymtheg. Tan hynny, y gred gyffredinol oedd bod Prydain ond yn
uniad o dair cenedl Lloegr, yr Alban ac Iwerddon (Morgan 1982, 1995)
Wrth gwrs, mae gwreiddiau ymgorfforiad Cymru yn ymestyn yn ôl i‟r Canol
Oesoedd; syrthiodd y wlad yn gynyddol o dan ddylanwad coron Lloegr yn dilyn
Concwest Edward I ym 1282, a chyhoeddi Statud Rhuddlan ym 1284. Fodd bynnag,
ni chafodd ei gadarnhau‟n ffurfiol tan yr unfed ganrif ar bymtheg, pan basiwyd
Deddfau Uno 1536 a 1542 gan lywodraeth Harri‟r VIII. Yn sgil y deddfau hyn
sefydlwyd lle Cymru, mewn modd cwbl ddiamwys, fel rhan o drefn wleidyddol,
gyfreithiol a gweinyddol ganolog gwladwriaeth Lloegr, a dros amser, arweiniodd hyn
at sugno‟r elit Cymreig i grombil y drefn ddosbarth Seisnig (Davies 2007; Jenkins
1992).
189
Ni chafodd y trefniadau hyn eu herio mewn unrhyw fodd arwyddocaol hyd y
bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bryd hynny gwelwyd yr arwyddion cyntaf o
ddatblygiad mudiad cenedlaethol Cymreig (Morgan 1981). Un o sgil effeithiau'r
ymchwydd hwn mewn ymwybyddiaeth genedlaethol oedd creu nifer o sefydliadau
cenedlaethol er enghraifft Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a‟r Amgueddfa
Genedlaethol a hefyd pasio nifer o fesurau penodol Gymreig yn y senedd yn San
Steffan er enghraifft Deddf Cau ar y Sul 1881, Deddf Llywodraeth Leol 1888 a
Deddf Addysg 1889. Eto i gyd, er gwaetha‟r enillion hyn, roedd rhannau helaeth o
drefniadau gwleidyddol a chymdeithasol Cymru yn parhau‟n gwbl ddiwahân o rai
Lloegr (May 2001).
Gwelwyd datblygiadau pellach yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Er enghraifft, ym
1956 cafodd Caerdydd ei chydnabod yn swyddogol fel prifddinas genedlaethol. Yn
ogystal, yn ystod y cyfnod hwn dechreuodd Cymru gael ei chydnabod fwyfwy fel
uned weinyddol unigol, ac yn raddol, esgorodd hyn ar fframwaith sefydliadol a
biwrocrataidd Cymreig (Morgan 1981). Heb os, un o‟r digwyddiadau pwysicaf yn y
broses hon oedd y penderfyniad i sefydlu‟r Swyddfa Gymreig ym 1964. Yn wreiddiol,
rôl symbolaidd, yn fwy na dim arall, a briodolwyd i‟r swyddfa hon. Ond, dros amser,
trosglwyddwyd iddi gyfrifoldebau gweinyddol sylweddol dros sawl agwedd o fywyd
Cymru. Esgorodd hyn, yn ei dro, ar amrediad cynyddol o ddeddfau seneddol a oedd
yn ymwneud yn benodol â Chymru, yn eu plith deddfwriaeth ar yr iaith Gymraeg
(1967 a 1993).
190
Ym 1999, camodd y broses hon o ddatganoli gweinyddol i lefel gwbl newydd
gyda sefydlu‟r Cynulliad Cenedlaethol, corff etholedig a chanddo 60 o aelodau.
Deilliodd hyn o bleidlais gadarnhaol gan bobl Cymru mewn refferendwm ddwy
flynedd yng nghynt. Trosglwyddwyd i‟r corff newydd hwn yr holl rymoedd
gweinyddol a chyllidol a oedd gynt yn nwylo‟r Swyddfa Gymreig, gan gynnwys
rhannau helaeth o feysydd megis addysg, trafnidiaeth, iechyd a datblygu economaidd.
Fodd bynnag, yn wahanol i‟r Alban, nid estynnwyd iddo unrhyw rymoedd
deddfwriaethol na threthiannol (Taylor a Thompson 1999). Cymerwyd cam i‟r
cyfeiriad hwn gyda‟r diwygiadau a gyflwynwyd yn sgil pasio Deddf Llywodraeth
Cymru yn 2006. Yn ogystal mae‟n fwriad i gynnal refferendwm ar ymestyn grymoedd
y Cynulliad ymhellach ryw dro yn y dyfodol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae gallu‟r
corff i weithredu agenda polisi annibynnol yn parhau i ddibynnu, i raddau helaeth, ar
ewyllys da llywodraeth San Steffan (Wyn Jones 2006).
Gwelir felly fod hanes y berthynas rhwng Cymru a gwladwriaeth Prydain yn
un a nodweddwyd, tan yn ddiweddar iawn, gan ymgorfforiad gwleidyddol a
sefydliadol pellgyrhaeddol. Yn wir, fel yr awgryma May (2001), diddorol yw
cyferbynnu natur yr ymgorfforiad hwn â phrofiad mwy annibynnol yr Alban,
rhywbeth a gaiff ei danlinellu wrth ystyried y gwahaniaethau sydd i‟w cael rhwng
trefniadau datganoli‟r ddwy wlad. Fodd bynnag, o ran sefyllfa‟r Gymraeg, mae rhai,
er enghraifft Richard Jenkins (1991), wedi dadlau fod ymgorfforiad Cymru wedi
cyfrannu at greu gwagle cymdeithasol ar ei chyfer a bod hyn, i raddau, wedi arafu ei
dirywiad. Fel yr eglura Stephen May wrth drafod safbwynt Jenkins:
... it can be argued that political incorporation has actually facilitated the
cultural distinctiveness of the Welsh principally through the maintenance of
191
their language and cultural traditions. Richard Jenkins (1991) argues, for
example, that Welsh incorporation within the British state may have actually
created the social and economic space within which the Welsh language and
culture could survive. The Welsh language may have been proscribed from the
civic realm from the time of the (1536) Act of Union, and may have been
regarded, along with its culture, as antediluvian. However, it was not viewed
as a threat to the state (May 2001: 256).
Roedd hyn yn cyferbynnu‟n sylweddol â phrofiadau ieithoedd a diwylliannau Gaeleg
yr Alban ac Iwerddon. O ganlyniad, awgryma May y gall gwahaniaeth hwn gyfrannu
at egluro pam na fu dirywiad y Gymraeg mor syfrdanol a phellgyrhaeddol â dirywiad
rhai o‟r ieithoedd Celtaidd eraill. Boed hynny‟n wir ai peidio, ni ellir gwadu mai
dirywio‟n arw wnaeth y Gymraeg hefyd yn y pen draw ac mai‟r broses hon fu un o
nodweddion amlycaf hanes Cymru dros y canrifoedd. Fel y mae May‟n cydnabod
(2001: 256), „the Anglicisation of Wales remains the most prominent feature of the
nation‟s history.
3. Dirywiad y Gymraeg
Wrth gwrs, mae gwreiddiau dirywiad y Gymraeg yn ymestyn yn ôl dros gyfnod o
ganrifoedd. Mor gynnar â‟r unfed ganrif ar ddeg, yn fuan wedi‟r goncwest
Normanaidd, roedd ei statws yn cael ei herio gan ymlediad y Lladin a‟r Ffrangeg.
Yna, erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg a‟r bymthegfed ganrif, gyda dylanwad y
Saesneg ar gynnydd, dechreuodd gael ei disodli o feysydd pwysig, megis y gyfraith,
lle bu gynt yn cael ei defnyddio‟n gyson. Eto i gyd, ni chafodd y broses o gau‟r
Gymraeg allan o fywyd cyhoeddus Cymru ei chadarnhau a‟i ffurfioli‟n derfynol tan
1536, pan basiwyd y gyntaf o Ddeddfau Uno Harri‟r VIII. Datganodd cymalau iaith y
ddeddf hon mai‟r Saesneg yn unig a fyddai bellach yn cael ei defnyddio fel iaith
llywodraeth a‟r llysoedd ac na ddylai‟r un person na fedrai siarad Saesneg ddal
192
unrhyw swydd gyhoeddus. Yn wir, fel y nododd May (2001), ac fel y gwelir o‟r
dyfyniad isod, roedd y ddeddf yn gwbl ddiamwys ynglŷn â statws israddol (neu yn wir
ddiffyg statws) y Gymraeg:
... from hensforth no personne or personnes that use the Welsshe speche or
language shall have or enjoy any maner office or fees within the Realme of
Englonde Wales or other the Kinges dominions upon peyn or forfaiting the
same offices or fees onles he or they use and exercise the speche or language
of Englisshe („Cymal Iaith‟ Deddf Uno 1536, dyfynnwyd yn Davies 1993: 21).
Arweiniodd y cymal hwn at greu sefyllfa lle mai‟r unig bau ffurfiol lle câi‟r Gymraeg
ei defnyddio tu hwnt i rai preifat ac anffurfiol y teulu a‟r gymuned leol – oedd yr
eglwys.
Fodd bynnag, profodd y gallu hwn i ennill troedle fel iaith gwasanaethau
crefyddol yn gwbl allweddol. Deilliodd yn bennaf o benderfyniad Elizabeth I, ym
1563, i ganiatáu i‟r Beibl gael ei gyfieithu i‟r Gymraeg. Ar y pryd, roedd Ewrop yn
cael ei rhwygo gan y gwrthdaro crefyddol a ddeilliodd o ymlediad y Diwygiad
Protestannaidd. Yn y cyd-destun hwn daeth llywodraeth Prydain i‟r casgliad mai
pwysicach oedd sicrhau cydymffurfiaeth grefyddol nag unffurfiaeth ieithyddol ac felly
gorchmynnwyd y dylai Cymry uniaith fedru mynychu gwasanaethau a gynhelid trwy
gyfrwng iaith a ddeallent (Davies 1993). Ar yr olwg gyntaf, ymddengys hyn fel
penderfyniad a oedd yn rhedeg yn gwbl groes i amcanion y Deddfau Uno a basiwyd
ond rai degawdau ynghynt. Fodd bynnag, nid oedd y penderfyniad yn amlygu unrhyw
awydd ar ran Elizabeth i gydnabod a dyrchafu statws y Gymraeg. Fel y noda May:
The principle reason for the concession as for the Act had to do with
facilitating integration of the Welsh into Britain. More pertinently, the
authorisation was not an endorsement of the Welsh language but was, again,
specifically assimilations in intent. The provisions for the authorisation state
clearly that its purpose was that „such as do not understand the said Language
193
[Welsh] may be conferring both Tongues together, the sooner attain
Knowledge of the English Tongue (May 2001: 258).
O ganlyniad, ochr yn ochr â‟r gobaith o hybu heddwch crefyddol, hybu ymlediad y
Saesneg ymhlith y Cymry oedd bwriad Elizabeth.
Eto i gyd, yr eironi mawr yw mai prif gyfraniad y Beibl Cymraeg a
ymddangosodd ym 1588 yn dilyn blynyddoedd o waith gan yr Esgob William Morgan
oedd atgyfnerthu sefyllfa‟r iaith yn wyneb pwysau cynyddol y Saesneg. Cyfrannodd
at safoni‟r iaith ac fel yr eglura Janet Davies (1993) roedd yr iaith safonol hon yn cael
ei chlywed gan y Cymry mewn gwasanaethau Sul ar ôl Sul. Caiff arwyddocâd y
broses hon ei chrynhoi yn effeithiol gan May:
Crucially, it allowed Welsh to remain a standardised literary language, with
the capacity to be used in any domain (even if it was not so used). Despite the
fact that it was still regarded as a low-status language, the literary standard
provided by the 1588 translation prevented the language from diverging into
mutually incomprehensible dialects and/or atrophying altogether‟ (May 2001:
258).
Yn wir, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gorchest William Morgan. Ar y pryd, y
Gymraeg oedd yr unig un o ieithoedd di-wladwriaeth Ewrop i gael ei defnyddio yn y
fath fodd; ffaith arall sy‟n cyfrannu at egluro pam y bu hynt Gymraeg dros y
canrifoedd canlynol mor wahanol i hynt ieithoedd tebyg megis y Wyddeleg a Gaeleg
yr Alban (Davies 1993).
Fodd bynnag, er gwaethaf arwyddocâd y Beibl Cymraeg, nid oedd yn ddigon,
ar ben ei hun, i wrthsefyll y dirywiad graddol a fu yn statws a bri'r Gymraeg.
Amlygwyd y dirywiad hwn gan ymddygiad y bonedd Cymreig yn dilyn pasio‟r
Deddfau Uno. Golygai‟r ffaith fod y Gymraeg wedi‟i chau allan yn ffurfiol o fywyd
194
cyhoeddus bod dyrchafiad cymdeithasol y bobl hyn bellach yn dibynnu ar feistroli‟r
Saesneg. Dyna a wnaethant felly; i ddechrau fel iaith atodol, ac yna, maes o law, fel eu
prif iaith. Esblygodd y broses hon yn raddol, gyda natur y newid ieithyddol ymhlith y
bonedd yn amrywio o ardal i ardal. Fodd bynnag, erbyn tua diwedd y ddeunawfed
ganrif, roedd yr arfer wedi‟i hen sefydlu (Davies 1993). Ond, er gwaethaf y
newidiadau yn arferion ieithyddol y bonedd, parhaodd y Gymraeg i ddal ei thir fel prif
iaith y mwyafrif helaeth o‟r boblogaeth. Er enghraifft yn ystod yr ail ganrif ar
bymtheg roedd tua 90 y cant o‟r boblogaeth yn parhau i siarad Cymraeg a chanran
sylweddol iawn o‟r rhain yn uniaith Gymraeg (Jenkins 1992; Jenkins 1997).
I raddau helaeth, y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd y cyfnod lle gwelwyd y
patrwm hwn yn cael ei drawsnewid. Yn wir, pan ystyrir digwyddiadau‟r ganrif hon,
ymddengys fel pe bai llu o elfennau gwahanol oll wedi dod ynghyd gan
gydgynllwynio i danseilio‟r iaith (Jenkins 1999). Eto i gyd, ar yr wyneb, anodd fyddai
credu hyn o ystyried y dystiolaeth ynglŷn â‟r niferoedd o siaradwyr Cymraeg a drigai
yng Nghymru yn ystod y cyfnod. Ar ddechrau‟r ganrif, roedd gan Gymru boblogaeth
o ryw 600,000 ac roedd y trwch ohonynt yn siarad Cymraeg yn gyson, „a mwy na
hanner miliwn ohonynt, yn ôl pob tebyg, yn Gymry uniaith‟. O ganlyniad, „y
Gymraeg oedd yn teyrnasu yn y cartref, y gweithle a‟r addoldai‟ ac er nad oedd yn
meddu ar statws swyddogol, „nid oedd lle i bryderu y câi ei disodli fel prif gyfrwng
cyfathrebu beunyddiol‟ (Jenkins 1999: 1). Yn wir, hyd yn oed mor hwyr â 1891 pan
gynhaliwyd y cyfrifiad cyntaf a oedd yn cynnwys cwestiwn penodol ynglŷn â gallu
ieithyddol roedd 910,289 o bobl yn siarad Cymraeg. Cynyddodd y ffigwr hwn
195
ymhellach yn ystod y degawdau canlynol, gan gyrraedd 977,366 o siaradwyr erbyn
1911.
Fodd bynnag, pan ystyrir y niferoedd hyn fel canran o‟r boblogaeth yn
gyffredinol, gwelir nad oedd y sefyllfa mor iach â hynny erbyn dechrau‟r ugeinfed
ganrif. Ym 1891, roedd tua miliwn o siaradwyr Cymraeg ond yn cyfri am 54.4 y cant
o‟r boblogaeth. Erbyn 1901, roedd y ganran hon wedi syrthio i 49.9, ac erbyn 1911
dim ond 43.5 y cant o‟r boblogaeth oedd yn siarad yr iaith. O ganlyniad, erbyn
dechrau‟r ugeinfed ganrif dim ond lleiafrif o boblogaeth Cymru oedd yn medru siarad
Cymraeg: newid syfrdanol o ystyried sut oedd pethau rai degawdau yng nghynt. O
ganlyniad hyn, gellir deall pam y datganodd J. E. Southall ym 1893, „All the while ...
the nineteenth century was sharpening its knives, and gradually gathering strength, to
dispute further advances‟ (dyfynnwyd yn H. T. Edwards 1987: 123). Ond beth a
arweiniodd at y fath newid syfrdanol?
I ddechrau rhaid ystyried dylanwad y newidiadau economaidd a demograffig a
arweiniodd at drawsnewid Cymru‟n llwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Fel y noda Geraint Jenkins, rhwng 1801 a 1911 profodd Cymru „newid mwy sylfaenol
nag a welsai ar unrhyw adeg cyn hynny‟ (Jenkins 1999: 1) ac nid oes unrhyw elfen o
ormodiaeth yn perthyn i‟r gosodiad hwn. Caiff hyn ei danlinellu dim ond trwy
ystyried rhai ffigyrau moel. Rhwng 1801 a 1851 bu i boblogaeth Cymru bron a dyblu,
gan godi o 601,767 i 1,188,914, cyn dyblu eto, gan gyrraedd 2,442,041 erbyn 1911
(Jenkins 1998, 1999). Law yn llaw gyda‟r cynnydd hwn mewn niferoedd, gwelwyd
newid sylfaenol yn nosbarthiad y boblogaeth. Dyma‟r cyfnod lle gwelwyd pobl yn
196
dechrau gadael y wlad, gan fudo i‟r trefi mawr newydd. Mentrodd nifer o Gymry tu
hwnt i Glawdd Offa. Er enghraifft, erbyn 1901 roedd 180,000 ohonynt yn byw yn
Llundain (Jenkins 1999). Fodd bynnag, symudiad llawer mwy arwyddocaol oedd
hwnnw a welodd miloedd ar filoedd o Gymru yn mudo o siroedd gwledig y gorllewin
a‟r canolbarth i Faes Glo De Cymru ac, i raddau llai, i Faes Glo‟r Gogledd Ddwyrain
a‟r ardaloedd chwarelyddol.
Yn wreiddiol, nid oedd effeithiau‟r symudiad poblogaeth hwn yn arbennig o
niweidiol i ragolygon yr iaith Gymraeg. Yr oll a olygai, mewn gwirionedd, oedd bod
siaradwyr Cymraeg yn cael eu crynhoi mewn rhannau newydd o‟r wlad, siroedd
megis Morgannwg a Mynwy.1 Fodd bynnag, erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar
bymtheg, ac yn enwedig o 1870 ymlaen, cynyddodd y ganran o boblogaeth y Gymru
ddiwydiannol a oedd wedi‟u geni yn Lloegr ac felly ddim yn siarad Cymraeg. Er
enghraifft, erbyn 1911 roedd y ganran hon wedi codi i 16 y cant ac, yn nhyb Jenkins,
nid oes dwywaith fod y mudo cynyddol hwn o Loegr wedi arwain, dros amser, at
danseilio statws y Gymraeg fel prif iaith gwaith a chymdeithasu mewn rhannau
helaeth o Gymru (Jenkins 1999).
Eto i gyd, nid dim ond mewn termau strwythurol o‟r fath y mae egluro
dirywiad syfrdanol y Gymraeg yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a
hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Rhaid hefyd ystyried y „pwysau cymdeithasol,
1 Yn wir, aeth Brinley Thomas (1959) mor bell â dadlau bod y broses hon o fudo mewnol wedi bod yn
arbennig o llesol i ragolygon yr iaith Gymraeg. Golygodd bod „siroedd Morgannwg a Mynwy wedi
derbyn trallwysiad enfawr o Gymreictod o wythiennau cymdeithas cefn gwlad‟ a bod y mudwyr
Cymreig, „trwy wladychu eu gwlad eu hunain‟, wedi sicrhau bod profiad y Cymry yn gwbl wahanol i
brofiad y Gwyddelod (Jenkins 1999: 3). Caiff agwedd Thomas ei chrynhoi yn effeithiol gan y dyfyniad
canlynol, The unrighteous Mammon in opening up the coalfields at such a pace unwittingly gave the
Welsh language a new lease of life‟ (Thomas 1959: 192, dyfynnwyd yn Jenkins 1998: 5).
197
ideolegol a seicolegol grymus a weithiai o blaid y Saesneg‟ (Jenkins 1998: 12). Wrth
gwrs, nid oedd hwn yn bwysau cwbl newydd; ymestynnai nôl i gyfnod y Deddfau
Uno a chynt. Ond, yn ystod oes Victoria, lleisiwyd dadleuon ynglŷn â goruchafiaeth
gynhenid y Saesneg, ynghyd â natur israddol a chyntefig y Gymraeg, gydag arddeliad
a ffyrnigrwydd nas gwelwyd o‟r blaen.
Cynnydd a moderniaeth oedd themâu mawr yr oes a darluniwyd y Gymraeg fel
nodwedd a oedd yn rhwystr i‟r pethau hyn. Caiff y sefyllfa ei chrynhoi fel a ganlyn
gan Geraint Jenkins:
Yr oedd Cynnydd yn ganolog i syniadaeth oes Victoria ac ni ellir llai na sylwi
mor fynych y defnyddid y geiriau „buddiol‟, „llesol‟ a „defnyddiol‟ mewn
llenyddiaeth Gymraeg. Credid bod unrhyw iaith na allai gystadlu‟n effeithiol
ym „mrwydr bywyd‟ wedi ei thynghedu i ddirywio a darfod amdani. Yr oedd
unigolyddiaeth laissez-faire, penderfyniaeth economaidd, a damcaniaeth
esblygiad i gyd yn pwysleisio‟r ysbryd cystadleuol, a chan fod yr ieithoedd
Celtaidd a oedd ar gyrion ynysfor Iwerydd yn cael eu hystyried yn „ddinod‟,
yn „annatblygedig‟ ac yn „farbaraidd‟, yr oeddent yn amlwg yn rhwystro
Cynnydd (Jenkins 1999; 7).
Yn anochel, cafodd y darlun hwn o‟r Gymraeg fel nodwedd a oedd yn rhwystro
cynnydd ei dderbyn a‟i fewnoli gan ganran helaeth o‟r boblogaeth a chyfrannodd hyn,
dros amser, at y newid mewn arferion ieithyddol welwyd yn ystod y cyfnod hwn. Yn
wir, mae rhai wedi mynd mor bell â dadlau mai‟r pwysau cymdeithasol hwn, yn fwy
na dim arall, a gyfrannodd at ddirywiad syfrdanol y Gymraeg erbyn degawdau cyntaf
yr ugeinfed ganrif. Er enghraifft, nododd Hywel Teifi Edwards:
O awydd taer y Cymry i‟w hystyried yn gymeradwy yng ngolwg „the mighty
necessity of civilization‟ y tarddodd yr agweddau at y Gymraeg a oedd ar y
gorau i ganiatáu iddi le anymwthiol ym mywyd y genedl, ac a oedd ar y
gwaethaf i‟w bwrw ymaith, weithiau‟n ddagreuol-ymddiheurol ac weithiau‟n
ymosodol-falch. Y mae‟n wir fod y ffactorau allanol a gysylltir â holl broses
diwydiannu dyfodiad y trên, twf y boblogaeth a mewnlifiad estroniaid o
1850 ymlaen i gyd i raddau pendant yn dylanwadu ar stad yr iaith yn Oes
Aur Victoria drwy hwyluso a chyflymu moddion Seisnigeiddio. Ond ... gellid
198
yn hawdd fod wedi adeiladu dyfodol diogel i‟r iaith petai‟r ewyllys i wneud
hynny‟n bod (Edwards 1987: 132 – 133).
Yn nhyb Edwards, er gwaethaf maint y newidiadau economaidd a demograffig a
brofwyd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gallasai pobl Cymru fod
wedi ymgodymu â hwy, gan gynnal statws y Gymraeg mewn nifer o beuoedd
cymdeithasol pwysig, pe na bai holl „synnwyr cyffredin‟ y cyfnod wedi milwrio yn
erbyn ymdrech o‟r fath.
Amhosib yw dweud i sicrwydd a fyddai‟r Cymry wedi cael mwy o lwyddiant
wrth gynnal y Gymraeg pe bai syniadau dirmygus yr oes heb wreiddio mor ddwfn.
Fodd bynnag, mae‟n annhebyg fod y syniadau hyn wedi rhoi unrhyw hwb i ragolygon
yr iaith. Ar y gorau, y cyfan a wnaethant oedd cyfrannu at ddwysau sefyllfa go
anffafriol. Ymhellach, wrth drafod dylanwad y syniadau hyn, rhaid pwysleisio nad
rhai a ymledodd ar hap oeddent, yn sgil prosesau anuniongyrchol. Yn hytrach,
cawsant eu cyflwyno i bobl Cymru gyda sêl bendith ac awdurdod y wladwriaeth
Brydeinig. Fel y nododd Geraint Jenkins, „Yn ymhlyg yn imperialaeth ddiwylliannol y
dydd yr oedd y syniad fod gan y llywodraeth gyfrifoldeb i ryddhau‟r Cymru rhag yr
unieithrwydd oedd yn eu llesteirio‟ (1999: 7).
Ni cheir enghraifft well o effaith andwyol y meddylfryd hwn na hanes Brad y
Llyfrau Gleision. Dyma yw‟r enw drwg-enwog a roddwyd i‟r adroddiad ar gyflwr
addysg yng Nghymru a luniwyd ar ran y llywodraeth ym 1847 gan dri bargyfreithiwr
ifanc Seisnig. Ar y cyfan, roedd yr adroddiad terfynol a gyflwynwyd gan y tri yma yn
cynnwys nifer o bwyntiau digon teilwng ynglŷn â natur gyfyng ac anghyson y drefn
addysg a fodolai yng Nghymru ar y pryd. Fodd bynnag, yr hyn sy‟n arwyddocaol yw
199
iddynt fynd ati i briodoli‟r holl wendidau hyn i ddylanwad parhaol yr iaith a‟r
diwylliant Cymraeg. Yn wir, mynnwyd mai nodweddion o‟r fath oedd yn bennaf
gyfrifol am yr holl broblemau cymdeithasol ac economaidd a oedd yn llethu rhannau o
Gymru ar y pryd (Davies 1993). Caiff ysbryd yr adroddiad ei grynhoi‟n effeithiol gan
y dyfyniad damniol hwn:
The Welsh language is a vast drawback on Wales and a manifold barrier to the
moral progress and commercial prosperity of the people. It bars the access of
improving knowledge to their minds. Because of their language the mass of
the Welsh people are inferior to the English in every branch of practical
knowledge and skill (dyfynnwyd yn Edwards 1987: 127).
Mae haneswyr bellach bron oll yn gytûn i‟r adroddiad hwn gael effaith andwyol ar
arferion ieithyddol nifer sylweddol o Gymry. Tybiwyd mai‟r unig ffordd o achub cam
y genedl ac o ennill parch y Saeson oedd trwy osod heibio‟r Gymraeg a chofleidio‟r
Saesneg (Davies 1993; Jenkins 1998, 1999; Williams 1985).2 Arweiniodd hyn, yn ei
dro, at gynnig cyfiawnhad i gynnwys Deddf Addysg 1870 dyma‟r ddeddf a
sefydlodd drefn addysg elfennol ar gyfer Lloegr a Chymru gan wahardd y Gymraeg
rhag cael ei dysgu yn ysgolion Cymru.
At ei gilydd felly cafodd y syniadau cymdeithasol a boblogeiddiwyd yn ystod
ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg effaith andwyol ar hunan hyder siaradwyr
Cymraeg. Fel yr eglura May:
... where previously Welsh monolinguliasm and de facto bilingualism had been
the norm, English monolingualism was increasingly to replace them both.
Many Welsh-speaking parents, for example, while continuing to speak Welsh
2 Yn wir, mae Hywel Teifi Edwards (1987) yn gwbl ddamniol yn ei gondemniad o effaith y „rhagfarn
wenwynig‟ a geir rhwng cloriau‟r „Llyfrau Gleision‟. Yn ei dyb ef, casgliadau‟r adroddiad hwn, yn fwy
na dim arall, sydd i gyfri am yr agweddau dilornus tuag at y Gymraeg a gafodd eu mabwysiadu a‟u
mewnoli gan nifer helaeth o Cymry dros y ganrif ddiwethaf: „Trwy‟r ganrif a hanner a ddilynodd
cyhoeddi‟r llyfrau Gleision ni pheidiodd cnul eu pharagraffau mwyaf iasoer â seinio yn ymwybyddiaeth
y Cymry‟ (H. T. Edwards 1987: 127). Boed hwn yn gasgliad cwbl deg ai peidio, ni ellir gwadu i‟r
adroddiad gael effaith ddofn ar agweddau pobl Cymru tuag at eu hiaith.
200
among themselves, stopped speaking it to their children. The result at the
individual level, as for so many other minority-language speakers, was the
generational loss of the language (May 2001: 260).
Yn wir, pan ystyrir natur y grymoedd economaidd, cymdeithasol ac ideolegol a oedd
yn milwrio yn erbyn y Gymraeg erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ni
ddylai ei dirywiad pellach a chyflymach yn ystod yr ugeinfed ganrif, ac yn enwedig
yn ystod hanner cyntaf y ganrif honno (Williams 2000), fod yn destun syndod.3 Mewn
gwirionedd, y syndod mwyaf yw na fu‟r dirywiad hwn yn fwy pellgyrhaeddol, a bod,
er gwaethaf popeth, canran nid ansylweddol o bobl Cymru sy‟n parhau i ddefnyddio‟r
iaith fel eu cyfrwng cyfathrebu dyddiol. Yn wir, yn ôl canlyniadau‟r Cyfrifiad
diwethaf, a gynhaliwyd yn 2001, mae hon yn ganran sydd eto ar gynnydd. I raddau
helaeth, mae hyn yn tystio i‟r ymdrechion cynyddol a wnaed dros y degawdau
diwethaf i geisio ailgodi statws y Gymraeg ac i ehangu ar y defnydd a wneir ohoni.4
4. Ailgodi’r Gymraeg
Fel arfer, i‟r 1960au y bydd haneswyr yn troi eu golygon wrth drafod gwreiddiau‟r
ymdrechion hyn i adfer yr iaith. Wrth gwrs, cymerwyd amryw o gamau pwysig cyn
hynny; Deddf Llysoedd 1942 er enghraifft (Davies 1994). Fodd bynnag yn ystod y
1960au y gwelwyd dyfodol y Gymraeg yn troi‟n bwnc a oedd yn galw am sylw
difrifol gan lywodraeth y dydd. Hybwyd y broses hon gan ddarlith radio enwog
Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, a draddodwyd ym 1962 a hefyd yn sgil ffurfio
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad ymgyrchu a wnâi ddefnydd o ddulliau
3 Am drafodaeth o ddirywiad pellach y Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif gweler Carter 1990 a
Jenkins a Williams 2000.
4 Erbyn 2001 roedd 20.8 y cant o bobl Cymru dros dair oed (582,400 o bobl) yn dweud eu bod yn
medru siarad Cymraeg. Mae hyn yn cymharu â 18.7 y cant (508,100 o bobl) a ddywedodd yn 1991 eu
bod yn siarad Cymraeg, a 19.0 y cant (503,500 o bobl) yn 1981 (Bwrdd yr Iaith Gymraeg 2003a). Am
ymdriniaeth fanwl o ganlyniadau Cyfrifiad 2001 gweler Aitchison a Carter 2004.
201
uniongyrchol a di-drais (Phillips 2000). Arweiniodd gweithgarwch cynnar y mudiad
hwn at amryw o gonsesiynau pwysig, megis arwyddion ffyrdd dwyieithog, trwyddedi
ceir dwyieithog a hefyd amryw o ffurflenni swyddogol eraill. Bu galw hefyd am
ddeddfwriaeth iaith, er mwyn sicrhau statws swyddogol llawn i‟r Gymraeg. Fodd
bynnag, roedd y ddeddf a basiwyd gan y Llywodraeth Lafur ym 1967 yn siom fawr i
garedigion yr iaith; y cyfan a wnâi oedd estyn „ddilysrwydd cyfartal‟ i‟r Gymraeg
ochr yn ochr â‟r Saesneg, gan osgoi gosod unrhyw ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i
ddefnyddio‟r Gymraeg neu alluogi pobl Cymru i fynnu gwasanaethau Cymraeg
(Jenkins a Williams 2000).
Dilynwyd hyn yn ystod yr 1970au a‟r 1980au gan amryw o ddatblygiadau
pwysig eraill. Ym myd y cyfryngau, arweiniodd ymgyrchu penderfynol at sefydlu
Radio Cymru ym 1977 ac ym 1982 sefydlwyd y sianel deledu Gymraeg, Sianel
Pedwar Cymru (S4C) (Jenkins a Williams 2000). Yn ogystal, yn ystod y degawdau
hyn gwelwyd y twf sylweddol yn y ddarpariaeth o addysg Gymraeg neu ddwyieithog
ar y lefelau cynradd ac uwchradd (Williams 2002). Ymhellach, ategwyd y
datblygiadau addysgiadol hyn gan Ddeddf Addysg 1988 a arweiniodd at sefydlu‟r
Gymraeg fel pwnc gorfodol, boed fel iaith gyntaf neu ail iaith, yn y cwricwlwm
Cymreig (Jenkins a Williams 2000; Williams 2000). Eto i gyd, er bod datblygiadau
o‟r fath wedi cyfrannau ar godi statws y Gymraeg ac at hybu defnydd ehangach ohoni,
ychydig o feddwl strategol a fodolai tu ôl iddynt. Ar y cyfan, fel yn achos Deddf Iaith
1967, ymatebion cyndyn oeddent gan lywodraeth ganolog i ymgyrchoedd
penderfynol, yn hytrach nag enghreifftiau o gynllunio ieithyddol cydlynol (Phillips
2000). Yn wir, mae cyferbynnu‟r datblygiadau a fu yng Nghymru yn ystod y cyfnod
202
hwn gyda‟r cynllunio llawer mwy trefnus o blaid y Ffrangeg yn Quebec yn arbennig o
ddadlennol.
I raddau helaeth, yr un oedd yr hanes yn achos y broses a arweiniodd at
Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Ar ôl cyfnod hir o wrthod pob galw am ddeddfwriaeth
o‟r fath, penderfynodd y Llywodraeth Geidwadol, ym 1988, sefydlu Bwrdd yr Iaith
Gymraeg fel corff anstatudol, gan roi iddo‟r gwaith o fraenaru‟r tir ar gyfer
deddfwriaeth iaith newydd a fyddai‟n disodli hen ddeddf anfoddhaol 1967 (Jenkins a
Williams 2000). Pan basiwyd y ddeddf newydd, bum mlynedd yn ddiweddarach,
ailsefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fel corff statudol a gorchmynnwyd i gyrff
cyhoeddus fynd ati i lunio cynlluniau iaith a fyddai‟n amlinellu sut fyddent yn trin y
Gymraeg yn gyfartal â‟r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng
Nghymru (Williams 2000). Fel yn achos Deddf 1967, roedd y ddeddf hon yn destun
siom i lawer o garedigion y Gymraeg a chyfeiriwyd droeon at ei gwendidau dros y
blynyddoedd. Yr amlycaf o‟r rhain oedd y ffaith nad oedd y ddeddf yn estyn statws
swyddogol i‟r Gymraeg, ac yn sgil hynny cydraddoldeb llawn a‟r Saesneg, a hefyd y
ffaith nad oedd yn cyffwrdd â‟r sector preifat (Davies 1994, 2000). Eto i gyd, er
gwaethaf y gwendidau pwysig hyn, ni ellir gwadu fod pasio Deddf Iaith 1993 wedi
bod yn garreg filltir bwysig. Ar y lefel fwyaf arwynebol, arweiniodd at godi statws
cyhoeddus y Gymraeg i lefel nas gwelwyd o‟r blaen. Ar ben hynny, ac efallai‟n
bwysicach, roedd sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg fel corff statudol a chanddo
gyfrifoldeb penodol dros gynllunio ieithyddol, yn caniatáu i bolisi iaith yng Nghymru
symud ymlaen o‟r hen ysbryd adweithiol a nodweddai ei ddatblygiad yn ystod y
degawdau cynt (Williams 2000).
203
Daeth cyfle i gymryd camau pellach i‟r cyfeiriad hwnnw pan sefydlwyd y
Cynulliad Cenedlaethol ym 1999. Yn dilyn cyfnod o ymgynghori go sylweddol,
mabwysiadodd y llywodraeth ddatganoledig newydd gynllun gweithredu cenedlaethol
ar gyfer y Gymraeg, Iaith Pawb (Llywodraeth y Cynulliad 2003). Nid arweiniodd y
cynllun hwn at unrhyw newidiadau deddfwriaethol ffaith a barodd gryn siom i rai
ond, er gwaethaf hyn, roedd yn ddogfen arwyddocaol gan iddo nodi cam arall yn y
broses o gynllunio i ddiogelu a datblygu rhagolygon y Gymraeg. Nodwyd yn y
rhagarweiniad, „Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i arwain y gwaith o
gefnogi a hybu‟r Gymraeg ... byddwn yn gwneud y cyfan sydd o fewn ein gallu i
greu‟r amodau cywir lle gall yr iaith Gymraeg dyfu a blodeuo ym mhob agwedd o
fywyd Cymru‟ (Llywodraeth y Cynulliad 2002: 2). Roedd rhai o brif amcanion y
cynllun yn cynnwys datblygu mentrau i hybu‟r defnydd o‟r Gymraeg ymhlith rhieni a
phlant ifanc a hefyd amrediad o fentrau cymdeithasol ac economaidd i sefydlogi
sefyllfa‟r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny lle bu, yn draddodiadol, yn brif iaith y
gymuned. Er mwyn hybu‟r gwaith hwn, cynyddwyd yn sylweddol ar faint y grant
cyhoeddus a ddyrannwyd i‟r iaith Gymraeg.5
Gwelir felly fod camau pwysig wedi‟u cymryd dros y degawdau diwethaf i
hybu rhagolygon yr iaith Gymraeg. Mae‟r camau hyn wedi cyffwrdd ar amrediad eang
o feysydd, gan gynnwys statws cyhoeddus yr iaith, y cyfryngau, byd addysg a hefyd
cynllunio a datblygu economaidd. Nid ydynt wedi arwain at sicrhau cydraddoldeb
llawn i‟r Gymraeg ochr yn ochr â‟r Saesneg, ac ni ellir dweud chwaith bod dyfodol y
Gymraeg yn gwbl sicr erbyn heddiw (Jenkins a Williams 2000). Fodd bynnag, ni ellir
5 Wrth reswm, dim ond crynodeb eithriadol o arwynebol o gynnwys Iaith Pawb (2003) a geir yma. Nid
yw‟r gofod yn caniatáu ymdriniaeth fanwl o gryfderau a gwanediadau‟r cynllun. Am drafodaeth o‟r
fath, gweler Williams (2004).
204
gwadu bod yr iaith bellach yn meddu ar le ym mywyd Cymru nad oedd yn ei
mwynhau ychydig dros ddeugain mlynedd yn ôl.
Ar yr un pryd, rhaid cydnabod nad yw‟r broses sydd wedi arwain at y sefyllfa
hon wastad wedi bod yn un hwylus. Fel yn achos Quebec, ar wahanol adegau dros y
blynyddoedd diwethaf bu polisïau neu gynlluniau ieithyddol yn sail i gryn
anniddigrwydd ymhlith rhai rhannau o boblogaeth Cymru. Ymhellach, fel yn achos
Quebec, mae‟r trafodaethau cyhoeddus sydd wedi deillio o wrthwynebiadau‟r
carfanau hyn yn aml wedi codi nifer o gwestiynau normadol diddorol; cwestiynau
ynglŷn â pha mor bell y gall gwladwriaeth rhyddfrydol-democrataidd fynd wrth geisio
adfer rhagolygon iaith leiafrifol debyg i‟r Gymraeg. Gan mai amcan ail ran y
traethawd ymchwil hwn yw dod i gasgliadau ynglŷn â rhai o‟r terfynau normadol y
dylai rhyddfrydwyr eu gosod ar ymdrechion o‟r fath bydd adrannau nesaf y bennod yn
edrych ar rai o‟r tensiynau penodol sydd wedi codi mewn perthynas â‟r polisïau iaith a
fabwysiadwyd yng Nghymru.
Ystyrir tri achos yn benodol. I ddechrau, trafodir yr arfer cynyddol o drin y
Gymraeg fel sgil hanfodol mewn perthynas â nifer o swyddi cyhoeddus. Dyma bolisi
sydd wedi ennyn gwrthwynebiad gan ei fod, yn nhyb rhai, yn tramgwyddo
egwyddorion megis cyfle cyfartal ar arfer o benodi ar sail gallu a theilyngdod. Yn ail,
ystyrir y camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol yng ngorllewin Cymru i geisio
sefydlu‟r Gymraeg fel prif iaith addysg gynradd yn yr ardaloedd hyn. Mae‟r sawl sydd
wedi gwrthwynebu polisïau o‟r fath wedi dadlau eu bod yn annerbyniol gan eu bod yn
tramgwyddo hawliau sylfaenol ym maes addysg ac yn gorfodi plant ifanc i ddysgu
205
iaith benodol. Yn drydydd, ystyrir dilysrwydd y camau diweddar a gymerwyd i geisio
dylanwadu ar arferion ieithyddol y teulu, trwy annog rhieni newydd i drosglwyddo‟r
Gymraeg i‟w plant. Yn wahanol i‟r ddau achos arall, ni fu unrhyw wrthwynebiad i‟r
polisi hwn. Fodd bynnag, fe‟i hystyrir yma gan ei fod yn achos sy‟n codi nifer o
gwestiynau normadol diddorol, yn enwedig felly i ryddfrydwyr. A siarad yn
gyffredinol, mae‟r cwestiynau hyn yn ymwneud â‟r lefel o ddylanwad sy‟n briodol i
unrhyw wladwriaeth geisio‟i estyn dros arferion preifat ei dinasyddion. Ym mhob un
o‟r achosion hyn byddaf yn holi a oes unrhyw le i amau dilysrwydd y camau a
gymerwyd gan gynllunwyr iaith yng Nghymru. A yw‟r polisïau iaith hynny a
fabwysiadwyd ganddynt wedi tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol pwysig, ac
felly‟n haeddu cael eu dehongli fel rhai annerbyniol o safbwynt moesol?
Fel y nodwyd yn ystod y bennod flaenorol, rhaid pwysleisio nad ceisio dod i
gasgliadau ynglŷn â chryfderau a gwendidau polisïau yw‟r nod. Ni fyddaf felly yn
holi a fyddai mathau gwahanol o bolisïau, er enghraifft ym maes addysg neu
gyflogaeth, wedi bod yn fwy llesol i ragolygon y Gymraeg. Yn hytrach, fy unig fwriad
fydd ystyried i ba raddau y gall y camau hynny a gymerwyd o blaid y Gymraeg yn y
meysydd dan sylw gael eu hystyried fel rhai derbyniol, sydd ddim yn tramgwyddo
unrhyw egwyddorion rhyddfrydol. Dyma drafodaeth ychydig yn wahanol, ac mae‟n
bwysig fod y darllenydd yn deall hynny wrth symud ymlaen i‟r adrannau nesaf.
5. Y Gymraeg yn y Gweithle
Nodwyd eisoes fod pasio Deddf Iaith 1993 wedi bod yn garreg filltir bwysig o
safbwynt statws y Gymraeg, gan iddi osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus
206
yng Nghymru i drin y Gymraeg yn gyfartal â‟r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau
(HMSO 1993; Bwrdd yr Iaith Gymraeg 1996). Wrth reswm, y newid mwyaf trawiadol
a ddeilliodd o‟r gorchymyn hwn oedd y cynnydd sylweddol a fu yn statws gweledol y
Gymraeg, trwy gyfrwng amrediad eang o arwyddion a thaflenni. Serch hynny, roedd y
ddeddf hefyd yn meddu ar oblygiadau pwysig i‟r ystyriaeth a roddwyd i‟r Gymraeg
wrth i gyrff cyhoeddus drefnu a recriwtio staff. Wedi‟r cyfan, os yw corff yn bwriadu
cynnig darpariaeth ystyrlon o wasanaethau Cymraeg i‟r cyhoedd, yna mae‟n
hollbwysig fod hyn yn ymestyn tu hwnt i ffurflenni ac arwyddion dwyieithog. Rhaid
iddo hefyd gynnwys y gallu i ymwneud yn uniongyrchol â swyddogion perthnasol
trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel y noda May:
The end result envisaged for each organisation is that public-service provision
through Welsh should be a natural, integral part of the planning and delivery of
that service. For this to occur, a sufficient number of Welsh-speaking staff is
required ... This, in turn, will require the active recruitment of Welsh-speaking
staff (May 2001: 264).
Felly, ar y lefel swyddogol o leiaf, gellir dadlau fod Deddf Iaith 1993 wedi arwain at
sefyllfa lle roedd disgwyl i gyrff cyhoeddus roi sylw arbennig i‟r gwaith o recriwtio a
phenodi staff a siaradai Gymraeg.
Yn sicr, dyna yw‟r awgrym wrth ddarllen y canllawiau ar gyfer llunio
cynlluniau iaith a gyhoeddwyd gan Fwrdd yw Iaith Gymraeg ym 1996. Wrth drafod yr
angen am staff sy‟n siarad Cymraeg, noda‟r canllawiau hyn, „dylai‟r sefydliad, mewn
modd gwrthrychol, glustnodi‟r gweithleoedd a‟r swyddi hynny lle mae‟r gallu i siarad
neu ysgrifennu yn Gymraeg yn sgil hanfodol a‟r rhai lle mae‟n ddymunol‟ (Bwrdd yr
Iaith Gymraeg 1996: 37). Yna, ychydig yn ddiweddarach fe ychwanegir:
... dylai‟r sefydliad ystyried y ffordd orau i gyflawni yr amcanion staffio a
bennir ... Gall y dewis sydd ar gael gynnwys trosglwyddo staff sy‟n siarad
207
Cymraeg i weithleoedd neu swyddi penodol, darparu hyfforddiant dysgu
Cymraeg i staff, a recriwtio siaradwyr Cymraeg i weithleoedd neu swyddi
penodol (Bwrdd yr Iaith Gymraeg 1996: 37).
Dyma awgrym go glir felly fod y canllawiau swyddogol a ddeilliodd o ddeddf 1993
yn disgwyl i gyrff cyhoeddus gynllunio‟n fwriadus er mwyn cyrraedd sefyllfa lle
roedd nifer o swyddi allweddol yn cael eu dal gan unigolion a oedd yn meddu ar y
gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Eto i gyd, i ba raddau y mae gweithgarwch cyrff cyhoeddus ers 1993 wedi
cyd-fynd â‟r dyhead swyddogol hwn? A siarad yn gyffredinol, dros y pymtheg
mlynedd diwethaf ni welwyd gweithredu tebyg i‟r hyn a ragwelwyd yng nghanllawiau
Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Ni ellir gwadu y bu cynnydd yn yr ystyriaeth a roddwyd i
anghenion ieithyddol gwahanol swyddi o‟i gymharu â‟r sefyllfa a fodolai cynt.
Bellach caiff amryw o swyddi cyhoeddus eu hysbysebu fel rhai lle caiff y gallu i
siarad Cymraeg ei ystyried fel sgìl dymunol neu hanfodol. Fodd bynnag, tuedda hyn i
ddigwydd mewn modd braidd yn ad hoc a bu amrywiaeth sylweddol o ran yr
ymrwymiad a ddangoswyd gan wahanol gyrff. Yn sicr, bu‟r mwyafrif helaeth ohonynt
yn amharod iawn i wthio pethau gan lunio‟r math o raglenni hyfforddiant a recriwtio
pellgyrhaeddol a ddisgrifiwyd uchod.
Pam felly na fu cyrff cyhoeddus yn fwy parod i hybu newid yn y maes hwn?
Un broblem y cyfeirir ato o bryd i‟w gilydd gan wahanol gyrff yw‟r prinder siaradwyr
Cymraeg sydd ar gael i lenwi rhai mathau o swyddi. I ba raddau y mae hyn yn esgus
credadwy? Yn sicr, yn sgil sefyllfa‟r Gymraeg fel iaith leiafrifol, ni ellir gwadu bod y
gronfa o ymgeiswyr posib dipyn yn llai yn achos swyddi hynny sy‟n galw am y gallu i
208
siarad yr iaith. Eto i gyd, anodd yw derbyn mai dyma‟n unig sydd i gyfri am y diffyg
symud a fu ers 1993. Nid yw hyn, ar ben ei hun, yn egluro‟r diffyg sylweddol o ran
brwdfrydedd a hyder a ddangoswyd gan nifer helaeth o gyrff cyhoeddus wrth geisio
recriwtio staff sydd â‟r gallu i wasanaethu trwy gyfrwng y Gymraeg. Rheswm arall,
tipyn mwy credadwy, yw‟r ffaith fod yr arfer o osod gofynion ieithyddol ar gyfer
swyddi penodol yn parhau‟n ddadleuol dros ben mewn rhai cylchoedd. Yn wir, ar
sawl achlysur bu‟r pwnc yn destun gwrthwynebiadau go chwyrn. Dyma yn fwy na
dim arall sydd i gyfri am y ffaith fod nifer helaeth o gyrff wedi bod yn amharod i
gymryd y camau hynny a ragwelwyd wrth i Fwrdd yr Iaith lunio ei ganllawiau nol ym
1996. Cafodd natur ddadleuol y pwnc ei gadarnhau mewn gwaith ymchwil o eiddo
May (2000) a oedd yn trafod agweddau gwahanol garfanau tuag at y polisïau iaith a
fabwysiadwyd yng Nghymru ers dechrau‟r 1990au. Fel y noda May: „In short, the
idea of minority language compulsion, even within a bilingual framework, still
engenders considerable opposition particularly, with respect to employment‟ (May
2000: 118).
Ond beth sydd wrth wraidd y gwrthwynebiad hwn i‟r broses o ddyrchafu
statws y Gymraeg o fewn y gweithlu Cymreig? A siarad yn gyffredinol, mae‟r sawl
sy‟n wrthwynebus i‟r broses yn teimlo bod dynodi swyddi penodol fel rhai lle caiff y
gallu i siarad Cymraeg ei ystyried fel sgìl hanfodol, yn rhoi‟r sawl sydd ddim yn
siarad yr iaith mewn sefyllfa gwbl annheg. Yn fwy penodol, credir fod cyflwyno
ystyriaethau diwylliannol, megis iaith, i‟r broses o recriwtio a phenodi staff, yn arwain
at danseilio‟r syniad o gyfle cyfartal ym maes cyflogaeth, trwy achosi cyrff i gamu i
ffwrdd o‟r egwyddor o ddosbarthu swyddi ar sail gallu a theilyngdod.
209
Mae rhai wedi mynd mor bell ag awgrymu mai rhagfarn hiliol yn erbyn
siaradwyr Saesneg sy‟n cymell cyflogwyr i anwybyddu egwyddorion o‟r fath.
Enghraifft arbennig o enwog oedd achos Jones v Cyngor Sir Gwynedd (1985). Bryd
hynny, dygwyd achos tribiwnlys yn erbyn y cyngor o dan Ddeddf Cysylltiadau Hil
1974. Deilliodd hyn o‟r ffaith fod dwy wraig, Phyllis Jones a Justine Doyle, yn mynnu
eu bod wedi dioddef rhagfarn hiliol wrth law‟r cyngor, gan iddo wrthod cynnig
swyddi iddynt yn rhai o gartrefi henoed y sir ar sail y ffaith nad oeddent yn siarad
Cymraeg. Yn y gwrandawiad gwreiddiol, dyfarnodd y tribiwnlys cyflogaeth o blaid y
ddwy, gan gadarnhau‟r cyhuddiad fod Cyngor Gwynedd wedi ymddwyn tuag atynt
mewn modd hiliol trwy wrthod eu cyflogi ar sail eu gallu ieithyddol. Fodd bynnag,
flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd y dyfarniad ei wrthdroi mewn achos apêl (Davies
1994). Wrth wrthdroi‟r dyfarniad gwreiddiol nododd y Barnwr Kilner Brown:
Recognising the obvious - that the Welsh are a nation and an ethnic group - the
industrial tribunal concluded that the Welsh ethnic group could and should be
sub-divided into two distinct sub-groups, namely, those who were described as
English-speaking Welsh and those who were described as Welsh-speaking
Welsh ... So, the industrial tribunal concluded that the two ladies were
discriminated against by being required to become members of the first group
when they were members of the second ... the decision is wholly unreasonable
... We cannot believe that, for example, a Mrs Jones from Holyhead who
speaks Welsh as well as English is to be regarded as belonging to a different
racial group from her dear friend, Mrs Thomas from Colwyn Bay who speaks
only English. The concept seems to us to be as artificial as the proposition that
5,000 or so spectators at Cardiff Arms Park who are fluent in Welsh are a
different racial group from the 45,000 or so whose command of the Welsh
tongue is limited to the rendering of the Welsh national anthem, or „Sosban
Fach‟. An Englishman who dared to suggest this would be in danger of his
life! (Employment Appeal Tribunal 1986: 5).
Derbyniwyd felly nad oedd dim byd hiliol ynglŷn ag ymgais Cyngor Gwynedd i
sicrhau bod y bobl hynny a weithiai i adran gwasanaethau cymdeithasol y sir yn
meddu ar y gallu i siarad Cymraeg. Yn wir, yn dilyn yr achos hwn gwelwyd y
210
Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol yn cymryd camau bwriadol i dynnu‟r Gymraeg allan
o‟r drafodaeth ynglŷn â hiliaeth mewn meysydd megis byd gwaith.6
Fodd bynnag, hyd yn oed os derbynnir nad rhagfarn hiliol sy‟n esgor ar y
dyhead i ddynodi swyddi penodol fel rhai sy‟n galw am y gallu i siarad Cymraeg, mae
nifer yn dal o‟r farn ei fod yn arfer sy‟n meddu ar oblygiadau difrifol i‟r syniad o
degwch a chyfle cyfartal ym maes cyflogaeth. Un o‟r bobl hynny oedd y darlledwr
profiadol Vincent Kane. Daeth hyn i‟r amlwg wrth iddo drafod statws cynyddol y
Gymraeg ym maes cyflogaeth yn ystod rhaglen deledu a ddarlledwyd gan BBC Wales
ym 1995, fel rhan o‟r gyfres materion cyfoes Kanes’s Wales.7 Yn nhyb Kane, roedd
yr ymdrechion i godi statws y Gymraeg yn y maes hwn yn prysur arwain at sefyllfa lle
câi‟r sawl nad oedd yn siarad yr iaith eu trin yn annheg. Bellach, nid ar sail
cystadleuaeth agored a chyfartal a oedd yn gwobrwyo gallu a theilyngdod y cai nifer o
swyddi eu dosbarthu, ond, yn hytrach, ar sail ystyriaethau ieithyddol artiffisial.
Mynnodd fod hyn yn anfoesol „the morality of it should give us pause‟ – a hefyd ei
fod yn beryglus o ran safon ac effeithiolrwydd y gweithlu Cymreig:
... there‟s an elitism built into our society that few nations in the world would
tolerate. One in five can make it to the top, and the yardstick, the first
6 Er gwaethaf hyn, mae ensyniadau o hiliaeth yn dal i chwarae rhan yn nadleuon rhai o‟r bobl hynny
sy‟n wrthwynebus i‟r arfer o drin y Gymraeg fel sgil hanfodol ym maes cyflogaeth. Er enghraifft, ym
1998 dygwyd achos tribiwnlys, unwaith eto o dan Ddeddf Cysylltiadau Hil 1974, yn erbyn Cyngor
Ynys Môn. Roedd yr achos yn aflwyddiannus, ond roedd yr amgylchiadau a arweiniodd ato yn debyg
iawn i rai achos Jones v Gwynedd. Mynnodd Peter Boylan ei fod wedi dioddef rhagfarn hiliol wrth law
Cyngor Môn, gan iddo fethu ag ennill swydd fel swyddog ieuenctid ar sail y ffaith nad oedd yn medru
siarad Cymraeg (Tribunals Service 1998). Cafwyd cadarnhad pellach o wytnwch y dadleuon hyn
ynglŷn â hiliaeth yng ngwaith ymchwil May, a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 2000. Roedd canlyniadau‟r
ymchwil hwn yn dangos bod amheuon ynglŷn â hiliaeth yn parhau i ddylanwadu ar wrthwynebiad rhai
pobl i‟r arfer o drin y Gymraeg fel sgil hanfodol ym maes cyflogaeth. Fel y noda May, yn achos rhai o‟r
bobl a gafodd eu cyfweld ganddo, „it was viewed as at best discriminatory and at worst racist‟ (May
2000: 121). Am drafodaeth fanylach ynglŷn â chyhuddiadau o hiliaeth mewn perthynas ag
ymgyrchoedd iaith yng Nghymru, ac yn benodol sut mae gwahanol garfanau gwleidyddol wedi
defnyddio cyhuddiadau o‟r fath i danseilio ymgyrchoedd o blaid y Gymraeg, gweler Brooks 2006.
7 Manylion llawn: Kane‟s Wales, Rhaglen 3, „How we Speak‟, BBC Wales, Tachwedd 12 1995.
Cedwir copi o‟r rhaglen yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
211
condition, is not are you any good, have you anything inspirational to offer,
but can you speak Welsh. Only if you can say yes to that will your ability, your
experience and your ideas be scrutinised. And since the base from which the
candidates emerge is so much narrower - half a million instead of three million
- the spread of talent is also so much narrower. And therefore, though I do not
deny that there are able, gifted Welsh speakers in high places, the likelihood of
the person appointed being anything from mediocre to useless is that much
greater.8
Heb amheuaeth, roedd elfen sylweddol o ormodiaeth yn perthyn i‟r dadleuon hyn o
eiddo Kane.9 Wedi‟r cyfan, fel y nodwyd uchod, cymedrol ar y gorau fu‟r newidiadau
a welwyd ym maes cyflogaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Yn wir, yn groes i‟r hyn
a awgryma Kane, nid yw‟r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried fel sgìl hanfodol
yn achos y mwyafrif helaeth o swyddi cyhoeddus. Yn sicr, ni cheir dim tebyg i‟r math
o „elitaeth strwythurol‟ y cyfeiriodd ato. Fodd bynnag, hyd yn oed os gellir casglu‟n
go hyderus nad yw‟r pwyslais ar sgiliau iaith o fewn y farchnad lafur Gymreig yn
ddim byd tebyg i‟r hyn a ddisgrifiwyd gan Kane, mae‟r cyhuddiad sylfaenol a wneir
ganddo dal yn un sy‟n werth ei ystyried: a yw proses sy‟n dynodi nifer cynyddol o
swyddi fel rhai lle mae‟r gallu i siarad Cymraeg yn sgìl hanfodol yn arwain at
danseilio cyfle cyfartal a‟r arfer o benodi ar sail teilyngdod, gan roi siaradwyr Saesneg
mewn sefyllfa annheg?10
Mae hwn yn gwestiwn arbennig o ddiddorol yng nghyd-destun y traethawd
hwn traethawd sy‟n trafod polisïau iaith o bersbectif rhyddfrydol. Fel y noda David
Miller, mae cyfle cyfartal yn egwyddor ryddfrydol hollbwysig, The principle of
8 Kane‟s Wales, Rhaglen 3, „How we Speak‟, BBC Wales, Tachwedd 12 1995.
9 I raddau helaeth, roedd yr ormodiaeth yma‟n gweddu rôl Kane fel darlledwr pryfoclyd.
10 Ategir perthnasedd y cwestiwn hwn gan atebion rhai o‟r unigolion a gafodd eu cyfweld gan May
(2000) fel rhan o brosiect ymchwil ar agweddau gwahanol garfanu tuag at y polisïau iaith a
fabwysiadwyd yng Nghymru ers dechrau‟r 1990au. Roedd un o‟r atebion a dderbyniodd wrth drafod lle
y Gymraeg ym maes gwaith yn nodi, A bilingual requirement for public service employment is by no
means a fair system, it promotes cultural insularity, is divisive and fails to recognise individual merit. It
is, in effect, an expression of the Welsh „ghetto‟ mentality that predominates in many levels of society‟
(May 2000: 120, pwyslais wedi‟i ychwanegu).
212
equality of opportunity stands at the very heart of contemporary liberalism‟ (Miller
2002: 45). Golyga hyn fod Miller, ynghyd ag eraill, o‟r farn y dylai cymdeithas
ryddfrydol fod yn un sy‟n ceisio sicrhau bod pob aelod unigol yn meddu ar yr un cyfle
i ddatblygu ac i gyflawni eu hamcanion. Wrth reswm, mae hon yn egwyddor arbennig
o berthnasol ym maes cyflogaeth un sy‟n gwbl allweddol i ragolygon yr unigolyn
(Miller 1999: 157). Yn y maes hwn ceir amrywiaeth eang o safleoedd sydd oll yn
amrywio o ran eu grym, dylanwad a‟u gwobrwyon ariannol. Eto i gyd, ni all pawb
ddal yr un swyddi; rhaid dewis rhwng amrediad o ymgeiswyr posib. O ganlyniad, cred
rhyddfrydwyr fod tegwch yn dibynnu ar sicrhau fod pawb yn medru cystadlu am
wahanol safleoedd ar seiliau cyfartal. Fel y noda Miller: „Given that there are scarce
goods such as well-paid careers and places at top universities scarce in the sense that
more people want to have these goods than there are goods to go round equality of
opportunity obtains when people can compete for the goods on equal terms‟ (Miller
2002: 45).
Wrth gwrs, er mwyn sicrhau cystadleuaeth deg o‟r fath rhaid sicrhau fod pawb
yn medru ymgeisio a bod neb yn cael eu hatal yn sgil rhagfarnu agored, er enghraifft
ar sail dosbarth, hil, rhyw neu grefydd. O ganlyniad, mae‟r egwyddor o recriwtio a
phenodi ar sail gallu a theilyngdod wedi datblygu i fod yn ganolog i ddealltwriaeth
rhyddfrydwyr o‟r hyn sy‟n cynnal tegwch a chydraddoldeb mewn meysydd megis
cyflogaeth. Yn ôl yr egwyddor hon, dylai swyddi gael eu dosbarthu i‟r sawl sy‟n
meddu ar y sgiliau a‟r cymwysterau gorau, a hynny mewn modd sy‟n trin pawb yn
ddiwahân, heb unrhyw ystyriaeth o‟u cefndir cymdeithasol neu ddiwylliannol. Fel yr
eglura Miller:
213
According to a widely held view, when there are a number of applicants for an
available job, justice demands that the job be offered to the best-qualified
applicant. We express this by saying that the best-qualified applicant deserves
the job or, in a slightly different formulation, that the principle involved is one
of hiring by merit. This is the principle that condemns discrimination on
grounds of sex, race, or religion when hiring employees as well, of course, as
good old-fashioned nepotism (Miller 1999: 156).
I raddau helaeth felly, gellid dadlau mai mynegiant penodol o‟r egwyddor o gyfle
cyfartal yw‟r arfer o benodi ar sail teilyngdod – arfer sydd wedi treiddio‟n ddwfn i
isymwybod cymdeithasau rhyddfrydol-democrataidd. O ganlyniad, os yw‟r broses o
ddynodi nifer cynyddol o swyddi fel rhai lle mae‟r gallu i siarad Cymraeg yn sgil
hanfodol wir yn arwain at danseilio egwyddorion o‟r fath, oni ddylai rhyddfrydwyr
gasglu fod y broses yn un annerbyniol o safbwynt moesol?
Wrth gwrs, nid yw cwestiynau o‟r math hwn yn rhai cwbl newydd i
ryddfrydwyr. Dros y deugain mlynedd diwethaf, daeth y syniad o gynnwys ystyriaeth
o gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol fel rhan o‟r broses o ddosbarthu swyddi yn
fwyfwy cyffredin yn sgil y twf a fu mewn rhaglenni o ragfarnu cadarnhaol. Dyma
bolisïau a ddatblygwyd er mwyn ceisio sicrhau lle mewn meysydd allweddol, megis
addysg a‟r economi, i aelodau o grwpiau gwan a gafodd, yn draddodiadol, eu hatal
rhag cyfranogi‟n llawn. Yn raddol, daeth yn fwyfwy amlwg nad oedd modd sicrhau
tegwch a chyfle cyfartal i aelodau grwpiau o‟r fath dim ond trwy gyfrwng mesurau a
oedd yn gwahardd rhagfarnu agored ac uniongyrchol. Er mor bwysig oedd y cam i
wahardd rhagfarnu agored, dadleuwyd fod angen gwneud mwy er mwyn dadwneud
effaith y rhwystrau hynny a oedd wedi ffrwyno datblygiad rhai pobl, weithiau am
genedlaethau. Cafodd y teimladau hyn eu crynhoi yn effeithiol ym 1965 gan arlywydd
America, Lyndon B. Johnson:
214
You do not take a person who for years has been hobbled by chains and
liberate him, bring him up to the starting line of a race and then say, “You‟re
free to compete with all the others,” and still justly believe that you have been
completely fair ... it is not enough just to open the gates of opportunity. All our
citizens must have the ability to walk through those gates (dyfynnwyd yn Cahn
2002: xii).
Yn fuan wedi‟r datganiad hwn cyflwynodd Johnson orchymyn gweithredol
(Gorchymyn 11246) a oedd yn galw ar gyrff ffederal i lunio rhaglenni o ragfarnu
cadarnhaol a fyddai‟n anelu at sicrhau cyfranogiad llawnach gan ferched a grwpiau
lleiafrifol eraill. Dylai hyn gynnwys „an analysis of areas within which the contractor
is deficient in the utilization of minority groups and women, and further, goals and
timetables to which the contractor‟s good faith efforts must be directed to correct the
deficiencies‟ (dyfynnwyd yn Cahn 2002: xii). Y gobaith oedd y byddai gweithredu
rhaglenni o‟r fath yn cyfrannu at ddadwneud effeithiau seicolegol a strwythurol
blynyddoedd o ragfarnu, ac yn arwain at sefyllfa lle gellid sôn am gyfle cyfatal
ystyrlon.
Wrth reswm, roedd y broses o ddatblygu a chyflwyno rhaglenni o ragfarnu
cadarnhaol, yn America a thu hwnt, yn un ddadleuol, yn arbennig felly i ryddfrydwyr.
Trwy fabwysiadu rhaglenni o‟r fath roedd cyrff yn camu i ffwrdd o‟r syniad
traddodiadol o benodi ar sail teilyngdod heb unrhyw ystyriaeth o gefndir cymdeithasol
a diwylliannol. Yn wir, fel y noda Iris Marion Young, mae rhagfarnu cadarnhaol yn
galw am roi ystyriaeth benodol i nodweddion o‟r fath: „They call for consciously and
explicitly preferring members of particular groups on account of their group
membership‟ (Young 1990: 197). O ganlyniad, nid yw‟n syndod fod rhai
rhyddfrydwyr wedi dewis gwrthwynebu datblygiadau o‟r fath. Fel yr eglura Young:
215
Those who oppose affirmative action policies usually do so on the grounds that
they discriminate. For them the principle of equal treatment, a principle of
non-discrimination, has absolute moral primacy. On this conception of social
justice, policies that are group blind and apply the same formal rules to
everyone are both necessary and sufficient for social justice. Since affirmative
action policies violate this principle of equal treatment, they are wrong (Young
1990: 195).
Er hyn, mae amryw o ryddfrydwyr eraill wedi derbyn bod rhagfarnu cadarnhaol mewn
meysydd megis addysg a chyflogaeth yn hanfodol er mwyn dadwneud effeithiau
blynyddoedd o ragfarn strwythurol. Dadleuwyd bod mynd trwy broses o‟r fath, er ei
anawsterau, yn hanfodol er mwyn cyrraedd sefyllfa lle gellir sôn am gyfle cyfartal
gwirioneddol. Er enghraifft, ceir dadl gref o blaid rhagfarnu cadarnhaol gan Ronald
Dworkin (2002). Yn yr erthygl hon mae Dworkin yn beirniadu‟r rhyddfrydwyr hynny
sy‟n amharod i ymgyrchu er lles cydraddoldeb ystyrlon, gan lynu yn hytrach at y
syniad traddodiadol o gystadleuaeth sy‟n ddall i wahaniaethau cymdeithasol a
diwylliannol. Mae‟n datgan; „If we must choose between a society that is in fact
liberal and an illiberal society that scrupulously avoids formal racial criteria, we can
hardly appeal to the ideals of liberal pluralism to prefer the latter‟ (Dworkin 2002:
105).11
Eto i gyd, i ba raddau y dylai trafodaethau rhyddfrydwyr megis Dworkin
ynglŷn â rhagfarnu cadarnhaol ddylanwadu ar ein dehongliad o ddilysrwydd y
11 Mae rhai o ladmeryddion rhyddfrydol rhagfarnu cadarnhaol yn ddigon parod i gydnabod fod
gweithredu rhaglenni o‟r fath yn medru arwain at gwestiynau anodd. Gweler er enghraifft Kymlicka
2001: 196 199 a Beauchamp 2002: 213 214. Ymhlith y cwestiynau a godir gan yr awduron hyn
mae: Ai rhagfarnu cadarnhaol yw‟r dull gorau bob tro o sicrhau tegwch i leiafrifoedd mewn meysydd
megis cyflogaeth neu addysg? A yw‟r polisïau a fabwysiedir wastad yn helpu‟r sawl sydd wir mewn
angen? A ydynt weithiau yn medru arwain at roi hwb i unigolion sydd eisoes mewn safle cymharol
freintiedig? A yw aelodau un grŵp (dynion gwyn fel arfer) weithiau yn talu pris rhy uchel yn sgil
gweithredu‟r polisïau hyn? Mae rhain oll yn gwestiynau dilys. Fodd bynnag, cwestiynau ymarferol
ydynt mewn gwirionedd hynny yw cwestiynau ynglŷn â‟r dull a‟r adeg mwyaf priodol i ddefnyddio
rhaglenni o ragfarnu cadarnhaol, yn hytrach na chwestiynau ynglŷn â dilysrwydd yr egwyddor
sylfaenol. Nid yw‟r cwestiynau a godir gan Kymlicka neu Beauchamp yn arwain at wrthod y syniad o
gynnig cymorth arbennig i grwpiau gwan. Yn hytrach, holi a wneir pa fath o gymorth sydd ei angen.
216
polisïau hynny a fabwysiadwyd o blaid y Gymraeg ym maes cyflogaeth? I ba raddau y
gellir dehongli‟r polisïau hyn fel enghraifft o ragfarnu cadarnhaol? A fyddai eu
dehongli yn y fath fodd yn cynnig dull o‟u dilysu yn wyneb gwrthwynebiadau tebyg
i‟r rhai o eiddo Kane a nodwyd uchod? Fel yr eglurwyd, amcan rhaglenni o ragfarnu
cadarnhaol yw sicrhau lle mewn meysydd allweddol, megis addysg a‟r economi, i
aelodau o grwpiau gwan a gafodd, yn draddodiadol, eu hatal rhag cyfranogi‟n llawn
yn sgil rhagfarn strwythurol. A yw‟r rhain yn amgylchiadau a wynebwyd gan
siaradwyr Cymraeg hefyd? Mewn ymateb i‟r cwestiwn hwn dylid nodi bod y ganran o
siaradwyr Cymraeg sy‟n bresennol mewn meysydd gwaith allweddol, er enghraifft y
gwasanaeth sifil Cymreig, yn go isel. Er enghraifft, yn 2008 dim ond tua 13 y cant o
wasanaeth sifil Llywodraeth y Cynulliad sy‟n meddu ar y gallu i siarad, darllen ac
ysgrifennu Cymraeg (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2008). Er hynny, anodd fyddai
defnyddio hyn fel sail i ddadlau fod siaradwyr Cymraeg wedi dioddef o ragfarn
strwythurol ym maes cyflogaeth yn yr un modd â merched neu bobl groenddu. Wedi‟r
cyfan, prin yw‟r achosion o bobl yn methu ag ennill swyddi ar sail y ffaith eu bod yn
siaradwyr Cymraeg.
Fodd bynnag, hyd yn oed pe bai modd llunio achos cryf sy‟n tystio i ragfarnu
strwythurol yn erbyn siaradwyr Cymraeg, a bod hyn wedi arwain at dangynrychioli
sylweddol mewn meysydd allweddol o fewn yr economi, yr hyn sy‟n arwyddocaol yw
nad yn y termau hynny y caiff y polisïau sy‟n galw am wybodaeth o‟r Gymraeg eu
cyflwyno na‟u hamddiffyn.12 Pan ystyrir y dadleuon o blaid y polisïau hyn, gwelir nad
sicrhau cyfranogiad gan siaradwyr Cymraeg fel grŵp penodol sydd wedi dioddef
12 Gweler er enghraifft Bwrdd yr Iaith Gymraeg 1996: 36 42; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1999: 17.
217
rhagfarn ym maes cyflogaeth yw‟r nod. Yn hytrach, y nod yw sicrhau gweithlu sy‟n
meddu ar y gallu i gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg yn
ogystal â‟r Saesneg. Nid yw union gefndir diwylliannol neu gymdeithasol yr unigolion
sy‟n cyflawni‟r swyddi hyn yn arbennig o bwysig; nid oes unrhyw bwyslais yn cael ei
roi ar yr angen i gyflogi pobl sydd wedi‟u geni a‟u magu yn siarad Cymraeg. Yn
hytrach, yr unig beth sy‟n bwysig yw eu bod, ar adeg eu penodi, yn meddu ar y gallu i
gyflawni eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, nid fel enghraifft o
ragfarnu cadarnhaol o blaid siaradwyr Cymraeg y dylid cloriannu‟r polisïau hyn.
Ond, os na ellir eu trin fel enghraifft o ragfarnu cadarnhaol o blaid siaradwyr
Cymraeg, yna a oes modd amddiffyn polisïau o‟r fath rhag cyhuddiadau o danseilio
cyfle cyfartal ac o ymwrthod â‟r arfer o benodi ar sail teilyngdod? Ateb lladmeryddion
y polisïau hyn, wrth reswm, yw bod amddiffyniad o‟r fath yn bosib, ac fel y nodwyd
uchod, yr hyn sy‟n arwyddocaol ynglŷn â dadleuon y garfan yma yw nad ydynt, ar y
cyfan, yn defnyddio‟r math o ieithwedd a chysyniadau a gysylltir, fel arfer, â dadleuon
o blaid rhaglenni o ragfarnu cadarnhaol. Fel y noda Young (1990), anodd yw gwadu
fod rhagfarnu cadarnhaol yn arwain at lastwreiddio ychydig ar y pwyslais
traddodiadol o recriwtio a phenodi ar sail teilyngdod a dim arall. Fodd bynnag, yr hyn
sy‟n arwyddocaol ynglŷn â‟r dadleuon a ddefnyddir gan y Cymry hynny sydd o blaid
gosod gofynion ieithyddol ar gyfer swyddi penodol, yw‟r ffaith eu bod yn mynnu nad
oes bwriad o gwbl ganddynt i gamu i ffwrdd o‟r arfer o benodi ar sail teilyngdod. Yn
hytrach, dadleuir mai‟r cyfan a wneir wrth ddynodi rhai swydd fel rhai lle mae‟r gallu
i siarad Cymraeg yn hanfodol yw ymestyn ychydig ar ystyr teilyngdod. Dadleuir fod
Cymru‟n gymdeithas ddwyieithog, lle dylai amrediad eang o wasanaethau fod ar gael
218
trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â‟r Saesneg. Wrth reswm, bydd cyflawni hyn
mewn modd ystyrlon yn galw am weithlu sydd â‟r gallu i ymwneud â‟r cyhoedd trwy
gyfrwng y ddwy iaith. O ganlyniad, dadleuir y dylai‟r gallu i siarad Cymraeg gael ei
ystyried fel sgìl cwbl allweddol mewn perthynas â nifer helaeth o swyddi. Er
enghraifft, noda Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ei ganllawiau i gyrff cyhoeddus, „dylent
(cyrff cyhoeddus) drin sgiliau ieithyddol mewn modd tebyg i unrhyw sgiliau eraill
sydd eu hangen yn y gweithle‟ (1996: 37). Ychwanegir ychydig yn hwyrach, „Mae‟r
angen i gysylltu sgiliau ieithyddol â rhai swyddi yn adlewyrchu realiti bod yn
gyflogwr sy‟n amcanu at geisio cyflwyno gwasanaethau o safon uchel drwy gyfrwng
y Gymraeg‟ (1996: 39). Eto i gyd, a ddylai‟r ymdrech hon i ymestyn ystyr teilyngdod
gael ei ystyried fel cam derbyniol o safbwynt moesol? A yw‟n deg i ymestyn y
cysyniad i gynnwys sgiliau sydd ond ym meddiant un rhan o‟r boblogaeth? Onid yw
hynny yn arwain at roi‟r sawl sydd ddim yn siarad Cymraeg mewn sefyllfa annheg?
Ar y cyfan, credaf fod yr ymgais hon i ymestyn ystyr teilyngdod, er mwyn
dilysu‟r broses o ddynodi rhai swyddi fel rhai lle dylai‟r gallu i siarad Cymraeg gael ei
drin fel sgìl hanfodol, yn gam cwbl dderbyniol. Wedi‟r cyfan, go brin ein bod o‟r farn
fod cynnal cyfle cyfartal ym maes cyflogaeth yn ddibynnol ar drefnu pob swydd dan
haul mewn modd lle gallwn fod yn sicr y bydd pob unigolyn yn medru cystadlu
amdanynt. Fel y noda David Miller, does neb yn meddu ar yr hawl i gyflawni unrhyw
swydd y dymuna; „There is no such thing as a right to have a particular opportunity
open to one say, the opportunity to work in one particular job‟ (Miller 2002: 57). Yn
hytrach, derbynnir fod gofynion penodol, ac weithiau rhai go bellgyrhaeddol, yn
gysylltiedig â phob swydd. Yn wir, fel y noda Glyn Williams (1988, 1994) mae hyn
219
yn rhan anochel o‟r broses o broffesiynoli. Ym mhob achos, bydd rhai pobl yn meddu
ar y sgiliau perthnasol tra bod eraill ddim. A siarad yn gyffredinol, nid ydym yn
teimlo bod y sawl sydd ar eu colled mewn achos o‟r fath yn dioddef unrhyw
anghyfiawnder sylfaenol, cyhyd ag y bo‟r bobl hyn heb gael eu rhwystro rhag
datblygu‟r sgiliau perthnasol yn y lle cyntaf.13
Felly, mewn gwlad fel Cymru, lle caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu
mewn mwy nag un iaith, mae‟n gwbl briodol fod yr amrediad o sgiliau a ystyrir, wrth
i gyflogwyr ddiffinio ystyr teilyngdod, yn cynnwys dimensiwn ieithyddol. Fel y noda
Wilson McLeod:
... if public policy suggests that citizens should be able to use their
autochthonous language in dealing with government, it is necessary, and
justifiable, to allow government to employ a reasonable number of persons to
meet those citizens‟ needs. Indeed, it would undermine such a policy if only a
token number of employees were available, so that attempts to exercise the
right to use the autochthonous language were slow, frustrating or fruitless
(McLeod 1998).
Nid rhyw ychwanegiad mympwyol mo‟r dimensiwn ieithyddol chwaith. Yn hytrach,
mewn nifer helaeth o feysydd ystyrier er enghraifft y gwasanaethau gofal ac iechyd
gall y gallu i siarad iaith fod yn gymhwyster allweddol sy‟n galluogi‟r unigolyn i
gyfathrebu‟n glir gan gyflawni‟r swydd i safon foddhaol.14 O ystyried hyn, dylai
13 Sylweddolaf fod hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â‟r graddau y mae pawb yng Nghymru yn meddu ar
gyfleoedd teg i ddysgu‟r Gymraeg. Dychwelaf at y pwynt pwysig yma yn y man.
14 Yn wir, byddai‟n ddigon posib i‟r sawl sydd am arddel y ddadl hon ynglŷn â theilyngdod, cyflogaeth
a sgiliau iaith honni nad ydynt yn argymell gwneud dim byd arbennig o newydd. Gellid dadlau fod hen
hanes i‟r syniad o gynnwys sgiliau ieithyddol fel rhan o‟r hyn sy‟n gwneud person yn gymwys i ddal
swydd benodol. Wedi‟r cyfan, onid yw gofynion ieithyddol de facto eisoes yn perthyn i bob swydd yng
Nghymru, nid dim ond y rhai hynny sy‟n galw am wybodaeth o‟r Gymraeg? (Cymdeithas yr Iaith
Gymraeg 1999). Cyfeirio ydwyf wrth gwrs at y swyddi hynny lle mae‟r gallu i siarad Saesneg yn gwbl
hanfodol. Anaml y ceir datganiad swyddogol sy‟n nodi gofynion o‟r fath wrth hysbysebu swyddi, ond
serch hynny, go brin y câi rhywun ei gyflogi yng Nghymru heddiw heb feddu ar y gallu i siarad
Saesneg. Felly, os yw pobl megis Vincent Kane am ddadlau fod gosod gofynion ieithyddol ar gyfer
swyddi penodol yn broses annheg, sy‟n tanseilio cyfle cyfartal ac yn ymwrthod a‟r arfer o benodi ar sail
teilyngdod, rhaid iddynt egluro pam fod gofynion o‟r fath yn annerbyniol mewn perthynas a‟r Gymraeg
tra‟n dderbyniol yn achos y Saesneg.
220
rhyddfrydwyr gydnabod nad oes dim byd annerbyniol, o safbwynt moesol, ynglŷn â‟r
broses o ddynodi nifer cynyddol o swyddi fel rhai lle mae‟r gallu i siarad Cymraeg yn
sgìl hanfodol.
Fodd bynnag, cyn bodloni ar y casgliad hwn, dylid rhoi sylw i‟r effaith y gall
amgylchiadau cefndirol eu cael ar allu ieithyddol gwahanol unigolion. Wrth drafod
cyfle cyfartal a‟r syniad o deilyngdod mewn meysydd megis cyflogaeth, mae
rhyddfrydwyr yn amrywio o ran y pwyslais a roddir ar arwyddocâd amgylchiadau
cefndirol gwahanol unigolion. Wrth gwrs, mae rhyddfrydwyr egalitaraidd yn tueddu i
ddadlau fod ein hamgylchiadau cefndirol yn arbennig o bwysig; bod ffactorau megis y
cyfoeth a etifeddir, natur yr addysg a dderbyniwyd, neu amgylchiadau teuluol yn sicr
o ddylanwadu ar allu unigolion i gystadlu a llwyddo (White 2002). O ganlyniad, er
mwyn sicrhau fod pawb yn meddu ar gyfle cyfartal ystyrlon, dadleuir y dylid
ymdrechu i gyfyngu cymaint â phosib ar yr effaith a gaiff amgylchiadau cefndirol ar
ragolygon gwahanol unigolion. Er enghraifft, yn achos addysg mae Stuart White
(2002: 62) yn nodi, „For equality of opportunity it is necessary to structure education
systems so that children with the same ability and motivation let us say the same
„potential‟ – have equal prospects of developing their ability, of realizing their
potential. Rwyf yn rhannu‟r tybiaethau hyn o eiddo‟r rhyddfrydwyr egalitaraidd. Yn
wir, mae‟r syniad na ddylai unigolion ddioddef yn sgil amgylchiadau cefndirol sydd y
tu hwnt i‟w rheolaeth wedi gwreiddio‟n ddwfn yn isymwybod nifer o gymdeithasau
rhyddfrydol-democrataidd (er gwaetha‟r ffaith nad yw‟r cymdeithasau hyn wastad
wedi bod yn arbennig o lwyddiannus wrth geisio dadwneud effeithiau‟r amgylchiadau
hyn). Eto i gyd, beth yn union yw goblygiadau‟r drafodaeth gyffredinol hon ynglŷn â
221
chydraddoldeb ac amgylchiadau cefndirol i‟r drafodaeth bresennol ynglŷn â gofynion
ieithyddol mewn maes megis cyflogaeth?
Uchod, wrth amddiffyn yr ymgais i ymestyn ystyr teilyngdod i gynnwys
dimensiwn ieithyddol, dadleuwyd nad oes dim sy‟n arbennig o annerbyniol ynglŷn â
nodi bod rhai swyddi yn galw am sgiliau sydd ond ym meddiant rhai aelodau o‟r
gymdeithas. Nodwyd bod hyn, ar y cyfan, yn gam teg, cyhyd ag y bo‟r sawl sydd ar
eu colled heb gael eu hatal rhag datblygu‟r sgiliau perthnasol. Eto i gyd, i ba raddau y
gellir dadlau mai dyma yw‟r sefyllfa yng Nghymru mewn perthynas â sgiliau iaith? A
yw pawb sy‟n cystadlu am swyddi wedi cael cyfle teg i ddysgu‟r Gymraeg? Neu, a yw
amgylchiadau cefndirol rhai pobl wedi‟u hatal trwy wneud y dasg o ddysgu‟r iaith yn
un arbennig o anodd?
Ystyrier i ddechrau'r sefyllfa mewn perthynas â‟r teulu. Wrth reswm, nid pawb
yng Nghymru sydd wedi‟u magu mewn teuluoedd lle caiff y Gymraeg ei defnyddio
a‟i chlywed. Felly, nid yw‟r bobl hyn yn cael y cyfle i ddysgu‟r iaith yn naturiol fel y
gwna‟r sawl sy‟n cael eu magu mewn teuluoedd lle caiff y Gymraeg ei siarad. O
ganlyniad, ar sail magwraeth un o‟r ffactorau cefndirol hynny a drafodir gan
ryddfrydwyr gellid dadlau fod rhai pobl yn meddu ar fantais dros eraill o ran y cyfle
sydd ganddynt i ddysgu Cymraeg. Fodd bynnag, mae‟n bosib na fyddai‟r fantais
yma‟n meddu ar unrhyw arwyddocâd, pe bai‟r drefn addysg – un arall o‟r ffactorau
cefndirol a gyfeirir ato yn cyfrannu at unioni‟r sefyllfa.
222
Nid oes gwadu y bu newidiadau sylweddol i natur ieithyddol y drefn addysg
yng Nghymru dros y trigain mlynedd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd twf
aruthrol, ar y lefel cynradd ac uwchradd, yn y ddarpariaeth o addysg Gymraeg a
dwyieithog (Williams 2002). Yn ogystal, ers pasio Deddf Addysg 1988, cafodd y
Gymraeg ei dysgu fel pwnc penodol hyd yn oed yn yr ysgolion hynny sy‟n gweithredu
trwy gyfrwng y Saesneg. O ganlyniad, nid oes amheuaeth fod y cyfleoedd i ddysgu
Cymraeg wedi ehangu‟n sylweddol. Yn wir, caiff hyn ei bwysleisio gan y ffaith fod
cymaint o blant o gartrefi di-Gymraeg nawr yn derbyn addysg Gymraeg. O ystyried
hyn, i ba raddau y gall y Cymry hynny sy‟n cyrraedd y farchnad lafur heb fedru siarad
yr iaith ddadlau eu bod dan anfantais pan fo rhai swyddi yn galw‟n benodol am y gallu
hwnnw?
Yn y cyswllt hwn, mae‟n werth nodi pwynt diddorol a wnaed gan David Miller
(2002). Wrth drafod y dehongliad rhyddfrydol o gyfle cyfartal, mynnodd Miller na all
unigolion honni eu bod yn dioddef o annhegwch a diffyg cyfle os yw‟r anawsterau
sy‟n eu llethu yn deillio, nid o amgylchiadau cefndirol anffafriol, ond yn hytrach o
benderfyniadau cynt o‟u heiddo:
... a person‟s opportunities have to be judged at some suitably chosen starting
point, since each decision that is made to avail oneself of an opportunity, or
not to do so, is likely to affect the opportunity set at a later point. For example,
a person who decides to leave school at sixteen cannot later complain that she
was denied the opportunity to go to university, if by staying on at school she
could have achieved that goal ... The liberal ideal, then, is that initial
opportunity sets should be equal, not necessarily opportunity sets at some later
time when choices have already been made (Miller 2002: 47, pwyslais yn y
gwreiddiol).
Felly, o drosi‟r ddadl hon i faes cyflogaeth, gwelir na allaf ddadlau fod fy nghyfleoedd
yn cael eu cyfyngu mewn modd annheg, os yw‟r ffaith nad wyf yn meddu ar set o
223
sgiliau allweddol ieithyddol, cyfrifiadurol ayb ac felly‟n methu ymgeisio am
swyddi sy‟n fy niddori, yn deillio o ddim mwy na methiant ar fy rhan i fanteisio ar
gyfleoedd i‟w datblygu.15 Ond, a ellid defnyddio‟r ddadl hon mewn perthynas â‟r sawl
sydd ddim yn siarad Cymraeg? A ellid casglu nad oes ganddynt sail i gwyno gan fod
gan bawb gyfle digonol i ddysgu‟r iaith bellach yn sgil y datblygiadau sylweddol a fu
ym maes addysg.
Ar y cyfan, ni fyddai hynny‟n gwbl deg. I ddechrau, rhaid cofio nad ni ein
hunain, ond ein rhieni, sydd fel arfer yn dewis natur yr addysg a dderbyniwn. O
ganlyniad, pan fo plentyn o gefndir di-Gymraeg yn digwydd mynychu ysgol Saesneg,
ac felly‟n colli‟r cyfle i ddysgu‟r Gymraeg yn rhugl, nid ef fel unigolyn sydd wedi
dewis hynny ac felly ni ellir dweud yn bendant ei fod wedi gwrthod y cyfle. Ar ben
hynny, ac efallai‟n bwysicach, er y bu cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth o addysg
Gymraeg, erys bylchau sylweddol yn y ddarpariaeth honno. Er enghraifft, clywir yn
bur fynych nad yw‟r ddarpariaeth a gynigir gan amryw o awdurdodau lleol yn cyfateb
i‟r galw amdano (Rhieni Dros Addysg Gymraeg 2007: 2 – 3). O ganlyniad, anodd
fyddai dadlau fod pob plentyn yng Nghymru yn meddu ar gyfle teg i ddysgu‟r
Gymraeg ac i ddatblygu eu gafael ohono i lefel a fyddai‟n caniatáu iddynt ei
defnyddio yn y gweithle. At ei gilydd felly, mae‟n amheus a ellid casglu fod dadl
Miller ynglŷn â gwrthod cyfleoedd yn sefyll yn y cyswllt hwn. Ond beth felly yw
goblygiadau casgliad o‟r fath? A yw‟n golygu bod rhaid derbyn bod yr holl syniad o
osod gofynion ieithyddol ym maes cyflogaeth yn annerbyniol?
15 Wrth gwrs, er mwyn i‟r ddadl hon sefyll, rhaid i‟r cyfleoedd hynny i ddatblygu gwahanol sgiliau fod
yn rhai realistig.
224
Nid yw‟r problemau a drafodwyd uchod ynglŷn ag effaith amgylchiadau
cefndirol ar sgiliau iaith unigolion yn golygu bod yn rhaid casglu fod gofynion
ieithyddol ym maes cyflogaeth, o‟u hanfod, yn annerbyniol. Fel y dadleuwyd eisoes,
mewn gwlad fel Cymru, lle amcanir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn mwy
nag un iaith, mae‟n gwbl briodol fod yr amrediad o sgiliau a ystyrir yn berthnasol yn
achos rhai swyddi yn cynnwys dimensiwn ieithyddol. Nid yw hyn yn tanseilio‟r
syniad o gyflogi ar sail teilyngdod. Yn hytrach, y cyfan y mae cyflogwyr yn ei wneud
yw estyn ychydig ar ystyr teilyngdod.
Fodd bynnag, wrth gymryd cam o‟r fath mewn maes pwysig megis cyflogaeth,
rhaid sicrhau fod y cyfle i ddatblygu‟r sgiliau perthnasol yn cael eu dosbarthu mewn
modd sydd mor deg a phosib. Hynny yw, tra bod y broses o ddynodi swyddi penodol
fel rhai sy‟n galw am y gallu i siarad Cymraeg yn dderbyniol, ni ddylai ddigwydd
mewn cyd-destun lle gall rhai ennill mantais, tra bo eraill yn wynebu rhwystrau, yn
sgil amgylchiadau cefndirol sydd y tu hwnt i‟w rheolaeth. Wedi‟r cyfan, fel y dadleua
nifer o ryddfrydwyr, ni ddylai cyfleoedd bywyd gwahanol unigolyn gael eu cyfyngu
gan amgylchiadau o‟r fath. Yn achos y Gymraeg fe welwyd ei bod yn anochel y bydd
magwraeth rhai pobl yn rhoi mantais iddynt dros eraill, gan na fydd pawb yn cael eu
magu mewn cartref lle caiff y Gymraeg ei defnyddio. O ystyried hyn, mae‟n
hollbwysig, o safbwynt cyfiawnder, fod y drefn addysg, yn arbennig, yn cyfrannu at
unioni‟r fantais hon. Yr awgrym, ar hyn o bryd, yw nad yw hynny‟n digwydd mewn
modd effeithiol iawn. I raddau helaeth, tra bo‟r amrediad o swyddi lle gelwir am
wybodaeth o‟r Gymraeg yn parhau‟n gymharol gyfyng, nid yw effaith y gwendid hwn
mor ddifrifol â hynny. Fodd bynnag, os bydd ymgais rywdro yn y dyfodol i ehangu ar
225
hyn, gan ddyfnhau lle‟r Gymraeg yn y gweithle, yna dylid edrych o ddifri ar y
sefyllfa.16 Wrth reswm, nid oes lle yma i fanylu ar beth fyddai hyn yn ei olygu‟n
ymarferol. Fodd bynnag, yn y termau mwyaf cyffredinol, rhagwelaf y dylai arwain at
gymryd camau breision sydd â‟r nod o ddarparu cyfle real i bob plentyn i feistroli‟r
Gymraeg yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol.
6. Addysg yn Nyfed
O ystyried casgliadau‟r adran uchod, mae‟n briodol taw i faes addysg y mae‟r
drafodaeth yn troi nawr. Dros y blynyddoedd, dyma faes lle gwelwyd rhai o‟r
datblygiadau mwyaf pellgyrhaeddol ac arwyddocaol o safbwynt dyfodol yr iaith
Gymraeg. Fodd bynnag, mae‟n bwysig nodi taw nid yr un math o heriadau a
wynebwyd ar draws Cymru wrth geisio diogelu a datblygu lle‟r Gymraeg fel iaith
addysg. I raddau helaeth, roedd y gwahaniaethau hyn yn adlewyrchu‟r amgylchiadau
ieithyddol amrywiol a geir mewn gwahanol rannau o‟r wlad. Wrth gwrs, mae rhannau
helaeth o Gymru wedi Seisnigeiddio‟n arw – er enghraifft ardaloedd ôl-ddiwydiannol
a phoblog y de ac arfordir y gogledd a‟r her a wynebwyd gan lunwyr polisi mewn
ardaloedd o‟r fath oedd sut gellid sicrhau lle teilwng i addysg Gymraeg mewn ardal lle
bu cynt yn absennol. Fodd bynnag, mewn rhannau eraill o Gymru yn bennaf hen
siroedd Dyfed a Gwynedd roedd yr her a wynebwyd ychydig yn wahanol. Y
cwestiwn a geisiwyd ei ateb gan lunwyr polisi yn yr ardaloedd hyn oedd: sut, mewn
ardaloedd sy‟n draddodiadol wedi bod yn rhai Cymraeg eu hiaith, y mae cynnal a
datblygu trefn addysg sy‟n gweithredu‟n bennaf trwy‟r iaith honno, tra bo‟r ardaloedd
dan sylw yn prysur dod o dan ddylanwad y Saesneg?
16 Yr awgrym yw fod hwn yn faes lle mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn dymuno gweld datblygiadau
pellach. Gweler er enghraifft Bwrdd yr Iaith Gymraeg 2008.
226
Yr ail o‟r heriadau hyn a drafodir yn ystod yr adran hon. Mae hanes yr
ymgyrchu a arweiniodd at ddatblygiad syfrdanol addysg Gymraeg ar draws rhannau
helaeth o ardaloedd Seisnigedig Cymru wedi derbyn cryn sylw dros y blynyddoedd.17
Yn wir, mae hyn yn ddigon priodol. Wedi‟r cyfan, gellid dadlau mai datblygiad yr
ysgolion hyn yw un o ryfeddodau hanes diweddar Cymru. Fodd bynnag, nid yw‟r
heriadau penodol a wynebwyd wrth geisio cynnal a datblygu lle‟r Gymraeg yn
nhrefniadau addysgiadol siroedd y gorllewin wedi cael eu trafod i‟r un graddau.18 Eto
i gyd, nid y diffyg sylw cymharol a roddwyd i‟r achos yw‟r unig reswm dros ei drafod
yma. Ar ben hynny ac yn arwyddocaol o safbwynt y traethawd hwn mae‟r
drafodaeth ynglŷn â pholisïau addysg siroedd megis Dyfed a Gwynedd hefyd yn un
sy‟n codi amryw o gwestiynau normadol diddorol. Mae rhain yn gwestiynau sy‟n
cyffwrdd ar faterion megis hawl awdurdodau addysg lleol neu genedlaethol i fynnu
bod plant yn dysgu ieithoedd penodol, a hefyd dadleuon ynglŷn â‟r hawl i dderbyn
addysg mewn iaith benodol. Ond, cyn mynd ati i fanylu ar natur y cwestiynau
normadol hyn, rhaid dweud ychydig ynglŷn â chefndir yr achos dan sylw. Yn benodol,
sut y datblygodd lle'r Gymraeg ym maes addysg yn bwnc mor bwysig a dadleuol yn yr
ardaloedd hyn?
Hyd at y 1960au, ceid rhwydwaith o ysgolion cynradd a oedd yn gweithredu‟n
naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws rhannau helaeth o orllewin Cymru. Nid
oedd unrhyw bolisi ffurfiol yn cydnabod hyn. Yn hytrach, roedd yr arfer yn deillio‟n
naturiol o natur ieithyddol yr ardaloedd. Wedi‟r cyfan, fel y gwelir wrth edrych ar
17 Gweler, er enghraifft, nifer helaeth o‟r penodau yn Williams 2002. Gweler hefyd Jones a Williams
2000.
18 Ceir rhai trafodaethau perthnasol. Mewn perthynas â Dyfed gweler Phillips 2002. Yn achos Gwynedd
gweler Humphries 2002 a Morris 2000.
227
ganlyniadau Cyfrifiad 1961, yn ystod y cyfnod hwn roedd siaradwyr Cymraeg yn
parhau i ffurfio mwyafrif ar draws talpiau sylweddol o‟r gorllewin a‟r gogledd
orllewin (Aitchison a Carter 1994 a 2000). Cymdeithasau gwledig oedd rhain ar y
cyfan, a‟r natur wledig hon oedd un o‟r ffactorau a olygodd na fu i‟r ardaloedd yma
brofi‟r un math o Seisnigeiddio a welwyd mewn rhannau eraill o Gymru yn ystod
hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Fodd bynnag, yn ystod y 1960au cafodd nifer o‟r
cymdeithasau gwledig hyn eu blas cyntaf ar broses o symud poblogaeth a arweiniodd
at newidiadau diwylliannol a chymdeithasol dwfn (Dafis 2005). Wrth reswm, roedd
hon yn broses a oedd yn meddu ar oblygiadau ieithyddol arwyddocaol. Golygai fod
nifer sylweddol o deuluoedd di-Gymraeg yn ymgartrefu mewn ardaloedd a oedd, tan
hynny, wedi gweithredu‟n naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Arweiniodd hyn at roi
pwysau sylweddol ar amrediad o rwydweithiau cymdeithasol ac yn enwedig ar natur
ieithyddol yr ysgolion lleol. Yn absenoldeb unrhyw bolisi ffurfiol a oedd yn nodi
statws addysgol y Gymraeg, roedd peryg y byddai‟r don o fewnfudo yn arwain at
Seisnigeiddio nifer o‟r ysgolion hyn drwy‟r drws cefn (Dafis 2005).
Un ardal lle roedd hon yn broblem arbennig o amlwg oedd Ceredigion. Yn ôl
John Phillips (2002) ar y pryd, dirprwy gyfarwyddwr addysg y sir hyd y 1960au
roedd y mwyafrif helaeth o ysgolion bach Ceredigion yn Gymraeg eu hiaith. Ond, yn
sgil y newidiadau ieithyddol a ddeilliodd o symudiad poblogaeth y cyfnod, daeth y
drefn hon o dan bwysau cynyddol. Wrth i drigolion y sir ddod yn fwyfwy ymwybodol
o oblygiadau‟r newidiadau hyn, cynyddodd y galw ar y cyngor lleol i fabwysiadu
polisi iaith ffurfiol a fyddai‟n diogelu lle‟r Gymraeg yn narpariaeth addysg y sir, ac yn
228
enwedig felly ar y lefel cynradd.19 Yn sgil y galw hwn, ym 1968 mabwysiadwyd polisi
iaith ffurfiol gan bwyllgor addysg Cyngor Ceredigion. Yn ôl y polisi hwn, roedd y
cyngor „wedi datgan yn bendant o blaid polisi dwyieithog yn yr ysgolion‟. Golygai
hyn mai‟r nod oedd sicrhau bod „pob plentyn yn meistroli‟r Gymraeg a‟r Saesneg hyd
eithaf eu gallu erbyn gadael yr ysgol gynradd‟ (Cyngor Sir Ceredigion 1968). Fodd
bynnag, nid oedd pawb o blaid y newidiadau hyn. O ganlyniad, mewn ymateb i
fabwysiadu‟r polisi, sefydlwyd y Language Freedom Movement gan griw o ardal
Aberystwyth. Eu bwriad oedd gwrthwynebu‟r „polisi gormesol‟ a fyddai‟n mynnu bod
y Gymraeg yn cael ei chyflwyno i bob plentyn cynradd yn y sir (Phillips 2002: 280).
Yn eu tyb hwy nid oedd arfer o‟r fath yn dderbyniol. Arweiniodd hyn at gyfnod o
ddadlau go ffyrnig. Eto i gyd, ni pharodd hyn yn hir iawn ac felly tawelu wnaeth y
gwrthwynebiad i bolisi addysg Ceredigion.20
Ar ddechrau‟r 1990au, profwyd ton arall dipyn mwy ffyrnig ac estynedig o
wrthwynebiad i‟r arfer o drin y Gymraeg fel prif iaith addysg yn nifer o ysgolion y
gorllewin. Erbyn hynny, roedd Ceredigion wedi‟i huno gyda siroedd Caerfyrddin a
Phenfro gan sefydlu sir newydd, sef Dyfed.21 Ers ei sefydlu ym 1974, roedd Dyfed
wedi bod yn gweithredu polisi lled-debyg i‟r hyn a fodolai cynt yng Ngheredigion. Yr
unig eithriad i‟r polisi hwn oedd y rhan ddeheuol Seisnigedig o Sir Benfro. Fel yr
eglura Phillips:
19 Cyflwynwyd galwadau o‟r fath gan Undeb Cymru Fydd a Chymdeithas Rieni Ceredigion. Ceir
manylion ynglŷn â galwadau‟r mudiadau hyn yn archif Cynog Dafis, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gweler yn enwedig Ffeil 6. Gweler hefyd Dafis 2005: 122 124.
20 Yn nhyb Phillips (2002), tynnwyd sylw aelodau‟r Language Freedom Movement gan achosion eraill,
er enghraifft y ddadl ynglŷn â sefydlu ysgolion uwchradd dwyieithog yn y sir. Mae hwn yn faes arall
sy‟n galw am fwy o sylw, ond nid oes lle i‟w drafod yma.
21 Deilliodd y newid hwn o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Arweiniodd y ddeddf hon at ddiddymu‟r
tri ar ddeg o awdurdodau sirol a fu mewn bodolaeth ers 1888, a sefydlu wyth o awdurdodau sirol
newydd: Dyfed, Gwynedd, Clwyd, Powys. Gwent, De Morgannwg, Morgannwg Ganol a Gorllewin
Morgannwg.
229
Gyda diflaniad Ceredigion yn 1974, yr oedd gofyn creu polisi iaith ar gyfer
Dyfed a oedd yn uniad o‟r tair sir yn y gorllewin. Yr oedd agwedd sir
Gaerfyrddin tuag at yr iaith rywfaint yn wahanol i‟r hyn a fodolai yng
Ngheredigion, ac fe fyddai‟n rhaid ystyried y sefyllfa yn y rhan Saesneg o sir
Benfro. Byddai‟n anodd, felly, llunio polisi iaith cyfansawdd a fyddai‟n
dderbyniol ym mhob rhan o‟r sir newydd. Ond heb fawr o drafferth
llwyddwyd i gael gan y pwyllgor Addysg dderbyn polisi iaith Ceredigion fel
un ar gyfer Dyfed. Bu‟n rhaid eithrio gwaelod sir Benfro o ofynion y polisi,
ond ar yr un pryd byddai‟r Gymraeg yn cael ei chynnig i‟r ysgolion yno a phob
cefnogaeth yn cael ei chynnig i‟r rhai fyddai‟n dymuno ei dysgu (W. J.
Phillips 2002: 281).
Eto i gyd, erbyn diwedd yr wythdegau roedd galw am ddiwygio‟r polisi hwn gan
ddarparu canllawiau cliriach ynglŷn â natur ieithyddol ysgolion y sir.
Deilliai‟r angen i ddiwygio‟r polisi o‟r ffaith fod yr 1980au wedi bod yn
gyfnod arall o fewnfudo trwm i orllewin Cymru (Day 1989), ac roedd hyn, unwaith
eto, yn rhoi pwysau sylweddol ar allu ysgolion yr ardal i gynnal lle‟r Gymraeg yn eu
darpariaeth. Pwysleisiwyd yr effaith ddifrifol a gai mewnfudo‟r cyfnod hwn ar
gymeriad ieithyddol gwahanol ardaloedd mewn adroddiad a gyhoeddwyd tua canol yr
1980au gan Gyngor Sir Gwynedd:
Mae‟r mewnfudiad presennol yn digwydd ar y fath raddfa a chyda‟r fath
gyflymder fel na all y cymunedau lleol ymdopi ag ef a chymathu‟r
mewnfudwyr i‟w cymdeithas. O ganlyniad mae perygl gwirioneddol y collir
yn llwyr o fewn cenhedlaeth yr hyn a fu‟n esblygu am dros 15 canrif
(dyfynnwyd yn Osmond 1992: 2).
Fodd bynnag, fel y noda John Ellis a William Raybould, effeithiodd mudo‟r cyfnod
hwn ar boblogaeth Dyfed yn fwy nag un sir arall. Er enghraifft, rhwng 1985 a 1989
symudodd dros bymtheg mil yn fwy o bobl i mewn i‟r sir nag a symudodd allan.
Ymhellach, nodwyd mai o „ardaloedd llewyrchus De-ddwyrain Lloegr‟ y deuai‟r rhan
helaethaf o‟r mewnfudwyr; tua 31 y cant o‟r cyfanswm yn ystod 1989/90 (Ellis a
Raybould 1992: 91 93).
230
Bu galw am weithredu mewn sawl maes polisi tai, cynllunio a datblygu
economaidd er mwyn ceisio ffrwyno‟r newidiadau ieithyddol syfrdanol a oedd yn
deillio o‟r don newydd hon o fewnfudo. Eto i gyd, roedd hi‟n anochel y byddai llawer
o‟r sylw yn cael ei roi, unwaith yn rhagor, i gyfraniad posib y drefn addysg. Yn sicr,
dyna a ddigwyddodd yn Nyfed, wrth i‟r cyngor sir fabwysiadu polisi newydd a oedd
yn categoreiddio ysgolion cynradd yn ôl natur ieithyddol eu dalgylchoedd. Golygai‟r
drefn hon y ceid tri math o ysgol gynradd. Roedd yr ysgolion „Categori A‟ yn
gwasanaethu ardaloedd lle bu‟r Gymraeg, yn draddodiadol, yn brif gyfrwng
cyfathrebu ac roedd yr holl ddysgu a wnaed yn yr ysgolion hyn, heblaw am wersi
Saesneg, yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd yr ysgolion „Categori B‟ yn
gwasanaethu ardaloedd lle bo‟r Gymraeg a‟r Saesneg yn agos o ran eu statws ac o
ganlyniad byddai tua hanner y gwersi yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg, tra
bo‟r gweddill yn Saesneg. Yn olaf ceid yr ysgolion „Categori C‟. Byddai‟r ysgolion
hyn yn gwasanaethu ardaloedd mwy Seisnigedig. O ganlyniad, y Saesneg fyddai prif
gyfrwng yr addysg, gyda‟r Gymraeg yn cael ei dysgu fel ail iaith ar ffurf pwnc
penodol. (Edwards 1993: 263). Mabwysiadwyd y polisi hwn gan Gyngor Sir Dyfed
ym 1989 a dynodwyd y mwyafrif helaeth o ysgolion y sir yn rhai Categori A. Er
enghraifft, ym 1990 roedd 200 allan o‟r 340 ysgol gynradd drwy‟r sir yn perthyn i‟r
categori hwn (Jenkins a Jones 1999: 402). O gynnal sefyllfa o‟r fath, y gobaith oedd y
byddai‟r mwyafrif helaeth o blant y sir yn gadael yr ysgol gynradd gan fedru‟r
Gymraeg a‟r Saesneg yn rhugl ac y byddai hyn yn cyfrannu rhywfaint at gynnal lle‟r
Gymraeg ym mywyd y sir.
231
Eto i gyd, fel yn achos polisi Ceredigion ar ddiwedd y 1960au, esgorodd y
polisi newydd hwn o eiddo Dyfed ar wrthwynebiad chwyrn ymhlith rai o drigolion y
sir. Crisialwyd y gwrthwynebiad hwn gan ymgyrch un mudiad bach ond llafar,
Education First.22 Heb amheuaeth roedd elfen sylweddol o ormodiaeth yn perthyn i
ddadleuon y mudiad hwn, ac yn enwedig felly eu codwr hwyl ffyddlon, yr Aelod
Seneddol Llafur, Dr Alan Williams o Gaerfyrddin. Eto i gyd, ar ôl gosod o‟r neilltu y
cyhuddiadau hurt o „ffasgiaeth‟ neu „Staliniaeth‟ a daflwyd at y Cyngor Sir, gellir
crynhoi tair o ddadleuon pendant a oedd yn tueddu i nodweddu datganiadau
cyhoeddus y mudiad. I ddechrau, honnwyd ei bod hi‟n annerbyniol i orfodi plant y sir
i ddysgu Cymraeg. Yn ail, tueddwyd i ddadlau ei bod hi‟n annerbyniol disgwyl i blant
o deuluoedd Saesneg i fynychu ysgolion Categori A, gan fod y garfan hon yn meddu
ar hawl i gael eu dysgu mewn ysgolion Saesneg. Yn olaf, dadleuwyd bod disgwyl i
blant o deuluoedd Saesneg i fynychu ysgolion a weithredai‟n bennaf trwy gyfrwng y
Gymraeg yn niweidiol yn addysgiadol ac yn seicolegol gan fod y plant yn gorfod
defnyddio iaith estron yn yr ysgol.23 Gwelir felly fod yr ymdrechion a fu ers y 1960au
i geisio cynnal y Gymraeg fel prif iaith addysg gynradd mewn rhannau helaeth o
orllewin a gogledd-orllewin Cymru wedi profi‟n ddadleuol iawn mewn rhai
cylchoedd.24 Ond, i ba raddau roedd unrhyw sail i wrthwynebiadau tebyg i‟r rhai
uchod o eiddo Education First?
22 Ychydig iawn o ddeunydd eilaidd a geir yn trafod y gweithgarwch y mudiad hwn. Am grynodeb
defnyddiol, ond byr dros ben, gweler Jenkins a Jones 1999: 402. Yn ôl Jenkins a Jones, dim ond tua
chant o aelodau oedd gan Education First.
23 Cafodd y dadleuon hyn o eiddo Education First eu crynhoi trwy edrych ar erthyglau a
ymddangosodd yn y Western Mail, y Carmarthen Journal a‟r Cambrian News rhwng Ebrill a Rhagfyr
1990. Am grynodeb defnyddiol o‟r erthyglau hyn, gweler archif Jill Hutt, Llyfrgell Genedlaethol
Cymru, Ffeil 10.
24 Canolbwyntiwyd ar y sefyllfa yn Nyfed yma, ond bu tensiynau tebyg yng Ngwynedd hefyd wrth i‟r
awdurdod lleol yno ddatblygu a gweithredu polisïau tebyg yn ei hysgolion cynradd. Er enghraifft yng
Ngwynedd yn ystod y 1970au ffurfiwyd y mudiad Parents For Optional Welsh (Phillips 2000).
232
Cymerer i ddechrau'r ddadl ynglŷn â gorfodi plant i ddysgu Cymraeg tra‟u bod
yn yr ysgol gynradd. Fel y nodwyd, erbyn dechrau‟r 1990au roedd pob plentyn a
fynychai ysgol gynradd yn Nyfed yn gorfod dysgu Cymraeg mewn rhyw fodd neu'i
gilydd, boed hynny yn sgil y ffaith fod yr iaith yn brif gyfrwng dysgu, fel yn yr
ysgolion Categori A, neu gan ei bod yn cael ei dysgu fel pwnc unigol, fel yn yr
ysgolion Categori C. At ei gilydd felly, nid oedd modd i unrhyw blentyn a oedd yn
derbyn ei addysg gynradd yn Nyfed osgoi‟r Gymraeg yn llwyr.25 Ond, i ba raddau y
dylai polisi o‟r fath gael ei ddehongli fel un derbyniol? Onid yw, fel y mynnodd
Education First, yn ffurf ar orfodaeth annerbyniol?
Rhyddfrydwr sydd wedi awgrymu ei bod yn annerbyniol i drin iaith leiafrifol
fel y Gymraeg fel rhan hanfodol o‟r cwricwlwm addysg yw Brian Barry (2001). Mae
Barry wedi dadlau hyn o safbwynt symudoledd cymdeithasol. Mynna ei bod yn
niweidiol i fynnu bod plant yn gorfod cael eu cyflwyno i‟r iaith, gan fod hyn yn
gwastraffu amser a allai gael ei ddefnyddio‟n dysgu sgiliau eraill, ac yn enwedig
ieithoedd eraill ehangach eu defnydd. Dylid nodi nad yw Barry‟n dadlau y dylid atal
pob ffurf ar addysg Gymraeg yn enw symudoledd cymdeithasol. Ymddengys fel pe
bai‟n derbyn ei bod yn gwbl ddilys i‟r iaith chwarae rhan bwysig yn addysg y sawl
sydd wedi‟u magu mewn teuluoedd lle caiff ei siarad. Eto i gyd, mae‟n amheus iawn o
werth gorfodi pob plentyn i dderbyn rhyw fath o gyflwyniad i‟r iaith:
... it has to be recognized that the great majority of people in Wales do not
speak Welsh at home, and for them learning Welsh in school from scratch is in
direct competition for time with learning a major foreign language. It is
therefore scarcely surprising that compulsory instruction in Welsh in schools
25 Yn wir, yn dilyn pasio Deddf Addysg 1988 roedd hyn yn wir yn achos bron pob plentyn trwy Gymru,
gan fod y ddeddf honno wedi sefydlu‟r Gymraeg fel un o bynciau craidd y cwricwlwm Cymreig. O
ganlyniad, gellid darllen dadleuon y paragraffau canlynol fel ystyriaeth o ddilysrwydd y polisi hwnnw
hefyd.
233
has aroused opposition from English-speaking parents (Barry 2001: 105
106).
Mae‟r ddadl a ddefnyddir gan Barry yma yn adleisio un tebyg o eiddo Claus Offe
(1998), a nododd, the opportunity costs that are involved in studying a regional
language are often equivalent to the non-acquisition of a foreign language that may be
of greater practical use‟ (Offe 1998, dyfynnwyd yn Barry 2001: 106). Ond a yw
dadleuon o‟r fath yn dal dŵr? A yw polisi sy‟n sicrhau bod pob plentyn yn cael ei
gyflwyno i‟r Gymraeg yn debygol o gael effaith ddifrifol ar symudoledd
cymdeithasol?
I ddechrau, rhaid holi pam mae Barry yn awgrymu mai dim ond achosi niwed i
symudoledd cymdeithasol y sawl sydd ddim eisoes yn siarad Cymraeg a wna polisi
sy‟n gwneud yr iaith yn rhan hanfodol o addysg pob plentyn? Wedi‟r cyfan, os yw
treulio amser yn dysgu‟r iaith yn niweidiol i ragolygon y di-Gymraeg, trwy eu hatal
rhag dysgu ieithoedd eraill, onid yw‟r un peth yn wir yn achos y sawl sydd eisoes yn
ei siarad fel mamiaith. Nid yw‟r garfan hon yn gorfod ymdrechu i ddysgu‟r iaith yn
llythrennol, ond eto byddant yn treulio amser yn gwella eu gafael ohoni trwy ddysgu
mwy am ei gramadeg a hefyd wrth astudio ei llenyddiaeth. Onid yw hyn hefyd yn
amser a allai gael ei ddefnyddio i ddysgu iaith arall ehangach ei defnydd, a fydd, yn
nhyb Barry, yn hybu symudoledd cymdeithasol?
Yn ffodus, nid oes angen poeni‟n ormodol ynglŷn â‟r cwestiwn hwn, oblegid
gellir datgan yn gwbl hyderus nad yw‟r polisi‟n effeithio ar symudoledd cymdeithasol
neb. Cofier mai cael eu haddysgu yng Nghymru y mae‟r bobl yma. O ystyried hyn,
gellir dadlau fod cael eu cyflwyno i‟r Gymraeg yn debygol o hybu eu symudoledd
234
cymdeithasol mewn modd tipyn mwy diriaethol nag y byddai dysgu iaith arall megis
Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg. Mae hyn yn arbennig o wir o gofio‟r ffaith fod y
polisi addysg hwn o eiddo Cyngor Sir Dyfed wedi cael ei ddatblygu a‟i gyflwyno
mewn cyfnod pan oedd statws cyhoeddus y Gymraeg ar gynnydd. Fel y dadleua
Stephen May, „being able to speak Welsh within Wales (whether as a first- or second-
language speaker) is surely more immediately useful than speaking another language,
particularly if Welsh is already established in the public domain‟ (May 2003: 137).
Wrth gwrs, pe bai polisi sy‟n trin y Gymraeg fel rhan hanfodol o‟r cwricwlwm
addysg yn arwain at gyfyngu‟n sylweddol ar gyfleoedd plant i ddysgu Saesneg, yna
mae‟n siŵr y byddai modd llunio dadl dipyn mwy credadwy ynglŷn â‟r effaith posib
ar symudoledd cymdeithasol, ac yn sgil hynny, dilysrwydd cyffredinol y polisi. Boed
yn gam neu‟n gymwys, mae‟r Saesneg, ers cenedlaethau, wedi bod yn rhan ganolog o
fywyd economaidd a chymdeithasol Cymru. Nid yw hyn yn debygol o newid yn y
dyfodol rhagweladwy. O ganlyniad, ni ellir gwadu y byddai creu sefyllfa lle bo plant
yn ei chael hi‟n anodd dysgu‟r iaith yn cyfyngu‟n sylweddol ar y cyfleoedd hynny
sy‟n agored iddynt. Fodd bynnag, nid yw‟r broblem hon yn codi. Nid oes unrhyw
dystiolaeth fod yr amser a roddwyd i gyflwyno‟r Gymraeg yn ysgolion cynradd Dyfed
boed hynny mewn ysgolion Categori A, B neu C wedi arwain at atal y disgyblion
rhag meistroli‟r Saesneg. O ganlyniad, mae‟n anodd gweld beth yn union sy‟n
annerbyniol ynglŷn ag ymgais Dyfed i geisio sicrhau bod holl blant y sir yn cael eu
cyflwyno i‟r Gymraeg, o leiaf mewn rhyw fodd, yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol
gynradd. Yn wir, fel y gwelwyd yn yr adran flaenorol (Y Gymraeg yn y Gweithle)
235
mater tipyn pwysicach, o ystyried y cynnydd a fu yn statws y Gymraeg yn y gweithle,
yw‟r diffyg cyfle sydd ar gael mewn rhai rhannau o Gymru i feistroli‟r iaith. 26
Eto i gyd, mae‟n ddigon posib na fyddai nifer o aelodau Education First wedi
dewis dadlau bod polisi a oedd yn sicrhau bod disgyblion yn derbyn o leiaf elfen o
gyflwyniad i‟r Gymraeg yn annerbyniol. Wedi‟r cyfan, yr ysgolion Categori A oedd
prif wrthrych eu llid. I raddau helaeth, nid y ffaith fod yn rhaid i bawb ddysgu elfen o
Gymraeg tra‟u bod yn yr ysgol gynradd oedd wir yn eu gwylltio, ond yn hytrach, y
modd yr oedd polisi Dyfed o gategoreiddio ysgolion yn ôl ardaloedd yn golygu bod
rhai plant yn gorfod dysgu Cymraeg mewn ysgolion a oedd yn gweithredu‟n bennaf
trwy gyfrwng yr iaith honno. Nid oedd yr opsiwn o fynychu ysgolion Saesneg ac o
ddysgu ychydig o Gymraeg (hynny yw fel pwnc unigol) yn agored i‟r garfan hon.
Felly, tra bod modd casglu‟n ddigon hyderus nad oes dim byd annerbyniol ynglŷn â
pholisi sy‟n sicrhau bod holl blant Dyfed yn cael eu cyflwyno i‟r Gymraeg mewn
rhyw fodd neu'i gilydd, a yw hefyd yn bosib casglu ei bod yn dderbyniol i fynnu,
mewn rhai rhannau o‟r sir, bod y cyflwyniad hwnnw yn digwydd mewn ysgolion lle
26 Ochr yn ochr â‟r ddadl ynglŷn â symudoledd cymdeithasol, efallai y byddai rhai yn dewis
gwrthwynebu‟r arfer o drin y Gymraeg fel rhan hanfodol o‟r cwricwlwm ar sail tegwch. Hynny yw, hyd
yn oed os nad yw‟r arfer yn arbennig o niweidiol o safbwynt symudoledd cymdeithasol, nid yw‟n deg
fod y plant hynny sydd ddim yn dymuno derbyn gwersi Cymraeg, yn gorfod gwneud hynny beth
bynnag. Oni ddylai pawb feddu ar y rhyddid i ddewis pa ieithoedd i ddysgu? Mynegwyd dadl debyg i
hon gan rai o‟r bobl hynny, megis David Davis, yr Aelod Seneddol o Fynwy, sy‟n gwrthwynebu‟r arfer
a sefydlwyd gan ddeddf Addysg 1988 o ddysgu Cymraeg fel pwnc hanfodol yn y cwricwlwm Cymreig.
Fodd bynnag, nid yw‟n glir i mi sut gellid dadlau fod y polisi yn un sy‟n arbennig o annheg. Ystyrier,
mae‟n anochel y bydd y mwyafrif o wladwriaethau rhyddfrydol-democrataidd yn llunio rhyw fath o
gwricwlwm addysg. Ymhellach, mae‟n anochel y bydd y cwricwlwm hwn yn cynnwys rhai elfennau
gorfodol yn aml y math o sgiliau a ystyrir fel rhai hanfodol ar gyfer bywyd yn y gymuned dan sylw.
Ar y cyfan, nid oes dim sy‟n arbennig o ormesol ynglŷn â gorfodaeth o‟r fath, ar yr amod nad yw‟n
arwain at danseilio unrhyw fuddiannau sylfaenol. Nawr, yn achos yr arfer o drin y Gymraeg fel elfen
hanfodol, gwelwyd nad yw hyn yn wir nid yw, er enghraifft yn tanseilio symudoledd cymdeithasol
unrhyw ddisgyblion. O ganlyniad, anodd fyddai casglu fod yr arfer yn un annheg. Mae‟n bosib na fydd
cwricwlwm o‟r fath at ddant pawb, ond nid yw‟r ffaith nad yw rhywun yn arbennig o hoff o drefniant
penodol yn cynnig digon o sail i ddadlau fod y trefniant hwnnw yn annheg. Yn wir, rai blynyddoedd yn
ôl roedd astudio technoleg (gwaith coed, tecstilau ayb) yn rhan hanfodol o‟r cwrs TGAU. Nid oedd hyn
yn bolisi poblogaidd ymhlith nifer helaeth o ddisgyblion. Eto i gyd, go brin y gallai‟r disgyblion hyn
ddadlau eu bod yn dioddef unrhyw annhegwch neu anghyfiawnder difrifol.
236
i‟r iaith ei defnyddio fel y prif gyfrwng addysgol a chymdeithasol? Yntau, a oedd
gan deuluoedd Saesneg sail i ddadlau bod ganddynt hawl i ddanfon eu plant i ysgolion
a oedd yn gweithredu‟n bennaf trwy gyfrwng yr iaith honno?
Yn sicr roedd aelodau Education First yn credu ym modolaeth hawl o‟r fath.
Fel y nododd y Western Mail wrth drafod ymgyrch y mudiad ym mis Hydref 1990:
Under the policy, most schools in the traditional Welsh-speaking rural areas of
Dyfed have been classified as Category A with Welsh as the main medium
of instruction for under-sevens. But Education First claims that English-
speaking children have a right to be taught in their mother tongue.27
Ond sut dylid ymateb i‟r ddadl hon? A oes sail i ddadlau bod y siaradwyr Saesneg
hynny sydd, dros y blynyddoedd, wedi gorfod mynychu ysgolion Categori A, mewn
gwirionedd yn meddu ar hawl i fynychu ysgolion Saesneg? Wrth gloriannu, dylid
cofio nad polisi a luniwyd gan garfan elit, anghynrychioladol oedd yr un a
fabwysiadwyd gan Gyngor Sir Dyfed, ond yn hytrach ffrwyth cyd-drafod a
chyfaddawdu democrataidd. O ganlyniad, nid ar chwarae bach y gellid mynd ati i
wrthdroi casgliadau‟r drafodaeth honno, gan gydnabod bod gan blant o deuluoedd
Saesneg hawl sylfaenol i dderbyn eu haddysg mewn ysgolion Saesneg. Fel y gwelwyd
mewn penodau cynt (gweler Pennod 3 yn enwedig), er mwyn dilysu cam o‟r fath
byddai angen dangos bod y plant hynny yn meddu ar fuddiannau ieithyddol neu
addysgiadol sydd mor sylfaenol ac arwyddocaol, fel bod angen eu gwarantu beth
bynnag fo casgliadau democrataidd y mwyafrif. Neu, o eirio‟r mater mewn termau
ychydig yn wahanol, byddai angen dangos fod atal y plant hyn rhag mynychu
ysgolion Saesneg yn peri niwed mor ddifrifol fel na ellid gadael i‟r mater gael ei
27 „Legal test on Welsh teaching‟, Western Mail, 10.10.90, pwyslais wedi‟i ychwanegu.
237
ddatrys trwy gyfrwng ein trefniadau democrataidd cyffredin. Ond, a oedd buddiannau
o‟r fath yn y fantol yn yr achos hwn?
O ystyried y dyfyniad uchod o‟r Western Mail, gellir casglu mai‟r ffactor a
oedd, yn nhyb Education First, yn tanlinellu pwysigrwydd addysg Saesneg i blant o
deuluoedd Saesneg oedd y ffaith mai‟r iaith honno, yn syml, oedd eu mamiaith. Heb
os, ni ellir gwadu fod mamiaith person yn nodwedd arbennig o bwysig ac
arwyddocaol. Fodd bynnag, a ellir dadlau ei bod yn nodwedd sydd mor bwysig fel bod
rhaid sicrhau bod pawb yn medru derbyn eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith honno;
hynny yw, a oes y fath beth a hawl foesol sylfaenol i dderbyn addysg yn ein
mamiaith? Wrth gwrs, gwelwyd eisoes, wrth drafod gwrthwynebiadau mewnfudwyr i
bolisïau addysg Quebec, nad oes y fath beth a hawl sylfaenol i dderbyn addysg yn yr
iaith o‟ch dewis (gweler Pennod 4, Adran 7). Ond a yw pethau‟n wahanol pan mai
iaith yr addysg a ddeisyfir yw ein mamiaith?
Clywir datganiadau ynglŷn â‟r hawl i addysg mewn mamiaith yn nifer o‟r
gwledydd hynny lle bo polisi iaith, ac yn enwedig polisi iaith ym maes addysg, yn
bwnc llosg. Er enghraifft, mynegwyd dadleuon tebyg gan siaradwyr Sbaeneg yng
Nghatalonia pan aethpwyd ati i sefydlu‟r Gatalaneg fel prif iaith addysg y rhanbarth
(Costa 2000). Eto i gyd, dadl lac yw hon mewn gwirionedd. Fel y dadleuodd amryw
o‟r athronwyr sydd wedi trafod polisi iaith o bersbectif normadol, mae‟n anodd gweld
sut gall safbwynt o‟r fath fod yn un credadwy. Yn wir, byddai‟n gwbl anymarferol i
fabwysiadu‟r gred fod pawb yn meddu ar hawl foesol sylfaenol i dderbyn eu haddysg
trwy gyfrwng eu mamiaith. Byddai‟n golygu, er enghraifft, bod gan Gymro'r hawl i
238
fynnu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw ran o‟r byd; senario cwbl
anymarferol. Fel y nododd Kymlicka:
... I don‟t think that any plausible account of human rights in relation to
language will say that there is a basic universal human right to have instruction
in one‟s mother tongue – that it has to be a the language of schooling. I don‟t
think that there is a plausible argument that could be made that it‟s a universal
human right (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 2).
Mynegwyd syniadau tebyg gan Costa hefyd: most scholars agree that a human right
to obtain instruction in the pupil‟s mother tongue does not exist ... liberalism imposes
no obligation to enact such a right‟ (2000: 426, pwyslais yn y gwreiddiol). O
ganlyniad, er mwyn esgor ar hawl i dderbyn addysg trwy gyfrwng iaith benodol rhaid
gwneud mwy na dim ond nodi mai‟r iaith dan sylw yw eich mamiaith. Mae‟n rhaid
wrth ddimensiwn cyd-destunol hefyd, er enghraifft cefndir hanesyddol neu gyswllt
tiriogaethol.28 Felly, os mai‟r cyfan a wnâi aelodau Education First oedd mynnu y
dylai eu plant fedru mynychu ysgolion Saesneg gan mai dyna, yn syml, oedd eu
mamiaith, yna ni ellir casglu bod unrhyw sail i‟w dadl.
Fodd bynnag, efallai bod arwyddocâd y Saesneg i‟r teuluoedd hyn – ac felly‟r
angen i‟w plant dderbyn addysg trwy gyfrwng yr iaith honno – wedi‟i seilio ar fwy
na‟r ffaith mai dyna, yn syml, oedd eu mamiaith. I nifer o siaradwyr Saesneg sy‟n
trigo yng Nghymru, mae‟n bosib fod arwyddocâd yr iaith hefyd yn deillio o ffactorau
cyd-destunol megis y dimensiwn hanesyddol a demograffig sy‟n nodweddu perthynas
y Saesneg â‟r wlad. I‟r bobl hyn, nid unrhyw iaith mo‟r Saesneg, ond yn hytrach, iaith
28 Mae‟n bosib, er ddim yn gwbl sicr, y gellid llunio achos sy‟n dadlau bod gan bobl hawl sylfaenol i
ddysgu eu mamiaith. Mae hwn yn safbwynt a amddiffynnwyd gan Tove Skutnabb-Kangas a Robert
Phillipson (1995). Eto i gyd, nid oedd yr hawl hon yn cael ei thramgwyddo mewn unrhyw fodd gan
bolisi Dyfed, gan fod pawb yn gadael yr ysgol yn siarad Saesneg hefyd. Fodd bynnag, un peth yw
meddu ar yr hawl i ddysgu ein mamiaith, mae datgan bod gan bobl yr hawl i gael eu haddysgu trwy
gyfrwng yr iaith honno yn wahanol.
239
sy‟n meddu ar berthynas bwysig â thiriogaeth Cymru, ac felly, iaith sy‟n chwarae rhan
bwysig yn eu dehongliad o‟u hunaniaeth genedlaethol. Wrth gyflwyno‟r ddadl yn y
termau hyn, gellid mynnu bod galw am addysg Saesneg yng Nghymru yn gwbl
wahanol i alw am addysg Ffrangeg, Sbaeneg neu Fandarin. Dylid nodi na lwyddodd
Education First i roi mynegiant huawdl i ddadl o‟r fath a oedd yn ystyried
arwyddocâd y cyswllt rhwng y Saesneg a dehongliad rhai Cymry o‟u hunaniaeth
genedlaethol. I raddau helaeth, roedd gwrthwynebiadau‟r mudiad i bolisi addysg
Dyfed yn llawer rhy amrwd i ganiatáu hynny. Fodd bynnag, roedd hwn yn llwybr y
gellid fod wedi‟i ddilyn. O ganlyniad, ystyrir yma i ba raddau y byddai gwneud hynny
wedi esgor ar ddadl gryfach o blaid hawl y siaradwyr Saesneg hynny a drigai yng
Nghymru i dderbyn addysg Saesneg.
Yn sicr, wrth drafod gwrthdaro ieithyddol yng Nghymru, rhaid derbyn nad
unrhyw iaith mo‟r Saesneg. Wedi‟r cyfan, mae‟n famiaith i fwyafrif helaeth o‟r
boblogaeth ac mae ei rôl ym mywyd cyhoeddus y wlad yn ymestyn nôl dros
ganrifoedd. Wrth gwrs, gellid dadlau‟n hir ynglŷn â thegwch a dilysrwydd y broses a
arweiniodd at fodolaeth sefyllfa o‟r fath. Ar ben hynny, gellid defnyddio cysyniadau
megis priod iaith er mwyn dadlau nad yw statws y Saesneg yn medru cyfateb yn
llwyr i un y Gymraeg (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 2001, 2005). Ond, er gwaethaf
hyn, anodd fyddai gwadu bod y Saesneg yn meddu ar gyswllt arbennig â Chymru, un
sy‟n ei osod ar wahân i bob iaith arall a siaredir yma. Fodd bynnag, a ddylai ffactorau
cefndirol o‟r fath ychwanegu hygrededd i ddadl carfan megis Education First ynglŷn
â‟r hawl i dderbyn addysg trwy gyfrwng y Saesneg?
240
Wrth drafod hyn, mae‟n rhaid ystyried a ddylai galwadau pob siaradwr
Saesneg am addysg yn yr iaith honno feddu ar yr un grym moesol. Hynny yw, a
fyddai‟n rhaid trin galwadau‟r sawl a oedd wedi mudo o Loegr yn yr un modd a‟r sawl
a oedd wedi‟u geni a‟u magu yng Nghymru ond ddim yn digwydd siarad Cymraeg?
Mae hwn yn gwestiwn pwysig, yn enwedig o ystyried bod mewnfudo wedi bod yn
gefndir pwysig i ddatblygiad polisïau addysg Dyfed. Yn achos y sawl sy‟n mudo o
Loegr, mae‟n anodd gweld ar ba sail y gallent hwy hawlio bod ganddynt hawl
sylfaenol i dderbyn addysg Saesneg ac felly eu bod yn dioddef annhegwch pan fo
awdurdod addysg lleol, megis Dyfed, yn disgwyl iddynt fynychu ysgolion cynradd
sy‟n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi‟r cyfan dewis symud i Gymru a
wnaethant; dewis symud i ardal lle ceir trefniadau addysgiadol gwahanol i‟r hyn a geir
yn Lloegr. O ganlyniad, mae‟n anodd gweld ar ba sail y dylent fedru mynnu, fel mater
o hawl, eu bod yn cael mynychu'r un math o ysgolion ag y gwnaethant cyn symud i
Gymru.29
O ganlyniad, gellir diystyru gwrthwynebiadau‟r mewnfudwyr. Yn wir, mae
hyn yn arwyddocaol, gan mai pobl a symudodd i fyw i Ddyfed o Loegr yn ystod yr
1980au oedd rhai o brif wrthwynebwyr y polisi addysg (Jenkins a Jones 1999: 402).
Ond, beth am y Cymry di-Gymraeg hynny a drigai yn Nyfed? Ar y cyfan, roedd y
garfan hon yn fwy bodlon gyda‟r polisi addysg. Eto i gyd, mae‟r angen i ystyried eu
sefyllfa yn dal. Pe byddai rhai ohonynt yn digwydd gwrthwynebu‟r polisi, gan fynnu
29 Yn wahanol i‟r Canadiaid hynny o daleithiau megis Alberta neu British Columbia sy‟n symud i
Quebec, ni ellir dadlau bod y garfan yma, trwy fudo, yn ymuno â lleiafrif cenedlaethol arbennig. Ar ben
hynny, yn wahanol i achos y sawl sy‟n mudo i wledydd gorllewinol o rannau o‟r trydydd byd, gellir
datgan yn go hyderus mai mater o ddewis oedd y penderfyniad i symud i Gymru. Wedi‟r cyfan, roedd
effaith mewnfudo ar sefyllfa‟r farchnad dai mewn ardaloedd megis Dyfed a Gwynedd yn awgrymu‟n
gryf mai pobl ag adnoddau economaidd uwch na‟r boblogaeth leol oedd yn symud (Ellis a Raybould
1992).
241
bod y Saesneg yn meddu ar arwyddocâd pwysig iddynt, a allent hawlio, yn wahanol i
fewnfudwyr o Loegr, bod ganddynt hawl i ddanfon eu plant i ysgolion Saesneg?
Yn sicr, rhaid cydnabod fod galwadau‟r garfan hon yn rhai sy‟n haeddu mwy o
ystyriaeth na rhai‟r sawl a oedd wedi mudo i Gymru. Eto i gyd, a ydynt yn alwadau
sy‟n ddigon cryf i esgor ar hawl hynny yw, i ddyfynnu Dworkin (1977), offeryn a
ddylai „drympio‟r‟ casgliadau y daethpwyd iddynt trwy gyfrwng y drafodaeth
ddemocrataidd, gan sicrhau bod plant o deuluoedd Saesneg yn medru mynychu
ysgolion Saesneg doed a ddel. A fyddai‟r budd a gai ei warchod trwy gydnabod hawl
o‟r fath yn un digon pwysig i ddilysu gwneud hyn? Neu, o eirio‟r cwestiwn mewn
termau ychydig yn wahanol, a fyddai‟r plant dan sylw yn dioddef unrhyw niwed
annerbyniol trwy gael eu hatal rhag mynychu ysgolion Saesneg?
Yn syml, na fyddent. Ni fyddai mynychu ysgolion a oedd yn gweithredu‟n
bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg yn achosi niwed o unrhyw fath i‟r plant hyn.
Cymerer i ddechrau arwyddocâd posib y Saesneg iddynt fel Cymry o gefndir di-
Gymraeg. Ni fyddai mynychu ysgolion Categori A yn arwain at wadu na dibrisio‟r
arwyddocâd hwn mewn unrhyw fodd. Fel y nodwyd eisoes, ni fyddai mynychu
ysgolion o‟r fath yn atal neb rhag dysgu siarad, darllen ac ysgrifennu Saesneg yn gwbl
rugl. Yn wir, cai‟r gallu hwn ei feithrin yn drylwyr yn yr ysgol, ochr yn ochr â‟r
broses o ddysgu Cymraeg. Ymhellach, rhaid cofio y byddai‟r sawl a fynychai‟r
ysgolion Categori A yn gwbl rydd i ddefnyddio‟r Saesneg ym mhob agwedd arall o‟u
bywyd bob dydd. Byddai ganddynt amrediad eang o gyfryngau Saesneg i‟w diddanu.
Ar ben hynny, fyddai dim rhwystr yn eu hatal rhag derbyn pob gwasanaeth cyhoeddus
242
neu breifat arall trwy gyfrwng y Saesneg. O ganlyniad, ni fyddai hunaniaeth y plant
hyn fel Cymry sy‟n dod yn wreiddiol o gefndir di-Gymraeg yn cael ei wadu neu ei
danseilio mewn unrhyw fodd.30 Yn ogystal, yn groes i honiadau Education First, ni
fyddai lles addysgiadol plant o gefndir di-Gymraeg yn cael ei niweidio trwy fynychu
ysgolion a oedd yn gweithredu drwy‟r iaith honno. I‟r gwrthwyneb yn llwyr, fel y mae
llu o astudiaethau o faes addysg a dwyieithrwydd yn dangos, mae addysg sy‟n hybu
dwyieithrwydd atodol (additive) hynny yw y math o addysg a brofwyd gan y plant
di-Gymraeg hynny a fynychai ysgolion Categori A yn Nyfed yn un sy‟n aml yn
esgor ar gyrhaeddiad academaidd tipyn uwch na‟r cyffredin (Baker 2001; May 2001:
196 n4; Romaine 1995).31
At ei gilydd felly, gellir casglu nad oedd dim byd annerbyniol, o safbwynt
moesol, ynglŷn â‟r polisi addysg a fabwysiadwyd gan Gyngor Sir Dyfed. Yn groes i
honiadau Education First, nid oedd y polisi hwn yn haeddu cael ei ddisgrifio fel un
„gorthrymol‟ a oedd yn tramgwyddo egwyddorion pwysig. Yn y lle cyntaf, gwelwyd
30 Dylid nodi na fyddai‟r ddadl hon yn gweithio pe bai rhywun am geisio‟i throi ar ei phen gan ddadlau
mewn cyd destun arall na ellir mynnu addysg Gymraeg fel mater o hawl. Yn wahanol i‟r sawl sy‟n
dymuno derbyn addysg Saesneg yng Nghymru, byddai atal y sawl sy‟n dymuno derbyn addysg
Gymraeg rhag gwneud hynny yn esgor ar niwed arwyddocaol. Heb fedru derbyn addysg Gymraeg neu
ddwyieithog, mae‟n annhebygol y byddai plentyn yn medru magu‟r gallu i ddefnyddio‟r Gymraeg yn
gwbl rugl, boed ar lafar neu‟n ysgrifenedig. Gweler y disgrifiad o ddwyieithrwydd tynnol (subtractive)
yn nodyn 31 isod.
31 Noder mai‟r model atodol (additive) o addysg ddwyieithog a amddiffynnir yma ac nid y model
tynnol (subtractive). Mae‟r cyntaf yn cyfeirio at sefyllfa lle mae‟r plentyn yn ychwanegu ail iaith i‟w
arfogaeth tra bo‟i afael ar ei famiaith yn cael ei chynnal a‟i chadarnhau gan safle sicr yr iaith honno yn
y teulu a‟r gymuned ehangach. Yn ogystal â phlant di-Gymraeg sy‟n mynychu ysgolion Cymraeg yng
Nghymru, mae plant o deuluoedd Saesneg sy‟n mynychu ysgolion Ffrangeg mewn gwahanol rannau o
Canada yn syrthio i‟r categori hwn. Mae‟r ail fodel, sef dwyieithrwydd tynnol, yn esgor ar sefyllfa lle
bydd y plentyn yn dysgu ail iaith fwyafrifol tra‟n colli ei afael ar ei famiaith yn sgil safle israddol yr
iaith honno yn y gymuned yn gyffredinol. Dyma yw profiad nifer o siaradwyr Sbaeneg mewn sawl rhan
o‟r Unol Daleithiau. Tra bo‟r cyntaf yn fodel sy‟n esgor ar gyrhaeddiad addysgiadol uwch mae‟r ail yn
medru arwain at ddiffyg hyder ac ymddieithrio cymdeithasol ac felly‟n cyfrannu at ddal plant yn ôl
(gweler er enghraifft Baker 2001; Romaine 1995: 244 246). Yn arwyddocaol, fel rhan o‟r drafodaeth
gyhoeddus ynglŷn ag ymgyrch Education First, cyhoeddwyd erthygl yn y Western Mail gan Robert
Powell o‟r National Foundation for Education Research in England and Wales a oedd yn egluro‟r
gwahaniaeth pwysig sy‟n bodoli rhwng y ddau fodel yma o addysg ddwyieithog. Gweler „Commentary:
Searching in vain for second-language lags‟, Western Mail 30.10.1990.
243
nad oedd dim byd o‟i le ar yr arfer o orfodi pob plentyn a fynychai ysgol gynradd yn
Nyfed i gael eu cyflwyno mewn rhyw fodd i‟r Gymraeg. Nid oedd arfer o‟r fath yn
arwain at danseilio symudoledd cymdeithasol y plant. Ymhellach nid oedd yn
enghraifft o orfodaeth annheg. Yn hytrach roedd yn gam cwbl resymol ar ran
awdurdod addysg a oedd yn gwasanaethu cymunedau lle roedd nifer helaeth o‟r
boblogaeth yn siarad Cymraeg. Yn ogystal, ac efallai‟n bwysicach o safbwynt
ymgyrch Education First, gwelwyd nad oedd dim byd annerbyniol ynglŷn â bodolaeth
yr ysgolion Categori A, a‟r ffaith fod disgwyl, mewn rhai ardaloedd, i bob plentyn
fynychu ysgolion a oedd yn gweithredu‟n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwelwyd
nad oedd polisi o‟r fath yn achosi unrhyw niwed, nac yn tramgwyddo unrhyw
fuddiannau pwysig ymhlith y sawl a fyddai wedi ffafrio cael mynychu ysgolion
Saesneg. O ganlyniad, mae‟n anodd gweld ar ba sail y dylai‟r garfan hon fedru
mynnu, fel mater o hawl, y dylent gael mynychu ysgolion o‟r fath.
7. Hybu Trosglwyddiad Iaith o Fewn y Teulu
Ers amser bu cynllunwyr iaith yn gytun bod gallu grŵp i drosglwyddo‟i iaith o un
genhedlaeth o‟r teulu i‟r llall yn cyfrannu mewn modd allweddol i‟r broses o gynnal
yr iaith honno. Fel yr eglura Kathryn Jones a Delyth Morris:
Research evidence in the field of language shift and minority-language
revitalization demonstrates that the survival or demise of most minority
languages crucially depends upon the extent to which the language is
„transmitted‟ from one generation to the next. The role of the home and family
is commonly acknowledged as being central to the „intergenerational
transmission‟ of minority languages and so to their maintenance and vitality as
languages of wider social interaction (Jones a Morris 2007: 52 53).
Un o brif ladmeryddion y safbwynt hwn yw‟r cymdeithasegydd iaith Joshua Fishman
(1991, 2001). Yn nhyb Fishman, sefydlogrwydd y broses o drosglwyddo iaith o un
244
genhedlaeth o‟r teulu i‟r llall yw‟r prif bwnc y dylai llunwyr polisi ei ystyried wrth
fynd ati i geisio cynnal a datblygu rhagolygon iaith benodol. Tra bod ffactorau „uwch‟
megis y farchnad lafur, y cyfryngau a‟r byd addysg yn sicr yn chwarae‟u rhan, mynna
mai dim ond dylanwad eilradd sydd ganddynt ar sefydlogrwydd tymor hir iaith a‟i
gallu sylfaenol i oroesi o genhedlaeth i genhedlaeth (Fishman, 1991). Wrth reswm,
bydd absenoldeb iaith leiafrifol o‟r peuoedd „uwch‟ yma yn effeithio ar ei statws a‟i
phroffil gweledol, a hefyd ar y defnydd ohoni o fewn y peuoedd hynny. Ymhellach,
bydd adferiad cyflawn yr iaith yn galw am ystyried ei lle mewn peuoedd o‟r fath.
Fodd bynnag, yn nhyb Fishman, cyn gellir mynd ati i wneud hynny, rhaid sicrhau bod
statws yr iaith o fewn y teulu wedi‟i ddiogelu. Heb wneud hynny, bydd yr holl broses
o geisio adfer yr iaith wedi‟i gosod ar seiliau cwbl simsan. Dyma sy‟n arwain Fishman
i ddatgan, the centrality of this constellation [h.y. sffer preifat y teulu a chyfeillion
agos] must be recognized ... rather than being undercut or upstaged by the more
dramatic and modern arenas and media of sociocultural life‟ (Fishman, 1991: 95).
Ymddengys fel pe bai cynllunwyr iaith yng Nghymru wedi derbyn y neges hon
o eiddo Fishman, gan fod ymdrechion i annog mwy o rieni i drosglwyddo‟r Gymraeg
i‟w plant wedi derbyn sylw cynyddol, dros y deg mlynedd diwethaf, mewn rhaglenni
polisi o eiddo Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth y Cynulliad (Llywodraeth
Cynulliad Cymru 2003: 39). Wrth gwrs, bu caredigion yr iaith Gymraeg yn
ymwybodol ers peth amser o anallu neu amharodrwydd ymhlith nifer o rieni Cymraeg
eu hiaith i drosglwyddo‟r iaith i‟w plant, a bod hyn yn cyfrannu‟n sylweddol at ei
sefyllfa bregus. Fodd bynnag, cafwyd cadarnhad swyddogol o hyd a lled y broblem yn
245
dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 1991. Fel yr eglura Elaine Davies, roedd y
canlyniadau hyn yn arbennig o ddadlennol:
Of the 22.8 per cent of families where one or both parents were Welsh
speakers, and so had the potential to reproduce the language in the next
generation, it was found that only in 16.5 per cent of the families did
transmission occur. As a result the Welsh language was being lost in roughly a
quarter of households where either one or both parents had the capacity to pass
it on (Davies 2005: 12).
Cafwyd cadarnhad pellach o‟r broblem yn dilyn cyhoeddi canlyniadau‟r cyfrifiad
nesaf yn 2001. Er bod y cyfrifiad hwn yn nodi cynnydd graddol yn y nifer o bobl a
oedd yn medru siarad Cymraeg, roedd hefyd yn dangos bod lle mawr i bryderu ynglŷn
â faint o deuluoedd oedd yn llwyddo i drosglwyddo‟r Gymraeg i‟w plant, yn enwedig
felly yn achos y teuluoedd hynny lle mai dim ond un rhiant oedd yn medru‟r
Gymraeg. Fel y noda Viv Edwards a Lynda Pritchard Newcombe:
An initial and tentative analysis of the 2001 Census suggests that only 81.9 per
cent of children where both parents spoke Welsh can speak the language; in
two adult households, where only one of the adults is Welsh-speaking, the
figure falls to 39.8 per cent (Edwards a Pritchard Newcombe 2005: 138).32
At ei gilydd felly, cadarnhaodd canlyniadau‟r ddau gyfrifiad diwethaf bod nifer
helaeth o blant yn colli‟r cyfle i ddysgu‟r Gymraeg o ganlyniad i‟r ffaith nad oedd yr
iaith yn cael ei throsglwyddo‟n naturiol o fewn y teulu. Wrth reswm, roedd sefyllfa o‟r
fath yn milwrio yn erbyn ymdrechion i gynnal a datblygu‟r Gymraeg, ac o ganlyniad,
nid yw‟n syndod fod cynllunwyr iaith o Gymru wedi rhoi cryn sylw i‟r mater dros y
blynyddoedd diwethaf.
32 Dylid nodi mai cyfeirio at y canrannau ymhlith plant 3 i 4 oed a wna Edwards a Pritchard Newcombe
yn y dyfyniad uchod. Pe byddem yn ymestyn y categori i gynnwys plant o 3 i 15 oed, byddai‟r ganran
yn codi i 91.3 y cant yn achos plant o deuluoedd lle ceir dau riant sy‟n siarad Cymraeg ac i 61.3 y cant
yn achos y plant hynny sydd wedi‟u magu mewn teuluoedd lle ceir un rhiant sy‟n siarad Cymraeg.
Fodd bynnag mae ffocws yr awduron ar y categori mwy cyfyng yn gwbl briodol. Fel y noda Bwrdd yr
Iaith Gymraeg, mae‟r cynnydd a welir wrth ymestyn yr oedran i‟w ddisgwyl, oherwydd „gellir disgwyl
y bydd llawer o blant yn dod i siarad Cymraeg ar ôl iddynt gychwyn yn yr ysgol‟. O ganlyniad, „er
mwyn tynnu casgliadau am brosesau trosglwyddo iaith ar yr aelwyd, mae‟n well canolbwyntio ar y
dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer plant 3 i 4 oed‟ (Bwrdd yr Iaith Gymraeg 2003: 3, pwyslais yn y
gwreiddiol).
246
Prif ymateb Bwrdd yr Iaith Gymraeg fu sefydlu‟r cynllun „Twf: Magu Plant yn
Ddwyieithog‟. Dechreuodd y fenter hon fel cynllun peilot yn Sir Gaerfyrddin ym
1999, pan gyflogwyd swyddog prosiect er mwyn sefydlu cyswllt gyda bydwragedd ac
ymwelwyr iechyd lleol, gyda‟r bwriad o geisio creu trefn lle byddai‟r bobl hyn yn
trosglwyddo gwybodaeth i rieni newydd ynglŷn â manteision magu plant yn
ddwyieithog. Arweiniodd hyn at sefydlu mentrau tebyg yn siroedd Conwy a Dinbych
yn 2001. Yna, yn 2002, lansiwyd Twf yn swyddogol fel corff a fyddai‟n ceisio
dylanwadu ar arferion ieithyddol rhieni ym mhob rhan o Gymru. (Davies 2005;
Edwards a Pritchard Newcombe 2005; Irvine et al 2008).33 Yn ôl Davies, gall prif
amcanion y corff newydd hwn gael eu crynhoi fel a ganlyn:
Raise awareness amongst parents and prospective parents of the advantages of
bilingualism. Bring this message into the mainstream practice of midwives and
health visitors and, most importantly, influence the linguistic choice and
behaviour of the project‟s target group, namely mixed language families
(Davies 2005: 12).
Ond sut yn union aethpwyd ati i gyrchu‟r amcanion hyn?
Ers ei sefydlu, mae Twf wedi defnyddio cyfuniad o ddulliau er mwyn ceisio
lledu‟r neges o werth dysgu Cymraeg ac o fod yn ddwyieithog ymhlith rhieni newydd.
I ddechrau, datblygwyd ymhellach ar y cydweithio cynnar gyda bydwragedd ac
ymwelwyr iechyd. Erbyn hyn, sefydlwyd trefn lle bo bydwragedd, fel rhan o‟r broses
o gynghori a chynorthwyo darpar rieni, yn codi cwestiynau ynglŷn â dewisiadau
ieithyddol: A yw‟r rhiant wedi ystyried cyflwyno‟r Gymraeg i‟w plant, boed hynny eu
hunain, neu trwy gyfrwng y drefn addysg? Ochr yn ochr â hyn, bydd bydwragedd yn
darparu pecynnau gwybodaeth sy‟n cynnwys taflenni sy‟n sôn am y manteision sy‟n
33 Ers y cychwyn mae Twf wedi‟i reoli a‟i ariannu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ond ers 2001 mae
Cwmni Iaith, cwmni cynllunio ieithyddol, wedi bod yn rhedeg y gwaith maes. Gweler
www.iaith.eu/twf.php.
247
gysylltiedig â dysgu Cymraeg ac o fod yn ddwyieithog. Ymhellach, o bryd i‟w gilydd
bydd y bydwragedd yn gwahodd rhai o swyddogion prosiect Twf i wneud
cyflwyniadau gerbron y dosbarthiadau geni. Yno bydd cyfle i drafod unrhyw amheuon
sydd gan rieni a hefyd cyfle i egluro pa fath o gefnogaeth addysgiadol a
chymdeithasol sydd ar gael i‟r rhieni hynny sydd am sicrhau bod eu plant yn
meistroli‟r Gymraeg (Edwards a Pritchard Newcombe 2005).
Cymerwyd camau hefyd i geisio sicrhau bod y cyflwyniad hwn gan
fydwragedd yn cael ei ategu‟n hwyrach gan yr ymwelwyr iechyd sy‟n cyfarfod y
rheini yn fuan wedi genedigaeth eu plant. Fel yr eglura Edwards a Pritchard
Newcombe, mae cyfraniad y bobl hyn yn arbennig o bwysig:
The work of health visitors, who take over from midwives soon after birth, is
even more relevant to the project; child development is central to their interests
and language development is a topic which parents are often keen to discuss‟
(Edwards a Pritchard Newcombe 2005: 140).
O ganlyniad, mae Twf wedi mynd ati i annog ymwelwyr iechyd i drafod materion
ieithyddol megis dwyieithrwydd a dysgu Cymraeg gyda rhieni yn ystod yr asesiad
wyth mis a hefyd ar adegau eraill os yw‟r cyfle‟n codi. Y nod, yn y pen draw, yw
sicrhau bod dealltwriaeth o ddwyieithrwydd a‟i oblygiadau yn ennill ei le fel rhan
hanfodol o hyfforddiant bydwragedd ac ymwelwyr iechyd. I‟r perwyl hwn, mae Twf
wedi bod yn cydweithio‟n agos gyda‟r cyrff hynny sy‟n gyfrifol am arolygu‟r cyrsiau
hyfforddi perthnasol (Edwards a Pritchard Newcombe 2005).
I raddau helaeth, y cydweithio hwn gyda‟r sector iechyd fu prif waith Twf hyd
yn hyn (Edwards a Pritchard Newcombe 2005). Fodd bynnag, ochr yn ochr â gwaith
o‟r fath, mae‟r corff hefyd wedi chwilio am ffyrdd o hybu ei neges graidd trwy
248
gydweithio gyda chyrff addysgiadol neu ieithyddol eraill. Er enghraifft, caiff
llenyddiaeth sy‟n hysbysu rhieni o fanteision dwyieithrwydd ei ddosbarthu‟n eang
trwy gyfrwng llyfrgelloedd a hefyd cyrff megis y Swyddfa Gwybodaeth Plant. Yn
ogystal, sefydlwyd partneriaethau rhwng Twf â chyrff megis y Mudiad Ysgolion
Meithrin a‟r Mentrau Iaith.
Gwelir felly fod Twf yn gynllun ieithyddol newydd a chymharol arloesol sydd
wedi datblygu‟n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, pam mae hwn yn
achos sy‟n briodol i‟w ystyried yng nghyd-destun y traethawd hwn? Wedi‟r cyfan, yn
wahanol i‟r achosion eraill a drafodwyd yn ystod y bennod hon, nid yw gweithgaredd
Twf wedi ennyn unrhyw wrthwynebiad chwyrn o du rhai rhannau o‟r boblogaeth. O
ganlyniad, gellid dadlau nad oes unrhyw densiynau mawr wedi dod i‟r amlwg sy‟n
galw ymdriniaeth ofalus o bersbectif normadol. Fodd bynnag, pan ystyrir natur y
gwaith a wneir gan swyddogion Twf, fe welir fod hwn yn achos sy‟n codi amryw o
gwestiynau normadol diddorol. A siarad yn gyffredinol, mae‟r cwestiynau hyn yn
ymwneud â‟r lefel o ddylanwad sy‟n briodol i unrhyw wladwriaeth geisio‟i estyn dros
arferion preifat ei dinasyddion: Ydy‟r broses o drosglwyddo iaith o fewn y teulu yn
faes y dylai‟r wladwriaeth ymhél ag ef? I ba raddau y mae‟n briodol i‟r wladwriaeth
geisio dylanwadu ar arferion ieithyddol preifat ei dinasyddion? A yw gweithgarwch
o‟r fath yn debygol o arwain at ddyrchafu ffordd benodol o fyw, gan danseilio rhyddid
pob dinesydd i lunio‟u gwerthoedd a‟u dyheadau eu hunain? Mae‟r rhain oll yn
gwestiynau y byddai rhyddfrydwyr yn eu hystyried yn bwysig dros ben. O ganlyniad,
fe‟u hystyrir yn ystod y paragraffau isod, gyda‟r bwriad o ddod i gasgliadau ynglŷn â
dilysrwydd y gwaith a wneir gan swyddogion Twf.
249
Wrth gwrs, mae‟n bur hysbys bod rhyddfrydwyr, yn draddodiadol, wedi rhoi
pwyslais mawr ar y sffêr preifat, ac yn benodol, yr angen i‟r wladwriaeth ymatal rhag
ceisio ffrwyno neu reoli ymddygiad unigolion yn y sffêr hwn.34 Yn arwyddocaol,
mae‟r pwyslais traddodiadol hwn ar y sffêr preifat yn cael ei amlygu hefyd yn y modd
y mae rhyddfrydwyr yn ymdrin â materion ieithyddol. Er enghraifft, mae‟r
rhyddfrydwyr hynny sydd wedi trafod materion ieithyddol wedi tueddu i estyn
cefnogaeth gref i‟r egwyddor y dylai unigolion fod yn rhydd i ymwneud yn breifat
gyda theulu a chyfeillion ym mha bynnag iaith y dymunant, ac na ddylai‟r
wladwriaeth geisio rheoleiddio ein harferion ieithyddol mewn peuoedd preifat o‟r
fath. Er enghraifft, nododd Green, „[people] are entitled to use in private life
whichever language they choose‟ (1987: 660). Ategir hyn gan Laitin a Reich (2003:
96), sy‟n cyfeirio at ymdrechion Franco i wahardd y defnydd preifat o‟r Gatalaneg neu
ymdrechion lled-ddiweddar llywodraeth Twrci i wahardd dinasyddion rhag siarad
Cwrdeg. Yn nhyb y rhyddfrydwyr hyn, roedd polisïau o‟r fath yn gwbl annerbyniol ac
yn tramgwyddo rhyddfreiniau sylfaenol.
O ganlyniad, pe bai llywodraeth yn mynd ati i geisio newid arferion ieithyddol
teuluoedd trwy gyfrwng mesurau sy‟n cyfyngu ar y rhyddid preifat hwn, neu‟n wir yn
ei ddileu, yna gellid casglu‟n gwbl hyderus y byddai rhyddfrydwyr yn lleisio‟u
34 Wrth sôn yma am y sffêr preifat, cyfeirio ydwyf yn bennaf at y rhan anffurfiol a chymdeithasol o
fywyd unigolion; hynny yw, ein hymwneud dyddiol â chyfeillion neu aelodau o‟n teulu. Nid wyf yn
ymestyn y term i gwmpasu meysydd eraill sydd hefyd yn tueddu i gael eu labeli fel rhai preifat, er
enghraifft y rhannau hynny o‟r economi sydd mewn perchnogaeth breifat. Wedi‟r cyfan, dros y
blynyddoedd nid yw rhyddfrydwyr wedi bod mor amharod i reoleiddio ein hymddygiad yn y meysydd
hyn. Er enghraifft, yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd rhyddfrydwyr
cymdeithasol yn llafar iawn eu cefnogaeth i fesurau a fyddai‟n gorfodi perchnogion ffatrïoedd i wella
amgylchiadau eu gweithwyr. Wrth gwrs, mae rhai rhyddfrydwyr neo-ryddfrydwyr yn bennaf wedi
gwrthod ymyrraeth o‟r fath, gan fynnu bod y wladwriaeth yn cadw draw o bob maes preifat. Fodd
bynnag, ar y cyfan, wrth sôn am bwysigrwydd sylfaenol y sffêr preifat, a‟r angen i‟r wladwriaeth
ymatal rhag ymyrryd yn y sffêr hwnnw, cyfeirio at y rhannau anffurfiol o‟n bywyd a wna‟r mwyafrif o
ryddfrydwyr.
250
gwrthwynebiad. Golyga hyn felly y byddai mesurau tebyg i‟r canlynol yn gwbl
annerbyniol: deddfau sy‟n gwneud methiant i drosglwyddo‟r iaith yn drosedd, neu
ymdrechion i fonitro a chlustfeinio ar arferion ieithyddol gwahanol deuluoedd. Eto i
gyd, go brin y byddai unrhyw lywodraeth ryddfrydol-democrataidd yn dewis
defnyddio mesurau mor orfodol er mwyn ceisio dylanwadu ar arferion ieithyddol
preifat ei dinasyddion. Pe bai llywodraeth ryddfrydol yn dewis ymhél â‟r maes, mae‟n
llawer mwy tebygol y byddai‟n gochel rhag gorfodaeth agored, gan ffafrio, yn
hytrach, y math o anogaeth a ddefnyddir gan swyddogion Twf. Ond, a fyddai dilyn y
trywydd hwn yn fwy derbyniol?
Y peth cyntaf i‟w nodi yw nad yw defnyddio anogaeth, fel y gwna Twf, yn
arwain at gyfyngu ar ryddid rhieni a phlant i ddefnyddio pa bynnag iaith a ddymunant
mewn peuoedd preifat. Mae perffaith hawl ganddynt i anwybyddu unrhyw negeseuon
a gyflwynir iddynt ynglŷn â gwerth dysgu Cymraeg a bod yn ddwyieithog. Fodd
bynnag, mae bodolaeth negeseuon o‟r fath yn golygu bod y wladwriaeth yn cymryd
camau pendant i geisio annog pobl i ddilyn trywydd ieithyddol penodol. Er enghraifft,
mae Iaith Pawb, cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer y Gymraeg yn
nodi; „Mae‟n fantais enfawr os gall plant ifanc ddysgu siarad Cymraeg yn naturiol o
fewn y teulu‟ (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2003: 39, pwyslais wedi‟i ychwanegu).
Felly, er gwaetha‟r ffaith nad oes yma unrhyw orfodaeth agored, a yw‟r anogaeth a
ddefnyddir yn cyfri fel ymyrraeth annerbyniol ym mywyd preifat dinasyddion?
Pe bai gwrthwynebiad o‟r fath yn cael ei fynegi, yna credaf y byddai‟n rhaid
ymateb trwy wrthod yr awgrym bod y wladwriaeth, mewn gwirionedd, yn ymyrryd.
251
Yn hytrach, yr hyn sy‟n digwydd yw bod y wladwriaeth yn darparu gwybodaeth
gefndirol, gan adael rhieni i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Yn sicr, dyna yw
barn Elaine Davies:
Twf has consistently adopted the principle of sharing with parents robust
information which then empowers them to make informed choices and
decisions. Words such as persuasion and influence, although often used to
describe the process of Twf‟s work with parents, have no place in the team‟s
professional rationale. Parental self-determination is paramount ... The aim is
to inspire without being evangelical, sharing information and yet creating
space to listen to parents‟ questions and worries‟ (Davies 2005: 13, pwyslais
wedi‟i ychwanegu).
Yn wir, mae‟r arfer hwn o ddarparu gwybodaeth gefndirol i rieni newydd eisoes
wedi‟i sefydlu mewn perthynas ag amrediad o faterion eraill sy‟n ymwneud a
datblygiad plant. Ystyrier, er enghraifft, y wybodaeth a ddarperir ar faterion megis
diet neu weithgaredd corfforol. Nid oes neb, mewn difri, yn awgrymu bod darparu
gwybodaeth o‟r fath yn arwain at ymyrraeth anfoesol ym mywyd preifat dinasyddion.
O ganlyniad, pam dylai gwybodaeth ynglŷn â datblygiad ieithyddol plant gael ei thrin
yn wahanol? Yn wir, mewn cymdeithas lle caiff dwy iaith eu defnyddio mewn
amrediad o feysydd cyhoeddus, a lle bo sgiliau ieithyddol yn prysur ennill eu lle fel
ystyriaeth bwysig ym maes cyflogaeth, onid yw goblygiadau dwyieithrwydd yn bwnc
cwbl briodol i‟w drafod? 35
Yn ogystal, yn achos ieithoedd cenhedloedd lleiafrifol, rhaid cofio fod yna
ddimensiwn hanesyddol sy‟n ychwanegu dilysrwydd i‟r broses hon o ddarparu
35 Dylid nodi fod ambell i ymwelydd iechyd wedi cwestiynu‟r graddau y dylid disgwyl iddynt hwy
ysgwyddo‟r baich o drosglwyddo neges Twf ynglŷn â manteision dysgu Cymraeg a bod yn
ddwyieithog (Edwards a Pritchard Newcombe 2005). Eu dadl oedd eu bod eisoes yn dal nifer o
gyfrifoldebau eraill ac felly nad oedd yn briodol disgwyl iddynt chwarae rôl fel ymgynghorwyr
ieithyddol hefyd. Boed y gwyn yma‟n un teg ai peidio, nid yw‟n fater sydd angen ei ystyried yma. Codi
cwestiwn ymarferol a wna ynglŷn â‟r dull gorau o gyflwyno neges Twf. Nid yw‟n arwain at gwestiynau
dilysrwydd sylfaenol y fenter.
252
gwybodaeth ieithyddol. Fel y nodwyd eisoes (Pennod 3), yn bur aml bydd unrhyw
ymdrech i hybu rhagolygon ieithoedd o‟r fath yn cychwyn wedi cyfnod estynedig lle
cawsant eu cau allan o fywyd cyhoeddus heb feddu ar unrhyw statws mewn meysydd
pwysig megis llywodraeth a‟r economi. Yn aml, bydd hyn yn arwain at ddarlunio‟r
iaith fel un israddol a chymharol ddi-werth, a dros amser, bydd y darlun hwn yn cael
ei dderbyn a‟i fewnoli, bron yn ddiarwybod, gan nifer helaeth o‟i siaradwyr. Dyma
broses a ddisgrifiwyd gan Pierre Bourdieu (1991) fel „trais symbolaidd‟, ac fel y
gwelwyd wrth drafod dirywiad y Gymraeg ar ddechrau‟r bennod hon, gall „trais‟ o‟r
fath gyfrannu at danseilio nifer o‟r prosesau hynny sy‟n helpu i gynnal grŵp
ieithyddol, yn arbennig felly'r broses o drosglwyddo‟r iaith o un genhedlaeth o‟r teulu
i‟r llall.36 Nawr, os ydym yn derbyn (fel a wnaed ym Mhennod 3) ei bod yn gwbl
ddilys i genedl leiafrifol gymryd camau i adfer ei hiaith draddodiadol pan fo
cefnogaeth ddemocrataidd i‟r syniad hwnnw, onid yw‟n rhesymol disgwyl y bydd
hynny‟n cynnwys herio delweddau annheg ac anghyfiawn o‟r iaith a gafodd eu derbyn
a‟u mewnoli gan y boblogaeth dros y degawdau neu‟r canrifoedd cynt? Fel y noda
Kymlicka:
... it‟s often the case that minority languages have been historically stigmatized
and associated in people‟s minds with backwardness and poverty ... now it‟s
absolutely appropriate for governments to challenge that and to provide
information which counterbalances that view and that discusses the advantages
of a language with the open expectation that such action may change people‟s
preferences (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 2).
Wrth gwrs, tra‟n amddiffyn yr egwyddor sy‟n sail i waith corff fel Twf, rhaid
cydnabod y gall union natur y dadleuon a ddefnyddir ynglŷn â gwerth dysgu Cymraeg
36 Am drafodaeth bellach o syniadau Bourdieu gweler Thompson 1991 a Jenkins 2002. Ceir hefyd
trafodaeth ddefnyddiol ynglŷn â pherthnasedd y syniad o drais symbolaidd i sefyllfa ieithoedd
lleiafrifol yn May 2001: 153 156 yn enwedig.
253
a gwerth dwyieithrwydd amrywio‟n sylweddol. O ganlyniad, rhaid holi a fyddai
defnyddio rhai mathau o ddadleuon yn annerbyniol o safbwynt rhyddfrydol?
Cyfeiria Kymlicka (2007b: Cyfweliad 2) at ddwy ddadl benodol y dylai
rhyddfrydwyr eu diystyru‟n llwyr. I ddechrau, cyfeiria at ddadleuon sy‟n pledio
goruchafiaeth gynhenid un iaith dros bob iaith arall („the intrinsic value argument‟);
hynny yw, dadleuon sy‟n mynnu y dylid sicrhau fod plant yn dysgu‟r Gymraeg, gan
fod yr iaith, o‟i hanfod, yn well iaith i‟w dysgu na‟r Saesneg. Yn ail, cyfeiria at
ddadleuon sy‟n codi cwestiynau ynglŷn â gwir hunaniaeth unigolion („the authenticity
argument‟); hynny yw, dadleuon sy‟n mynnu y dylid sicrhau fod plant yn dysgu
Cymraeg, gan na all person gael ei ystyried fel Cymro go iawn os nad yw‟n siarad
Cymraeg (Kymlicka 2007b: Cyfweliad 2). Dyma ddadleuon sy‟n annog pobl i wneud
llawer mwy na dim ond mabwysiadu iaith, maent hefyd yn pwyso arnynt i fabwysiadu
set o ddaliadau diwylliannol penodol. Yn nhyb Kymlicka, byddai cyflwyno dadleuon
o‟r fath i rieni fel rhesymau dros drosglwyddo‟r Gymraeg i‟w plant yn gwbl
annerbyniol o safbwynt rhyddfrydol. Yn y lle cyntaf, fel y dadleua Kymlicka mewn
mannau eraill (gweler er enghraifft Kymlicka 2002), ni all rhyddfrydwyr gymeradwyo
polisïau ieithyddol neu ddiwylliannol sy‟n seiliedig ar gred yng ngoruchafiaeth
sylfaenol un iaith neu ddiwylliant penodol. Ymhellach, byddai annog pobl i gredu bod
rhaid meddu ar set benodol o rinweddau diwylliannol cyn gall unigolyn gael ei gyfri‟n
aelod llawn o‟r grŵp yn mynd yn gwbl groes i ethos agored a chynhwysol
rhyddfrydiaeth ddiwylliannol (Kymlicka 2007a).
254
Fodd bynnag, mae gorolwg o ddeunyddiau Twf, ynghyd â deunyddiau eraill o
eiddo Bwrdd yr Iaith Gymraeg (gweler yn enwedig Bwrdd yr Iaith Gymraeg 2003b),
yn dangos yn glir nad yw dadleuon o‟r fath yn cael eu defnyddio.37 Yn hytrach, mae‟r
wybodaeth a ddarperir yn canolbwyntio ar ffactorau megis y modd y gall siarad mwy
nag un iaith hybu datblygiad cymdeithasol, addysgiadol ac economaidd plentyn;
hynny yw, mae‟r pwyslais yn cael ei roi gyfleoedd a sgiliau. Ni cheir unrhyw ymgais i
geisio siapio daliadau diwylliannol unigolion, gan eu hannog i fabwysiadu dehongliad
penodol o‟r hyn a olyga i fod yn ddinesydd Cymreig. At ei gilydd felly, gellir casglu‟n
ddigon hyderus nad yw gweithgaredd cynllun Twf yn tramgwyddo unrhyw
egwyddorion rhyddfrydol.
8. Casgliadau
Yn ystod y bennod hon, cloriannwyd dilysrwydd moesol rhai agweddau o‟r polisïau
iaith a fabwysiadwyd yng Nghymru, gan wahanol lefelau o lywodraeth, fel rhan o‟r
ymdrech i ddiogelu ac adfer sefyllfa‟r iaith Gymraeg. Yn benodol, holwyd a yw rhai
o‟r polisïau hyn wedi tramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol pwysig ac felly‟n haeddu
cael eu dehongli fel polisïau annerbyniol o safbwynt moesol?
Trafodwyd tri o achosion: i ddechrau, yr arfer o drin y Gymraeg fel sgìl
hanfodol ym maes cyflogaeth; yn ail, polisïau sy‟n sefydlu‟r Gymraeg fel prif iaith
addysg gynradd mewn rhai rhannau o Gymru; ac yn drydydd, yr ymdrechion
diweddar i ddylanwadu ar arferion ieithyddol preifat, trwy annog rhieni newydd i
drosglwyddo‟r Gymraeg i‟w plant. Ym mhob un o‟r achosion hyn daethpwyd i‟r
37 I ddarllen crynodeb o‟r deunyddiau hysbysebu a ddefnyddir gan Twf gweler www.twfcymru.com.
255
casgliad nad oedd llunwyr polisi yng Nghymru wedi tramgwyddo unrhyw
egwyddorion rhyddfrydol pwysig, a bod y polisïau a fabwysiadwyd yn gwbl
dderbyniol. Yr unig fater a nodwyd fel un a oedd yn galw am sylw pellach, oedd
argaeledd addysg Gymraeg pe bai camau‟n cael eu cymryd i ehangu ar yr arfer o drin
y Gymraeg fel sgìl hanfodol ym maes cyflogaeth. Pe bai hynny‟n digwydd, nodwyd y
byddai angen sicrhau bod y ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn datblygu hefyd, er
mwyn sicrhau nad oedd cyfleoedd economaidd rhai pobl yn cael eu tanseilio‟n
ormodol yn sgil amgylchiadau cefndirol a oedd tu hwnt i‟w rheolaeth. Fodd bynnag,
pwynt i‟w ystyried ymhellach oedd hwn, yn hytrach nag ergyd sylfaenol i
ddilysrwydd sylfaenol yr ymdrech i ddyrchafu statws y Gymraeg ym maes cyflogaeth.
At ei gilydd felly, gellir datgan yn gwbl hyderus fod y polisïau ieithyddol hynny a
gloriannwyd yn ystod y bennod hon yn cydymffurfio‟n llwyr ag egwyddorion
rhyddfrydol cyfoes.
256
6. Casgliadau
Amcan y traethawd hwn fu ystyried sut gall egwyddorion rhyddfrydol gyfrannu at
oleuo ein dealltwriaeth o foesoldeb y broses o adfer ieithoedd lleiafrifol. Aethpwyd ati
i ystyried y mater hwn trwy osod dau gwestiwn ymchwil penodol; y cyntaf yn
ymwneud â statws moesol y nod cyffredinol o adfer iaith, a‟r ail yn ymdrin â natur y
camau ymarferol a gymerir wrth geisio gwireddu‟r nod hwnnw:
1. Sut dylai rhyddfrydwyr gysyniadoli statws moesol y nod cyffredinol o adfer
iaith?
2. I ba raddau mae rhai o‟r camau ymarferol a gymerir wrth geisio gwireddu‟r
nod o adfer gwahanol ieithoedd lleiafrifol, yn arwain at dramgwyddo
egwyddorion rhyddfrydol?
Rhannwyd y traethawd yn ddwy ran, ac fe drafodwyd y cyntaf o‟r cwestiynau hyn yn
ystod y rhan gyntaf, a‟r ail gwestiwn yn ystod yr ail ran. Isod crynhoir y prif
gasgliadau y daethpwyd iddynt yn ystod y trafodaethau hyn.
Rhan 1 Statws Moesol Adferiad Iaith
Yn ystod rhan gyntaf y traethawd ceisiwyd cloriannu sut dylai rhyddfrydwyr
gysyniadoli statws moesol y nod o adfer iaith. Yn benodol, ystyriwyd a ddylent ei
ddehongli fel rhywbeth sy‟n hanfodol o safbwynt cyfiawnder. Teimlwyd fod hwn yn
fater a oedd yn haeddu cael ei drafod yn fanwl, gan fod tuedd ymhlith lladmeryddion
nifer o ieithoedd lleiafrifol i ddehongli adferiad mewn termau moesol o‟r fath. A
siarad yn gyffredinol, cred y bobl hyn fod eu hieithoedd wedi dirywio yn dilyn cyfnod
estynedig o anghyfiawnder, ac yn sgil hynny, caiff y dasg o‟u hadfer ei gweld fel
257
mater o gyfiawnder diamheuol. Fodd bynnag, ychydig o ystyriaeth a roddwyd, hyd yn
hyn, i oblygiadau safbwynt o‟r fath. O ganlyniad, roedd angen mynd ati i‟w
gloriannu‟n fanwl, gan ystyried yn ofalus os ydyw‟n safbwynt y gellir ei gymeradwyo
o safbwynt rhyddfrydiaeth.
Dechreuwyd ar y gwaith ym Mhennod 2, trwy ddehongli‟r honiad fod adferiad
iaith yn hanfodol o safbwynt cyfiawnder yn y termau mwyaf pellgyrhaeddol posib.
Golygai hynny gymryd bod ymdrechu i hybu adferiad yn hanfodol ym mhob sefyllfa
lle bo iaith yn digwydd dirywio; hynny yw, mai‟r unig ymateb priodol a chyfiawn i
achos o ddirywiad iaith yw i gymryd camau brys i geisio atal a gwrthdroi‟r dirywiad
hwnnw.
Aethpwyd ati i ystyried y graddau y gall rhyddfrydwyr gymeradwyo safbwynt
absoliwt o‟r fath trwy holi, i ddechrau, a yw dirywiad iaith yn broses sy‟n medru esgor
ar ganlyniadau niweidiol. Gwelwyd bod hyn yn bosib, trwy drafod dwy ddadl bwysig
sy‟n tystio i‟r hyn y gellid ei golli wrth i iaith ddirywio; y ddadl sy‟n tystio i
bwysigrwydd amrywiaeth ieithyddol y byd a hefyd y ddadl sy‟n tystio i bwysigrwydd
y cyswllt rhwng iaith a hunaniaeth. Fodd bynnag, fel y nodwyd, un peth yw derbyn
bod gweithred neu broses yn meddu ar oblygiadau anodd neu niweidiol, peth arall yw
derbyn bod y goblygiadau hynny mor niweidiol fel y dylid ymrwymo i atal a
gwrthdroi‟r weithred neu‟r broses dan sylw ym mhob sefyllfa. Mae hyn yn golygu
gosod y dasg ar wastad moesol arbennig o uchel, ac yn ystod adran olaf y bennod
gwelwyd na ellid cyfiawnhau cymryd cam o‟r fath yn achos ymdrechion i atal a
gwrthdroi dirywiad iaith. Yn bennaf, roedd hyn yn deillio o‟r ffaith na ellid dehongli‟r
258
niwed a gysylltir â dirywiad iaith fel un cwbl ddifrifol a dinistriol i les ein bywydau, a
hefyd nad yw‟r niwed yn un sy‟n hollgyffredinol o ran ei arwyddocâd moesol. O
ganlyniad, casglwyd na ellir llunio dadl sy‟n caniatáu i ryddfrydwyr drin y dasg o
geisio atal a gwrthdroi dirywiad iaith fel rhywbeth sy‟n hanfodol o safbwynt
cyfiawnder ym mhob sefyllfa dan haul.
Fodd bynnag, arweiniodd y casgliad hwn at gwestiwn newydd. Tra na ellir trin
adferiad iaith fel gofyniad moesol sylfaenol y dylid ei warantu ym mhob achos, a ellir
dadlau ei fod yn weithred y mae cyfiawnder yn galw arnom i‟w sicrhau mewn rhai
amgylchiadau penodol, er enghraifft yn achos cenhedloedd lleiafrifol? Dyma a
drafodwyd ym Mhennod 3. Dechreuwyd trwy ystyried syniadau rhai o‟r athronwyr
rhyddfrydol a oedd eisoes wedi rhoi sylw i‟r broses o adfer iaith: David Laitin a Rob
Reich (2003) a hefyd Will Kymlicka (2007b). Wrth drafod, gwelwyd fod yr athronwyr
hyn yn credu fod y dehongliad absoliwt o statws moesol adferiad iaith yn ddi-sail.
Ond ar ben hynny, ac yn bwysicach, gwelwyd bod y safbwynt mwy cyfyngedig, sy‟n
trin adferiad fel mater o gyfiawnder mewn rhai amgylchiadau penodol, hefyd yn cael
ei ddehongli ganddynt fel un arbennig o broblematig. Nid yw‟r athronwyr hyn yn
awgrymu am eiliad fod unrhyw beth sy‟n sylfaenol annerbyniol, o safbwynt
rhyddfrydol, ynglŷn ag ymdrechu i adfer sefyllfa iaith benodol. Fodd bynnag, nid
ydynt yn barod i drin adferiad fel mater o gyfiawnder. Deillia hyn o‟r ffaith y byddai
cymryd cam o‟r fath yn golygu trin adferiad fel amcan sy‟n medru cael ei osod
uwchlaw‟r broses ddemocrataidd, a thrwy hynny, cael ei gyrchu beth bynnag fo barn
aelodau‟r genedl.
259
Dadl Laitin a Reich a Kymlicka yw y byddai‟n fwy priodol i drin adferiad iaith
fel gweithred dderbyniol; un o‟r amrediad eang o bethau sy‟n gwbl briodol i
lywodraethau rhyddfrydol geisio‟u cyflawni, pan fo hynny‟n adlewyrchu casgliadau a
ddaethpwyd iddynt yn sgil trafodaethau democrataidd agored a theg, ond eto, nid
rhywbeth sy‟n hanfodol o safbwynt cynnal cyfiawnder. Yn ystod Pennod 3, ystyriwyd
a oedd modd i ryddfrydwyr fynd tu hwnt i‟r safbwynt „derbyniol‟ hwn. Gwnaed
hynny trwy dynnu sylw at rai o‟r gwendidau sy‟n perthyn i ddadleuon Laitin a Reich a
Kymlicka, ac yna ystyried a oedd unrhyw un o‟r gwendidau hyn yn cynnig sail i fedru
camu ymlaen a dadlau fod adferiad iaith, mewn rhai amgylchiadau penodol, yn dasg y
dylid, wedi‟r cyfan, ei ddehongli fel mater o gyfiawnder.
Casglwyd mai‟r gwendid a oedd yn codi‟r cwestiynau mwyaf sylfaenol ynglŷn
â thegwch y safbwynt „derbyniol‟, ac felly‟n agor cil y drws i‟r posibilrwydd o
ddweud ychydig yn fwy ar y mater, oedd y diffyg sylw a roddwyd i effeithiau
anghyfiawnder hanesyddol. Roedd hwn yn wendid pwysig, gan mai holl hanfod y
safbwynt derbyniol oedd y gred fod ein trefniadau democrataidd cyffredin yn gyfrwng
cwbl briodol i ddod i benderfyniadau ynglŷn â chyfeiriad polisi iaith. Dyma gyfrwng a
fyddai, yn nhyb lladmeryddion y safbwynt derbyniol, yn caniatáu i holl aelodau‟r
genedl roi mynegiant i‟w dyheadau ieithyddol amrywiol, a hynny mewn
amgylchiadau agored a theg.
Eto i gyd, pa mor deg, mewn gwirionedd, fydd unrhyw drafodaeth
ddemocrataidd sy‟n digwydd yn dilyn cyfnod hir o annhegwch ac anghyfiawnder? Yn
sicr, mae hwn yn gwestiwn dilys i‟w godi yn achos trafodaethau ynglŷn â chyfeiriad
260
polisi iaith. Fel y nodwyd droeon yn ystod y traethawd hwn, gall cyfnod hir o
anghyfiawnder gael dylanwad dwfn ar arferion a hefyd ar agweddau ieithyddol
gwahanol bobl. Gall olygu bod llawer iawn o bobl yn colli‟r gallu i siarad iaith
benodol, ond hefyd, gall arwain at fewnoli agweddau dilornus tuag ati, nid yn unig
ymhlith y sawl sydd ddim yn ei siarad bellach, ond hefyd ymhlith nifer o siaradwyr
mamiaith. Felly, pan fo trafodaethau ynglŷn â chyfeiriad polisi iaith yn debygol o gael
eu cynnal mewn amgylchiadau o‟r fath, fel sy‟n bosib iawn yn achos nifer o
genhedloedd lleiafrifol, gellir codi cwestiynau digon dilys ynglŷn â thegwch y
trafodaethau hynny. O ganlyniad, oni ddylai adferiad gael ei ddehongli fel mater o
gyfiawnder, a thrwy hynny cael ei osod uwchlaw‟r broses ddemocrataidd, o leiaf yn y
sefyllfaoedd hynny lle gellir dadlau fod amgylchiadau anghyfiawn wedi cyfrannu at
ddirywiad yr iaith?
Er mor arwyddocaol oedd y diffyg ystyriaeth a roddwyd i effeithiau
anghyfiawnder hanesyddol, rhaid oedd casglu nad oedd gwendid o‟r fath yn cynnig
digon o sail i gamu ymlaen a dadlau fod adferiad iaith, wedi‟r cyfan, yn dasg y dylid
ei dehongli fel mater o gyfiawnder. Fel y noda Laitin a Reich (2003), tra bod dirywiad
ieithoedd nifer o genhedloedd lleiafrifol wedi deillio o anghyfiawnder o ryw fath,
dylid gochel rhag cymryd yn ganiataol y bydd pawb yn dymuno gweld yr ieithoedd
hyn yn cael eu hadfer. Wrth gwrs, gellid dadlau fod y sawl sy‟n mynegi amheuon o‟r
fath ond yn amlygu effeithiau blynyddoedd o ddiffyg cydnabyddiaeth; hynny yw bod
pobl wedi‟u cyflyru i feddwl am iaith draddodiadol y genedl mewn modd dilornus.
Serch hynny, un peth yw cydnabod y posibilrwydd real o ganfod sefyllfa o‟r fath, peth
261
arall yw dadlau fod hynny'n rhoi sail i gamu ymlaen i ddadlau fod cyfiawnder felly yn
galw arnom i anwybyddu‟r amheuon hyn, gan sicrhau adferiad yr iaith doed a ddel.
Yn nhyb rhyddfrydwyr, byddai cymryd cam o‟r fath yn ein harwain i dir
moesol ansicr. Trwy sefydlu cyswllt pendant rhwng cyfiawnder ac adferiad, yr hyn a
wneir, yn y pen draw, yw creu sefyllfa lle caiff dyletswyddau sylweddol eu gosod ar
aelodau‟r genedl; beth bynnag fo barn y bobl hyn ynglŷn â‟r iaith mae dyletswydd
arnynt i‟w hadfer, gan fod hynny‟n fater o gyfiawnder. Byddai aelodau‟r genedl felly
yn cael eu clymu i un llwybr diwylliannol penodol, a‟r iaith yn cael ei thrin fel rhyw
fath o wrthrych oesol sy‟n medru gosod gofynion sylweddol ar bob un ohonynt.
Byddai cam o‟r fath – cam sy‟n golygu trin aelodau‟r genedl fel dim mwy na
chyfrwng i hybu nod yn gwbl annerbyniol i ryddfrydwyr.
Gwelwyd felly fod problemau moesol yn gysylltiedig gyda dadl sy‟n trin
adferiad iaith fel mater hanfodol o safbwynt cyfiawnder, hyd yn oed pan fo‟r ddadl
honno yn cael ei chymhwyso i sefyllfaoedd penodol, megis cenhedloedd lleiafrifol. O
ganlyniad, yr ateb i‟r cwestiwn sylfaenol a osodwyd ar gyfer rhan gyntaf y traethawd
hwn yw mai fel gweithred dderbyniol, ac nid un hanfodol o safbwynt cyfiawnder, y
dylai rhyddfrydwyr ddehongli adferiad iaith.
Ni ddylai hyn olygu bod modd diystyru‟r sylwadau a wnaed ynglŷn ag
effeithiau anghyfiawnder hanesyddol ar degwch unrhyw drafodaethau democrataidd a
gynhelir mewn perthynas â dyfodol gwahanol ieithoedd. Mae rhain yn bwyntiau
difrifol sy‟n galw am sylw pellach. Fodd bynnag, fel y nodwyd wrth gloi Pennod 3,
262
nid yw ymdrin yn effeithiol gyda phroblemau cefndirol megis amgylchiadau
hanesyddol, sydd o‟u hanfod yn mynd i amrywio o ran natur a difrifoldeb o achos i
achos, yn dasg y gellir ei gyflawni wrth drafod o bersbectif egwyddorion rhyddfrydol
cyffredinol. I raddau helaeth, mae ymdriniaeth o broblemau cefndirol o‟r fath yn
mynd a ni tu hwnt i faes defnyddioldeb yr egwyddorion hyn. I ymdrin yn effeithiol â‟r
cwestiynau sy‟n codi mewn achosion o‟r fath, bydd angen camu o‟r tir egwyddorol
cyffredinol a haniaethol, gan ddisgyn i‟r lefel benodol a diriaethol. Bydd angen
ystyried cefndir achosion penodol, gan edrych ar natur y gorthrwm ieithyddol a
brofwyd dros y blynyddoedd a‟r modd y mae hyn wedi effeithio ar unrhyw drafodaeth
a gynhelir ynglŷn â dyfodol gwahanol ieithoedd. Wrth wneud hynny, byddai
egwyddorion rhyddfrydol yn sicr o effeithio ar ein casgliadau ynglŷn â statws moesol
adferiad iaith, ond byddai cyd-destun penodol yr achosion hefyd yn ffactor bwysig.
Rhan 2 Camau Ymarferol a Chyfyngiadau Normadol
Felly, yn ystod rhan gyntaf y traethawd, gwelwyd mai fel amcan derbyniol ac nid fel
rhywbeth hanfodol o safbwynt cyfiawnder y dylai rhyddfrydwyr ddehongli statws
moesol adferiad iaith. Eto i gyd, nid oedd y drafodaeth hon yn dweud dim wrthym
ynglŷn â pha fath o gamau ymarferol y cred rhyddfrydwyr sy‟n dderbyniol neu‟n
briodol i‟w cymryd wrth gyrchu nod o‟r fath. Yn wir, yr un fyddai‟r sefyllfa beth
bynnag fyddai‟r casgliadau y daethpwyd iddynt yn ystod Rhan 1. Deillia hyn o‟r ffaith
fod y drafodaeth ynglŷn â dilysrwydd gwahanol gamau polisi ymarferol yn ymdrin â
phwnc adferiad iaith o bersbectif ychydig yn wahanol.
263
Boed adferiad iaith yn cael ei drin gan ryddfrydwyr fel amcan derbyniol, neu
fel rhywbeth sy‟n hanfodol o safbwynt cyfiawnder, yr hyn sy‟n sicr yw na fyddent yn
fodlon derbyn bod hynny‟n agor y drws i bob math posib o gamau polisi ymarferol.
Ond beth am rai o‟r polisïau adferol sydd ar waith ar hyn o bryd mewn
gwladwriaethau rhyddfrydol-democrataidd? Ydy rhain yn mynd yn rhy bell ac yn
tramgwyddo ar egwyddorion rhyddfrydol pwysig? Yn sicr, mewn nifer o wahanol
wledydd ar draws y byd mae gwahanol bolisïau iaith wedi bod yn sail i gryn
anniddigrwydd ymhlith rhai rhannau o‟r boblogaeth. Ar ben hynny, yn bur aml mae
gwrthwynebiadau‟r bobl hyn wedi cynnwys ensyniadau ynglŷn â‟r modd y mae
gwahanol bolisïau yn tramgwyddo egwyddorion normadol megis rhyddid, cyfiawnder
a chydraddoldeb. Ond, a oes unrhyw sail i wrthwynebiadau o‟r fath? A yw rhai o‟r
camau ymarferol a gymerir gan genhedloedd lleiafrifol, wrth geisio gwireddu‟r nod o
adfer eu hieithoedd traddodiadol, wir yn tramgwyddo egwyddorion pwysig ac felly yn
annerbyniol o bersbectif rhyddfrydol? Dyna a drafodwyd yn ystod ail ran y traethawd,
ac fe wnaed hynny trwy gloriannu trawstoriad o bolisïau iaith a fabwysiadwyd mewn
dau leoliad penodol: Quebec (Pennod 4) a Chymru (Pennod 5). Isod, nodir pa
gasgliadau y daethpwyd iddynt mewn perthynas â‟r gwahanol bolisïau a drafodwyd,
ac yna eir ati i amlinellu pa gasgliadau cyffredinol y gellir eu crynhoi o drafodaeth
Rhan 2.
Quebec
Yn ystod y bennod ar Quebec trafodwyd tri o achosion gwahanol: i ddechrau, y polisi
arwyddion dadleuol a oedd yn datgan mai dim ond y Ffrangeg gâi ymddangos ar
arwyddion cyhoeddus; yn ail, y polisi addysg, ac yn benodol y cyfyngiadau a
264
osodwyd ar argaeledd addysg Saesneg; ac yn drydydd, y drafodaeth gyfoes ynglŷn â
dyfodol y gymuned Anglophone yn Quebec, a‟r gwyn fod effaith gyffredinol y
polisïau iaith a weithredwyd dros y blynyddoedd wedi arwain at danseilio
cynaliadwyedd y gymuned honno.
Mewn perthynas â‟r achos cyntaf, sef y polisi arwyddion dadleuol, daethpwyd
i‟r casgliad ei fod yn annerbyniol. Gwelwyd fod polisi o‟r fath yn cyfyngu‟n ormodol
ar ryddid mynegiant. Er ei fod wedi‟i fabwysiadu fel rhan o ymdrech ddilys i hybu
rhagolygon y Ffrangeg, roedd yn bolisi a oedd yn amharu‟n ormodol ar allu aelodau
unigol o gymdeithas Quebec i ddefnyddio ieithoedd eraill. O ganlyniad, roedd Uchel
Lys Canada yn gywir wrth ddatgan fod polisi o‟r fath yn annerbyniol. Yn ogystal,
roedd hi‟n bwysig, o safbwynt cyfiawnder, fod llywodraeth Quebec, yn y pen draw,
wedi addasu‟r polisi, gan fabwysiadu canllawiau mwy rhesymol a oedd yn datgan y
dylai‟r Ffrangeg dderbyn goruchafiaeth ar unrhyw arwydd cyhoeddus. Wrth wneud
hynny, roedd y llywodraeth yn ail-lunio‟r polisi mewn modd a oedd yn gydnaws ag
egwyddorion rhyddfrydol.
Yn achos y polisi addysg, dadleuwyd fod y cyfyngiadau a osodwyd ar
argaeledd addysg Saesneg, ar y cyfan, yn rhai teg. Un eithriad oedd i‟r casgliad hwn,
sef achos y Canadiaid hynny sy‟n mudo i Quebec o daleithiau eraill. Eto i gyd, fel y
nodwyd, nid yw‟r polisi addysg bellach yn effeithio ar aelodau‟r garfan yma. Dim ond
mewnfudwyr ac aelodau o‟r gymuned Francophone sydd bellach yn cael eu hatal rhag
mynychu‟r ysgolion Saesneg, ac mewn perthynas â‟r achosion hyn, gwelwyd bod y
265
cyfyngiadau sydd mewn grym yn rhai cwbl dderbyniol sydd ddim yn tramgwyddo
unrhyw egwyddorion rhyddfrydol sylfaenol.
Wrth ystyried y trydydd achos, sef drafodaeth gyfoes ynglŷn â dyfodol y
gymuned Anglophone yn Quebec, nid oedd hi‟n bosib dod i gasgliad cwbl bendant.
Ar y naill law, dadleuwyd ei bod yn gwbl dderbyniol i lywodraeth Quebec geisio
dyrchafu rhagolygon y Ffrangeg, ac felly nid yw‟n gweithredu mewn modd
annerbyniol mewn perthynas â‟r gymuned Anglophone, trwy ymatal rhag addasu ei
pholisïau iaith presennol. Wedi‟r cyfan, nid yw‟r polisïau hyn wedi arwain at erlyn
aelodau‟r gymuned honno, na thramgwyddo rhyddfreiniau sylfaenol (ar wahân i
eithriad posib y polisi arwyddion). Ar ben hynny, rhaid cofio y byddai unrhyw addasu
sylweddol yn codi‟r perygl o greu sefyllfa lle câi‟r Ffrangeg ei rhoi dan bwysau
unwaith eto. Ond, ar y llaw arall, nodwyd na ddylid diystyru pryderon y gymuned
Anglophone. Dyma gymuned hanesyddol sydd wedi bodoli yn Quebec ers bron iawn
ei chychwyn ac felly mae galwadau ei haelodau yn meddu ar statws arbennig. Mewn
gwirionedd, mae hwn yn achos anodd, lle mae gwahanol fuddiannau dilys yn
gwrthdaro. O ganlyniad, rwyf yn amheus ynglŷn ag i ba raddau y gall trafodaeth
normadol ddod i gasgliadau pendant mewn perthynas ag achos o‟r fath. Yn y pendraw
bydd datrysiad llawn i unrhyw wrthdaro ond yn deillio o drafodaeth ddemocrataidd
agored sy‟n canfod ffordd deg o gydbwyso gwahanol fuddiannau.
Cymru
Tri o achosion a drafodwyd yn ystod y bennod ar Gymru hefyd: i ddechrau, yr arfer o
drin y Gymraeg fel sgìl hanfodol ym maes cyflogaeth; yn ail, polisïau sy‟n sefydlu‟r
266
Gymraeg fel prif iaith addysg gynradd mewn rhai rhannau o Gymru; ac yn drydydd,
yr ymdrechion diweddar i ddylanwadu ar arferion ieithyddol preifat, trwy annog rhieni
newydd i drosglwyddo‟r Gymraeg i‟w plant.
Yn achos y drafodaeth ynglŷn â statws y Gymraeg ym maes cyflogaeth,
gwelwyd fod y camau a gymerwyd gan wahanol gyrff dros y deg i ugain mlynedd
diwethaf yn rhai cwbl dderbyniol. Nid yw‟r arfer o drin y Gymraeg fel sgìl hanfodol
yn mewn perthynas â rhai swyddi wedi arwain at danseilio‟r pwyslais rhyddfrydol ar
gyfle cyfartal a‟r arfer o benodi ar sail teilyngdod. Yn hytrach, yr hyn a welwyd yw
bod ymestyn y dehongliad o deilyngdod i gynnwys dimensiwn ieithyddol yn gam
cwbl resymol a phriodol mewn gwlad fel Cymru lle caiff gwasanaethau cyhoeddus eu
darparu mewn mwy nag un iaith. Yr unig fater a nodwyd a oedd yn galw am sylw
pellach, oedd argaeledd addysg Gymraeg pe bai camau‟n cael eu cymryd i ehangu ar
yr arfer o drin y Gymraeg fel sgìl hanfodol ym maes cyflogaeth. Pe bai hynny‟n
digwydd, nodwyd y byddai angen sicrhau bod y ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn
datblygu hefyd, er mwyn sicrhau nad oedd cyfleoedd economaidd rhai pobl yn cael eu
tanseilio‟n ormodol yn sgil amgylchiadau cefndirol di-Gymraeg a oedd y tu hwnt i‟w
rheolaeth. Fodd bynnag, pwynt i‟w ystyried ymhellach oedd hwn, yn hytrach nag
ergyd sylfaenol i ddilysrwydd sylfaenol yr ymdrech i ddyrchafu statws y Gymraeg ym
maes cyflogaeth.
Derbyniol hefyd oedd y polisïau addysg hynny a fabwysiadwyd gan Gyngor
Sir Dyfed yn ystod yr 1980au. Yn groes i honiadau Education First, nid oedd y polisi
hwn yn haeddu cael ei ddisgrifio fel un „gorthrymol‟ a oedd yn tramgwyddo
267
egwyddorion pwysig. Yn y lle cyntaf, gwelwyd nad oedd dim byd o‟i le ar yr arfer o
orfodi pob plentyn a fynychai ysgol gynradd yn Nyfed i gael eu cyflwyno mewn rhyw
fodd i‟r Gymraeg. Nid oedd arfer o‟r fath yn arwain at danseilio symudoledd
cymdeithasol y plant. Gwelwyd hefyd nad oedd dim byd annerbyniol ynglŷn â
bodolaeth yr ysgolion Categori A, a‟r ffaith fod disgwyl, mewn rhai ardaloedd, i bob
plentyn fynychu ysgolion a oedd yn gweithredu‟n bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid oedd polisi o‟r fath yn achosi unrhyw niwed, nac yn tramgwyddo unrhyw
fuddiannau pwysig ymhlith y sawl a fyddai wedi ffafrio cael mynychu ysgolion
Saesneg ac felly nid oedd unrhyw sail i‟r gwrthwynebiadau a godwyd.
Yn olaf, gwelwyd nad oes angen i ryddfrydwyr boeni ynglŷn â‟r ymdrechion a
wnaed yn ddiweddar i ddylanwadu ar arferion ieithyddol preifat, trwy annog rhieni
newydd i drosglwyddo‟r Gymraeg i‟w plant. I ddechrau, gwelwyd nad yw
gweithgarwch corff fel Twf yn effeithio mewn unrhyw fodd ar ryddid unigolion i
ddewis pa iaith a ddefnyddir ganddynt mewn cyd-destunau preifat. Ar ben hynny,
gwelwyd nad yw‟r math o ddadleuon a ddefnyddir er mwyn ceisio darbwyllo pobl o
werth dysgu Cymraeg yn rhai y byddai rhyddfrydwyr yn eu hystyried yn annerbyniol.
Mae‟r wybodaeth a ddarperir gan Twf yn canolbwyntio ar ffactorau megis y modd y
gall siarad mwy nag un iaith hybu datblygiad cymdeithasol, addysgiadol ac
economaidd plentyn; hynny yw, mae‟r pwyslais yn cael ei roi ar gyfleoedd a sgiliau.
Ni cheir unrhyw ymgais i geisio siapio daliadau diwylliannol unigolion, gan eu
hannog i fabwysiadu dehongliad penodol o‟r hyn a olyga i fod yn ddinesydd Cymreig.
At ei gilydd felly, gellir casglu‟n ddigon hyderus nad yw gweithgaredd cynllun Twf
yn tramgwyddo unrhyw egwyddorion rhyddfrydol pwysig.
268
Quebec a Chymru: Casgliadau Cyffredinol
Yn dilyn y trafodaethau manwl hyn o bolisïau iaith Quebec a Chymru, a ellir crynhoi
unrhyw gasgliadau cyffredinol ynglŷn â dilysrwydd yr arferion polisi a ddatblygwyd
mewn cymdeithasau rhyddfrydol-democrataidd er mwyn ceisio adfer sefyllfa
gwahanol ieithoedd lleiafrifol? Wrth gwrs, ni ellir dweud i sicrwydd bod pob un cam
polisi adferol a gymerwyd dros y blynyddoedd diwethaf, neu sy‟n debygol o gael ei
gymryd rywbryd yn y dyfodol, yn mynd i fod yn gwbl dderbyniol, gan osgoi
tramgwyddo unrhyw egwyddorion rhyddfrydol. Byddai hynny‟n gwbl amhosib. I
ddechrau, fel y gwelwyd droeon yn ystod penodau Rhan 2, mae‟n ddigon posib i
bolisïau adferol gael eu fframio mewn modd sy‟n digwydd camu dros drothwy‟r hyn a
ystyrir yn dderbyniol. Ymhellach, gwelwyd nad posibiliad yn unig mo hyn. Ar rai
adegau penodol mae polisïau adferol wedi mynd yn rhy bell ac wedi tramgwyddo
egwyddorion rhyddfrydol. Gwelwyd hyn wrth drafod ymdrech llywodraeth Quebec i
gyfyngu ar iaith arwyddion cyhoeddus; polisi a oedd yn cyfyngu mewn modd
annerbyniol ar ryddid mynegiant. Eto i gyd, er gwaethaf achosion unigol o‟r fath, pan
ystyrir y sampl o bolisïau a drafodwyd yn ei gyfanrwydd, gwelir bod y darlun yn un
arbennig o gadarnhaol. Ar y cyfan, gellir datgan bod tystiolaeth y traethawd hwn yn
awgrymu bod y mwyafrif helaeth arferion polisi a ddatblygwyd mewn cymdeithasau
rhyddfrydol-democrataidd, wrth geisio adfer sefyllfa gwahanol ieithoedd lleiafrifol, yn
tueddu i gydorwedd yn gyfforddus gydag egwyddorion rhyddfrydol.1
1 Fel a eglurwyd yn ystod y Cyflwyniad, nid oedd hi‟n bosib sicrhau bod pob enghraifft bosib o bolisi
iaith sy‟n ceisio cynnal ac adfer sefyllfa iaith leiafrifol yn cael ei thrafod yn ystod y traethawd hwn. O
ganlyniad, rhaid oedd canolbwyntio ar drawstoriad o enghreifftiau. Un pwnc na dderbyniodd sylw
digonol yn sgil hyn oedd effaith mudo ar gymunedau ieithyddol lleiafrifol, ac yn benodol, natur y
camau y gall gwladwriaethau rhyddfrydol-democrataidd eu cymryd wrth ymdrin ag effeithiau
ieithyddol y broses honno. Cyffyrddwyd ar y pwnc yn ystod y gwahanol drafodaethau ar bolisi addysg.
Fodd bynnag mae llawer mwy i‟w ddweud ar y mater. Wrth drafod mudo yng nghyd-destun polisïau
addysg, yr hyn a wneir, mewn gwirionedd, yw trafod beth all y wladwriaeth ei wneud i gefnogi iaith
benodol ar ôl i bobl symud. Fodd bynnag, trwy drafod mudo yng nghyd-destun meysydd polisi eraill, er
269
* * * * * * * * * * * * * *
Gwelwyd uchod beth yw‟r casgliadau y daethpwyd iddynt wrth drafod y ddau
gwestiwn ymchwil sylfaenol a osodwyd ar ddechrau‟r traethawd. Fodd bynnag, wrth
gloi, priodol fyddai ceisio camu tu hwnt i‟r casgliadau penodol hyn, gan fyfyrio
ynglŷn â‟r traethawd yn ei gyfanrwydd. Pa gasgliadau cyffredinol y gellir eu crynhoi o
drafodaethau‟r penodau blaenorol a‟u cynnig i‟r sawl sy‟n ymddiddori mewn
meysydd megis athroniaeth wleidyddol neu bolisi iaith? Nodir isod dri phwynt
pwysig.
I ddechrau, gellir dadlau fod y traethawd yn cadarnhau‟r dybiaeth a nodwyd yn
y cyflwyniad, sef bod myfyrio normadol ynglŷn â pholisi iaith, ac ynglŷn ag adferiad
iaith yn benodol, yn debygol o gyfrannu at gyfoethogi‟r gwaith a wneir mewn nifer o
feysydd ieithyddol mwy traddodiadol, er enghraifft cymdeithaseg iaith a chynllunio
iaith. Ar y cyfan, bu trafodaethau normadol yn absennol o‟r gwaith a gyhoeddwyd yn
y meysydd traddodiadol hyn. Yn hytrach, tueddwyd i ganolbwyntio ar faterion
empeiraidd ac ymarferol: Pa ffactorau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol sy‟n
dylanwadu ar statws gwahanol ieithoedd? Pa fath o bolisïau sy‟n debygol o newid y
statws hwn? Sut dylid penderfynu pa bolisïau i‟w blaenoriaethu? Wrth gwrs, mae
ymdrin â chwestiynau o‟r fath yn hollbwysig. Fodd bynnag, fel a welwyd yn ystod y
traethawd hwn, mae unrhyw ymgais i geisio dylanwadu ar statws gwahanol ieithoedd
enghraifft tai a chynllunio, gellir ystyried i ba raddau y mae rhyddfrydwyr yn barod i ganiatáu i‟r
wladwriaeth gymryd camau i ffrwyno gallu pobl i symud yn y lle cyntaf. Mae hwn yn bwnc pwysig, yn
enwedig yng nghyd-destun polisi iaith yng Nghymru, ac am hynny fy mwriad yw mynd ati i‟w drafod
ymhellach yn ystod y blynyddoedd nesaf.
270
yn sicr o godi nifer o gwestiynau normadol hefyd: Pa ieithoedd y dylid eu cefnogi? Pa
nod y dylem anelu ato wrth gynnig y gefnogaeth hon? Beth yw statws moesol y nod a
osodir, hanfodol o safbwynt cyfiawnder yntau derbyniol? Pa gamau ymarferol sy‟n
dderbyniol i‟w cymryd wrth gyrchu‟r nod hwn? Nid yw rhain yn gwestiynau y gall y
sawl sy‟n ymddiddori ym maes polisi iaith eu hanwybyddu. Yn wir, wrth i‟r broses o
gynnig cefnogaeth i wahanol ieithoedd lleiafrifol ddod yn fwyfwy cyffredin, mae‟n
debygol y bydd cwestiynau o‟r fath yn dod yn fwyfwy perthnasol. O ganlyniad, mae‟n
hollbwysig fod y drafodaeth normadol ynglŷn â pholisi iaith yn parhau ac yn derbyn
sylw manwl, nid yn unig ymhlith athronwyr gwleidyddol, ond hefyd yn y meysydd
ieithyddol mwy traddodiadol. Mawr obeithiaf fod y traethawd hwn yn cyfrannu at y
broses o ddatblygu‟r drafodaeth honno.
Ar ben hynny, ar sail y gwaith a wnaed wrth lunio‟r traethawd hwn, gellir
dadlau y byddai myfyrio normadol pellach ynglŷn â pholisi iaith yn cyfrannu mewn
ffordd bwysig at ddatblygu‟r drafodaeth athronyddol gyfoes ynglŷn ag
amlddiwylliannedd. Deillia hyn o‟r ffaith fod polisi iaith yn faes sy‟n cynnig
cyfleoedd arbennig o dda i ddysgu mwy ynglŷn â‟r terfynau hynny na ddylai
rhyddfrydwyr eu croesi wrth geisio cynnig cefnogaeth ymarferol i wahanol grwpiau
diwylliannol lleiafrifol. Fel a welwyd yn ystod y traethawd hwn, mae‟r broses o
ddatblygu a gweithredu polisïau iaith, ac yn arbennig felly'r polisïau hynny sy‟n ceisio
adfer rhagolygon iaith leiafrifol, yn un sy‟n tueddu i amlygu tensiynau egwyddorol
mewn modd arbennig o glir, efallai yn fwy nag unrhyw faes diwylliannol arall. Wedi‟r
cyfan, mae adfer iaith yn broses sy‟n aml yn arwain at osod gofynion sylweddol ar
nifer o bobl, gan gynnwys pobl sydd efallai ddim yn siarad yr iaith dan sylw, neu sydd
271
ddim yn dymuno ei gweld yn cael ei hadfer. Yn aml, bydd hyn yn arwain at densiynau
sylweddol ac at ddadlau ynglŷn ag egwyddorion creiddiol megis rhyddid a
chydraddoldeb. Wrth gwrs, trwy astudio‟r tensiynau hyn yn ofalus, fel a wnaed yn
ystod y traethawd hwn, gellir dysgu llawer ynglŷn â beth yn union yw hyd a lled y
camau hynny y gall gwladwriaethau rhyddfrydol-democrataidd eu cymryd wrth
gefnogi ieithoedd gwan. Ond ar ben hynny, mae‟n bosib fod y gwersi a ddysgir trwy
gyfrwng trafodaeth o‟r fath ynglŷn â pholisi iaith yn rhai y gellir eu trosglwyddo a‟u
cymhwyso, maes o law, i drafodaethau eraill sy‟n ymdrin â nodweddion gwahanol
megis crefydd, rhyw neu hil.
Eto i gyd, ochr yn ochr â‟r ddau bwynt uchod ynglŷn â phwysigrwydd polisi
iaith fel pwnc a drafodir o bersbectif normadol, mae ystyriaeth gyffredinol o gynnwys
y traethawd hwn hefyd yn ein galluogi i wneud rhai sylwadau pwysig ynglŷn â natur
rhyddfrydiaeth gyfoes. Fel a nodwyd yn ystod y Cyflwyniad, tua ugain mlynedd yn ôl
byddai llawer o bobl wedi mynegi cryn amheuaeth ynglŷn â‟r graddau y gellid ymdrin
yn ystyrlon â phwnc megis polisi iaith o bersbectif rhyddfrydol. Bryd hynny, tybiwyd
mai syniadaeth sy‟n canolbwyntio‟n bennaf ar y berthynas rhwng yr unigolyn a‟r
wladwriaeth yw rhyddfrydiaeth, ac felly ei fod yn ddiystyriol o bwysigrwydd
ymlyniadau ehangach megis iaith a diwylliant. Canlyniad hyn oedd argyhoeddi nifer o
athronwyr bod yr amser wedi dod i ymwrthod â rhyddfrydiaeth. Tybiwyd mai dim ond
trwy fabwysiadu fframwaith newydd fframwaith mwy cymunedol ei natur y gellid
ymateb yn ystyrlon a theg i‟r gwahanol gwestiynau diwylliannol a oedd yn prysur
ennill lle mwyfwy pwysig ar yr agenda gwleidyddol.
272
Fodd bynnag, fel sy‟n bur hysbys erbyn hyn, daeth carfan newydd o athronwyr
pobl megis Will Kymlicka, Joseph Raz a Yeal Tamir i‟r casgliad mai cam gwag
fyddai ymwrthod yn llwyr â rhyddfrydiaeth, gan gofleidio‟r safbwynt cymunedol. Yn
nhyb yr athronwyr hyn, roedd hi‟n gwbl bosib goresgyn y gwendidau sylfaenol a oedd
yn tueddu i nodweddu‟r modd y byddai rhyddfrydwyr yn ymdrin â gwahanol
gwestiynau diwylliannol, a hynny o fewn terfynau rhyddfrydol. Dadleuwyd fod
rhyddfrydiaeth, er gwaethaf popeth, yn syniadaeth a oedd yn medru cyfiawnhau estyn
cydnabyddiaeth neu gefnogaeth arbennig i wahanol grwpiau diwylliannol. Ymhellach,
mynnwyd nad cefnogaeth ymylol yn unig fyddai hwn, ond cefnogaeth a oedd, mewn
rhai achosion, yn medru bod yn arbennig o bellgyrhaeddol. Yn y pen draw,
arweiniodd gwaith yr athronwyr uchod carfan y cyfeirir atynt weithiau fel
rhyddfrydwyr diwylliannol at newid sylfaenol yn y modd y cai gwahanol
gwestiynau diwylliannol eu cloriannu gan athronwyr gwleidyddol. Bellach, gwelwyd
nad oedd yn rhaid ymwrthod ag egwyddorion rhyddfrydol pwysig, megis rhyddid
unigol a chydraddoldeb, cyn gellid cyfrannu‟n ystyrlon at y drafodaeth honno.
I raddau helaeth, gellid dehongli‟r traethawd yma fel darn o waith sy‟n
cadarnhau cywirdeb y symudiad hwn. Trwy edrych yn fanwl ar y broses o adfer iaith,
cafwyd cadarnhad pellach fod rhyddfrydiaeth gyfoes yn syniadaeth sy‟n medru
cymeradwyo ymdrechion i gefnogi gwahanol grwpiau diwylliannol. Ar ben hynny, ac
efallai‟n bwysicach, gwelwyd fod y gefnogaeth honno yn medru estyn i nifer o
fesurau pellgyrhaeddol. Mae hwn yn gasgliad arbennig o bwysig, sy‟n meddu ar
berthnasedd ar y lefel athronyddol ac ar y lefel ymarferol. I ddechrau, mae‟n gasgliad
sy‟n haeddu derbyn sylw gan athronwyr gwleidyddol cyfoes, gan ei fod, fel a nodwyd,
273
yn cynnig cadarnhad pellach o dybiaethau‟r sawl a barhaodd i arddel rhyddfrydiaeth
pan oedd y syniadaeth yn cael ei cholbio ar sail ei diffygion diwylliannol a
chymunedol. Fodd bynnag, mae hefyd yn gasgliad a ddylai gael ei dreulio‟n ofalus
gan ymarferwyr gwleidyddol, ac yn benodol rhai o‟r bobl hynny sy‟n gweithredu fel
lladmeryddion ar ran gwahanol ieithoedd lleiafrifol. A siarad yn gyffredinol, bu tuedd
ymhlith rhai o‟r bobl hyn i gyflwyno eu dadleuon mewn modd sy‟n diystyru
perthnasedd rhyddfrydiaeth. Yn sicr, fe amlygwyd hyn droeon yn ystod y drafodaeth
ieithyddol yng Nghymru. Dyma drafodaeth sy‟n draddodiadol wedi rhoi pwyslais
mawr ar rôl y gymuned. Nid yw hynny yn ei hun yn beth drwg. Eto i gyd, ar adegau,
mae‟r awydd hwn i ddyrchafu rôl y gymuned wedi arwain at ddadleuon sy‟n awgrymu
y dylid bod yn amheus o syniadau rhyddfrydol eu natur, gan nad yw syniadau o‟r fath
gyda‟u pwyslais unigolyddol – yn gyfrwng i ddiogelu ac adfer ffenomenon
gymdeithasol fel iaith. Eto i gyd, fel a welwyd yn ystod y traethawd hwn, cred
gyfeiliornus yw hon. Y gwir amdani yw bod rhyddfrydiaeth yn syniadaeth sy‟n meddu
ar yr adnoddau deallusol i ddilysu sawl agwedd o‟r broses o adfer iaith leiafrifol.
Yn wir, wrth edrych i‟r dyfodol, mae‟n hollbwysig fod y drafodaeth normadol
ynglŷn ag adferiad iaith yn parhau i gael ei datblygu o fewn terfynau rhyddfrydol.
Wedi‟r cyfan, dyma syniadaeth sy‟n cynnig sail i rai o‟n gwerthoedd a‟n
rhyddfreiniau mwyaf sylfaenol, ac yn sgil hynny, yn cynrychioli rhai pethau sy‟n rhy
bwysig i ymwrthod â hwy.
274
Llyfryddiaeth
Addis, A. (1992). „Individualism, Communitarianism and the Rights of Ethnic
Minorities‟, Notre Dame Law Review, 67/3: 615 676.
Aitchison , J. a Carter, H. (1994). A Geography of the Welsh Language 1961 1991
(Cardiff: University of Wales Press).
Aitchison, J. a Carter, H. (2000). Language, Economy and Society: The Changing
Fortunes of the Welsh Language in the Twentieth Century (Cardiff: University of
Wales Press).
Aitchison, J. a Carter, H. (2004). Spreading the Word: The Welsh Language 2001
(Talybont: Y Lolfa).
Alliance Quebec (1982). For a Future Together / Vers l’avenir ensemble (Montreal:
Alliance Quebec).
Alliance Quebec (1984). A Policy for the English-speaking community of Quebec
(Montreal: Alliance Quebec).
Alliance Quebec (2001). „La communauté d‟expression anglaise du Québéc‟. Papur a
gyflwynwyd i‟r Commission des États généraux sur la situation et l‟avenir de la
langue française au Québec.
d‟Anglejan, A. (1984). „Language Planning in Quebec: An Historical Overview and
Future Trends‟, yn Bourhis, R. Y. (gol.), Conflict and Language Planning in Quebec
(Clevedon: Multilingual Matters), 29 52.
Archard, D. (2002). „Children, Multiculturalism and Education‟, yn Archard, D. a
Macleod, C. M. (gol.), The Moral and Political Status of Children (Oxford: Oxford
University Press).
Avineri, S. a De-Shalit, A. (gol.) (1992). Communitarianism and Individualism
(Oxford: Oxford University Press).
Baker, C. (2001). Foundations of Bilingual Education and Bilingualism (Clevedon:
Multilingual Matters).
Barbaud, P. (1998). „French in Quebec‟, yn Edwards, J. (gol.), Language in Canada
(Cambridge: Cambridge University Press), 177 201.
Bauböck, R. (1995). Transnational Citizenship: Membership and Rights in
International Migration (Aldershot: Edward Elgar).
275
Bauböck, R. (2001). „Cultural Citizenship, Minority Rights and Self-Government‟, yn
Aleinikoff, A. a Klusmeyer, D. (goln), Citizenship Today: Global Perspectives and
Practices (Washington: Carnegie Endowment for International Peace), 319 348.
Barry, B. (2001). Culture and Equality (Cambridge: Polity Press).
Beauchamp, T. L. (2002). „In Favour of Affirmative Action‟, yn Cahn, S. M. (gol.),
The Affirmative Action Debate (London: Routledge), 209 223.
Bell, D. A. (1993). Communitarianism and its Critics (Oxford: Oxford University
Press).
Benhabib, S. (2002). The Claims of Culture: Equality and Diversity in a Global Era
(Princeton: Princeton University Press).
Bergmann, B. R. (2002). „In Defense of Affirmative Action‟, yn Cahn, S. M. (gol.),
The Affirmative Action Debate (London: Routledge), 145 151.
Blackaby, D a Drinkwater, S. (1997). „Welsh-Speakers and the Labour Market‟,
Contemporary Wales, 9: 158 170.
Blake, M. (2003). „Language Death and Liberal Politics‟, yn Kymlicka, W. a Patten,
A. (goln), Language Rights and Political Theory (Oxford: Oxford University Press),
210 229.
Boran, I. (2003). „Global Linguistic Diversity, Public Goods and the Principle of
Fairness‟, yn Kymlicka, W. a Patten, A. (goln), Language Rights and Political Theory
(Oxford: Oxford University Press), 189 209.
Bouchard, P. (2002). „La langue du Travail: Une Situation qui Progresse, Mais
Toujours Teintée d‟une Certaine Précarité‟, yn Bouchard, P. a Bourhis, R. Y. (goln),
L’aménagement linguistique au Québec: 25 ans d’application de la Charte de la
langue français (Québec: Office québécois de la langue françasie; Publications du
Québec), 85 104.
Bouchard, P. a Bourhis, R. Y. (2002). „Introduction: La Charte de la langue française.
Bilan, Enjeux et Perspectives‟, yn Bouchard, P. a Bourhis, R. Y. (goln),
L’aménagement linguistique au Québec: 25 ans d’application de la Charte de la
langue français (Québec: Office québécois de la langue françasie; Publications du
Québec), 9 16.
Bourdieu, P. (1991). Language and Symbolic Power (Cambridge: Polity Press).
Bourgeois, D. (2006). The Canadian Bilingual Districts: From Cornerstone to
Tombstone (Montreal: McGill-Queens University Press).
Bourhis, R. Y. (1984). „Introduction: Language Policies in Multilingual Settings‟, yn
276
Bourhis, R. Y. (gol.), Conflict and Language Planning in Quebec (Clevedon:
Multilingual Matters), 1 28.
Bourhis, R. Y. (1994). „Introduction and Overview of Language Events in Canada‟,
International Journal of the Sociology of Language, 105/106: 5 36.
Bourhis, R. Y. (2001). „Reversing Language Shift in Quebec‟, yn Fishman, J. A.
(gol.), Can Threatened Languages be Saved? (Clevedon: Multilingual Matters), 101
141.
Bourhis, R. Y. (2008). „The English-Speaking Communities of Quebec: Vitality,
Multiple Identities and Linguicism‟, yn Bourhis, R. Y. (gol.), The Vitality of the
English-Speaking Communities of Quebec: From Community Decline to Revival
(Montreal: CEETUM, Université de Montréal), 127 164.
Bourhis, R. Y. a Landry, R. (2002). „La Loi 101 et l‟Aménagement du Paysage
Linguistique au Québec‟, yn Bouchard, P. a Bourhis, R. Y. (goln), L’aménagement
linguistique au Québec: 25 ans d’application de la Charte de la langue français
(Québec: Office québécois de la langue françasie; Publications du Québec), 107
131.
Brooks, S. (2006). „The Idioms of Race: The „Racist Nationalist‟ in Wales as
Bogeyman‟, yn Chapman, R. (gol.), Idiom of Dissent (Llandysul: Gwasg Gomer), 139
165.
Buchanan, A. (1989). „Assessing the Communitarian Critique of Liberalism‟, Ethics,
99/4: 852 882.
Burtt, S. (2003). „The Proper Scope of Parental Authority: Why We Don‟t Owe
Children an „Open Future‟, yn Macedo, S. a Young, I. M. (goln), Child, Family and
State (New York: New York University Press).
Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1996). Cynlluniau Iaith Gymraeg: Eu Paratoi a’u
Cymeradwyo yn Unol â Deddf Iaith Gymraeg 1993 (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith
Gymraeg).
Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2003). Trosglwyddo’r Iaith o Fewn y Teulu: Dadansoddiad
Ystadegol
http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/index.aspx?categoryid=26
(Cyrchwyd 23.9.08).
Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2003). Magu Plant yn Ddwyieithog: Cyngor i Rieni
(Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).
Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2003). Datblygu Dwyieithrwydd Mewn Plant: Cyngor ar
Gyfer Gweithwyr Proffesiynol (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).
277
Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2008). Hyrwyddo Gweithleoedd Dwyieithog: Dogfen
Ymgynghorol (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).
Cahn, S. M. (2002). „Introduction‟, yn Cahn, S. M. (gol.), The Affirmative Action
Debate (London: Routledge), xi xiv.
Caldwell, G. (1984). „Anglo-Quebec: Demographic Realities and Options for the
Future‟, yn Bourhis, R. Y. (gol.), Conflict and Language Planning in Quebec
(Clevedon: Multilingual Matters), 205 221.
Caldwell, G. (1994). „English Quebec: Demographic and Cultural Reproduction‟,
International Journal of the Sociology of Language, 105/106: 153 179.
Caldwell, G. (1998). „English Quebec‟, yn Edwards, J. (gol.), Language in Canada
(Cambridge: Cambridge University Press), 273 292.
Caldwell, G. (2002). „La Charte de la langue française: Vue par les Anglophones‟, yn
Bouchard, P. a Bourhis, R. Y. (goln), L’aménagement linguistique au Québec: 25 ans
d’application de la Charte de la langue français (Québec: Office québécois de la
langue françasie; Publications du Québec), 27 34.
Caldwell, G. a Waddell, E. (goln) (1982). The English of Quebec: From Majority to
Minority Status (Québec: Institut québécois de recherché sur la culture).
Calvet, J. (1998). Language Wars and Linguistic Politics (Oxford: Oxford University
Press).
Cardinal, L. (1999). „Linguistic Rights, Minority Rights and National Rights: Some
Clarifications‟, Inroads, 8: 77 85.
Carens, J. H. (1995). „Immigration, Political Community, and the Transformation of
Identity: Quebec‟s Immigration Policies in Critical Perspective‟, yn Carens, J. H.
(gol.), Is Quebec Nationalism Just? Perspectives From Anglophone Canada
(Montreal: McGill-Queen‟s University Press), 20 – 81.
Carens, J. H. (2000). Culture, Citizenship and Community: A Contextual Exploration
of Justice as Evenhandedness (Oxford: Oxford University Press).
Carter, H. (1990). „Dirywiad yr Iaith Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif‟, yn Jenkins, G.
H. (gol.), Cof Cenedl V: Ysgrifau ar Hanes Cymru (Llandysul: Gwasg Gomer), 147
176.
Chevrier, M. (1997). Laws and Language in Québec: The Principles and Means of
Québec’s Language Policy (Gouvernement du Quebec: Ministère des Relations
Internationals).
278
Chevrier, M. (2003). „A Language Policy for a Langaue in Exile‟, yn Larrivée, P.
(gol.), Linguistic Conflict and Language Laws: Understanding the Quebec Case
(London: Palgrave Macmillan), 118 161.
Clifford, D. (1985). „Gwynedd vs CRE‟, Planet, 52: 123 126.
Cochran, D. C. (1999). The Color of Freedom: Race and Contemporary American
Liberalism (Albany: SUNY Press).
Cloe, P. (2000). Philosophies of Exclusion: Liberal Political Theory and Immigration
(Edinburgh: Edinburgh University Press).
Coleman, W. (1982). „From Bill 22 to Bill 101: The Politics of Language Under the
P.Q.‟, Canadian Journal of Political Science, 14/3: 459 485.
Coleman, W. (1984). The Independence Movement in Quebec 1945 1980 (Toronto:
University of Toronto Press).
Communication Québec (1979). Dialogue entre le Gouvernement du Québec et des
représentants des communautés ethniques et de la communauté anglophone des
Cantons d’Est (Québec: Communication Québec).
Connolly, W. (1991). Identity / Difference: Democratic Negotiations of Political
Paradox (Ithica, NY: Cornell University Press).
Connolly, W. (1995). The Ethos of Pluralization (Minneapolis: University of
Minnesota Press).
Connolly, W. (1996). „Pluralism, Multiculturalism and the Nation-State: Rethinking
the Connections‟, Journal of Political Ideologies 1/1: 53 73.
Conseil Catholique d‟Expression Anglaise (2001). „Mémoire Présenté à la
Commission des États Généraux sur la situation et l‟Avenir de la Langue Française au
Québec‟. Papur a gyflwynwyd i‟r Commission des États généraux sur la situation et
l‟avenir de la langue française au Québec.
Cooper, R. L. (1989). Language Planning and Social Change (Cambridge: Cambridge
University Press).
Corbeil, J. C. (2007). L’Embarras des langues: Origine, conception et évolution de la
politique linguistique québécoise (Montréal: Québéc Amerique).
Costa, J. (2003). „Catalan Linguistic Policy: Liberal or Illiberal?‟, Nations and
Nationalism, 9/3: 413 432.
Côté, M. (1992). „Language and Public Policy‟, yn Richards, John (gol.), Survival:
Official Language Rights in Canada (Toronto: C.D. Howe Institute), 3 8.
279
Coulmas, F. (gol.) (1997). The Handbook of Sociolinguistics (Oxford: Blackwell).
Coulombe, P. A. (1995). Language Rights and French Canada (New York: Peter
Lang Publishing).
Cranston, M. (1973). What are Human Rights? (London: The Bodley Head).
Crystal, D. (2000). Language Death (Cambridge: Cambridge University Press).
Cyngor Sir Ceredigion (1968). Datganiad ar Bolisi Iaith, Pwyllgor Addysg
Ceredigion, Hydref 1968.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1999). Dwyieithrwydd Gweithredol (Aberystwyth:
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg).
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (2001). Deddf Iaith Newydd i’r Ganrif Newydd
(Aberystwyth: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg).
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (2005). Deddf Iaith Newydd i’r Gymraeg: Dyma’r
Cyfle! (Aberystwyth: Cymdeithas yr Iaith Gymraeg).
Dafis, C. (1979). Cymdeithaseg Iaith a’r Gymraeg (Llandysul: Cymdeithas yr Iaith
Gymraeg).
Dafis, C. (2005). Mab y Pregethwr: Hunangofiant Cyngog Dafis (Talybont: Y Lolfa).
Davies, E. (2005). „Welsh in the Family‟, Agenda, Summer 2005: 12 14.
Davies, G. P. (1994). „Yr Iaith Gymraeg a Deddfwriaeth‟, yn Williams, Rh. H.,
Williams, H. a Davies, E. (goln), Gwaith Cymdeithasol a’r Iaith Gymraeg (Caerdydd:
Gwasg Prifysgol Cymru), 41-73.
Davies, G. P. (2000). „Statws Cyfreithiol yr Iaith Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif‟, yn
Jenkins, G. H. a Williams, M. A. (goln), ‘Eu Hiaith a Gadwant’? Y Gymraeg yn yr
Ugeinfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 207 238.
Davies, Janet (1999). The Welsh Language (Cardiff: University of Wales Press).
Davies , John (2007). Hanes Cymru (Llundain: Allen Lane).
Day, G. (1989). „A Million on the Move? Population Change and Rural Wales‟,
Contemporary Wales, 3: 137 159.
De Schutter, H. (2007). „Language Policy and Political Philosophy‟, Language
Problems and Language Planning, 31/1: 1 23.
De Vires, J. (1984). „Factors Affecting the Survival of Linguistic Minorities‟, Journal
of Multilingual and Multicultural Development, 5/3-4: 207 216.
280
Dickinson, J. a Young, B. (2003). A Short History of Quebec (Montreal: McGill-
Queens University Press).
Dion, S. (1992). „Explaining Québec Nationalism‟, yn Weaver, R. K. (gol.), The
Collapse of Canada (Washington: Brookings Institution).
Dumas, G. (2007). „Quebec‟s Language Policy: Perceptions and Realities‟, yn
Williams, C. H. (gol.), Language and Governance (Cardiff: University of Wales
Press).
Dworkin, R. (1977). Taking Rights Seriously (London: Duckworth).
Dworkin, R. (1978). „Liberalism‟, yn Hampshire, S. (gol.), Public and Private
Morality, (Cambridge: Cambridge University Press) 113 143.
Dworkin, R. (1992). „Liberal Community‟, yn Avineri, S. a De-Shalit, A. (goln),
Communitarianism and Individualism (Oxford: Oxford University Press), 205 223.
Dworkin, R. (2002). „Bakke‟s Case: Are Quotas Unfair?‟, yn Cahn, S. M. (gol.), The
Affirmative Action Debate (London: Routledge), 103 112.
Eastman, C. (1983). Language Planning: An Introduction (San Fransisco: Chandler
and Sharp).
Eastman, C. (1984). „Language, Ethnic Identity and Change‟, yn Edwards, J. (gol.),
Linguistic Minorities, Policies and Pluralism (London: Academic Press), 259 276.
Edwards, G. (1993). „Education and Welsh Language Planning‟, Language, Culture
and Curriculum, 6/3: 257 273.
Edwards, H. T. (1987). „Y Gymraeg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg‟, yn Jenkins,
G. H. (gol.), Cof Cenedl II: Ysgrifau ar Hanes Cymru (Llandysul: Gwasg Gomer), 119
151.
Edwards, J. (1984). „Language, Diversity and Identity‟, yn Edwards, J. (gol.),
Linguistic Minorities, Policies and Pluralism (London: Academic Press), 277 310.
Edwards, J. (1985). Language Society and Identity (Oxford: Blackwell Publishers).
Edwards, J. (gol.) (1998). Language in Canada (Cambridge: Cambridge University
Press).
Edwards, V. a Pritchard Newcombe, L. (2005). „Language Transmission in the Family
in Wales: An Example of Innovative Language Planning‟, Language Problems and
Language Planning, 29/2: 135 150.
Employment Appeal Tribunal (1986). Gwynedd County Council v Jones. EAT 554/85.
281
Equality Party (2001). „Equality Party Brief‟. Papur a gyflwynwyd i‟r Commission
des États généraux sur la situation et l‟avenir de la langue française au Québec.
Fishman, J. A. (1972). The Sociology of Language: An Interdisciplinary Social
Science Approach to Language in Society (Rowley, Massachusetts: Newbry House).
Fishman, J. A. (gol.) (1985). The Rise and Fall of the Ethnic Revival: Perspectives on
Language and Ethnicity (Mouton: New York).
Fishman, J. A. (1991). Reversing Language Shift: Theoretical and Empirical
Foundations of Assistance to Threatened Languages (Clevedon: Multilingual
Matters).
Fishman, J. A. (1992). „Status and Corpus Planning in Conjunction with Efforts on
Behalf of Reversing Language Shift‟, yn Hughes, M. (gol.), The Challenge of
Diversity (Aberystwyth: Prifysgol Cymru Aberystwyth), 37 54.
Fishman, J. A. (gol.) (2001). Can Threatened Languages be Saved? (Clevedon:
Multilingual Matters).
Foucher, P. (2008). „Legal Status of Anglophone Communities in Quebec: Options
and Some Recommendations‟, yn Bourhis, R. Y. (gol.), The Vitality of the English-
Speaking Communities of Quebec: From Community Decline to Revival (Montreal:
CEETUM, Université de Montréal), 19 34.
Fraser, G. (1984). René Lévesque and the Parti Québécois in Power (Toronto:
Macmillan Canada).
Fraser, G. (2006). Sorry, I Don’t Speak French: Confronting the Canadian Crisis That
Won’t Go Away (Toronto: McClelland & Stewart).
Fraser, N. (1995). „From Redistribution to Recognition? Dilemmas of Justice in a
„Post-Socialist‟ Age‟, New Left Review, 212: 68 93.
Gardner, N., Puigdevall i Serralvo, M. a Williams, C. H (2000). „Language
Revitalization in a Comparative Context: Ireland, the Basque Country and Catalonia‟,
yn Williams, C. H. (gol.), Language Revitalization: Policy and Planning in Wales
(Cardiff: University of Wales Press), 311 361.
Gathercole, V. C. M., Thomas, E. M., Williams, E. a Deuchar, M. (2007).
Trosglwyddiad Iaith Mewn Teuluoedd Dwyieithog yng Nghymru (Caerdydd: Bwrdd yr
Iaith Gymraeg).
Gellner, E. (1964). Thought and Change (London: Weidenfeld and Nicholson).
Gellner, E. (1983). Nations and Nationalism (Oxford: Blackwell Publishers).
282
Gibbins, R. a Laforest, G. (gol.) (1998). Beyond the Impasse: Toward Reconciliation
(Montreal: Institute for Research on Public Policy).
Glazer, N. (1995). „Individual Rights Against Group Rights‟, yn Kymlicka, W. (gol.),
The Rights of Minority Cultures (Oxford: Oxford University Press).
Government of Canada (1967). Royal Commission of Bilingualism and Biculturalism,
Vol 1. General Introduction: The Official Languages (Ottawa: Queens Printer).
Government of Canada (1969). Royal Commission of Bilingualism and Biculturalism,
Vol 3. The Work World (Ottawa: Queens Printer).
Le Gouvernement du Québec (1972). Report of the Commission of Inquiry on the
Position of the French Language and Language Rights in Quebec (Gendron
Commission). (Québec: Editeur officiel du Québec).
Le Gouvernement du Québec (1977a). Quebec’s Policy on the French Language
(Québec: Éditeur Officiel du Québec).
Le Gouvernement du Québec, (1977b). La politique québécoise de la langue française
(Québec: Editeur officiel du Québec).
Le Gouvernement du Québec, (1977c) La Chartre de la langue français. (Quebec:
Editeur officiel du Québec).
Le Gouvernement du Québec, (2001). Le français, une langue pour tout le monde
(Québec: Commission des États généraux sur la situation et l‟avenir de la langue
française au Québec).
Le Gouvernement du Québec, (2003). Vivre en français au Québec (Montreal: Office
de la langue française).
Gray, J. (1989). Liberalisms: Essays in Political Philosophy (London: Routledge).
Green, L. (1987). „Are Language Rights Fundamental?‟, Osgoode Hall Law Journal,
25: 639 669.
Grenoble, L. a Whaley, L. (2006). Saving Languages: An Introduction to Language
Revitalization (Cambridge: Cambridge University Press).
Gutman, A. (1985). „Communitarian Critics of Liberalism‟, Philosophy and Public
Affairs, 14/3: 308 322.
Gutmann, A. (gol.) (1992). Multiculturalism and the Politics of Recognition
(Princeton: Princeton University Press).
Hale, K. (1998). „On Endangered Languages and the Importance of Linguistic
Diversity‟, yn Grenoble, L. A. a Whaley, L. J. (goln), Endangered Languages:
283
Current Issues and Future Trends (Cambridge: Cambridge University Press), 192
216.
Hamers, J. F. a Hummel, K. M. (1994). „The Francophones of Quebec: Language
Policies and Language Use‟, International Journal of the Sociology of Language,
105/106: 127 152.
HMSO (1993). Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (London: HMSO).
Humphreys, G. E. (2002). „Polisi Iaith Gwynedd 1983 – 1994‟, yn Williams, I. W.
(gol.), Gorau Arf: Hanes Sefydlu Ysgolion Cymraeg 1939 2000 (Talybont: Y Lolfa),
265 270.
International Commission on Intervention and State Sovereignty (2001) The
Responsibility to Protect: Report of the International Commission on Intervention and
State Sovereignty (Ottowa: International Development Research Centre).
Ivison, D, Sansers, W. a Patton, P (goln) (2000). Political Theory and the Rights of
Indigenous Peoples (Cambridge: Cambridge University Press).
Irvine, F., Roberts, G., Spencer, Ll., Jones, P. a Tranter, S. (2008). Twf ac ymlaen:
Asesiad Effaith a’r Ffordd Ymlaen (Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg).
Jackson, J. D. (1982). „The Language Question in Quebec: On Collective and
Individual Rights‟, yn Caldwell, G. a Waddell, E. (gol.), The English of Quebec: From
Majority to Minority Status (Québec: Institut québécois de recherché sur la culture),
363 377.
Jedwab, J. (2008). „How Shall We Define Thee? Determining Who is an English-
Speaking Quebecer and Assessing its Demographic Vitality‟, yn Bourhis, R. Y. (gol.),
The Vitality of the English-Speaking Communities of Quebec: From Community
Decline to Revival (Montreal: CEETUM, Université de Montréal), 1 18.
Jenkins, G. H. (1998). „Rhagymadrodd‟, yn Jenkins, G. H. (gol.), Iaith Carreg fy
Aelwyd: Iaith a Chymuned yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Caerdydd: Gwasg
Prifysgol Cymru), 1 20.
Jenkins, G. H. (1999). „Cymru, Cymry a‟r Gymraeg: Rhagymadrodd‟, yn Jenkins, G.
H. (gol.), Gwnewch Bopeth yn Gymraeg: Yr Iaith Gymraeg a’i Pheuoedd 1801 – 1911
(Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 1 34.
Jenkins, G. H. a Williams, M. A. (2000). „Hynt yr Iaith Gymraeg 1900 2000:
Rhagymadrodd‟, yn Jenkins, G. H. a Williams, M. A. (goln), ‘Eu Hiaith a Gadwant’?
Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 1 26.
Jenkins, G. a Jones, T. (goln) (1999). Llyfr y Ganrif (Talybont: Y Lolfa).
Jenkins, P. (1992). A History of Modern Wales 1536 1990 (London: Longman).
284
Jenkins, R. (1991). „Violence, language and politics: Nationalism in Northern Ireland
and Wales‟, North Atlantic Studies, 3: 31 40.
Jenkins, R. (2002). Pierre Bourdieu (London : Routledge).
Johnston, D. M. (1989). „Native Rights as Collective Rights: A Question of Group
Self-Preservation‟, Canadian Journal of Law and Jurisprudence, 2/1: 19 34.
Jones, G. E. a Williams, C. H. (2000). „Reactive Policy and Piecemeal Planning:
Welsh-medium Education in Cardiff‟, yn Williams, C. H. (gol.), Language
Revitalization: Policy and Planning in Wales (Cardiff: University of Wales Press),
138 172.
Jones, J. R. (1967). A Raid i’r Iaith Ein Gwahanu? (Gwasg Gomer: Llandysul).
Jones, J. R. (1978). A Raid i’r Iaith Ein Gwahanu? (Y Lolfa: Talybont).
Jones, K. a Morris, D. (2007). „Welsh-Language Socialization in the Family‟,
Contemporary Wales, 20: 52 70.
Kaplan, R. (1994). „Language Policy and Planning: Fundamental Issues‟, Annual
Review of Applied Linguistics, 14: 3 19.
Kaplan, R. a Baldauf, R. (1997). Language Planning: From Practice to Theory
(Clevedon: Multilingual Matters).
Keating, M. (1998). „Nationalism, Nation-building and Language Policy in Quebec
and Catalonia‟, yn Haupt, H. G. a Miller, M. G. (goln), Regional and National
Identities in Europe in the XIXth and XXth Centuries (London: Kluwer Law), 465
494.
Keating, M. (2001). Nations Against the State: The New Politics of Nationalism in
Quebec, Catalonia and Scotland (Basingstoke : Palgrave Macmillan).
Kelly, P. (2002). „Introduction: Between Culture and Equality‟, yn Kelly, P. (gol.),
Multiculturalism Reconsidered (Cambridge: Polity Press), 1 17.
Krauss, M. (1992). „The World‟s Languages in Crisis‟, Language, 68/1: 4 10.
Kukathas, C. (1992). „Are There Any Cultural Rights‟, Political Theory, 20/1: 105
139.
Kukathas, C. a Pettit, P. (1990). Rawls: A Theory of Justice and its Critics
(Cambridge: Cambridge University Press).
Kymlicka, W. (1989) Liberalism, Community and Culture (Oxford: Oxford University
Press).
285
Kymlicka, W. (1992). „The Rights of Minority Cultures: A Reply to Kukathas‟,
Political Theory, 20/1: 140 146.
Kymlicka, W. (1995a). Multicultural Citizenship: A Liberal Theory of Minority Rights
(Oxford: Oxford University Press).
Kymlicka, W. (1995b). „Introduction‟, yn Kymlicka, W. (gol.), The Rights of Minority
Cultures (Oxford: Oxford University Press), 1 27.
Kymlicka, W. (1998). „Multinational Federalism in Canada: Rethinking the
Partnership‟, yn Gibbins, R. a Laforest G. (gol.), Beyond the Impasse: Toward
Reconciliation (Montreal: Institute for Research on Public Policy), 15 50.
Kymlicka, W. (2001a). Politics in the Vernacular: Nationalism, Multiculturalism, and
Citizenship (Oxford: Oxford University Press).
Kymlicka, W. (2001b). „Western Political Theory and Ethnic Relations in Eastern
Europe‟, yn Kymlicka, W a Opalski, M (goln), Can Liberal Pluralism be Exported?
Western Political Theory and Ethnic Relations in Eastern Europe (Oxford: Oxford
University Press), 13 105.
Kymlicka, W. (2002). Contemporary Political Philosophy (Oxford: Oxford University
Press).
Kymlicka, W. (2007a). Multicultural Odysseys: Navigating the New International
Politics of Diversity (Oxford: Oxford University Press).
Kymlicka, W. (2007b). Cyfres o dri cyfweliad a gynhaliwyd gan yr ymchwilydd tra‟n
ymweld â phrifysgol Queens, Ontario fel ysgolhaig gwadd rhwng mis Ionawr a mis
Mawrth 2007.
Kymlicka, W. (2007c). „Language Policies, National Identities and Liberal-
Democratic Norms‟, yn Williams, C. H. (gol.), Language and Governance (Cardiff:
University of Wales Press) 505 515.
Kymlicka, W. (2008). Cyfathrebiad personol, e-bost dyddiedig Hydref 27.
Kymlicka, W. a Patten, A. (goln) (2003). Language Rights and Political Theory
(Oxford: Oxford University Press).
Kymlicka, W. and Grin, F. (2003). „Assessing the Politics of Diversity in Transition
Countries‟, yn Daftary, F. a Grin, F. (goln), Nation Building and Language Politics in
Transition Countries (Budapest: Reform Initiative), 1 29.
Lamarre, P. (2007). „Anglo-Quebec Today: Looking at Community and Schooling
Issues‟, International Journal of the Sociology of Language, 185: 109 132.
286
Lamarre, P. (2008). „English Education in Quebec: Issues and Challenges‟, yn
Bourhis, R. Y. (gol.), The Vitality of the English-Speaking Communities of Quebec:
From Community Decline to Revival (Montreal: CEETUM, Université de Montréal),
63 86.
Laponce, J. (1987). Languages and Their Territories (Cyfieithiad Anthony Martin-
Sperry) (Toronto: University of Toronto Press).
Laporte, P. E. (1984). Status Language Planning in Quebec: An Evaluation‟, yn
Bourhis, R. Y. (gol.), Conflict and Language Planning in Quebec (Clevedon:
Multilingual Matters), 53 80.
Larrivée, P. (2003). „Anglophones and Allophones in Quebec‟, yn Larrivée, P. (gol.),
Linguistic Conflict and Language Laws: Understanding the Quebec Case (London:
Palgrave Macmillan), 163 187.
Laitin, D. a Reich, R. (2003). „A Liberal Democratic Approach to Language Justice‟,
yn Kymlicka, W. a Patten, A. (goln), Language Rights and Political Theory (Oxford:
Oxford University Press), 80 104.
Laurin, Camille (1978). „Charte de la lange Française / French Language Charter‟,
Canadian Review of Sociology and Anthropology, 15: 115 127.
Levine, M. V. (1990). The Reconquest of Montreal: Language Policy and Social
Change in a Bilingual City (Philadelphia: Temple University Press).
Levy, J. T. (2003). „Language Rights, Literacy and the Modern State‟, yn Kymlicka,
W. a Patten, A. (goln), Language Rights and Political Theory (Oxford: Oxford
University Press), 230 250.
Lorrain, R. (1966). La mort de mon joual (Montreal: Éditions du jour).
Lyon, J. (1991). „Patterns of Parental Language Use in Wales‟, Journal of
Multilingual and Multicultural Development, 12/3: 165 181.
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2003). Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol
ar Gyfer Cymru Ddwyieithog (Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru).
Llywodraeth Cynulliad Cymru (2008). Adroddiad Blynyddol Iaith Pawb a’r Cynllun
Iaith Gymraeg 2007 08 (Caerdydd: Llywodraeth Cynulliad Cymru).
MacIntyre, A. (1981). After Virtue: A Study in Moral Theory (London: Duckworth).
Mackey, W. F. (1998). „The Foundations‟, yn Edwards, J. (gol.), Language in Canada
(Cambridge: Cambridge University Press), 13 35.
MacMillan, C. M. (1983). „Language Rights, Human Rights and Bill 101‟, Queens
Quarterly, 90/2: 343 361.
287
MacMillan, C. M. (1998). The Practice of Language Rights in Canada (Toronto:
University of Toronto Press).
MacMillan, C. M. (2003). „Federal Language Policy in Canada and the Quebec
Challenge‟ yn Larrivée, P. (gol.), Linguistic Conflict and Language Laws:
Understanding the Quebec Case (London: Palgrave Macmillan), 87 117.
Mallea, J. R. (gol.) (1977). Quebec’s Language Policies: Background and Response
(Quebec: Les presses de L‟Université Laval).
Margalit, A. a Raz, J. (1990). „National Self-Determination‟, Journal of Philosophy,
87/9: 439 461.
Maurais, J. (gol.) (1996). Quebec’s Aboriginal Languages: History, Planning and
Development (Clevedon: Multilingual Matters).
May, S. (2000). „Accommodating and Resisting Minority Language Policy: The Case
of Wales‟, International Journal of Bilingual Education and Bilingualism, 3/2: 101
128.
May, S. (2001). Language and Minority Rights: Ethnicity, Nationalism and the
Politics of Language (New York: Longman).
May, S. (2003). „Misconceiving Minority Language Rights: Implications for Liberal
Political Thought‟, yn Kymlicka, W. a Patten, A. (goln), Language Rights and
Political Theory (Oxford: Oxford University Press), 123 152.
McAndrew, M. (2002). „La Loi 101 en Milieu Scolaire: Impacts et Résultats‟, yn
Bouchard, P. a Bourhis, R. Y. (goln), L’aménagement linguistique au Québec: 25 ans
d’application de la Charte de la langue français (Québec: Office québécois de la
langue françasie; Publications du Québec), 69 82.
McDonald, M. (1991). „Should Communities Have Rights? Reflections on Liberal
Individualism‟, Canadian Journal of Law and Jurisprudence, 4/2: 217 237.
McLeod, W. (1998). „Autochthonous Language Communities and the Race Relations
Act‟, Web Journal of Current Legal Issues,
http://webjcli.ncl.ac.uk/1998/issue1/mcleoad.html
(Cyrchwyd 9.7.08).
McRae, K. (1998). „Official Bilingualism: From the 1960s to the 1990s‟ yn Edwards,
J (gol.), Language in Canada (Cambridge: Cambridge University Press), 61 83.
McRoberts, K. (1979). „Internal Colonialism: The Case of Quebec‟, Ethnic and Racial
Studies, 2/3: 293 318.
288
McRoberts, K. (1998). „Linguistic Minorities in a Canada-Quebec Partnership‟ yn
Gibbins, R. a Laforest, G. (goln), Beyond the Impasse: Toward Reconciliation
(Montreal: Institute for Research on Public Policy), 187 214.
Miller, D. (1995). On Nationality (Oxford: Oxford University Press).
Miller, D. (1999). Principles of Social Justice (Cambridge, Massachusetts: Harvard
University Press).
Miller, D. (2002). „Liberalism, Equal Opportunities and Cultural Commitments‟, yn
Kelly, P. (gol.), Multiculturalism Reconsidered (Cambridge: Polity Press), 45 61.
Morgan, K. O. (1981). Rebirth of a Nation: Wales 1880 1980 (Oxford: Clarendon
Press).
Morgan, K. O. (1995). Modern Wales: Politics, Places and People (Cardiff:
University of Wales Press).
Morris, D. (2000). „Yr Iaith Gymraeg a Chynllunio Awdurdod Lleol yn Ngwynedd
1974 1995‟, yn Jenkins, G. H. a Williams, M. A. (goln), Eu Hiaith a Gadwant? Yr
Iaith Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 557
580.
Mougeon, R. (1998). „French Outside New Brunswick and Quebec‟, yn Edwards, J.
(gol.), Language in Canada (Cambridge: Cambridge University Press), 226 251.
Mouvement National des Qébécois et Québécoise (2001). „Le Français, Langue
Nationale d‟un Québec Pluraliste et Démocratique‟. Papur a gyflwynwyd i‟r
Commission des États généraux sur la situation et l‟avenir de la langue française au
Québec.
Mulhall, S. a Swift, A. (1996). Liberals and Communitarians, (Oxford: Blackwell).
Naverson, J. (1991). „Collective Rights?‟, Canadian Journal of Law and
Jurisprudence, 4/2: 329 345.
Nelde, P., Strubell, M. a Williams, G. (1996). Euromosaic: The Production and
Reproduction of the Minority Language Groups in the European Union (Luxembourg:
Office for Official Publications of the European Communities).
Nettle, D. a Romaine, S. (2000). Vanishing Voices: The Extinction of the World’s
Languages (Oxford: Oxford University Press).
Oakes, L. (2004). „French: a Language for Everyone in Quebec?‟, Nations and
Nationalism, 10/4: 539 558.
Oakes, L. a Warren, J. (goln) (2007). Language, Citizenship and Identity in Quebec
(Basingstoke: Palgrave Macmillan).
289
Offe, C. (1998). „“Homogeneity” and Constitutional Democracy: Coping with Identity
Conflicts Through Group Rights‟, Journal of Political Philosophy, 6: 131 141.
O‟Keefe, M. (2001). Francophone Minorities: Assimilation and Community Vitality
(Ottawa: Department of Canadian Heritage).
Oliver, M. (1993). „The Impact of the Royal Commission of Bilingualism and
Biculturalism on Constitutional Thought and Practice‟, International Journal of
Canadian Studies, 7-8: 315 332.
Osmond, J. (1992). „Miliwn yn Mudo‟, yn Dafis, Ll. (gol.), Yr Ieithoedd Llai:
Cymathu Newydd-Ddyfodiaid (Talybont: Y Lolfa), 1 7.
Parekh, B. (1997). „Dilemmas of a Multicultural Theory of Citizenship‟,
Constellations, 4/1: 54 62.
Parekh, B. (2000). Rethinking Multiculturalism: Cultural Diversity and Political
Theory (London: Macmillan).
Patten, A. (2001). „Political Theory and Language Policy‟, Political Theory, 29/5: 683
707.
Patten, A. (2003a). „Liberal Neutrality and Language Policy‟, Philosophy and Public
Affairs, 31/4: 356 386.
Patten (2003b). „What Kind of Bilingualism?‟, yn Kymlicka, W. a Patten, A. (goln.),
Language Rights and Political Theory (Oxford: Oxford University Press), 296 321.
Patten, A. a Kymlicka, W. (2003). „Introduction: Language Rights and Political
Theory: Context Issues and Approaches‟, yn Kymlicka, W. a Patten, A. (goln),
Language Rights and Political Theory (Oxford: Oxford University Press), 1 51.
Paulston, C., Chen, P. a Connerty, M. (1993). „Language Regenesis: A Conceptual
Overview of Language Revival, Revitalization and Reversal‟, Journal of Multilingual
and Multicultural Development, 14/4: 275 286.
Paulston, C. B. a Tucker, G. R. (goln) (2003). Sociolinguistics: The Essential
Readings (Blackwell: Oxford).
Phillips, D. (2000). „Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1962 – 1998‟, yn Jenkins,
G. H. a Williams, M. A. (goln), Eu Hiaith a Gadwant? Yr Iaith Gymraeg yn yr
Ugeinfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), 445 471.
Phillips, W. J. (2002). „Addysg Gymraeg yn Nyfed‟, yn Williams, I. W. (gol.), Gorau
Arf: Hanes Sefydlu Ysgolion Cymraeg 1939 2000 (Talybont: Y Lolfa), 280 289.
Pinto, M. (2007). „On the Intrinsic Value of Arabic in Israel – Challenging Kymlicka
on Language Rights‟, Canadian Journal of Law and Jurisprudence, 20/1: 1 30.
290
Porter, J. (1975). „Ethnic Pluralism in a Canadian Perspective‟, yn Glazer, N. a
Moynihan, D. (goln), Ethnicity: Theory and Experience (Cambridge, Mass: Harvard
University Press), 267 304.
Rawls, J. (1971). A Theory of Justice (Oxford: Oxford University Press).
Rawls, J. (1993). Political Liberalism (New York: Columbia University Press).
Raz, J. (1986). The Morality of Freedom (Oxford University Press).
Raz, J. (1994). „Multiculturalism: A Liberal Perspective‟, Dissent, Winter: 67 79.
Réaume, D. (1991). „The Constitutional Protection of Language: Security or
Survival?‟, yn Schneiderman, D. (gol.), Language and the State: The Law and Politics
of Identity (Cowansville: Éditions Yvon Blais), 37 57.
Réaume, D. (2000). „Official-Language Rights: Intrinsic Value and Protection of
Difference‟, yn Kymlicka, W. a Norman, W. (goln), Citizenship in Diverse Societies
(Oxford: Oxford University Press), 245 272.
Ricento, T. (2006). „Language Policy: Theory and Practice – An Introduction‟, yn
Ricento, T. (gol.), An Introduction to Language Policy: Theory and Method (Oxford:
Blackwell), 10 23.
Richards, John (gol.) (1992). Survival: Official Language Rights in Canada (Toronto:
C.D. Howe Institute).
Rocher, G. (2002). „Les dilemmes identitaires à l‟origine de l‟engendrement de la
Charte de la langue française‟, yn Bouchard, P. a Bourhis, R. Y. (goln),
L’aménagement linguistique au Québec: 25 ans d’application de la Charte de la
langue français (Québec: Office québécois de la langue françasie; Publications du
Québec), 17 24.
Rubio-Marín, R. (2003a). „Language Rights: Exploring the Competing Rationales‟, yn
Kymlicka, W. a Patten, A. (goln), Language Rights and Political Theory (Oxford:
Oxford University Press), 52 79.
Rubio-Marín, R. (2003b). „Exploring the Boundries of Language Rights: Insiders,
Newcomers and Natives‟, yn Macedo, S. ac Buchanan, A. (goln), Secession and Self-
Determination (New York: New York University Press), 136 173.
Romaine, S. (1995). Bilingualism (Oxford: Blackwell).
Rosenblum, N. (gol.) (2000). Obligations of Citizenship and Demands of Faith:
Religious Accommodation in Pluralist Democracies (Princeton: Princeton University
Press).
291
Rosenfield, M. (1991). Affirmative Action and Justice: A Philosophical and
Constitutional Inquiry (New Haven: Yale University Press).
Rudin, R. (1985). The Forgotten Quebecers: A History of English-Speaking Quebec
1759 1980 (Québec: Institut québécois de recherché sur la culture).
Rhieni Dros Addysg Gymraeg (2007). Maniffesto ar Gyfer Etholiad Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 2007 (Casnewydd: RHAG).
Sandel, M. (1982). Liberalism and the Limits of Justice (Cambridge: Cambridge
University Press).
Sandel, M. (1984). „The Procedural Republic and the Unencumbered Self‟, Political
Theory, 12/1: 81 96.
Schmidt, R. (2006). „Political Theory and Language Policy‟, yn Ricento, T. (gol.), An
Introduction to Language Policy: Theory and Method (Oxford: Blackwell), 95 110.
Scowen, R. (1991). A Different Vision: The English in Quebec in the 1990s (Ontario:
Maxwell Macmillan Canada).
Seymour, M. (2000). „Quebec and Canada at the Crossroads: A Nation Within a
Nation‟, Nations and Nationalism, 6/2: 227 255.
Seymour, M. (2001). „An Inclusive Nation that Does Not Deny its Origins‟, yn Venne,
M. (gol.), Vive Quebec! New Thinking and New Approaches to the Quebec Nation
(Cyfieithiad Chodos, R. a Blair, L.) (Toronto: James Lorimer & Company), 146
154.
Skutnabb-Kangas, T. (2000). Linguistic Genocide in Education or Worldwide
Diversity and Human Rights? (Mahwah, NJ: Lawrence Erlbaum Publishers).
Skutnabb-Kangas, T. a Phillipson, R. (goln) (1995). Linguistic Human Rights:
Overcoming Linguistic Discrimination (New York: de Gruyter).
Smith, A. (1992). „National Identity and the Idea of European Unity‟, International
Affairs, 68/1: 55 76.
Spencer, V. (2008). „Language, History and the Nation: An Historical Approach to
Evaluating Language and Cultural Claims‟, Nations and Nationalism, 14/2: 241 259.
Spinner, J. (1994). The Boundaries of Citizenship: Race, Ethnicity and Nationality in
the Liberal State (Baltimore: Johns Hopkins University Press).
Stein, M. (1977). „Bill 22 and the Non-Francophone Population in Quebec‟, yn
Mallea, J. R. (gol.), Quebec’s Language Policies: Background and Response (Quebec:
Les presses de L‟Université Laval), 243 – 265.
292
Stefanescu A. a Georgeault, P. (goln) (2005). Le français au Québec: les nouveaux
défis (Montreal: Conseil supérieur de la langue française).
Stevenson, G. (1999). Community Besieged: The Anglophone Minority and the
Politics of Quebec (Montreal: McGill-Queens University Press).
Supreme Court of Canada (1984). Attorney General of Quebec v Quebec Protestant
School Boards.
Supreme Court of Canada (1988a). Ford v Attorney General of Quebec.
Supreme Court of Canada, (1988b). Forget v Attorney General of Quebec.
Supreme Court of Canada, (2005). Gosselin v Attorney General of Quebec.
Tamir, Y. (1993). Liberal Nationalism (Princeton: Princeton University Press).
Taylor, B. a Thompson, K (goln) (1999). Scotland and Wales: Nations Again?
(Cardiff: University of Wales Press).
Taylor, C. (1985a). Philosophy and the Human Sciences: Philosophical Papers
(Cambridge: Cambridge University Press).
Taylor, C. (1985b). „Alternative Futures: Legitimacy, Identity and Alienation in Late
Twentieth Century Canada‟, yn Cairns, A. a Williams, C. (goln), Constitutionalism,
Citizenship and Society in Canada (Toronto: University of Toronto Press), 183 229.
Taylor, C. (1992). „The Politics of Recognition‟, yn Gutmann, A. (gol.),
Multiculturalism and the Politics of Recognition (Princeton: Princeton University
Press), 25 73.
Taylor, D. M. a Dubé-Simard, L. (1984). „Language Planning and Intergroup
Relations: Anglophone and Francophone Attitudes Toward the Charter of the French
Language‟, yn Bourhis, R. Y. (gol.), Conflict and Language Planning in Quebec
(Clevedon: Multilingual Matters), 148 174.
Thériault, J. Y. (2007). „Ethnolinguistic Minorities and National Integration in
Canada‟, International Journal of the Sociology of Language, 185: 255 263.
Thomas, B. (1959). „Wales and the Atlantic Economy‟, Scottish Journal of Political
Economy, 6/3: 169 192.
Thomas, B. (gol.) (1962). The Welsh Economy: Studies in Expansion (Cardiff:
University of Wales Press).
Thomas, N. (1971). The Welsh Extremist (Y Lolfa: Talybont).
293
Thomas, P. W. a Mathias, J. (goln) (2000). Developing Minority Languages
(Llandysul: Gwasg Gomer).
Thompson J. (1991). „Editor‟s Introduction‟, yn Bourdieu, P. Language and Symbolic
Power (Cambridge : Polity Press), 1 31.
Thompson, J. J. (2002). „Preferential Hiring‟, yn Cahn, S. M. (gol.), The Affirmative
Action Debate (London: Routledge), 35 50.
Torres, J. (1984). „Problems of Linguistic Normalization in the Països Catalans: From
the Congress of Catalan Culture to the Present Day‟, International Journal of the
Sociology of Language, 47: 59 63.
Tribunals Service: Employment (1998). Boylan v Isle of Anglesey County Council.
Case No: 2900883/97.
Tully, J. (1995). Strange Multiplicity: Constitutionalism in the Age of Diversity
(Cambridge: Cambridge University Press).
Vaillancourt, F. (1992). „English and Anglophones in Quebec: An Economic
Perspective‟, yn Richards, John (gol.), Survival: Official Language Rights in Canada
(Toronto: C.D. Howe Institute), 63 94.
Van Dyke, V. (1977). „The Individual, the State and Ethnic Communities in Political
Theory‟, World Politics, 29: 343 369.
Van Dyke, V. (1982). „Collective Rights and Moral Rights: Problems in Liberal-
Democratic Thought‟, Journal of Politics, 44: 21 40.
Waldron, J. (1995). „Minority Cultures and the Cosmopolitan Alternative‟, yn
Kymlicka, W. (gol.), The Rights of Minority Cultures (Oxford: Oxford University
Press), 93 121.
Walzer, M. (1983). Spheres of Justice: A Defence of Pluralism and Equality (Oxford:
Blackwell Press).
Walzer, M. (1989). „The Communitarian Critique of Liberalism‟, Political Theory,
18/1: 6 23.
Wardhaugh, R. (2000). An Introduction to Sociolinguistics (Oxford: Blackwell).
Watson, W. G. (1992). „A Comment‟, yn Richards, J. (gol.), Survival: Official
Language Rights in Canada (Toronto: C.D. Howe Institute), 95 103.
Watson, W. G. (1992). „Separation and the English of Quebec‟, yn Richards, J. (gol.),
Survival: Official Language Rights in Canada (Toronto: C.D. Howe Institute), 104
128.
294
Weinstein, B. (1983). The Civic Tongue: Political Consequences of Language
Choices (New York: Longman).
Weinstock, D. (2003). „The Antinomy of Language Policy‟, yn Kymlicka, W. a
Patten, A. (goln), Language Rights and Political Theory (Oxford: Oxford University
Press), 250 270.
White, S. (2007). Equality (Cambridge: Polity Press).
Williams, C. H. (1992). „Cymathu Mewnfudwyr: Bygythiad Cudd neu Ddatblygiad
i‟w Groesawu?‟, yn Dafis, Ll. (gol.), Yr Ieithoedd Llai: Cymathu Newydd-Ddyfodiaid
(Talybont: Y Lolfa), 8 27.
Williams, C. H. (1994) Called Unto Liberty (Clevedon: Multilingual Matters).
Williams, C. H. (1999). „Governance and the Language‟, Contemporary Wales, 12:
130 154.
Williams, C. H. (2000). „On Recognition, Resolution and Revitalization‟, yn
Williams, C. H. (gol.), Language Revitalization: Policy and Planning in Wales
(Cardiff: University of Wales Press), 1 47.
Williams, C. H. (2004). „Iaith Pawb: The Doctrine of Plenary Inclusion‟,
Contemporary Wales, 17: 1 27.
Williams, G. (1988). „Discourse on Language and Ethnicity‟, yn Coupland, N. (gol.),
Styles of Discourse (London: Croom Helm), 254 292.
Williams, G. (1994). „Discourse on „Nation‟ and „Race‟: A Response to Denney et al‟,
Contemporary Wales, 6: 87 103.
Williams, G. a Morris, D. (2000). Language Planning and Language Use: Welsh in a
Global Age (Cardiff: University of Wales Press).
Williams, G. A. (1985). When Was Wales? (London: Penguin).
Williams, I. W. (gol.) (2002). Gorau Arf: Hanes Sefydlu Ysgolion Cymraeg 1939
2000 (Talybont: Y Lolfa).
Wyn Jones, R. (2006). „Barn ar Gymru: Dadansoddi‟r Ddeddf‟, Barn, Tachwedd
2006: 9 12.
Woehrling, J. (2005). „L‟Evolution du carde juridique et conceptuel de la legislation
linguistique du Québec‟, yn Stefanescu A. a Georgeault, P. (goln), Le français au
Québec: les nouveaux défis (Montreal: Conseil supérieur de la langue française), 253
356.
295
Young, I. M. (1990). Jusice and the Politics of Difference (Princeton University Press,
Princeton).
Young, I. M. (1993). „Together in Difference: Transforming the Logic of Group
Political Conflict‟, yn Squires, J. (gol.), Principled Positions: Postmodernism and the
Rediscovery of Value (London: Lawrence and Wishart), 121 150.
Young, I. M. (1997). „A Multicultural Continuum: A Critique of Will Kymlicka‟s
Ethnic-National Dichotomy‟, Constellations, 4/1: 48 53.
ResearchGate has not been able to resolve any citations for this publication.
Article
Language serves a number of functions in the lives of human beings. First, and perhaps most obviously, language allows people to communicate with one another. It is a tool that allows us to do business, to formulate and express our convictions and beliefs, to fall in love, and so on. Second, language provides people with access to cultures, and cultures perform a variety of functions in their lives. According to one prominent account that has been developed in the work of Will Kymlicka, cultures provide us with the range of options and evaluative grids that we require in order to develop our individual capacity for autonomous choice (Kymlicka 1989; 1995a). Third, languages are important to people’s sense of who they are. They provide them with connections to the past, and thus serve to anchor their identities. The way in which the language they identify with is treated in the public sphere of the society in which they live thus becomes an important index of the recognition that their society affords them as distinct individuals.
Article
The world’s languages are dying. We hear this lament from many anthropologists, sociologists, and linguists searching theoretical grounds for better preserving the world’s languages for a world with less injustice and more diversity. Of course, language death is not a new phenomenon. The Etruscan and Sumerian languages, for example, died centuries ago for reasons, obviously, other than the rise of modern nationalism. About half of the known languages of the world have died in the last five centuries. But what worries linguists is that, whereas language death was not uncommon in the past, the rate of extinction increased dramatically in the twentieth century, and has reached alarming levels. Scholars disagree on the reasons why small languages face the threat of extinction in such increasing numbers. For many, the massive linguistic decline around the world has been prompted by the rise of the nation-state and modern nationalism. Others argue that it was in fact the rise of the industrial society, related to the nation-state with its need for centralized economy and mobile citizenry, that brought about linguistic homogeneity, threatening many small languages.
Article
The members of a given linguistic community are free to modify and supplement the syntax and vocabulary of the language they have inherited. Over generations, this change becomes quite far-reaching. In the limit case, at time t, the language has become such that it could be neither spoken nor under-stood by a fluent speaker of the original language. (We may posit rapid technological change, encounter with foreign linguistic traditions, and so on as the reasons for this transformation.) The linguistic community, however, continues to exist as a distinct entity. While the language spoken at tis not the same language spoken at the start of the tale, it is nonetheless best described as a language—rather than as a dialect of some other linguistic tradition.
Article
Linguistic diversity is a social fact that raises important normative questions about justice. Since most states are linguistically diverse—by which we mean that the political boundaries of the state circumscribe a territory in which persons do not share the same native tongue—the state must have language policies, either explicit or implicit, that answer questions such as: what language(s) should be used in public institutions?; should linguistic minorities receive education in their native language, and, if so, should the state fund it?; can the state mandate or prohibit the use of some language(s) in public or non-public domains?; and can linguistic communities within the state mandate or prohibit the use of some language(s) within given zones or territories?
Article
In this chapter I am concerned with arguments for language rights and (which is different) language preservation. In particular I am concerned with the ways in which they sometimes proceed as if language consolidation arises in a vacuum, as if it’s simply a bad idea on the part of malicious majority-language policy makers. I will argue that questions of language policy and language rights cannot be understood in isolation from the social and political changes that have created such strong trends toward monolingualism at the state level. That is not to say that these trends should not be resisted; it is to say that they cannot be ignored.
Article
I do not claim to be a political theorist—my academic background is in sociology, education, and linguistics—and so it is with some trepidation that I venture directly onto this terrain here. But I do so because of the ongoing misconceptions—and, in some cases, blatant misrepresentations—evident in political theory debates around minority language rights; misconceptions and misrepresentations, moreover, that are still apparent at times in this present collection.